Monday, March 31, 2014
y drwydded yrru
Mae fy merch ifancaf newydd gael y drwydded yrru. Mae ganddi hi "permit" ac roedd hi'n medru gyrru os oes un o'i rhieni'n eistedd yn ei hymyl. Dw i newydd ei gweld hi'n gyrru i'r ysgol i ymarfer dawnsio (does dim ysgol heddiw) drwy'r ffenestr. Mae'n rhyfedd. Does dim rhaid i mi fynd â hi o gwmpas yn y car o hyn ymlaen.
Sunday, March 30, 2014
adolygiad yr e-lyfr
Dw i wrthi'n defnyddio e-lyfr Alberto. Mae yna lawer o benodau fel bydd gen i ddigon i wrando arnyn nhw am sbel. Recordiwyd yn araf ac yn gyflym; mae sgriptiau lliwgar yn Eidaleg ac yn Saesneg. Mae Alberto'n sôn am y modd gorau i ddysgu Eidaleg, neu unrhyw iaith tramor, sef "modd naturiol," ac am wella'ch hun. Rhain ydy'r pynciau mae o wedi bod yn sôn amdanyn nhw'n aml yn ei wefan hyd yma, ond mae o wedi eu datblygu'n helaeth yn yr e-lyfr.
Saturday, March 29, 2014
drôr y dydd
Un o'r rhaglenni teledu a welais efo fy mam yn Tokyo sydd yn eich dysgu sut i drefnu'ch tai. Anogodd drefnu un drôr/silff y dydd. Os ceisiwch wneud y tŷ cyfan, cewch chi'ch digalonni ac mae'n debyg rhowch chi'r gorau iddi. Syniad ardderchog! Penderfynais gymryd y cyngor. Mi wnes i dacluso rhyw ddeg o'r droriau bellach. Mae'n anodd credu fy mod i wedi cadw cymaint o bethau diangen ynddyn nhw. Dw i'n teimlo'n llawer gwell a bwriadu dal ati, dim bob dydd efallai ond mor aml y bo modd.
Friday, March 28, 2014
llysgenhadaeth tensho 3
Maen nhw'n dweud bod artist enwog a gafodd ei eni yn Fenis, sef Tintoretto wedi cael ei gomisiynu i baentio portread o un o'r pedwar bachgen, ond mae'r portread hwnnw ar goll .... hyd at ddiweddar. Cafodd o ei ddarganfod yng ngogledd Eidal. Mab y Tintoretto a oedd yn gystal artist â'i dad a wnaeth. Cawn wybod sut olwg gafodd yr hogyn, Mancio bellach.
Thursday, March 27, 2014
llysgenhadaeth tensho 2
Cafodd y bechgyn groeso mawr lle bynnag aethon nhw. Cawson nhw eu derbyn yn gynnes gan Bab a'i olynydd ar ôl i'r cyntaf farw'n sydyn. Ysgrifennwyd amdanyn nhw yn yr Eidal yn ogystal â'r gwledydd eraill yn Ewrop. Wedi cyflawni'r nod yn llwyddiannus, hwylion nhw adref yn wynebu caledi caletach na'r siwrnai arall dim ond i wybod bod gan Japan arglwydd newydd nerthol a oedd yn gwahardd Cristnogaeth. Gadawodd un ei ffydd; fu farw dau'n ifanc o afiechyd; cafodd un ei ferthyru'n erchyll.
Wednesday, March 26, 2014
llysgenhadaeth tensho
Mae hanes y pedwar bachgen Japaneaidd a deithiodd i'r Eidal dros 400 mlynedd yn ôl yn fy nghyfareddu. Darllenais lyfr amdanyn nhw'n ddiweddar. Wedi'u comisiyni gan yr arglwyddi ffiwdal i ymweld â'r Pab a gofyn am gymorth i hybu'r Gatholigiaeth yn Japan, teithion nhw dros y moroedd yn dioddef amodau ofnadwy o galed a chyrraedd Rhufain o'r diwedd. Aethon nhw drwy Florence a Fenice hyd yn oed....
Tuesday, March 25, 2014
gwaith fy mam
Pan oedd hi'n 19 oed cafodd fy mam waith efo un o'r neuaddau gwledd/priodas, gwestai mwyaf mawreddog ac adnabyddus yn Tokyo, sef Meguro Gajoen. Roedden nhw'n cyflogi merched ifanc (a phert!) yn rheolaieh i dywys y gwesteion yn yr adeiladau efo coridorau cymhleth fel labrinth yn ogystal â gweini wrth y bwrdd. Roedd yr holl ferched yn byw ar y safle, a dysgwyd seremoni te, Ikebana, gwnïo, moesau a chwrteisi iddyn nhw. Treuliodd fy mam flynyddoedd hapus yno gan fod pawb yn glên iawn. Mae Gajoen yn dal yn y lle gwreiddiol er bod llawer o'r adeiladau wedi cael eu hadnewyddu.
