Digwyddiadau pwysig (personol a chyhoeddus) y flwyddyn hon:
Ionawr - Dechreuodd fy merch ifancaf yn y brifysgol yn nhalaith Missouri.
Chwefror - Ces i anafiad difrifol ar y cefn.
Mehefin - Cafodd fy ŵyr cyntaf ei eni.
Awst - Dechreuodd fy merch arall weithio fel tiwtor Saesneg yn Japan.
Tachwedd - Enillodd Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol er gwaethaf pawb a phopeth.
Dw i'n ddiolchgar dros ben i Dduw am ei drugaredd ar America. Edrycha' i ymlaen at y flwyddyn newydd efo llawn obaith.
Saturday, December 31, 2016
Friday, December 30, 2016
cam hurt
Wedi methu pob modd i danseilio buddugoliaeth Donald Trump, ar y Rwsiaid mae Obama'n beio am golled yr etholiad yn ddiweddar, a chymerodd gam hurt tuag atyn nhw. Mae o wrthi'n chwalu America ers iddo gychwyn fel yr arlywydd wyth mlynedd yn ôl. Mynegodd pobl America eu barn, a chollodd o. Pe bai o'n gadael yn ddistaw, gallai fo ennill ychydig o barch. Ond dydy o ddim. Cywilydd cenedlaethol ydy o bellach.
Thursday, December 29, 2016
addewid duw
Roedd o'n llechwraidd hyd at yr etholiad diwethaf, ond yn sydyn dangosodd Barak Hussein Obama ei "wir liwiau" gan helpu (neu gynllunio) datganiad y Cenhedloedd Unedig newydd yn erbyn Israel i basio. Doedd neb wedi melltithio Israel a phara'n hir pa mor nerthol oedd o ar y pryd. "Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio." Dydy addewid Duw ddim yn newid.
Wednesday, December 28, 2016
donut
Y diwrnod olaf yn Norman. Dw i wedi cael gwyliau braf efo'r teulu. Mae'r gwesty'n cynnig brecwast yn rhad ac am ddim. Y bwyd sydd yn fy mhlesio i ydy donut. Prin iawn bydda i'n ei fwyta'n ddiweddar, ond dw i wrth fy modd efo fo'r wythnos hon gan mai Hanukkah ydy hi, ac maen nhw'n bwyta donut yn Israel yn ystod yr ŵyl sydd yn para am wyth noson. Hanukkah Hapus!
Tuesday, December 27, 2016
gwyliau
Monday, December 26, 2016
seren dafydd
Ces i anrheg Nadolig hyfryd gan fy merch hynaf - crog dlos Seren Dafydd a wnaed o ddarnau rocedi Hamas a ffrwydrwyd yn Israel. Sgrifennais am y dyn sydd yn troi'r pethau erchyll i bethau hardd efo llawn obaith. Mae o'n cyfrannu rhan o'r elw i godi llochesau bom hyd yn oed. Dw i wrth fy modd efo'r anrheg arbennig.
Sunday, December 25, 2016
nadolig, hanukkah
Friday, December 23, 2016
cynllun newydd
Mae'n braf croesawi'r plant sydd yn byw'n bell ar adeg y Nadolig, ond wrth i mi dynnu ymlaen, mae hyn yn mynd yn faich braidd yn drwm. Eleni, fodd bynnag, mae gynnon ni gynllun newydd gwych; dan ni'n ymgasglu yn nhŷ fy merch hynaf yn Norman. (Y hi a gynigodd.) Dim cinio nac ystafelloedd i baratoi; dim ond teithio i'w thŷ. Hwrê! Bydda i a'r gŵr, ein mab hynaf a'i deulu yn aros mewn gwesty cyfagos tra bydd y ddau blentyn iau'n aros efo'u chwaer hŷn. Byddwn ni'n cymryd mantais ar y cynifer o dai bwyta a siopau hyfryd yn Norman.
Wednesday, December 21, 2016
enfys
Roedd America'n prysur chwalu ar ôl yr Arlywydd Reagan, ond rŵan mae ganddon ni obaith, er bod Mrs. Obama ddim yn cytuno. Mae Donald Trump wedi rhoi hwb i ysbryd y bobl a'r economi hyd yn oed cyn iddo gychwyn yn swyddogol. Ymddangosodd enfys hardd yn Las Vegas (lle mae Tŵr Trump) y diwrnod cwynodd Mrs. Obama nad oes ganddi obaith. Mae'n well gen i feddwl mai bendith Duw ar y llywodraeth newydd oedd o.
(y llun - tynnwyd gan fy mrawd yng-nghyfraith yn Las Vegas)
