teipiadur olaf
Dw i newydd ddarllen erthygl am y teipiadur olaf a gafodd ei gynhyrchu ym Mhrydain, yn Wrecsam i fod yn benodol. Ces i fy synnu braidd bod teipiaduron yn dal i gael eu gwneud o gwbl a dweud y gwir. Roeddwn i'n meddwl bod nhw'n perthyn i eitemau antique ers blynyddoedd. Ar y llaw arall, mae'n drist wrth feddwl mai ar deipiadur Olivetti roeddwn i'n dysgu sut i deipio amser maith yn ôl. A sgrifennodd T. Llew ddwsinau o'i nofelau gwych ar deipiadur Brother.
2 comments:
Diddorol, Emma. Dwi'n cofio dysgu teipio ar teipiadur, blynyddoedd yn ol a dim clem ar y bryd bod hwn am fod yn sgil ddefnyddiol iawn iawn. Dwi'n hoffi'r blog a edmychu'r ffaith dy fod yn cyfrannu bob dydd
Diolch i ti Ann am y sylw. Dw i'n trio sgrifennu bob dydd.
Post a Comment