Friday, January 17, 2014

cam nesaf i fy merch

Mae fy ail ferch newydd brynu tocyn awyren i'r Eidal. Bydd hi'n dysgu Saesneg am dri mis yno, ac wedyn mae hi eisiau teithio am wythnos neu ddwy yn Ewrop wrth gwblhau ei siwrnai yn Lloegr cyn dod adref. Mae hi bellach yn gyfarwydd a dysgu plant ond her newydd bydd hyn i gyd achos nad ydy hi erioed wedi bod yn Ewrop. Dw i eisoes yn edrych ymlaen at glywed ei hanes.

2 comments:

Unknown said...

Pob lwc iddi! Rwy'n ystyried gweithio mas yn Sbaen eleni fy hun ac yn gobeithio dysgu Sbaeneg.

Emma Reese said...

Pob hwyl i tithau! Mae'n wych cael gweld y gwledydd eraill.