(y llun - tynnwyd gan fy mrawd yng-nghyfraith yn Las Vegas)
Tuesday, December 20, 2016
swyddogol
Mae'n swyddogol rŵan. Donald Trump fydd y 45fed Arlywydd America. Enillodd 304 pleidlais o gymharu â'r 169 a enillwyd gan Hillary Clinton. (Mae angen 270 i ennill.) Er lles y wlad, dylai'r Democratiaid atal eu hymdrech i danseilio dilysrwydd yr etholiad, a dechrau gweithio gyda'r arlywydd newydd.
Monday, December 19, 2016
yn ofer
Ennill a wnaeth Donald Trump. Dydy'r rhyddfrydwyr ddim eisiau cydnabod y ffaith o hyd, a dal i geisio newid y canlyniad yn ofer - crio, terfysg, rhwystro traffig, ail gyfri'r pleidleisiau, beio ar y Rwsiad, a rŵan rhwystro'r electoral college rhag pleidleisio o blaid Mr. Trump drwy fygwth eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Mae'n ofer. Bydd Donald Trump yn Arlywydd America Ionawr 20 ymlaen.
Saturday, December 17, 2016
cerdyn post
Cyrhaeddodd cerdyn post arall a bostiwyd gan fy merch yn yr Eidal bedwar mis yn ôl. Y tro 'ma, sgrifennodd hi UDA ar y cyfeiriad, ac felly does gen i ddim syniad pam gymerodd gymaint o amser. Prynodd hi'r cerdyn yma yn Lucca, ac roedd hi'n sôn am ei phrofiad braf o feicio drwy'r dref ac ar y wal o'i chwmpas. Ces i ginio hyfryd ar y piazza hwnnw.
Friday, December 16, 2016
llysgennad i israel
Thursday, December 15, 2016
nadolig llawen
Mae'n well gan y byd ddweud "Gwyliau Hapus" yn lle "Nadolig Llawen" yn ddiweddar. Mae Sweden yn gwahardd goleuadau Nadolig er mwyn peidio â gwylltio'r Mwslemiaid. Yn America, fodd bynnag, fe gawn ni ddweud "Nadolig Llawen" eto, meddai Mr. Trump. Hwrê!
Wednesday, December 14, 2016
llysgenhadaeth america yn jerwsalem
Mae tîm trosglwyddo Donald Trump wrthi'n chwilio'n barod am safle priodol ar gyfer llysgenhadaeth America yn Jerwsalem. Symud y llysgenhadaeth o Tel Aviv i Jerwsalem oedd un o'r addewidion pwysicaf a wnaed ganddo fo yn ystod yr ymgyrch. Pwysig iawn ydy hyn i'r Cristnogion yn America sydd yn ei gefnogi hefyd. Dw i'n hynod o falch bod Mr. Trump yn bwrw ymlaen efo'i addewid. Disgwylir cwynion ffyrnig o bob man, rhai ymosodol, ond dim ots. Prif ddinas dragwyddol Israel ydy Jerwsalem.
Tuesday, December 13, 2016
ar ei ffordd
"Mae Osnat newydd anfon eich modrwy," meddai Etsy y bore 'ma! Hwrê! Ces i sgwrs neu ddau sydyn (ar y we) efo dynes glên y siop honno yn Israel ar ôl gosod fy archeb. Roedd hi'n hapus clywed fy mod i eisiau gwisgo'r fodrwy fel modrwy briodas. Dw innau'n hapus fy mod i wedi ffeindio ei siop. Edrycha' i ymlaen!
Monday, December 12, 2016
myffin afocado/banana
Bydda i'n bwyta afocado mewn salad neu chili o bryd i'w gilydd, ond roeddwn i eisiau ei ddefnyddio fo fel cynhwysyn ar gyfer myffin. Dyma googlo a ffeindio nifer o ryseitiau (mae gan bobl eraill yr un syniad mae'n amlwg,) a cheisio dyfeisio rysáit sydd yn fy siwtio i. Fe wnes i stwnsio hanner afocado ac un fanana; ychwanegu llefrith, dau wy, siwgr, blawd (ceirch, cyflawn,) powdr pobi, halen, cnau; crasu yn y popty am ryw 20 munud ar 375F/190C gradd. Fedrwn i ddim blasu'r afocado ond y fanana. Flasus iawn a heb fenyn nac olew.
Saturday, December 10, 2016
modrwy
