Thursday, July 29, 2010

bargen

Am y tro cyntaf ers i mi ddechrau gwirfoddoli mewn siop elusen leol, es i ynghyd â fy nwy ferch i'r siop yn gwsmer. Diwrnod bargen ydy hi heddiw, hynny ydy cewch chi brynu cydaid o ddillad am $5. Ffeindiais i drowsus perffaith, steil arbennig na chewch chi ei ffeindio yn unman y dyddiau hyn; hen ffasiwn mewn geiriau eraill! Prynon ni wyth eitem rhyngddon ni yn y diwedd (llai na chydaid ond dim ots!) ac roedd pawb yn fodlon.

Wednesday, July 28, 2010

ar daith

Dw i newydd sylwi bod yna wefan newydd i blant ysgol Cymraeg sy'n wych i ddysgwyr hefyd; storiau'r bobl ymfudodd yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf ydyn nhw, ac maen nhw'n cael eu hadrodd gan blant. Gwrandawais ar dair stori bellach; dau gydag acen ogleddol a'r llall gydag un ddeheuol. Mae dyddiaduron mewn print yn cyd-fynd â'r ffeiliau sain hefyd.

Tuesday, July 27, 2010

cylchfan


Clywais i Dafydd a Caryl yn sôn am gylchfan yn Florida y bore 'ma; roedd nifer o ddamweiniau traffig o gwmpas y gylchfan newydd achos bod hi'n drysu'r bobl sy ddim yn gyfarwydd â hi.

A dweud y gwir, er mod i ddim yn gyrru ond eistedd ar sedd wrth fy ffrind, roedd cylchfannau'n rhoi braw i mi yng Nghymru. Maen nhw i fod i'ch achub rhag aros fel wrth oleuadau traffig, ond rhaid aros am eich troeau, yn hir braidd weithiau, on'd oes? Wrth gwrs mod i'n gallu gweld y manteision hefyd.

Tynnais i lun o un o'r cylchfannau yng Nghaernarfon i adrodd yr hanes wrth fy nheulu!

Saturday, July 24, 2010

marchnad ffermwyr




Mae'n braf ac yn boeth bore dydd Sadwrn; es i farchnad y ffermwyr am y tro cyntaf eleni. Roeddwn i dipyn yn hwyr ond roedd yna ddigon o lysiau, ffrwythau, bara, sebon a chig oen! Prynais i datws, tomatos, nionod, india-corn, cantalope a sebon llefrith gafr.

Un o bleserau mynd i farchnad ffermwyr ydy siarad â'r bobl. Des i ar draws dwy ffrind welais i mohonyn nhw ers tro'r bore 'ma. Roedd yn braf clywed telyn a ffidl ffermwr ar gefn ei pick-up hefyd.

Bydd rhaid i mi fynd eto.

Friday, July 23, 2010

celf ar gae reis

Mynydd Fuji, Mona Lisa, Napoleon ac eleni 'Benkei ac Ushiwaka' - dyma'r 18ed tro i ffermwyr Gogledd Japan i greu celf ar eu cae reis. (Cliciwch y llun i weld lluniau eraill.)

Roeddwn i'n meddwl mai gwaith cyfrifiaduron oedd y gelf, ond na, gwahanol fath o reis go iawn ydy hi. Bydd y ffermwyr yn plannu reis yn ôl thema'r flwyddyn yn y gwanwyn. Yna, fe gewch chi weld y ganlyniad yn yr haf.

Dechreuon nhw'r fenter 18 mlynedd yn ôl er mwyn hyrwyddo economi'r ardal. Mae'n amlwg bod nhw'n llwyddianus gan fod nifer mawr o bobl yn dod i weld y gelf. Dyma fideo.




Monday, July 19, 2010

skype


Teclyn hwylus ydy Skype fel mae llawer o bobl yn gwybod. Tan yn ddiweddar doedd y camera ddim yn gweithio'n iawn oherwydd arafwch y gwasanaeth. Ces i fy synnu felly pan droais i'r camera ymlaen un diwrnod pan oeddwn i ar Skype a gweld llun clir. Ymyrrodd o ddim ar ansawdd y sain chwaith. Mae'n ymddangos bod ATT wedi gwella eu gwasanaeth.

Cawson ni sgwrs gyda'r teulu yn Japan neithiwr. Roedd yn braf cael eu gweld nhw yn ogystal â siarad â nhw. Dyma lun dynnodd y gŵr o'n plant yn mwynhau sgwrs fideo.

