Saturday, November 30, 2013
bargen!
Wedi ffarwelio â fy ail ferch sydd yn gorfod mynd adref yn gynt oherwydd ei swydd, es i efo dwy eraill i siopa. Mae yna gynifer o siopau mawr a bach ac felly mae mynd i siopa yma'n bleser i mi. Yn gyntaf, aethon ni i Goodwill, fy hoff siop elusen! Prynais flows berffaith efo fy hoff liwiau. Yna i Kohl's i brynu clustogau ar gyfer y seddau cegin, bag ysgol a het gynnes i'r mab. Des o hyd i rai perffaith ar fargen fawr a oedd ar fin orffen mewn hanner awr. Talais $71 am bopeth wrth arbed $144. Aethon ni i siop neu ddwy wedyn ond phrynais i ddim byd. Prynodd fy merched rhywbeth da hefyd a daethon ni adref yn fuddugoliaethus.
Friday, November 29, 2013
cinio gŵyl ddiolchgarwch
Mae pawb yma yn nhŷ fy merch hynaf yn Norman er mwyn treulio penwythnos Gŵyl Ddiolchgarwch. Cawson ni ginio mawr heddiw yn lle ddoe, ac mae'r plant yn cysgu'n braf rŵan cyn iddyn nhw godi e cael hwyl efo'i gilydd tan yn hwyr. Roedd yn ddiwrnod braf a roedden ni'n medru tynnu lluniau ohonon ni ar gyfer llythyr Nadolig. Dw i wedi blino ond fodlon. Yfory dan ni'n siopa!
Thursday, November 28, 2013
gŵyl ddiolchgarwch
Dw i'n ddiolchgar am lawer o bethau:
am y teulu doniol, hapus
am fy iechyd
am y gwely clyd
am y to sych
am y dŵr glân a digon o fwyd
am MAC
am y rhyngrwyd
yn anad dim, am Iesu Grist sydd wedi marw er mwyn talu am fy mhechod, ac sydd atgyfodi fel cawn obaith tragwyddol.
am y teulu doniol, hapus
am fy iechyd
am y gwely clyd
am y to sych
am y dŵr glân a digon o fwyd
am MAC
am y rhyngrwyd
yn anad dim, am Iesu Grist sydd wedi marw er mwyn talu am fy mhechod, ac sydd atgyfodi fel cawn obaith tragwyddol.
Wednesday, November 27, 2013
gwaith iard
Roeddwn i'n rhy flinedig sgrifennu post ddoe wedi gweithio yn yr iard efo fy mab am dair awr. Mae'r tymor i dwtio'r dail sydd yn cuddio'r iard wedi hen ddod. Gan fod gwyliau'r ysgol newydd ddechrau, penderfynais wneud y gwaith efo fy mab. (Dydy'r merched ddim yn ei wneud oherwydd bod ganddyn nhw asthma.) Mae fy mhenelinoedd yn brifo ond dw i'n fodlon gweld yr iard flaen dwt. Rŵan does dim rhaid i mi boeni byddai'n dail ni'n cael eu chwythu at iardiau'r cymdogion. Dw i'n gadael yr iard gefn fel mae hi; bydd y dail yn troi'n bridd yn araf bach.
Monday, November 25, 2013
i honduras
Arosodd efo ni ffrind da fy ail ferch neithiwr. Roedden nhw'n rhannu tŷ cyn i fy merch fynd i Corea, ac felly roedd ganddyn nhw gymaint o bethau i siarad amdanyn nhw. Doedd un nos ddim yn ddigon ond cawson nhw gyfle i siarad o leiaf cyn cychwyn eu cyfnodau newydd yn eu bywydau. Ym mis Chwefror bydd fy merch yn mynd i'r Eidal ac i Honduras mae'r llall yn mynd fel cenhades drwy amaethyddiaeth, ei harbenigedd. Bydd hi'n bwriadu aros yno am flwyddyn cyn meddwl am y cam nesaf. Hwyl am y tro felly.
Sunday, November 24, 2013
gormod o goffi
Fi sydd yn paratoi coffi, ayyb yn yr eglwys bob bore Sul. Weithiau na fydd digon a bydd rhaid i mi ymddiheuro, a thro arall bydd yna ormod. Bydd rhywun yn fodlon mynd â'r gweddill o goffi efo nhw o dro i dro, ond fel arfer bydda i'n gorfod ei dywallt yn y sinc. Mae'n anodd gwybod ddylwn i ddechrau pot arall neu beidio cyn eistedd yn fy sedd. Heddiw roedd pawb yn prysur fynd adref wedi'r gwasanaeth, ac fel y canlyniad aeth hanner o'r coffi wedi mynd i lawr y draen yn anffodus.