Ces i $90 yn anrheg fy mhenblwydd gan ddau o fy mhlant y mis diwethaf. Anfonais hanner ohono fo i helpu dioddefwyr y tanau gwyllt yn Israel, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w brynu efo'r gweddill o'r pres tan yn ddiweddar. Ces i syniad gwych! Modrwy briodas newydd a wnaed yn Israel yn lle fy un i sydd yn rhy fach i fy mys modrwy bellach. Mae yna nifer o ddewisiadau ar y we, ond dewisais un drwy Etsy. Bydd dynes y siop yn ysgythru "Shema Israel" (Clywch Israel) yn Hebraeg ar y fodrwy. Dw i'n gyffro i gyd!
Friday, December 9, 2016
dewis sydd yn eu gwilltio
Cafodd un o Oklahoma ei ddewis ar gyfer y cabinet newydd, sef y Twrnai Cyffredinol Scotto Pruitt fel pennaeth Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd. Mae'r dewis yn gwylltio'r rhyddfrydwyr unwaith yn rhagor oherwydd ei farn ar y theori newid hinsawdd, ei gefnogaeth i'r diwydiant glo a mwy. A dweud y gwir, mae pob dewis gan Mr. Trump ynghyd â'i bolisïau i gyd yn gwylltio'r rhyddfrydwyr. Maen nhw, ar y llaw arall, yn llawenhau'r mwyafrif distaw sydd yn niferus iawn. (Gweler y lliw coch ar y map.)
Thursday, December 8, 2016
bendithiaf y rhai sy'n dy fenditio
Wednesday, December 7, 2016
pearl harbor a gobaith
Tuesday, December 6, 2016
llythyr nadolig
Mae amser i anfon llythyr Nadolig at y teulu a ffrindiau wedi dod. Y gŵr sydd yn sgrifennu fersiwn Saesneg, a fi sydd yn sgrifennu'n Japaneg. Roedden ni'n arfer argraffu llun mawr ohono ni ar y llythyr, ond wrth i'r plant daenu dros y byd, mae'n anodd cadw'r traddodiad. A dyma'r canlyniad. Bydd rhaid ychwanegu mwy o luniau yn y dyfodol.
Monday, December 5, 2016
na
Dw i ddim yn gwybod yn ddigon er mwyn mynegi fy marn ynghyn â chanlyniad y refferendwm yn yr Eidal. Un peth dw i'n sicr, fodd bynnag, ydy bod o'n ganlyniad da dros bobl yr Eidal, oherwydd bod Barak Hussein Obama wedi bod yn cefnogi'n daer yr ochr "Ie." Rhaid canmol Mr. Renzi am gadw at ei air ac ymddiswyddo ar unwaith heb ofyn am ailgyfrif.
Saturday, December 3, 2016
galwad ffôn
Friday, December 2, 2016
brodio
Mae gen i farclod glas tywyll syml. Ces i syniad i frodio arni hi, a dyma brynu edau brodwaith gwyn, a dechrau gweithio. Y canlyniad - Seren Dafydd ynghyd â gair Hebraeg dani hi sydd yn dweud hatikvah - y gobaith.
Thursday, December 1, 2016
dal ati
Dyma'r tri rhifyn diweddarach o Decision gan Gymdeithas Billy Graham. Fel gwelwch chi, maen nhw i gyd am yr etholiad arlywyddol diwethaf. Wrth eu pori nhw, fedra i ddim peidio â chofio pa mor galed roeddwn ni a'r Cristnogion eraill yn America a gwledydd eraill wedi gweddïo dros yr etholiad hwnnw. A dweud y gwir, dw i erioed wedi gweddïo o galon dros etholiad o'r blaen. Drwy drugaredd atebodd Duw ein gweddi a rhoi i ni Donald Trump yn Arlywydd America yn hytrach na Hillary Clinton. Dydy'r frwydr ddim wedi drosodd fodd bynnag fel gwelir y cynnwrf dros America. Dylen ni ddal ati.
Wednesday, November 30, 2016
symud i canada
Addawodd dwsinau o bobl amlwg cyn yr etholiad i adael America os byddai Mr. Trump ennill, a symud i Canada. Roeddwn i'n ceisio ffeindio pwy gadwodd yr addewid ond heb lwyddo. Trueni. Ond pe baen nhw wedi cadw at eu gair, bydden nhw'n ofnadwy o drafferth i bobl Canada wrth gwrs! Gawn ni hwyl braf yn gwylio'r fideo doniol hwn.
Tuesday, November 29, 2016
bds
Gwelodd myfyriwr Rydychen sticer BDS ar liniadur Apple, a gadael nodyn sydyn:
"Efallai fod ti eisiau gwybod bod flash-storage yn y cyfrifiadur hwn wedi cael ei wneud gan Anobit, cwmni technoleg Israel. Os nad wyt ti eisiau'r cyfrifiadur mwyach, gad fo ar y ddesg tu ôl i ti."
