Thursday, January 31, 2013
nofel rhy ddiflas
Dyma'r bedwaredd nofel sydd yn lleoli yn Fenis a brynais (ail-law,) sydd yn rhy ddiflas fel na fedraf ei orffen. Ces i fenthyg mwy gan y llyfrgell ond gollais i ddim byd o leiaf ond fy amser. Efallai well i mi beidio darllen nofelau felly. Dydy neb yn sgrifennu cystal â Donna Leon. Mae hi newydd sgrifennu nofel arall yn y gyfres, sef Golden Egg. Dw i'n mynd i aros nes i'r llyfrgell leol gael copi fodd bynnag.
Wednesday, January 30, 2013
thermae romae II
Dw i heb gael cyfle i weld y ffilm gyntaf eto, a dyma ddilyniant ar fin cael ei ffilmio'n barod! Bydd o'n fwy mawreddog na'r cyntaf yn ôl y si; adeiledir Colosseum yn llawn maint; saethir yn Bwlgaria. Bydd yna glyweliad yn Japan i ddewis rhai o "bobl efo wynebau gwastad" a fydd yn cael actio. Dangosir y ffilm flwyddyn nesaf. Byddwn i am weld DVD o leiaf!
Tuesday, January 29, 2013
troli siopa
Weithiau bydda i'n cael gafael yn hen droli siopa sydd angen trwsio. Yna bydd rhaid i mi ei wthio'n galed tra ei fod o'n mynnu mynd i gyfeiriad anghywir. Pan ddechreuais i wthio un yn Wal-Mart y bore 'ma, ces i fy synnu. Roedd o'n newydd a phrin roeddwn i angen ei wthio ond ei gyffwrdd yn ysgafn. Gan fy mod i'n llenwi troli fel arfer, roedd yn help mawr.
Monday, January 28, 2013
adolygiad ffilm, 2
Fe wyliais i ffilm arall sydd yn seiliedig ar nofel Jane Austen ar You Tube - Persuasion (2007.) A dweud y gwir, doedd hi ddim cystal ag un arall (1995) er bod Rupert Penry-Jones yn well Capten Wentworth na Ciarán Hinds. Roedd gan yr hen fersiwn well naws ar y cyfan sydd yn adlewyrchu'r nofel. Hefyd roedd hi braidd yn chwithig gweld Anne Elliot yn rhedeg fel athletwraig! Mae yna nam ar y ddwy fersiwn beth bynnag; mae Elizabeth yn rhy hyll.
Sunday, January 27, 2013
rhy denau
Dw i newydd weld pecyn newydd o gaws wedi'i dafellu yn Wal-Mart. Fel arfer mae yna ryw ddwsin o dafellau mewn pecyn, ond yn y pecyn hwn mae yna 20. Er mwyn bod yn ddarbodus yn hytrach na mynd ar ddiet, dewisodd hwn. Wel, dw i ddim yn ei brynu fo eto; mae pob tafell yn rhy denau fel dw i eisiau defnyddio dwy neu dair ar fy nhost.
Saturday, January 26, 2013
esgidiau
Mae gan siop esgidiau leol sêl - prynu pâr a chael un arall yn rhad ac am ddim, hynny ydy os dach chi'n medru ffeindio eich maint ymysg yr esgidiau ar sêl. Yn ffodus llwyddodd y gŵr (mae o wedi gwella bellach) bâr o esgidiau rhedeg sydd yn ei ffitio fo ac un arall i'n mab ifancaf ni, hwrê! Mae'r mab yn gwisgo'r un faint â'i dad.
Friday, January 25, 2013
cuties
Mae orennau'n gwneud lles i chi. Dw i ddim yn eu prynu'n aml, fodd bynnag, oherwydd bod nhw'n hynod o drafferthus plicio. Wrth gwrs bod Clementinau ar gael hefyd ond dydyn nhw ddim cystal. Yn ddiweddar mae ffrwyth tebyg i glementinau mewn siopau hefyd, sef Cuties. (Dw i newydd ddarllen bod nhw o gwmpas dros deg mlynedd, o wel.) Maen nhw'n haws plicio a llawer mwy melys na Clementinau. (Dydyn nhw ddim cystal â Mican, sef ffrwyth gaeafol Japaneaid.) Ers i'r gŵr ddal y ffliw mae Cuties wedi bod ar ein bwrdd ni'n gyson.