Monday, March 24, 2014
hanes fy mam
Cafodd gomisiwn gan fy ail ferch wrth gychwyn am Japan y tro 'ma, hynny ydy, mae hi eisiau i mi recordio hanes fy mam. Tasg enfawr ydy hon gan fod fy mam wedi mynd trwy anhygoel o bethau yn ei bywyd hir (92 oed.) Ar ben hynny, fedrwn i ddim defnyddio cyfrifiadur oherwydd nad oes rhyngrwyd yn nhŷ fy mam. Penderfynais i ddefnyddio fy nghamera a recordio ond rhan o'i bywyd. Roedd fy mam yn arfer adrodd ei phrofiadau o dro i dro (llawer gwaith!) wrth i mi dyfu ond roedd hi'n adrodd yn rhannol. Hwn ydy'r tro cyntaf i mi ei chlywed hi'n adrodd am y cyfnod pan oedd hi'n gorfod gweithio'n ferch ifanc o 13 oed hyd at 19 oed. Roedd yn hynod o ddiddorol a dweud y gwir. Adroddodd hi am awr a mwynheais yn fawr iawn.
Sunday, March 23, 2014
ebook gan alberto
Roedd Alberto wrthi am fisoedd yn creu e-lyfr i ddysgwyr yr Eidaleg - oriau o awdio yn Eidaleg araf a cyflym ynghyd â thestunau yn Eidaleg a Saesneg. Mae o newydd ei orffen. (A dweud y gwir, dw i newydd ddarganfod am hyn wedi'r siwrnai ddiweddaraf.) Roeddwn i'n barod i'w brynu oherwydd fy mod i'n gwybod bod ei modd yn effeithiol wedi ei ddilyn am fisoedd. Does angen tystiolaethau gan y lleill na "30-day money back guarantee" arna i. A dyma brynu'r e-llyfr ar unwaith. Mae gan Alberto lais ac acen bleserus fel dw i byth yn blino arno fo. Camp enfawr ydy hon, ac yntau ond 18 oed. Dw i'n gwybod y byddai'n gwrando ar yr e-llyfr hwn dro ar ôl tro.
Saturday, March 22, 2014
yn ôl
Dw i newydd ddod adref yn ddiogel wedi treulio wythnos hyfryd efo fy mam yn Japan. Doeddwn i ddim yn medru gweld blodau ceirios y tro 'ma gan ei bod hi'n dal yn oer. O leiaf roedd y coed ger fflat fy mam yn llawn o flodau hardd. Rhaid dweud bod y bwyd yn Japan yn orau yn y byd. Ces i fy nifetha wrth wledda arno fo drwy'r dydd bob dydd am wythnos. Ar ddiwedd y diwrnod beth allai well na ymlacio mewn bath braf Japaneaidd. Yr unig beth a gollais oedd y rhyngrwyd.
Thursday, March 13, 2014
mynd i japan
Mae blwyddyn gyfan wedi mynd ers i mi a fy merch fynd i Japan y llynedd. Dw i'n mynd eto, ar fy mhen fy hun y tro hwn. Mi adawa' i yfory a dychwelyd mewn wythnos os yr eith popeth yn iawn. Fydda i ddim yn mynd ar wibdaith ond helpu fy mam yn ei fflat yn bennaf. Cafodd Tokyo eira trwm anarferol yn ddiweddar. Gobeithio ei fod o wedi toddi erbyn hyn.
Wednesday, March 12, 2014
cynghorion i fy merch
"Dw i eisiau mynd ar wibdaith i Fenis dros y penwythnos 'ma. Oes gen ti unrhyw gyngor ychwanegol?" meddai fy merch yn y Marche. Mae'n anodd credu bod hi'n medru gwneud hynny fel peth cyffredin. Siaradon ni am Fenis o'r blaen wrth gwrs, ond dw i newydd gofio rhai pethau pwysig, a dyma ddweud wrthi hi:
Paid ag eistedd yn Piazza San Marco er bod yna lawer o dwristiaid sydd yn gwneud yr union beth. Mae hyn yn anghwrtais a chewch chi'ch dirwyo weithiau.