Mae'n hynod o anodd byw yn y byd modern hwnnw os dach chi eisiau boicotio Israel yn llythrennol. Diolch i Hananya am y llun diddorol hwn.
"Efallai fod ti eisiau gwybod bod flash-storage yn y cyfrifiadur hwn wedi cael ei wneud gan Anobit, cwmni technoleg Israel. Os nad wyt ti eisiau'r cyfrifiadur mwyach, gad fo ar y ddesg tu ôl i ti."
Mae'n hynod o anodd byw yn y byd modern hwnnw os dach chi eisiau boicotio Israel yn llythrennol. Diolch i Hananya am y llun diddorol hwn.
Monday, November 28, 2016
melltith a bendith
Mae'r tanau gwyllt yn Israel dan reolaeth erbyn hyn, diolch i'r dynion tân, milwyr IDF ynghyd â nifer o wledydd a ddanfonodd cymorth. Cafodd fwy nag 30 eu harestio bellach am gynnau tân yn fwriadol!
Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ebe Arglwydd y Lluoedd. Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw.
Dyma fodd i fendithio dioddefwyr y derfysgaeth yn Israel:
Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ebe Arglwydd y Lluoedd. Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw.
Dyma fodd i fendithio dioddefwyr y derfysgaeth yn Israel:
https://donate.unitedwithisrael.org/donate/e5?a=et_1127
Saturday, November 26, 2016
cinio'r ŵyl
Dim ond hanner o fy mhlant a oedd wrth fwrdd cinio gŵyl Ddiolchgarwch eleni; mae fy nwy ferch yn Japan; dathlodd fy mab hynaf yr ŵyl efo teulu ei wraig. Choginiais erioed dwrci mor fach (10 pwys.) Cawson ni ginio braf beth bynnag. Es i am dro'n gynnar eto'r bore 'ma mewn niwl oer wrth weddïo dros ein harlywydd ni newydd a oedd yn gweithio ddydd yr ŵyl hyd yn oed.
Friday, November 25, 2016
tanau gwyllt
Mae Israel ar dân! A chafodd hanner o bron i 20 o achosion yn ddiweddar eu cynnau'n fwriadol; cafodd rhyw ddwsin eu harestio. Mae'r diffoddwyr tân wrthi'n galed ers dyddiau efo cymorth gwledydd eraill - America, yr Aifft, yr Iorddonen, Rwsia, Twrci, Gwlad Groeg, Croatia, Ffrainc. Bendith arnyn nhw, a gobeithio bydd yna fwy i ddod. Mae'n anghredadwy o erchyll bod rhai Arabaidd yn dathlu wrth ddosbarthu negeseuon efo #israelisburning!!!
Thursday, November 24, 2016
gŵyl ddiolchgarwch
Mae yna gynifer o bethau fy mod i'n ddiolchgar amdanyn nhw, yn enwedig eleni - cyfle i fynd am dro bob bore cynnar; genedigaeth fy ŵyr cyntaf; y chwech o blant sydd yn rhodio'n ffyddlon wrth Dduw, Iesu Grist a roddodd ei hun yn aberth berffaith i faddau i'n pechod ni; y gobaith tragwyddol drwy ei addewid o'i ail ddyfodiad; ei drugaredd ar America ar yr 8fed o fis Tachwedd.
Wednesday, November 23, 2016
y llysgennad newydd i gn
Mae Mr. Trump a'i staff wrthi'n trefnu'r llywodraeth newydd. Penodwyd sawl swydd, a dyma hi, llysgennad i Genhedloedd Unedig, sef Nikki Haley. Llywodraethwr South Carolina ydy hi; llywodraethwraig gyntaf yn y dalaith honno ac yn ferch i rieni o India. Mae hi'n cefnogi Israel, o blaid bywyd ac o blaid atgyfnerthu'r gyfraith mewnfudo. Mae hi'n swnio'n berffaith i'r swydd. Gobeithio y bydd hi'n sefyll yn gadarn dros Israel yng Nghenhedloedd Unedig.
Monday, November 21, 2016
adref ers mis mai
Mae fy merch ifancaf adref am y tro cyntaf ers mis Mai. Roedd hi'n astudio a gweithio'n galed yn y brifysgol, ac o'r diwedd mae hi ar wyliau am wythnos. Mae ei brawd wrth ei fodd yn cael ei chwmni. Aethon nhw i gerdded yn y goedwig efo'i gilydd am oriau. Bydda i'n paratoi gyoza i swper heno i'w phlesio hi.
Saturday, November 19, 2016
hananya

