Monday, July 16, 2012

ffan newydd

Dw i'n trio cadw'r tymheredd yn y tŷ braidd yn uwch yn ystod yr haf - tua 83F/28C, ond mae'r plant yn cwyno. Mae gynnon ni hen ffan drydan fach hefyd ond dydy hi ddim yn effeithiol ac mae hi'n swnllyd. Wrth i mi siopa yn Wal-Mart y bore 'ma, gwelais i nifer o ffannau ar werth. Ces i ffansi ar un ohonyn nhw sy'n creu gwynt heb lawer o sŵn. Dyma benderfynu ei phrynu. Mae hi'n gweithio'n dda. Does dim rhaid gostwng y tymheredd yn y tŷ cymaint.

3 comments:

Linda said...

Diddorol ! Da ni'n chwilio am ffan newydd i aelod o'r teulu sydd yn cwyno fod ei AC yn hen ac yn swnllyd!Mae'n byw mewn condo ar yr 21 llawr, ac mae o isho rhywbeth i leshau'r gwres llethol.Da clywed fod y ffan tŵr yn gweithio'n dda.Be di'r mêc ogydd?

Emma Reese said...

Hawaiian Breeze ydy'r enw deniadol!:
http://www.walmart.com/ip/Hawaiian-Breeze-27-Oscillating-Tower-Fan/17011630

Linda said...

Diolch am y manylion. Wedi bod draw i WalMart i edrych ar y ffans, ac wedi gweld rhai da iawn , ond maent yn ddrytach yng Nghanada;)heb benderfynnu pa un i'w gael eto.