Thursday, January 24, 2013
adolygiad ffilm
Des i ar draws gyfres arall newydd (braidd) o Emma gan BBC ar You Tube. Roeddwn i'n gwirioni ar nofelau Jane Austen ar un adeg a darllenais a gwelais bron popeth ganddi ac amdani hi. O ran y nofelau, Persuasion ydy fy ffefryn. O ran y ffilmiau, Sense and Sensibility gan Ang Lee (y cyfarwyddwr) ydy'r gorau yn fy nhyb i. Dw i'n hoffi Emma (ffilm) a serennwyd gan Kate Beckinsale hefyd.
Mae'r gyfres hon yn dda hyd yma (gorffennais i'r rhan gyntaf) ond dw i ddim yn meddwl bod dangos plentyndod Emma, Jane a Frank ar ddechrau'r ffilm yn syniad da. Mae'n fel datgelu un o'r prif elfennau cyfrinachol. Mae Mr. Elton yn eithaf creepy! Yn fy marn i, Mark Strong ydy'r Mr. Knightley gorau. Fedrai ddim dioddef neb arall.
Mae'r gyfres hon yn dda hyd yma (gorffennais i'r rhan gyntaf) ond dw i ddim yn meddwl bod dangos plentyndod Emma, Jane a Frank ar ddechrau'r ffilm yn syniad da. Mae'n fel datgelu un o'r prif elfennau cyfrinachol. Mae Mr. Elton yn eithaf creepy! Yn fy marn i, Mark Strong ydy'r Mr. Knightley gorau. Fedrai ddim dioddef neb arall.
Wednesday, January 23, 2013
adeg arall
Wrth i mi ddarllen erthygl gan Dewi Llwyd a oedd yn cofio ei ddyddiau a fu, fedra i ddim cofio fy rhai i tua'r un adeg. Pan oeddwn i'n gweithio yn Tokyo i gwmni o Denmarc, roeddwn i'n arfer teipio llythyrau ar deipiadur (electrig, cofiwch) wrth wneud copiau carbon dan y papurau, a'u ffeilio yn y cwpwrdd ffeilio. Gan fod o'n gwmni teligraff, roedden ni'n cael gyrru teligraff at y brif swyddfa yn Copenhagen am ddim. Wrth gwrs roedd galwadau ffôn rhyngwladol ar gael ond roedden nhw'n ofnadwy o ddrud a dim ond weithiau galwodd fy mos y brif swyddfa. Felly roedd yn ddigwyddiad hanesyddol pan gawson ni beiriant ffacs yn ein swyddfa fach yn Tokyo. Ia, adeg arall oedd hi....
Tuesday, January 22, 2013
munudau bach
Dw i'n dal i syllu ar y lleuad bob nos. Dydw i ddim wedi sylwi effaith gadarnhaol eto, ond sylwi wnes i pa mor glir ydy'r sêr. Prin mod i'n mynd allan yn y nos i'w weld nhw, felly mae eu harddwch yn fy nharo i. Ydy, mae'n oer, ond dw i'n mwynhau'r munudau bach distaw o dan y nef serennog.
Monday, January 21, 2013
syllu ar y lleuad
Na fydd hyn yn gweithio yn ôl y gŵr sydd yn optometrydd. Mae gan bawb ryw frychau sydd yn "nofio" yn y llygaid, mwy neu lai. Fel arfer dach chi ddim yn eu gweld nhw oni bai bod chi'n ceisio eu gweld nhw. Yn ddiweddar dw i wedi sylweddoli cynnydd sydyn ohonyn nhw yn fy llygad dde. Wedi profi'n fanwl, barnodd y gŵr fod popeth yn iawn; does dim byd i wneud ond i mi geisio eu hanwybyddu. Haws dweud na gwneud. Dyma chwilio am wybodaeth ar y we. Yn ôl gwefan, bydd syllu ar y lleuad am bum munud bob nos yn helpu. Ar ôl gwneud yn siŵr na fyddai hyn yn ddrwg i'r llygaid, penderfynais i brofi'r driniaeth. "Waeth i ti syllu ar bêl-droed," meddai'r gŵr, ond pwy a ŵyr?
Sunday, January 20, 2013
ffliw
Mae tymor ffliw arnon ni yn yr Unol Daleithiau; mae'n waeth o lawer nag arfer hyd y gwn i. Mae yna gynifer o bobl sydd yn sâl iawn yn y dref hon hefyd gan gynnwys fy ngŵr. Mae o mewn hanner cwarantin yn ei ystafell wely ers tri diwrnod. Cafodd y gwasanaeth ein heglwys ni ei ganslo'r bore 'ma oherwydd y ffliw am y tro cyntaf ers i ni ddechrau ei mynychu15 mlynedd yn ôl.