Friday, November 18, 2016
prif weinidog japan

Thursday, November 17, 2016
arwydd

Wednesday, November 16, 2016
supermoon

(y llun - tynnwyd gan frawd y gŵr yn Las Vegas)
Tuesday, November 15, 2016
stopiwch y terfysgwyr!
Mae pobl yn dal i brotestio yn erbyn Donald Trump mewn dinasoedd mawr, ac mewn modd ofnadwy o dreisgar. Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu talu i achosi cynnwrf, ac maen nhw'n cael eu cludo mewn bysiau o le i le. Mae rhai ohonyn nhw'n gwisgo hetiau a chrysau Trump er mwyn twyllo'r cyhoedd hyd yn oed. Dylai'r arlywydd Obama fod wedi gweithredu'n gadarn i'w hatal erbyn hyn, ond wnaeth o ddim byd. Rŵan collodd hogan fach bedair oed ei thad oherwydd bod yr ambiwlans a oedd yn ei gludo'n cael ei rwystro gan y terfysgwyr ar y ffordd; cyrhaeddodd yr ambiwlans yr ysbyty'n rhy hwyr. Dylai'r arlywydd Obama eu hatal nhw ar unwaith cyn i'r sefyllfa fynd o ddrwg i waeth.
Monday, November 14, 2016
tonnau o obaith
Mae buddugoliaeth Donald Trump a phobl America wedi anfon tonnau o obaith i bobl (ac ofn i'r lleill) yn Ewrop. Doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn bod yna bleidiau gwleidyddol sydd gan bolisïau tebyg i ni - yn y DU, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Hwngari a Groeg. Mae gan Geert Wilders o'r Iseldiroedd hashtag "makenetherlandgreatagain" hyd yn oed. Dw i'n awyddus i glywed canlyniadau'r etholiadau yn y gwledydd hynny.
Saturday, November 12, 2016
am y tro cyntaf
Am y tro cyntaf ers cenedlaethau, mae gan America arlywydd sydd ddim yn atebol i grwpiau â buddiant arbennig; dim ond i bobl America mae o'n atebol. Mae ganddo ddawn i ysgogi ac arwain yr eraill. Ar ben hynny mae o'n amgylchu ei hun efo cynghorwyr doeth. Dydy'r frwydr, fodd bynnag ddim wedi drosodd eto. Rhaid pobl America dal yn wyliadwrus, a chefnogi'r arlywydd newydd.
Friday, November 11, 2016
diwrnod veterans
Diolch yn fawr i'r veterans. Dan ni'n rhydd oherwydd y dewrion.
Thursday, November 10, 2016
plant wedi'u difetha
Cafodd Donald Trump ei ethol yn Arlywydd America drwy etholiad. Enillodd o er gwaethaf twyll gan y Democratiaid. Ac eto mae cefnogwyr Hillary yn protestio ym mhob man yn ei erbyn mewn modd treisgar. Pe bai Hillary wedi cael ei hethol, fyddai cefnogwyr Donald Trump byth wedi achosi cynnwrf treisgar felly. Mae hyn yn dangos pa fath o'r bobl sydd yn cefnogi Hillary. Maen nhw'n debyg i blant wedi'u difetha. Byddan nhw'n achosi cynnwrf os na chân nhw beth maen nhw eu heisiau.
Wednesday, November 9, 2016
trugaredd
Monday, November 7, 2016
yr amser