Paid â bwydo'r colomennod er bod hyn yn atyniad i'r twristiaid. Mae'r colomennod yn cludo germau a dinistrio'r adeiladau gwerthfawr.
Paid â phrynu gan y gwerthwyr anghyfreithlon sydd gan eu nwyddau ar lain wrth y ffyrdd; maen nhw'n dinistrio'r masnachwyr cyfreithlon.
Fy nghyngor olaf oedd: paid â cheisio gwneud gormod ond mwynha fynd ar goll.
Paid ag eistedd yn Piazza San Marco er bod yna lawer o dwristiaid sydd yn gwneud yr union beth. Mae hyn yn anghwrtais a chewch chi'ch dirwyo weithiau.
Paid â bwydo'r colomennod er bod hyn yn atyniad i'r twristiaid. Mae'r colomennod yn cludo germau a dinistrio'r adeiladau gwerthfawr.
Paid â phrynu gan y gwerthwyr anghyfreithlon sydd gan eu nwyddau ar lain wrth y ffyrdd; maen nhw'n dinistrio'r masnachwyr cyfreithlon.
Fy nghyngor olaf oedd: paid â cheisio gwneud gormod ond mwynha fynd ar goll.
Tuesday, March 11, 2014
cur pen
Roedd gen i gur pen ofnadwy ers dydd Sul. Ceisiais beidio cymryd moddion ond defnyddio dulliau naturiol - yfed llawer o ddŵr a the camomile, cerdded, stretsio, pwyso efo'r bysedd. Dw i'n meddwl mai'r dull a weithiodd yn y diwedd oedd y pwyso efo'r bysedd. Roeddwn i'n pwyso'r gwadnau am ryw ddeg munud. Wedi hynny dechreuais deimlo'n well. Heddiw mae'r cur pen wedi mynd yn llwyr. Mi fyddai wedi bod yn hawdd iawn cymryd cwpl o Tylonol ond mae'n llawer gwell fel hyn.
Monday, March 10, 2014
thermostat
Cafodd drwsio'r thermostat am y trydydd tro heddiw. Pan fethodd ein un ni fisoedd yn ôl, daeth y trydanwr cyfarwydd a gosod un newydd. Roedd rhaid iddo ddod eto i addasu peth bach wedyn. Pan wrthododd y thermostat newydd weithio'n dda eto, doeddwn i ddim eisiau gwneud galwad ffôn arall ac felly roeddwn i'n ceisio ymdopi gan reoli'r tymheredd fy hun. Wedi wythnosau, roeddwn i'n gorfod ei alw fo o'r diwedd, a dyma fo'n dod ar unwaith a gosod un arall sydd i fod i weithio'n dda. Mae popeth yn iawn rŵan. Dw i'n gwybod dylwn i fod wedi ei ffonio fo'n gynt, ond mae'n anodd imi ofyn am gymorth. Mae hyn yn y gwaed!
Sunday, March 9, 2014
peiriant bara
Hwrê! Mae peiriant bara (Zojirushi, cwmni o fri yn Japan) yma! Roeddwn i'n casglu pwyntiau ar gyfrif Amazon dros fisoedd ac o'r diwedd roedd digon i archebu peiriant bara yn rhad ac am ddim. Fe wnes i'r bara cyntaf a oedd yn hynod o flasus. Bara llefrith oedd o. Mae'r teulu i gyd yn hoff iawn o fara, ac felly dw i'n meddwl y byddai'n gwneud torth bob dydd.
Saturday, March 8, 2014
yn lle margarîn
Dyma'r cynhwysion a'r dull ar gyfer Hanner Menyn:
Fenyn ar dymheredd ystafell - hanner pwys
Olew o ansawdd uchel - hanner pwys
Halen (os nad oes halen yn y menyn) - 1/2 neu 1 llwyaid de
Cymysgwch y menyn efo cymysgwr trydan am funudau.
Ychwanegwch yr olew tipyn ar y tro (pwysig!) a dal i'w cymysgu nhw nes eich bod chi'n cael past llyfn.
Ychwanegwch yr halen at eich dant.
Llenwch ddwy gwpan efo'r cymysgedd a'u cadw nhw yn yr oergell.
Fenyn ar dymheredd ystafell - hanner pwys
Olew o ansawdd uchel - hanner pwys
Halen (os nad oes halen yn y menyn) - 1/2 neu 1 llwyaid de
Cymysgwch y menyn efo cymysgwr trydan am funudau.
Ychwanegwch yr olew tipyn ar y tro (pwysig!) a dal i'w cymysgu nhw nes eich bod chi'n cael past llyfn.