Saturday, January 19, 2013
pethau bach gwych o Corea
Mae fy merch yn Corea'n anfon aton ni pethau bach gwych yn anrhegion o bryd i'w gilydd. (Gweler y sanau del ar y dde er enghraifft.) Dw i'n gwirioni ar yr amrywiol o face packs effeithiol. Hwn (y llun) ydy'r anrheg i'r tri phlentyn iau - gorchudd brws dannedd sydd yn glynu ar y wal. Mae o'n hynod o ddefnyddiol a doniol hefyd.
Friday, January 18, 2013
wy yn y tost
Weithiau dw i eisiau wy i ginio bach ond gas gen i ddefnyddio'r badell fawr i ffrio un wy. Mae gen i badell fach hefyd ond mae yna nam arni hi a bydd wy'n symud i'r ochr cyn iddo galedu. Dyma gofio peth a welais i o'r blaen - symud canol tafell o fara a defnyddio'r cylch i ddal yr wy yn ei le. Ychwanegais i dipyn o gaws arno fo cyn ei droi. Blasus! Thaflais i mo'r darn o'r bara wrth gwrs.
Thursday, January 17, 2013
casglu troliau
Pan es i Wal-Mart braidd yn gynnar wedi mynd â fy merch i'r brifysgol, gwelais i ddau weithiwr ifanc wrthi'n casglu troliau yn y maes parcio. Roedd yn fore oer iawn. A dyma ofyn a ga' i lun ohonyn nhw. Roedden nhw'n edrych yn eithaf petrusgar (wrth reswm!) ond dyma nhw, chwarae teg iddyn nhw. Gobeithio bod nhw'n falch o gael tipyn o sylw annisgwyl!
Wednesday, January 16, 2013
lloches
Mae tywydd gaeafol arnon ni o'r diwedd. Dan ni'n defnyddio'n llosgwr tân ni sydd yn cynhesu'r tŷ'n braf. Neithiwr clywais gynnwrf tu allan y drws blaen; pwy oedd yna ond aderyn bach del yn hedfan o dan y bondo'n ceisio ffeindio llecyn clyd i dreulio'r noson oer. Gadawodd pan oedd yn ddigon golau'r bore 'ma. Daeth aderyn arall felly ddwy flynedd yn ôl. Ac fe wnaeth pâr nyth ar yr un lle a magu teulu. Efallai mai un o'r babis ydy'r aderyn a ddaeth neithiwr. Dw i'n falch o gynnig lloches i adar truan, ond a dweud y gwir, yn gobeithio nad fyddan nhw'n codi nyth arall yno.
Tuesday, January 15, 2013
heb ymbarelau
Darllenais i flog gan hogan o Japan sydd yn astudio yn Oregon. Mae hi'n rhannu ei bywyd beunyddiol efo'r darllenwyr. Cafodd ei synnu at y ffaith nad ydy fawr o'r bobl leol yn defnyddio ymbarelau er bod y tywydd yn wlyb yno'n aml. Nid dim ond trigolion Oregon sydd ddim yn eu defnyddio. Mae bron pawb yn gyrru yn America (heblw rhai dinasoedd wrth gwrs,) felly maen nhw'n tueddi i redeg o'u ceir i'r adeiladau hebddyn nhw. Mae'n drafferthus cludo ymbarelau gwlyb dan do a dweud y gwir. (Mae yna ddarpariaeth addas i'w cadw wrth ddrws pob adeilad yn Japan.)
Monday, January 14, 2013
ymarfer gyrru
Mae fy merch 16 oed newydd gael permit a dechrau ymarfer gyrru. Dim ond yn y gymdogaeth amgaeedig yma mae hi'n gyrru efo fi wrth ei hochr hi bob dydd. Gyrrodd hi o'r ysgol unwaith ond wedi i mi gael braw, penderfynais i adael iddi yrru ond yn y gymdogaeth. Byddai'n well gen i fyw heb orfod gyrru o gwbl a dweud y gwir.
