Wednesday, April 30, 2008

tymor alergedd gwanwyn


Mae o'n mynd o nerth i nerth. Mae 'na nifer fawr o dderw yn yr ardal ma gan gynnwys ein gardd ni. Ac mae eu blodau wedi bod yn taflu ymaith eu peilliau ym mhob man. Mae popeth yn wyrdd o'u herwydd. Er bod hi'n braf, fedrai ddim mynd am dro nes i'r tymor wedi darfod. Dw i'n dal i gerdded yn y ty.

llun: blodau derwen wedi'u syrthio ar ein "driveway" ni

Tuesday, April 29, 2008

dweud ei ddweud (dolen yma)

Mi ddes i ar draws peth defnyddiol i ddysgwyr ar Radio Cymru, sef Dweud ei Ddweud (uchod.) Barnau'r rhai ar amryw bynciau ydy hwn. Mi gewch chi ddarllen y sgriptiau yma ac maen nhw'n cael eu darlledu ar y Post Cynta. Mi fyddan nhw'n dechrau tua 20 munud wedi saith mwy na lai. Mi nes i recordio un a gwrando arno wrth edrych ar y sgript. Mae Huw Tegid Roberts yn swnio'n dda iawn.

Monday, April 28, 2008

cyfrinach y lludw

Wedi gorffen Ofnadwy Nos, mi ddechreues i ddarllen Cyfrinach y Lludw, nofel arall gan T. Llew Jones. Mae hi'n ddiddorol o'r dechrau. Falch o weld Sarjiant Tomos eto yn brysur datrys cyfrinach. Fo oedd yn chwarae'r rhan bwysig yn nofel gynta T. Llew, sef Trysor Plasywernen. Mae Tomos fel Lt. Columbo. Dydy o ddim yn drawiadol yn ei olwg o gwbl ond yn arbennig o graff. Tybed bod y cynhyrchydd Americanaidd wedi cael benthig y cymeriad?

Sunday, April 27, 2008

dydd myfyrwyr rhyngwadol


Mi gaethon ni Ddydd Myfyrwyr Rhygwladol yn ein eglwys ni heddiw. Roedd 'na ryw 30 ddaeth i'r gwasanaeth. Mi naeth y gwenidog, y Parch. Tschirhart roi pregeth arbennig.

Mi gaethon ni bot lwc wedyn. Mi ddaeth pawb â chymaint o fwyd achos bod ni cael ein rhybuddio i fod yn barod am lu o fyfyrwyr newynog. Mi nes i beli cig twrci mewn saws melys a sur.

Yna mi ganodd rhai ohonyn nhw sawl caneuon gan gynnwys "Amazing Grace" efo harmoni rhagorol. Dydyn nhw ddim yn ddefnyddio cyfeiliant ac mae un myfyriwr yn creu sain daro efo'i geg. Roedden nhw'n fendigedig

Saturday, April 26, 2008

nyth arall


Ond nyth adar ydy hon y tro ma. Mi gaeth adar du hyd i grac o dan y bondo ac maen nhw wrthi'n nythu yno. Dw i'n gweld y rhai'n hedfan tuag ati hi drwy'r ffenest weithiau. Ac maen nhw'n gwneud llanast mawr tu allan y drws blaen bob dydd! Beth bynnag, well i ni beidio â'i drwsio am sbel.

Friday, April 25, 2008

optimus prime

Mae hyn yn digwydd weithiau, hynny ydy bod rhai pobl yn swnio'n debyg i'w gilydd er bod nhw ddim yn berthnasau o gwbl.

Mae'r plant wrthi'n gwylio "Transformers" yn ddiweddar. Actor sy'n chwarae'r rhan Optimus Prime, bos y robotiaid da yn swnio mor debyg i'r un nes i glywed yn y comedi ar Radio Cymru. Dw i ddim yn cofio teitl y rhaglen. Roedd yr actor yn chwarae'r rhan y diafol oedd yn ofnus o'i fam.

Peter Cullen ydy'r llais Optimus, ac dw i ddim yn meddwl fod o'n siarad Cymraeg. Wel, dim ots.

Thursday, April 24, 2008

galwad skype

Syndod mawr. Dim ond 2.3 sent y munud i alw Japan ar ffôn Skype. Sgan fy mam ddim cyfrifiadur felly mi naethon ni agor cyfrif Skype. Mi siaradon ni â hi am hanner awr a chostiodd 80 sent! Roedd y sain yn ardderchog ac mi fedren ni i gyd siarad â hi drwy'r meicroffon. Ei phenblwydd hi mae hi heddiw. Mi naethon ni ganu "Happy Birthday" iddi hi ac roedd hi mor hapus.

