Friday, November 30, 2007

gwales.com

"Cludiant post awyr am ddim ar bob archeb dramor gwerth dros £40" Mi nes i dderbyn cynnig arbennig o dda gan Gwales.com ddoe ac archebu naw o lyfrau. Dyma'r rhestr:

Wythnos yng Nghymru Fydd gan Eslwyn F. Elis (nofel wreiddiol)
Ofnadwy Nos gan T. Llew Jones
Cyfrinach y Lludw gan T. Llew Jones
Ffair Gaeaf a Storiau Eraill gan Kate Roberts
Blwyddyn gyda Iesu gan Meirion Morris
Un Diwrnod yn yr Eisteddfod gan Robin Llywelyn
Pum Awdur Cyfoes gan Menna Baines
Catrin Jones yn Unig gan Meleri Wyn James
Syth o'r Nyth gan Janet Aethwy, Llio Silyn

Mi nes i arbed dros £20 yng ghludiant ac roedd hanner o'r llyfrau ma ar sêl!

Mae gwasanaeth Gwales.com yn hannod o dda bob tro. Maen nhw'n pacio popeth yn ofalus a'i ddanfon yr unwaith. Maen nhw'n ateb fy negesau e-bost yn syth hefyd. (Diolch i D Philip Davies!)

Na i edrych ymlaen at ddarllen y llyfrau ma i gyd.

4 comments:

Linda said...

Wel dyna fargian Emma :)

Corndolly said...

Mae'r Nadolig wedi dod yn gynnar i ti !! Mae GWales yn fendigedig os does gen ti ddim Siop Llyfrau Cymraeg yn agos atat ti. Mae gen i Siop y Siswrn wrth gwrs, ond dw i'n dal yn defnyddio GWales hefyd.

Corndolly said...

Gyda llaw, "Diolch" am dy gymorth ddoe efo 'Nel'

Emma Reese said...

Mi faswn i'n hoffi prynu mwy o lyfrau gan Gwales tasai'r cluddiant awyr ddim mor ddrud. Ydy, bargen enfawr ydy'r rhain wir.

Na i ddim agor y pecyn tan y Nadolig (anodd iawn!) achos mai anrheg Nadolig oddi wrth yr holl deulu ydy'r llyfrau ma.

Gobeithio byddi di'n medru paratoi ar gyfer yr arholiad yn dda, Corndolly.