Sunday, January 13, 2013
gwersi saesneg/eidaleg
Dw i newydd ddarganfod cyfres fideo ar You Tube gan hogyn o Efrog Newydd. Mae o'n dysgu Saesneg i'r Eidalwyr ac Eidaleg i siaradwyr Saesneg. (Mae o'n hollol rugl yn y ddwy iaith.) Fe wnaeth ddwsinau o fideos ardderchog mewn blwyddyn. Dw i'n gwylio gwersi Saesneg hefyd achos bod nhw'n ddefnyddiol i ddysgu Eidaleg. Er bod ei daid a nain yn dod o'r Eidal ac mae o wedi clywed yr Eidaleg wrth iddo dyfu, roedd o'n gwneud ymdrech i'w dysgu. Hogyn clên a siriol ydy o. (Dw i'n gwirioni ar ddechrau bob fideo pan fydd o'n ymddangos ar y sgrin yn sydyn wrth gyfarch.) Braf bod yna ddigon o wersi i bara am sbel.
Saturday, January 12, 2013
pasbort wedi'i fwyta
Mae'n wir swnio fel esgus am beidio gwneud gwaith cartref, ond digwydd mae o - cael y pasbort ei fwyta gan gi! Mae'n bosib, fodd bynnag, gweld y rhan fwyaf ohono fo. Dewch, give him a break! Dw i'n siŵr y bydd Jason yn cadw ei basbort mewn lle diogel o hyn ymlaen.
Friday, January 11, 2013
finegr gwyn
Wedi darganfod pa mor ddefnyddiol ydy finegr gwyn, dw i'n ei ddefnyddio bob dydd o gwmpas y tŷ - glanhau'r gegin a'r tŷ bach, golchi llysiau, rinsio'r gwallt ar ôl siampŵ a mwy. Bydda i'n ychwanegu tipyn ohono fo efo halen yn y dŵr pan fydda i'n berwi wyau. Defnydd arall dw i newydd ei ffeindio ydy hyn - os dach chi'n llosgi sosban, berwch finegr gwyn (tua 2 cm) ynddi hi am funud. Bydd y gweddillion du'n gwahanu. Edrycha' i ymlaen (?) at gyfle i brofi hyn.
Thursday, January 10, 2013
diwrnod cyntaf yn y swyddfa
Dw i newydd ddod adref wedi gweithio am ddwy awr yn swyddfa'r gŵr. Roeddwn i'n ei helpu o'r blaen, ond mae'n wahanol y tro hwn oherwydd mai swydd swyddogol ydy hi. Roedd yna amrywiaeth o waith a hedfanodd y ddwy awr. Tra oeddwn i wrthi, daeth y fyfyrwraig a oedd yn gweithio i'r gŵr hyd yn ddiweddar i ddweud ffarwel. Bydd hi'n dychwelyd i Japan ddydd Sul.
Wednesday, January 9, 2013
gwirioni ar y crock-pot
Dw i'n dal i ddarganfod pa mor ddefnyddiol ydy Crock-Pot. Coginiais i lasagne ynddo ddoe. Roedd o'n hynod o flasus er ei fod o dipyn yn rhy hallt oherwydd bod y saws yn troi'n drwchus. Bydda i'n hepgor halen y tro nesa. Roedd yn braf nad oedd rhaid i mi goginio'r pasta ymlaen llaw. Dw i'n mynd i wneud bara efo burum heddiw.
Tuesday, January 8, 2013
pethau diangen
Dw i'n cael fy synnu'n aml at gymaint o bethau dan ni wedi casglu dros flynyddoedd. Mae'n ymddangos bod hanner ohonyn nhw'n ddiangen bellach ac eto dan ni'n dal i'w cadw am ryw reswm neu i gilydd. Dw i a fy merch hynaf yn awyddus i gael gwared arnyn nhw, ond mae gweddill y teulu'n tueddu i gadw popeth "rhag ofn."
Penderfynais i, fodd bynnag, i fynd drwy fy nghwpwrdd dillad (lle mae pawb yn cadw rhan o'u heiddo ynddo!) Yn y diwedd roedd yna ddau neu dri o fagiau sbwriel mawr i daflu a phentwr o bethau i roi i AMVETS (elusen.) Mae fy nghwpwrdd mor wag fel dw i'n cael sioc pryd bynnag agora' i'r drws!
Monday, January 7, 2013
mae'r gŵr yn ôl
Mae'r gŵr newydd ddod adref o Hawaii wedi ymweld â'i rieni am wythnos. Mae 'gwyliau yn Hawaii' yn swnio'n braf, ond a dweud y gwir, ddim gwyliau oedd y nod ond helpu ei rieni oedrannus o gwmpas y tŷ. Roedd o'n treulio oriau'n trio rhoi trefn ar gyfrifiadur ei dad, glanhau'r gegin, bod yn gwmni iddyn nhw ac yn y blaen. Roedd ei rieni'n hapus dros ben ei weld o wrth gwrs. Yn anffodus mae o wedi dal annwyd yno ac yn y gwely rŵan. Dw i'n falch bod pawb yn ddiogel yma tra oedd o i ffwrdd.