Wednesday, April 23, 2008

cacwn

Am ryw resm neu gilydd mae cacwn wrth eu bodd nythu wrth ddrws blaen ein ty ni. Mi nes i sylwi cacynen wrthi'n adeiladu ei nyth yr wythnos ma. Gas gen i wneud hyn ond roedd rhaid i mi chwistrellu hi a'i nyth gynnau bach. Druan ohoni. Mi fydda i'n teimlo'n ofnadwy bob tro yn enwedig ar ôl darllen stori fer gan Corndolly am gacwn druan a'i thynged.

Monday, April 21, 2008

tom jones a hen wlad (dolen yma)

Canwr proffesiynol ydi o wedi'r cwbl. Ac achlysur mor arbennig oedd o hefyd. Mi fedrai fo wedi dysgu'n hawdd tasai fo wedi dysgu'n ddifrifol. Hyd yn oed dw i'n gwybod y geiriau i gyd.

Wrth gwrs bod neb ond y Cymry Cymraeg (a dysgwyr) wedi sylwi hyn. Roedd hi'n anhygoel ac yn fendigedig clywed Hen Wlad yn Las Vegas beth bynnag. Llongyfarchiadau mawr i Joe Calzaghe!

Sunday, April 20, 2008

soran (dolen yma)

Dyma berfformiad arall gan y myfyriwyr Japaneaidd yn y sioe (uchod.) Dydy ansawdd y fideo ddim cystal â Getap achos bod rhaid i'r gwr wneud hwn ar frys. Ond mi gewch chi gip ar y ddawns fywiog elwir Sôran. Cerddoriaeth draddodiadol pysgotwyr yn Hokkaido (Gogledd Japan) ydy hon.

Saturday, April 19, 2008

gair o gymru (dolen yma)

Mi ddechreues i dynysgrifio i Ninnau, papur bro Cymry Gogledd America misoedd yn ôl. Mae o yn Saesneg heblaw colofn, Gair o Gymru gan Cathrin o Borthaethwy. Mae hi'n sgwennu am ei phrofiadau difyr yn ogystal â'i barnau ar bethau cyfoes ac yn cyflwyno cerdd fer briodol bob tymor. Mi fydda i'n edrych ymlaen at ddallen ei cholofn bob mis. Mi gewch chi brofi rhifyn ar y we (uchod.)

Dw i wedi bod yn cysylltu â hi ers dechrau tynysgrifio. Dynes weithgar ydy hi. Fel mae'n digwydd mae hi a fy nghiwtor Cymraeg yn mynd i'r un capel ym Mangor. Byd bach dw i'n byw ynddo.

Friday, April 18, 2008

pot lwc eto


Mi naeth plant yr ysgol berfformio drama neithiwr. Mi naethon nhw'n dda iawn. A chaethon ni bot lwc arall cyn y ddrama. Roedd 'na gymaint o fwyd amrywiol. Roedd yn anodd dewis!

Thursday, April 17, 2008

blodau



Er gwaetha'r newid tymheredd eithafol yn Oklahoma, mae 'na flodau del ym mhob man. Dw i'n falch o weld blodau afal ein cymdogion yn enwedig achos byddan nhw'n dwyn afalau blasus yn yr hydref. Mi fyddai'n cymdogion ni'n gadael i bawb gasglu eu hafalau, ac mi fyddwn ni'n mwynhau'r ffrwyth ffres bob blwyddyn.

lluniau: blodau afal, ein "azalea" ni

Tuesday, April 15, 2008

fel y moroedd 海のように

Mae gan Asuka syniad ardderchog yn ychwanegu enw ei blog yn Japaneg. Efo'i chyniatâd, mi nes i'r un peth. Fedrech chi gyfeirio'ch holl ganmoliaeth ati hi, os gwelch yn dda?

Monday, April 14, 2008

dysgu cymraeg drwy Japaneg (dolen yma)

Gan fod Asuka newydd sgwennu enw ei blog yn Japaneg, mi nes i googlo'r gair a chael fy synnu. Mae 'na gymdeithas Cymru newydd yn Japan. Dw i'n gwybod am Gymdeithas Dewi Sant yn Japan ond mae hon yn cael ei sefydlu tair blynedd yn ôl.