Saturday, November 23, 2013
prynhawn sadwrn
Wedi bore ofnadwy o brysur, mae gen i amser i sgrifennu fy mlog o'r diwedd wrth yfed paned o de. Mae stiw cig eidion yn y crockpot bellach ac mae o'n prysur goginio ei hun! Bydd gynnon ni westai heno sydd yn aros am ddwy noson.
Gofynnodd fy merch hynaf beth fyddwn i eisiau'n anrheg Nadolig. Atebais, "DVD Thermae Romae!" Dw i dal heb ei wylio er fy mod i eisiau ei wylio ers misoedd. Gobeithio y bydda i'n dod o hyd iddo dan goeden Nadolig eleni.
Mae'r peiriant golchi newydd orffen. Rhaid i mi fynd i ddechrau llwyth arall a pharatoi ystafell ar gyfer ein gwestai ni.
Gofynnodd fy merch hynaf beth fyddwn i eisiau'n anrheg Nadolig. Atebais, "DVD Thermae Romae!" Dw i dal heb ei wylio er fy mod i eisiau ei wylio ers misoedd. Gobeithio y bydda i'n dod o hyd iddo dan goeden Nadolig eleni.
Mae'r peiriant golchi newydd orffen. Rhaid i mi fynd i ddechrau llwyth arall a pharatoi ystafell ar gyfer ein gwestai ni.
Friday, November 22, 2013
pryd o fwyd sbeislyd
Coginiodd fy merch pryd o fwyd Coreaidd neithiwr. Roedd angen mynd i Tulsa i brynu'r cynhwysion arbennig. Roedd hi'n awyddus i goginio un o'i hoff brydau o fwyd dros ei theulu. Kimuchi - llysiau wedi'u mwydo mewn saws sbeislyd ydy'r cynhwysyn a ddefnyddir yn aml yn Corea. Oedd! Roedd yn hynod o sbeislyd (a blasus) er ei fod o'n gyffredin yn ôl fy merch! Gobeithio bod y garlleg a'r pupur poeth yn gwneud lles i ni i gyd sydd wedi dal annwyd.
Thursday, November 21, 2013
triniwr gwallt personol
Roeddwn i a'r teulu'n edrych ymlaen at gael torri'n gwallt ni gan fy ail ferch. Rhwng ei dyletswydd a diddordebau amrywiol, mae hi'n ein gwasanaethu ni'n siriol. Tro fy mab oedd o ddyddiau'n ôl. Roeddwn i'n ceisio sylwi sut mae hi'n ei wneud fel bydda i'n medru gwella'r sgil; y fi sydd yn gwneud y gwaith fel arfer. Roedd yn edrych yn syml iawn ac roedd y canlyniad yn ardderchog, ond wrth gwrs mae'n hawdd gweld na gwneud. Cawn ni weld.
Wednesday, November 20, 2013
cinio diolchgarwch
Mae'r Ŵyl Diolchgarwch ar y trothwy. Mae pawb yn Ysgol Optometreg a'u teuluoedd yn edrych ymlaen at y cinio hwn bob blwyddyn. Darparwyd twrci a chig moch gan yr ysgol; mae pawb yn dod â phopeth arall; mi wnes i gaserol ffa gwyrdd. Roedd y cinio i fod i ddechrau am hanner dydd, ond pan gyrhaeddais 20 munud yn gynt, roedd rhai pobl yn bwyta'n barod! Roedd mwy na digon beth bynnag, a ches i ynghyd â'r teulu ginio braf.
Tuesday, November 19, 2013
y cam nesaf iddi
Dw i'n llawn cyffro! Mae fy ail ferch newydd sicrhau lle yn yr Eidal! Bydd hi'n aros efo teulu a dysgu Saesneg iddyn nhw yn ardal le Marche am dre mis. Mae yna chwech yn y teulu - y rhieni, nain a thri o blant. Bydd hi'n gwirfoddoli mewn ysgol hefyd. Mae hi wedi bod yn dysgu Eidaleg o dro i dro, ond rŵan mae hi eisiau dysgu o ddifri. Hwrê! Bydd gen i bartner.