Sunday, November 6, 2016
giât
Annwyl Aled Huw, Gohebydd BBC Cymru,
Mae Donald Trump eisiau codi wal ar y ffiniau er mwyn atal terfysgwyr, marchnatwyr cyffuriau a ffeloniaid difrifol eraill ymysg y mewnfudwyr anghyfreithlon. Nid diwedd ei gynllun ydy hyn. Bydd o hefyd yn codi giât lydan hardd mae mewnfudwyr yn cael dod i mewn drwyddi hi. Mae America'n dal i groesawu pobl o bob cwr o'r byd, ond mae yna amod - dylen nhw ddod i mewn yng nghyfreithlon.
Mae Donald Trump eisiau codi wal ar y ffiniau er mwyn atal terfysgwyr, marchnatwyr cyffuriau a ffeloniaid difrifol eraill ymysg y mewnfudwyr anghyfreithlon. Nid diwedd ei gynllun ydy hyn. Bydd o hefyd yn codi giât lydan hardd mae mewnfudwyr yn cael dod i mewn drwyddi hi. Mae America'n dal i groesawu pobl o bob cwr o'r byd, ond mae yna amod - dylen nhw ddod i mewn yng nghyfreithlon.
Saturday, November 5, 2016
pob americanwr gwladgarol

Friday, November 4, 2016
cyflawni dau beth

Wednesday, November 2, 2016
hen wyddoniadur
Monday, October 31, 2016
draenio'r gors

Saturday, October 29, 2016
peth anghredadwy
Mae'n hollol anghredadwy bod troseddwr yn cael bod yn ymgeisydd mewn etholiad arlywyddol. Pe bai'r ymgeisydd yn weriniaethwr, ceith hi ei chicio allan o'r ras ar unwaith os oes ond arogl trosedd. Mae rhai pobl yn ffyrnig dros beth ddwedodd Donald Trump 11 mlynedd yn ôl tra bod nhw'n anwybyddu troseddau difrifol a chelwyddau erchyll Hilary Clinton. Mae tystiolaeth ei throseddau yn dal i ddod allan beunyddiol, diolch i Wikileaks. Mae yna Gyfiawnder yn y byd. "Beth bynnag y mae dyn yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi."
Friday, October 28, 2016
cefnogaeth ddoeth
Thursday, October 27, 2016
trodd yn ddaioni

Fe wnaeth penderfyniad UNESCO erchyll amlygu pwy sydd yn ddrwg a phwy sydd yn dda. Cynhaliwyd rali yn Jerwsalem ddoe i ddangos undod yn erbyn y penderfyniad. Ymysg y siaradwyr roedd ddau Americanwr yn rhoi negesau byr ar y sgrin - Donald Trump a Mike Pence. Rhoddon nhw eu holl gefnogaeth i Israel. Roedd Trump yn dda ond gwell byth oedd Pence. Mynegodd yn glir yr hyn sydd yn fy meddyliau.
Wednesday, October 26, 2016
40 y cant