Hefyd mi ddes i ar draws gwersi Cymraeg drwy gyfrwng y Japaneg ar y we. Dyma'r tro cynta i mi weld Cymraeg yn cael ei hesbonio yn Japaneg. Maen nhw'n swnio'n iawn ar wahan i "rydw i'n." Ond a dweud y gwir mae'n llawer haws dysgu Cymraeg drwy gyfrwng y Saesneg. Dw i'n meddwl bod hi'n anos dysgu unrhyw iaith arall drwy gyfrwng y Japaneg.

Sunday, April 13, 2008

diwrnod llawn

Rôn i braidd yn brysur ddydd Sadwrn.

Ar ôl mynd i siopa yn Wal-Mart a chael cinio wedyn, mi es i a'r gwr i ymweld â'r hen ddynes Japaneaidd. Roedd hi mor hapus fy ngweld i eto a chyfarfod fy ngwr. Mae hi'n wraig weddw oedd yn priod â pheilot Lluoedd Awyr Americanaidd. Roedd hithau'n gweithio iddo yn Japan ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Yna, mi gaethon ni dri myfyriwr Japaneaidd arall i swper. Mi nes i gyri cyw iâr eto. Mae pob myfyriwr Japaneaidd yn fodlon bwyta cyri bob tro. Ar ôl wylio fideos a chwarae "Play Station" ac ati, mi aeth fy ngwr â nhw adre.

Diwrnod llawn a bodlon.

Saturday, April 12, 2008

shwmae

Mae fy merch yn aelod o gylch sgwennu storiau ar y we. Mae'r rhan fwya o'r aelodau'n byw yn UDA ond mae 'na ddau yng Nghymru. Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn sgwennu tipyn bach o Gymraeg at un yn Aberdâr. Mi ofynodd hi beth oedd "Shwmae." Doedd gynni hi ddim syniad bod hyn yn golygu "S'mae" ddysgodd hi gan ei mam!

Friday, April 11, 2008

ofnadwy nos

Mi nes i benderfynu peidio gorffen rhai o'r llyfrau ges i'n anrheg Nadolig. Fi ddewisodd nhw ond maen nhw'n rhy ddiflas. Fedra i ddim diodde.

Wel mae gen i ddau lyfr gan T.Llew Jones hefyd and dw i'n gwybod yn barod bod nhw'n dda heb ddarllen. Mi ddechreues i un o'r ddau, sef Ofnadwy Nos. Hanes llong enwog, y Royal Charter ddrylliwyd ar greigiau sir Fôn ym 1859 ydy hwn. Dim ond dwy bennod darllenes i ond mae'n andros o ddifyr.

Mae'n anodd dewis llyfrau da. Mae rhai yn rhy anodd a'r lleill yn rhy ddiflas. Wrth gwrs bod 'na rai sy'n ddifyr er bod nhw'n anodd fel Wythnos yng Nghymru Fydd. Ac mae 'na rai sy'n ddiflas er bod nhw'n hawdd fel rhai o nofelau i ddysgwyr. Gobeithio ca i ddewis da y tro nesa.

Thursday, April 10, 2008

llyffant


Tra oedd y plant yn chwynnu Dant y Llew yn yr ardd p'nawn ma (mi nân nhw ennill sent yr un,) mi gaethon nhw hyd i llyffant am y tro cynta yn y gwanwyn ma. Mi neith y moch cwta fwyta Dant y Llew wedyn.

Wednesday, April 9, 2008

lightsabers


Mae fy mab hyna a'i ffrind wrthi'n ymarfer eu "lightsabers." Maen nhw'n actio ar ôl y symudiadau greon nhw ymlaen llaw. Mi nân nhw ffilmio eu hun pan fyddan nhw'n fodlon efo'u gwaith. Maen nhw'n cael llawer o hwyl ac mae'n hwyl gweld nhw hefyd.

Tuesday, April 8, 2008

tiwtoriaid cwrs cymraeg madog

Mi nes i glywed newyddion o'r diwedd am rai o'r tiwtoriaid bydd yn dysgu cwrs Cymraeg Madog yn Iowa. Mae'r ddau ohonyn nhw yn dwad o ogledd-orllewin Cymru yn wreiddiol! Maen nhw'n byw yn Toronto, Canada ers 2004. Y Parch Deiane Evans a'i wraig Annette yn Eglwys Gymraeg Dewi Sant ydyn nhw. Gobeithio'n wir ca i fy nysgu gan un ohonyn nhw.

Monday, April 7, 2008

big welsh challenge (dolen yma)

Un broblem i mi ddysgu Cymraeg i fy merch ydy mai fi, dysgwraig sy'n dysgu. Mae'r ramadeg yn ddigon syml ar ddechrau, ond dw i ddim isio iddi ddynwared fy ynganiad! Mae 'na wersi efo ffeiliau sain ar y we, ond maen nhw'n dysgu ffurfiau deheuol fel arfer.

