Thursday, May 3, 2012

mae'n ddrud!

Tâl post rhyngwladol amazon.japan dw i'n ei feddwl. Mae yna gynifer o lyfrau hoffwn i'w harchebu ganddyn nhw, ond rhaid talu ¥2,700 + 300 yr eitem yn gludiant (tua £23.) Yn aml byddwn i'n cyfeirio llyfrau at dŷ fy mam, a gofyn i'r gŵr eu cludo'n ôl. Ond dim ond unwaith y flwyddyn mae o'n mynd i Japan. Mae yna ddau lyfr (o leiaf) y byddwn i'n eu heisiau'n arw ar hyn o bryd - Thermae Romae (1) a hunan cofiant Mari Yamazaki, yr awdures. Rhaid i mi feddwl am sbel.

3 comments:

DSO said...

Wyt ti wedi edrych ar www.bookfinder.com? Mae 'na bob math o lyfrau ar gael yn yr UDA trwyddyn nhw -- sa i'n siwr yn union sut mae'r siopau ar-lein yn cael gafael ar y llyfrau, ond dyna nhw, yn aml iawn yn rhatach nag un o'r Amazoniaid dros y byd.

DSO said...
This comment has been removed by the author.
Emma Reese said...

Diolch am y linc. Mae eu prisiau'n drytach yn yr achos hwn yn anffodus.