Wednesday, January 21, 2015

newyddion o abertawe

Dw i'n mwynhau'n fawr iawn clywed oddi wrth fy merch yn Abertawe drwy e-bost, Face Book a'i blog. Aeth i Fwmblws, i'r traeth i'r eglwys (mae yna Evangelical Free Church!) i farchnad leol; aeth o gwmpas ar "Cymru Coach" yn gweld y dref. Cafodd Stendhal's Syndrome oherwydd gormod o brydferthwch! Ddoe roedd y ddarlith gyntaf ar gyfer y myfyrwyr rhyngwladol cyn i'r tymor ddechrau mewn pythefnos. Mae yna 160 o Americanwyr gan gynnwys rhai sydd yn dod o Oklahoma. Cafodd hi ei siomi o beidio clywed Cymraeg yn aml, ond mae hi'n mynd i Goffi a Sgwrsio ar y campws. (Dechreuwr ydy hi ond bydd hi'n cael clywed Cymraeg fyw yno.)

1 comment:

Rhys Wynne said...

Ydy hi wedi bod i Ty Tawe eto - mae llawer o bethau Cymraeg yn digwydd yno yn ol pob son.