Heddiw mi nes i gofio gwersi addas iddi, sef Big Welsh Challenge ar BBC (uchod.) Mi gewch chi ddewis o ffurfiau gogleddol neu ddeheuol. Ac maen nhw wedi ychwanegi mwy o unedau'n ddiweddar. Maen nhw'n arddechog i ddechreuwyr. Dach chi'n gwybod bod Huw Garmon yn actio hefyd?

Sunday, April 6, 2008

moch cwta


Mae'r gwanwyn wedi dwad. Roedd moch cwta'r plant yn y garej yn ystod y gaeaf, ond maen nhw'n cael mynd allan dyddiau hyn. Dw i'n cadw darnau o lysiau a ffrwythau di-angen iddyn nhw wrth goginio. "Composter" byw ydyn nhw!

(llun: Pwdin, un o'r pedwar mochyn cwta)

Saturday, April 5, 2008

sgyrsiau dros baned

gan Elwyn Hughes ydy fy hoff ddeunydd dysgu ar hyn o bryd ar wahan i Gwrs Pellach. Llyfr ffeithiol byr i ddysgwyr ar 28 o amrywiol bynciau diddorol ydy hwn. Mae 'na geirfa ddefnyddiol hefyd. Ac wrth gwrs fod o wedi sgwennu mewn ffurfiau gogleddol, neu fasa ei fam sy'n Ogleddwraig bybyr byth wedi bod yn hapus!

Dw i wedi prynu llawer o lyfrau Cymraeg dros flynyddoedd. Naill ai'n rhy anodd neu'n rhy ddiflas ydy llawer ohonyn nhw. Wrth gwrs bod 'na rhai dw i'n hapus iawn efo nhw hefyd fel hwn.

Beth dw i'n wneud ydy mod i'n darllen un uned sawl gwaith yn uchel. Wedyn sgwenna i beth dw i wedi ei ddarllen i lawr unwaith. Mi fasai'n well taswn i'n sgwennu sawl gwaith ond basa hynny'n cymryd gormod o amser. Mi ga i ddefnyddio unrhyw lyfr ond mae hwn yn taro deuddeg.

Friday, April 4, 2008

blodau


Mi gaethon ni flodau oddi wrth diwtor piano'n plant ni. Mae 'na hanner dwsin o gennin Pedr hefyd. Maen nhw'n edrych tipyn yn drust ond dw i'n hapus.

"Dw i isio gwers Gymraeg," meddai fy merch (yn Gymraeg!) Wrth gwrs!

Mi fydd hi'n oer heno tua 38F/3.3C ar ôl rhagolygon y tywydd.

Thursday, April 3, 2008

dynes o japan

Mi nes i gyfarfod hen ddynes o Japan heddiw. Mae 'na 150 o fyfyrwyr Japaneaidd yn y brifysgol ond dim ond un ddynes arall dw i'n ei nabod yn y dre ma.

Mae hi'n byw fan ma ers blwyddyn ac roedd hi isio help efo'i phasbort. Mi naeth hi glywed amdana i oddi wrth rywun sy'n fy nabod i. Mi es i i'w thyˆhi achos bod hi'n cael trafferth cerddded. Roedd hi mor hapus fy nghyfarfod i a siarad Japaneg am y tro cynta ers meitin. Mi gaethon ni a'i ffrind sy'n ei helpu sgwrs dymunol am sbel. Dw i'n bwriadu ymweld â hi o dro i dro.

Wednesday, April 2, 2008

pel-droed


Mi ddechreuodd tymor pêl-droed wythnosau'n ôl, ac mae fy mab hyna wedi bod yn chwarae tair gêm bob wythnos. Mae disgyblion ysgolion uwch yn chwarae mewn caeau pêl-droed cyffredin fel arfer, ond weithiau maen nhw'n cael chwarae yn stadiwm y brifysgol leol. Neis iawn.

Roedd 'na gêm arall neithiwr yn y stadiwm. Mi golloedd tîm fy mab o ddwy gôl i ddim yn anffodus ond dw i'n siwr bod pawb wedi mwynhau. Ac dw i'n siwr bod y mamau i gyd yn falch bod sanau eu meibion ddim wedi bod yn fwdlyd!

Tuesday, April 1, 2008

getap (dolen yma)

Mae Getap ar Youtube bellach (uchod.) Mae hwn yn llawer gwell na'r sgrin fach. Mwynheuwch.