Monday, November 26, 2012

cymun catholig

Bore ddoe yn lle mynd i'r eglwys gartref gyfarwydd yn Norman, aethon ni i'r eglwys Gatholig 'Libaneaidd' yn yr ardal. Mae'r offeiriad ifanc clên yn ffrind i fy merch a'i gŵr. Roedd dyna'r tro cyntaf i fi a'r teulu i fynd i eglwys Gatholig heb sôn am un Libaneaidd. Cafodd y Mas ei gynnal yn Saesneg a'u hiaith. Roeddwn i'n teimlo'n ddwfn bod ni'n credu'r un Arglwydd Iesu er bod ni'n ei addoli mewn ieithoedd ac arddulliau gwahanol. Yn ymysg y canu yn alawon Libaneaidd, clywais i gân addoli gyfoes gyfarwydd a gwenu. Uchafbwynt y Mas oedd y Cymun. Es at yr offeiriad efo pawb i dderbyn waffer efo diferyn o win arno fo yn fy ngheg. Roeddwn i'n teimlo'n rhyfedd ond hapus.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Mae enw Cymraeg am Lebanon, sef Libanus - dwi ddim yn siwr o ble mae'n tarddu a sut mae mor wahanol i'r Saesneg. Er nad ydyw i'n grediniwr, dw i'n ei weld yn ddiddorol bod enwau Cymraeg am wledydd ac ardaloedd y Dwyrain Canol (e.e. Gwlad yr Iorddonen ydy Jordan), a'r rhieni wedi bod mewn defyndd cyson ers cyfieithiadau cyntaf y beibl dybiwn i.

Emma Reese said...

Diolch i ti Rhys. Roeddwn i'n ceisio ffeindio'r enw Cymraeg am 'Lebanese' ond heb lwyddiant. Mi wnes i ddyfeisio'r gair "Lebaneaidd" felly!