Monday, November 18, 2013
dirwy
Roedd fy merch yn gyrru at gyflymder 65 m.y.a. ar draffordd neithiwr, ond doedd hi ddim yn gweld yr arwydd traffig yn y tywyllwch wrth fynd drwy bentref bach. Cafodd hi ei hatal gan yr heddlu. Dyna'r tro cyntaf iddi sylweddoli bod ei thrwydded draffig wedi dod i ben ddau fis yn ôl. Cafodd hi ei dirwyo o $500. Roedd yn siomedig iawn pan ddaeth adref, ond clywodd gan ei chwaer wedyn gallai'r peth fod wedi llawer gwaeth. Fe wnaeth yr heddlu ganiatáu iddi yrru'n ôl yn lle cael towio ei char. Es i â hi at y swyddfa draffig iddi adnewyddu ei thrwydded y bore 'ma. Cafodd un newydd heb broblem. Dan ni i gyd yn ddiolchgar.
Sunday, November 17, 2013
siop ar y cwch
Mae'r clementines hynny'n edrych yn ofnadwy o ffres a blasus. Doeddwn i ddim yn disgwyl eu gweld nhw yn Fenis. Mae'r siop adnabyddus ar y cwch wrth ymyl Campo San Barnaba'n gwerthu pob math o ffrwythau a llysiau. Prynais innau ffrwythau sawl tro gan gynnwys mefus anhygoel o felys ar fy ffwrdd yn ôl i'r llety. Roeddwn i'n ofnadwy o hapus cael fy nghanmol gan un o'r gweithwyr yno pan dynnais fag plastig allan o fy mag llaw i roi'r ffrwythau ynddo fo. "Ottimo!" (ardderchog) meddai.
Saturday, November 16, 2013
tynnu lluniau neu beidio
Ydy hi'n bosib peidio tynnu lluniau na sgrifennu nodiau wrth gerdded o gwmpas Fenis, fel mynnodd Paolo Barbaro a Tiziano Scarpa? Mae'n haws dweud na gwneud. Ceisiais innau am dipyn; pan es i ar y bws dŵr ar y Gamlas Fawr am y tro cyntaf ben bore, penderfynais beidio cyffwrdd fy nghamera ond mwynhau'r golygfeydd i'r eithaf. Roedd yn brofiad anhygoel, ond yn fuan ces i fy nhrechu a dechrau tynnu lluniau fel y gweddill o'r twristiaid. A dweud y gwir, dw i'n fodlon fy mod i wedi dilyn fy nyhead; mae gen i luniau i fy atgoffa i o'r pythefnos rhyfeddol. Byddai'n anodd cofio fy mhrofiad hebddyn nhw.
Friday, November 15, 2013
un o'r tri
O'r tri llyfr a brynais yn ddiweddar, dw i'n gwirioni ar hwn - Venice for Pleasure gan J.G. Links. Mae yna wahaniaeth mawr rhwng hwn a'r nifer o lyfrau eraill am Fenis - mae o'n hwyl. Mae modd sgrifennu Links yn apelio ata i. Dw i'n hapus gweld cynifer o luniau gan Canaletto, fy hoff artist hefyd; does ryfedd - arbenigwr adnabyddus Canaletto oedd Links ac yntau heb gael addysg swyddogol. (Newydd ddarllen amdano fo wnes i!) Prynais y llyfr hwn yn ail-law mewn cyflwr ardderchog am $4. Fedra i ddim credu bod rhywun wedi ei gwerthu. Na fydd o byth yn gadael fy ochr.
Thursday, November 14, 2013
mae google wedi gorchfygu fenice
Hon ydy'r neges a ddarllenais mewn sawl erthygl y bore 'ma. Gan fod cerbydau gan gynnwys beiciau'n cael eu gwahardd yn Fenis, roedd gweithwyr Google yn gorfod cerdded efo camera trwm ar eu cefn o gwmpas y dref yn mynd i fyny a lawr dros 400 o bontydd; roedd rhai ohonyn nhw'n cael mynd ar gondola'n braf! Bydd popeth yn barod mewn wythnosau, medden nhw. Dyma gip o beth sydd yn dod.