Ychwanegwch yr halen at eich dant.
Llenwch ddwy gwpan efo'r cymysgedd a'u cadw nhw yn yr oergell.
Friday, March 7, 2014
gwrthod margarîn
"Wneith hwn les i chi?" ydy'r cwestiwn a ofynnir yn aml gan fy mab ifancaf yn ddiweddar wedi iddo ddarllen am y bwyd y mae aelodau tîm Chelsea'n ei gael. Margarîn oedd y pwnc diweddaraf. Honnodd ddylen ni fwyta menyn go iawn yn hytrach na margarîn oherwydd mai mwy naturiol ydy menyn. Dw i'n gwybod bod olew llysiau wedi'i hydrogenu ddim yn hollol iach, ond y rheswm nad oeddwn i'n prynu menyn ar gyfer ein bara ni ydy ei fod o'n anodd ei daenu yn hytrach na cholesterol y menyn. Roeddwn i'n cofio gwraig gweinidog yn defnyddio (dros 20 mlynedd yn ôl!) hanner menyn a hanner olew wedi'u cymysgu ac ail galedu. A dyma brofi un a ches i ganlyniad hyfryd. Mi sgrifenna' i am y cynnyrch yfory gan fod y post hwn yn mynd yn rhy hir.
Thursday, March 6, 2014
awyr y môr
"Mi wneith les iti," meddai mam, nid mam Begw ond mam homestay fy merch yn yr Eidal. Mae gan fy merch ddolur gwddf. Er bod hi wedi bwyta pentwr o oren hyfryd o'r Eidal, roedd hi'n dal i deimlo'n ddrwg. A dyma'r fam yn awgrymu iddi fynd i'r traeth i anadlu awyr y môr. Mae'n braf bod y teulu'n byw'n agos at y môr, a dyma fy merch yn ufuddhau iddi. Dwedodd fod hi'n teimlo'n well.
Wednesday, March 5, 2014
llefrith
Dw i'n gwybod bod popeth yn llawer drytach yn Hawaii oherwydd y rheswm amlwg ond doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor ddrud nes i frawd fy ngŵr bostiodd llun a dynnodd mewn archfarchnad yno pan oedd o'n ymweld ei dad yn ddiweddar. Mae galwyn o lefrith yn costio bron i $9; roeddwn i'n meddwl bod ein pris ni yn Oklahoma'n uchel iawn - bron i $5. Fedra i ddim cwyno.
Tuesday, March 4, 2014
lucrezia
Dw i newydd ddarganfod gwefan arall wych ar gyfer dysgu Eidaleg, sef "Learn Italian with Lucrezia." Merch 21 oed, myfyrwraig o Trieste ydy'r awdures. Mae hi'n sgrifennu blog a chreu fideo ar You Tube'n esbonio'r gramadeg, geiriau yn ogystal â thrafod diwylliant Eidalaidd. Dw i'n hoff iawn o'i hacen. Braf gweld pobl ifanc yn ymdrechu'n galed i helpu dysgwyr.
Monday, March 3, 2014
yr eira olaf (efallai)
Cawson ni eirlaw ddoe a dyma'r ysgolion ar gau heddiw am y trydydd tro yn y gaeaf hwn. Roeddwn i yn yr eglwys yn gynnar yn paratoi coffi pan ddechreuodd yr eirlaw. Cafodd y gwasanaeth ei ganslo wedyn ac roedd rhaid i mi yrru adref yn araf ar y ffyrdd peryglus. Mae'n heulog heddiw ond yn oer iawn ac yn ddistaw oherwydd nad oes fawr o draffig. Efallai mai hwn ydy eira olaf y tymor.
Sunday, March 2, 2014
pianydd annisgwyl
Es i a'r teulu i ginio arbennig a drefnwyd i godi pres ar gyfer clwb pêl-droed yr ysgol. Doeddwn i ddim yn disgwyl llawer a dweud y gwir gan mai braidd yn siomedig oedd y cinio spaghetti diweddaraf, ond ces i fy siomi ar yr ochr orau. Roedd y bwyd yn ogystal â'r adloniant yn hyfryd. Mwynheais y band yn fawr iawn yn enwedig y pianydd a oedd yn gwisgo fel ffarmwr a ddaeth i'r llwyfan ar ôl ei gwaith. Rodd o'n ardderchog! Roedd ei fysedd yn hedfan ar draws yr allweddell yn fedrus ac am hanner munud roedd ei droed dde'n prysur chwarae rhai nodau!
Saturday, March 1, 2014
Subscribe to:
Posts (Atom)