Sunday, January 6, 2013
crock-pot
Ces i Crock-Pot yn anrheg Nadolig gan y plant iau. (Ar gyfer hwn aethon nhw i Black Friday. Wedi methu cael gafael ar yr hanner dwsin efo pris afrealistig o rad, prynon nhw un efo'r pris arferol.) Doeddwn i erioed wedi defnyddio un o'r blaen a dweud y gwir oherwydd nad ydw i'n hoffi dechrau swper yn y bore. Ond ces i fy siomi ar yr ochr orau; wrth ddefnyddio'r tymheredd uwch, dw i'n cael dechrau ar ôl hanner dydd a gadael i'r pot goginio swper drwy'r p'nawn; does angen dim ond rhoi tro neu ddau ar y llwy nes iddo orffen. Mae o wedi sicrhau lle wrth ochr y peiriant coginio reis ar y cownter bellach.
Saturday, January 5, 2013
dechrau gweithio
Mi wnes i fy ngwaith cyntaf y flwyddyn. Cyn iddo fynd i Hawaii, gadawodd y gŵr waith i mi wneud tra byddai fo i ffwrdd - paratoi rhestr bynciau'r erthyglau Japaneg mae o wedi sgrifennu'n fisol i'r cwmni o Japan. Gwaith perffaith i mi ydy hwn achos ei fod o'n ddigon syml ond ddim yn rhy syml gan fod rhaid bwrw golwg ar yr erthyglau i ddewis teitlau addas. Bydda i'n gwneud gwaith amrywiol ar ôl i'r gŵr ddod yn ôl. Dw i'n gobeithio gweithio am ddwy awr bob dydd.
Friday, January 4, 2013
saethyddiaeth japaneaidd
Cynhaliwyd digwyddiad saethyddiaeth Japaneaidd ger Kyoto ddoe. Mae'r cynghrair lleol yn ei gynnal ddechrau bob blwyddyn. Wedi seremoni saethu gan y llywydd, fe wnaeth 86 o aelodau yn eu harddegau hyd at 86 oed gymryd rhan yn y digwyddiad. Roedden nhw mewn gwisgoedd traddodiadol braf ac yn edrych yn smart iawn!
Thursday, January 3, 2013
diwedd y gwyliau
Dechreuodd tymor newydd yr ysgolion heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r gweithiwyr yn ôl i'w gwaith ddoe. (Roedd rhai siopau ar agor y cyntaf hyd yn oed.) Mae hyn yn hollol wahanol i'r arfer yn Japan; maen nhw'n dathlu blwyddyn newydd am dri diwrnod o leiaf yn bwyta seigiau arbennig a gwylio'r teledu trwy'r dydd efo teuluoedd a pherthnasau. Mae popeth ar gau heblaw ryw siop y gornel neu ddwy. Dydy'r ysgolion ddim yn cychwyn nes yr wythfed. Dw i wedi hen gyfarwydd â'r arfer yma, ond mae o'n dal i roi sioc i fy mam.
Wednesday, January 2, 2013
celf ar gyfer tŷ bach
Cafodd fy merch hynaf ei gofyn i wneud dau blac ar gyfer tŷ bach tŷ bwyta Ffrengig. Yr offeiriad o Libanus a ofynnodd dros ei ffrind sydd yn rhedeg y tŷ bwyta yn anrheg a dweud y gwir. Mae'r placiau hyfryd yn dangos yn glir pwy ddylai fynd i ba ystafell.
Tuesday, January 1, 2013
2013
Mae'n wlyb a llwyd ddiwrnod cyntaf y flwyddyn; mae'r mymryn o eira a gawson ni wedi hen ddiflannu. Mae'r gŵr yn Hawaii'r wythnos 'ma yn ymweld ei rieni. Bydd ei dad yn troi'n 92 oed eleni. Cyn dychwelyd i Texas, roedd y mab hynaf ynghyd ei chwiorydd a'i frawd wrthi'n gwneud eu tasg olaf, sef cludo'r coed tân o'r iard i'r garej. Dw i newydd wneud addunedau blwyddyn newydd. Gobeithio dw i'n medru dweud ddiwedd y flwyddyn, "dw i wedi eu cadw" unwaith eto!
Subscribe to:
Posts (Atom)