Monday, December 31, 2012

addunedau blwyddyn newydd

Mi wnes i ddwy adduned blwyddyn newydd eleni a dw i wedi eu cadw. Fedra i ddim dweud beth oedd y gyntaf ond yr ail - sgrifennu'r blog hwn bob dydd. Ar wahân i'r wythnos roeddwn i yn Japan ym mis Mawrth (doedd gen i ddim modd,) sgrifennais i bwt bob dydd er bod yn anodd yn aml oherwydd diffyg pynciau. Mae sgrifennu'n gyhoeddus felly'n hynod o bwysig i mi ddal at fy Nghymraeg. Mae hyn yn peri i mi adolygu'r gramadeg, gwirio sillafu, ceisio llunio fy meddyliau ac yn y blaen. Diolch yn fawr a blwyddyn newydd dda i chi sydd yn dod yma.

3 comments:

Ann Jones said...

Da iawn, Emma - dwi ddim yn meddwl faswn i'n medru blogio bob dydd - ti wedi gwneud yn dda iawn.

Linda said...

Llongyfarchiadau i ti am gadw'r adduned blwyddyn newydd Junko ! A dymuniadau gorau i ti a dy deulu yn 2013.

Emma Reese said...

Diolch yn fawr i chi Ann a Linda! Dymuniadau gorau i chithau.