Wednesday, November 13, 2013
HON - HNL
Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn mynd i ymweld â'u taid a nain yn Hawaii ar ôl y Nadolig. Roedd hi'n chwilio am docyn awyren rhad a dod o hyd i bris da - tua $500. (Talodd fy ngŵr $1,300 y tro diwethaf.) Roedd hi ar fin ei brynu a sylweddoli'r camgymeriad. Roedd hi'n meddwl bod HON yn golygu Honolulu, ond fel mae'n digwydd mai HNL ydy Honolulu; HON ydy maes awyr yn South Dakota! Mae hi newydd brynu tocyn am $934 sydd yn rhesymol.
Tuesday, November 12, 2013
y funud fach
Er bod ni wedi methu gweld yr orymdaith ddoe, roedd yn braf cerdded drwy'r brifysgol ar ein ffordd i ganol y dref, a gweld y dail lliwgar ym mhob man. Mae Masarn yn arbennig o hardd. Fedrwn i ddim peidio tynnu llun neu ddau efo fy merched yn y ffrâm.
Monday, November 11, 2013
veterans day
Collais a'r plant yr orymdaith! (Does dim ysgol heddiw.) Roedden ni'n rhy hwyr cyrraedd canol y dref. Aethon ni i ginio'n syth, cinio i godi pres i'r cyn-filwyr. Ces i chili gwyn (ffa, tatws, ŷd, cyw iâr) am y tro cyntaf. Roedd yn flasus iawn.
Diolch yn fawr i'r milwyr i gyd sydd wedi gwasanaethu ac sydd yn gwasanaethu dros eu gwlad. Dydy rhyddid ddim yn rhad ac am ddim.
Llun: fy nhad-yng-nghyfraith sydd wedi gwasanaethu yn Ail Ryfel y Byd a Rhyfel Fietnam
Diolch yn fawr i'r milwyr i gyd sydd wedi gwasanaethu ac sydd yn gwasanaethu dros eu gwlad. Dydy rhyddid ddim yn rhad ac am ddim.
Llun: fy nhad-yng-nghyfraith sydd wedi gwasanaethu yn Ail Ryfel y Byd a Rhyfel Fietnam
Sunday, November 10, 2013
noson hapus
Gan fod y ddwy ferch yn gweithio noson fy mhenblwydd, aethon ni i dŷ bwyta i ddathlu'r diwrnod wedyn. Does dim llawer o ddewis yn y dref, ond dw i a'r teulu'n fodlon mynd i Napoli's unrhyw dro. Felly a fu. Fel arfer bydda i'n yfed dŵr, ond y tro hwn, gan ei bod hi'n ddiwrnod arbennig, ces i wydraid o win pinc. Mae'n bob tro anodd penderfynu beth i'w gael yn Napoli's achos bod popeth yn swnio'n flasus. Dewisais spaghetti arrabbiata efo cyw iâr a oedd yn dda iawn. Wedi'r gweinydd clên ddod â'n bwyd ni, roedd pawb yn prysur edrych yn fanwl bwyd pawb arall am sbel cyn bwyta ei fwyd! Ar ôl cyfnewid tamaid efo'n gilydd, dechreuon ni fwyta'n bwyd ni'n hapus. Rhannon ni un Tiramisu i ddiweddu'r pryd o fwyd. Noson hapus.
Saturday, November 9, 2013
cardiau penblwydd
Ces i gardiau penblwydd arbennig gan y plant ddoe. Mae'r ddau'n gysylltiedig â Fenis, un â Paddington (fy ffefryn,) ac un â Nicola Legrottaglie, fy hoff chwaraewr pêl-droed. Maen nhw i gyd yn hyfryd ond gan nad oes digon o le i bostio popeth, dewisais hwn gan fy mab ifancaf. Mae'r neges ar grys Nicola'n dweud, "Iesu ydy'r gwirionedd."
Friday, November 8, 2013
darllen y tri llyfr
Maen nhw wedi cyrraedd ddyddiau'n ôl - y tri llyfr am Fenis a archebais, a dw i'n mwynhau darllen pob un ohonyn nhw bob dydd. Drwy eu darllen dw i'n sylweddoli bod yna gymaint o lefydd methais i ymweld â nhw; llefydd anhysbys ond swynol yn llygaid y rhai sydd yn gwirioni ar Fenis. Er engraifft, roeddwn i'n cerdded yr un ffordd bob dydd rhwng fy llety a'r ysgol Eidaleg. Dw i'n difaru fy mod i'n fodlon ffeindio'r llwybr byrraf heb geisio profi'r lleill. Roeddwn i wrthi'n "cyrraedd" y cyrchfannau ar fy nodiadur yn hytrach na blasu'r pethau a oedd o fy nghwmpas i.
