Tuesday, January 6, 2015

cysill

Fe fydda i'n golygu fy mostiau'n ofalus bob tro cyn gwthio'r botwm "publish" wrth ddefnyddio pethau sydd ar gael ar y we - Google, Llyfrgell Owen, Cysill, ayyb. Dw i'n ddiolchgar i Cysill yn enwedig am gywiro fy nghamgymeriadau. Ar ôl gwthio "gwirio" bydda i'n aros am y canlyniad braidd yn nerfus fel petawn i'n sefyll wrth athro sydd yn darllen fy nhraethawd. Mae yna ddigon o gamgymeriadau fel arfer, ond weithiau does dim byd a bydd yn wych gweld "wedi gorffen gwirio..." Diolch yn fawr i Cysill Ar-lein!

2 comments:

Unknown said...

Rwy'n cytuno, mae Cysill yn gret yn y ffordd yna. Ond a oes gymaint o ots ar gyfer pethau sy'n cael eu hysgrifennu ar-lein, dych chi'n feddwl? Dwi ddim yn gwybod..

Emma Reese said...

Beth dach chi'n ei feddwl, "pethau sy'n cael eu hysgrifennu ar-lein"?