Monday, October 24, 2016
e-bost ffug
Ches i erioed fy nhwyllo gan e-byst ffug.... nes heddiw. Dwedodd e-bost gan "iTune" fy mod i wedi lawrlwytho bechingalw am gost o £28; os nad fi a wnaeth, rhaid canslo ar yr unwaith. A dyma glicio'r linc (!!) ond i You Tube a ges i fy nghludo. Pan geisiais i gael gwybodaeth ar y we, ffeindiais sawl person a gafodd yr un profiad yn derbyn yr un neges efo'r un geiriau! Yn ffodus na chafodd fy nghyfrifiadur effaith niweidiol. Rhaid i mi fod yn fwy gofalus o hyn ymlaen.
Saturday, October 22, 2016
peth bach annwyl
Friday, October 21, 2016
penblwydd hapus

Thursday, October 20, 2016
gŵyl yn japan

Wednesday, October 19, 2016
newid yr hanes
Penderfyniad UNESCO - mae o'n gwadu'r cysylltiadau rhwng yr Iddewon â Bryn y Deml a'r Wal Gorllewinol yn Jerwsalem. Hollol hurt. Yr hyn dw i'n dal ddim yn gwybod ydy beth fydd canlyniad y resolution hwnnw. Na allan nhw byth wahardd yr Iddewon rhag dod at y Wal. Rhag eu cywilydd unwaith eto.
Tuesday, October 18, 2016
lev haolam
Monday, October 17, 2016
reilffordd i'r nefoedd

Saturday, October 15, 2016
eidalwyr yng nghymru

Friday, October 14, 2016
y ras olaf
Thursday, October 13, 2016
bwrdd arbennig
Wednesday, October 12, 2016
mae'r tŷ yn llosgi i lawr
Postiodd fy ngŵr ei farn ar Facebook ynglŷn y sgandal diweddar o gwmpas Trump. Penderfynais ei gyfieithu ar gyfer fy mlog.
"Mae geiriau ffôl Mr. Trump a lefarwyd 11 mlynedd yn ôl yn ddibwys o'i gymharu â'r problemau enfawr mae America'n wynebu: erthyliad, dyled wladol, y Goruchaf Lys, y Cyfansoddiad, troseddau cynyddol, trais, casineb mewn dinasoedd America, terfysgaeth, polisi tramor wan. Mae gan Mr. Trump ddyfalbarhad, dewrder a nerth i wrthwynebu Mrs. Clinton ar y pynciau hyn. Ddylen ni ddim glanhau'n hystafelloedd ni pan fod y tŷ yn llosgi i lawr!"
Cytuno'n llwyr.
"Mae geiriau ffôl Mr. Trump a lefarwyd 11 mlynedd yn ôl yn ddibwys o'i gymharu â'r problemau enfawr mae America'n wynebu: erthyliad, dyled wladol, y Goruchaf Lys, y Cyfansoddiad, troseddau cynyddol, trais, casineb mewn dinasoedd America, terfysgaeth, polisi tramor wan. Mae gan Mr. Trump ddyfalbarhad, dewrder a nerth i wrthwynebu Mrs. Clinton ar y pynciau hyn. Ddylen ni ddim glanhau'n hystafelloedd ni pan fod y tŷ yn llosgi i lawr!"
Cytuno'n llwyr.
Tuesday, October 11, 2016
Monday, October 10, 2016
ŵyr
Saturday, October 8, 2016
ymweliad

Friday, October 7, 2016
hanes mewn munudau

Thursday, October 6, 2016
dewis
"Dw i'n caru'r Cyfansoddiad mwy na dw i'n casáu ei ffolineb a'i hunanbwysigrwydd. Bydd gynnon ni gyfle efo Trump, ond na fyddwn ni o gwbl efo Clinton. Dydy peidio â phleidleisio ddim yn ddewis, " medd ffrind oedrannus a oedd un o'r mil Cristion a welodd Trump i ofyn nifer o gwestiynnau yn Efrog Newydd ym mis Mehefin. Wedi'r cwbl arweinydd fyddwn ni'n dewis, nid gweinidog, ac mae yna ond dau ymgeisydd; rhaid dewis un gwell ar gyfer dyfodol America. Mae hi'n annog i'r holl Gristnogion i bleidleisio, a dewis Trump.
Wednesday, October 5, 2016
eog yn japan

Tuesday, October 4, 2016
peli quinoa
Monday, October 3, 2016
cinio rosh hashanah
Subscribe to:
Posts (Atom)