Thursday, November 7, 2013
prynu tocyn awyren
Des i o hyd i docyn awyren "rhad" i Japan ar y we. Gan fy mod i'n bwriadu mynd eto ym mis Mawrth flwyddyn nesaf er mwyn ymweld â fy mam, penderfynais i gymryd mantais ar y cyfle da. Tra oeddwn i'n aros am hyn a'r llall, fodd bynnag, cododd y pris gan $200 mewn oriau! Roedd yna un arall efo'r un pris ond ffordd lai dymunol; prynais hwnnw ar unwaith. Dysgais wers; pan wela' i gynnig da, dylwn i weithredu heb oedi. $1,180 oedd y pris; talais $1,900 y tro diweddaf.
Wednesday, November 6, 2013
cyri
Dw i'n coginio cyri yn y crock pot ar hyn o bryd. I fod yn fanwl, y crock pot sydd yn coginio'r cyri; dim ond rhoi'r cynhwysion ynddo fo awr yn ôl wnes i. Dechreuodd roi arogl braf. Bydd yn gorffen mewn pedair awr. Fel arfer, dw i'n defnyddio roux cyri Japaneaidd. Dyma'r tro cyntaf i mi baratoi cyri mewn crock pot. Mi wnes i gymysgu dau rysáit ar y we. Gobeithio y cawn ni gyri blasus!
Tuesday, November 5, 2013
i made a promise
Mae o newydd gyrraedd - llyfr gan Nicola Legrottaglie wedi'i gyfieithu i'r Saesneg. Dw i wedi bod wrthi'n darllen yr llyfr yn Eidaleg; a dweud y gwir, mae'n anodd. Efallai fy mod i'n llwyddo i ddeall 70% wrth ddarllen yr un frawddeg sawl tro weithiau. Rŵan dw i'n cael deall popeth. Mae Nicola'n onest ac ostyngedig; dydy o ddim yn pregethu ond adrodd ei brofiad - sut mae nabod Iesu Grist wedi newid ei fywyd. Clywais fod nifer mawr o bobl wedi troi at Iesu drwy ei dystiolaeth. Mae'r llyfr yn werth ei ddarllen.
Monday, November 4, 2013
Daeth fy ail ferch â llond bag o ddail lliwgar a gasglodd o gwmpas y tŷ. Roedd hi ynghyd ei chwaer wrthi'n tynnu lluniau o'i moch cwta ar y dail. Roedd yr anifeiliaid bach yn ymddwyn yn dda oherwydd eu bod nhw'n prysur fwyta'r dail sych fel tasen nhw'n greision blasus. Collon ni un o'r tri'n ddiweddar yn anffodus ond mae'r ddau'n edrych yn fodlon yn cael cymaint o sylw gan eu perchennog.
Saturday, November 2, 2013
wedi blino
O'r diwedd dw i'n cael eistedd a sgrifennu post wrth yfed cwpaned o seidr afal poeth. Roedd yn ddiwrnod llawn er bod o heb ddiweddu eto. Es i efo'r gŵr i'r brifysgol y bore 'ma i glywed ein merch ynghyd ei dosbarth darllen y storiâu byrion a cherddi a grewyd ganddyn nhw. Ffwrdd a fi i wneud y gwaith glanhau yn yr eglwys dilynwyd gan wibdaith fer i'r archfarchnad am fwydydd. Wedi dod adref, paratois ginio sydyn i'r teulu wrth gychwyn y peiriant golchi. Dw i newydd grasu dau ddwsin o fyffins pwmpen ar gyfer y potlwc i'r myfyrwyr o dramor heno. Dim ond y teulu sydd yn mynd. Dw i'n rhy flinedig; well gen i ymlacio adref gweddill y diwrnod.
Friday, November 1, 2013
arfer newydd
Wedi ffarwelio â'i chwaer aeth fy merch hynaf a'i gŵr yn ôl at IKEA a threulio oriau tan yn hwyr. Roedd digwydd bod yn noson Halloween ac roedd y siop bron yn wag. Cawson nhw amser hyfryd yn edrych ar bob dim yn hamddenol a chael swper yn y siop (peli cig Swedaidd!) Dwedodd hi fyddai'n arfer newydd iddyn nhw fynd i IKEA noson Halloween o hyn ymlaen!
Subscribe to:
Posts (Atom)