Friday, July 16, 2010

deian a loli

Nofel gyntaf un Kate Roberts ydy hon. Sgrifennodd hi am hynt a helynt efeilliaid, Deian a Loli ers eu diwrnod geni i'r adeg pan safon nhw arholiad ysgoloriaeth i ysgol y sir. Mae hi'n ysgafnach na 'Te yn y Grug' oherwydd mai am blant ac ar gyfer plant ydy'r nofel. Mae'r iaith braidd yn anodd i blant, tybiwn i, ond hwyrach bod y plant ers talwm yn fwy deallus. Ar y llaw arall, cawson nhw gansen ar fympwy'r athrawon hefyd; druan ohonyn nhw! Mwynheais i'r llyfr beth bynnag.

Tuesday, July 13, 2010

tonnau tryweryn

Newydd orffen y llyfr hwn. Page-turner ydy o'n bendant fel dwedodd Neil; roedd yn gyffroes dilyn hanes y prif gymeriadau. Sioc fawr oedd beth ddigwyddod i un ohonyn nhw. (Rhaid i mi beidio datgelu gormod er mwyn y darpar-ddarllenwyr.) Doedd y dafodiaith ddim yn rhy anodd heblaw am rai deheuol fel 'wedd' am 'roedd.' Dechreuais i ddefnyddio'r geiriaduron hanner ffordd a chael fy syfrdanu gan y pentwr o eiriau newydd neu anghyfarwydd gasglais i.

Ar y cyfan fodd bynnag, rhaid cyfaddef mod i'n methu gafael yn sylwedd y llyfr. Dim ar y llyfr mae'r bai, mae'n amlwg. Pwy ydy'r dyn ifanc yn y prolog?

Sunday, July 11, 2010

dinas


Mae'r gŵr yn Japan ers tair wythnos ar wyliau a busnes. Roedd o'n aros mewn gwesty yn Shinjuku,Tokyo'n ddiweddar, a gyrrodd lun o'r nendyrau yno. Roeddwn i'n gweithio i gwmni o Denmarc amser maith yn ôl. Roedd ei swyddfa ar y 30ain llawr yn un ohonyn nhw. Roedd hi'n adeg cyn cyfrifiaduron; teipio llythyrau ar deipiadur electrig oeddwn i, coeliwch neu beidio. Mae'r ddinas yn edrych yn wahanol wedi nifer o nendyrau ychwanegol cael eu codi erbyn hyn.

Saturday, July 10, 2010

wolf

Wolf oedd llysenw Chiyonofuji, chwaraewr Swmo enwog. Dw i ddim yn ymddiddori yn Swmo ond roeddwn i'n gwylio'r teledu'n eiddgar pan oedd Wolf yn chwarae flynyddoedd yn ôl. Un cymharol fach ym maes Swmo ond cyhyrol; roedd ei chwarae'n werth ei weld. Efallai bod yna rywbeth yn apelio at bawb pan mae dyn bach yn curo rhai llawer mwy na fo.

Mae byd Swmo mewn argyfwng ar hyn o bryd oherwydd y gamblo ymysg y chwaraewyr. Darllen yr erthyglau yn eu cylch wnaeth fy atgoffa i o'r un mor arbennig yn hanes Swmo.

Thursday, July 8, 2010

skyhawk





Cafodd fy merched gyfle arbennig o hedfan mewn awyren fach. Ffrind iddyn nhw oedd y peilot hyd yn oed.

Aethon ni i'r maes awyr bach lleol yn y bore. Yna, mae Tom T. sy'n hyfforddi hedfan yn cadw ei awyren, Skyhawk. Wedi rhoi gwers sydyn i'r tair merch, eisteddodd o wrth y peilot i roi cymorth iddi. I ffwrdd â nhw i'r awyr las. Hedfanodd yr awyren am ryw hanner awr cyn glanio'n ddiogel. Roedd y merched yn gyffro i gyd wedi dod allan.

Dwedodd Tom fod o wedi clywed un gair drosodd a throsodd gynnyn nhw wrth iddyn nhw edrych i lawr o'r awyren - "cute!"

Wednesday, July 7, 2010

cymru 2010 - diweddglo


Cychwynnais i ar fy siwrnai gyda 'insoles' newydd yn fy esgidiau- pob-tywydd!

Tuesday, July 6, 2010

cymru 2010 - y diwrnod olaf




"Dydy amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir," meddai Nanw Siôn yn 'Te yn y Grug.'

Daeth fy niwrnod olaf yng Nghymru'n rhy fuan. Doeddwn i ddim eisiau mynd yn bell ond aros yng Nghaernarfon nes dal y bws i Fangor. Wedi gweld mynyddoedd yn ddiweddar, penderfynais i gerdded ar hyd y Menai. Dyma'r bont fach wrth y castell yn agor yn sydyn yn y canol pan gyrhaeddais i yno! Aeth cwch twristiaid heibio i'w fordaith. Ar ôl cerdded am ryw ddwy awr, ces i ginio Cymreig/Cymraeg o gawl a sgon gyda phot o de, am y tro olaf. Roedd o'n braf.

-----------

Ces i dreulio tair wythnos mewn bröydd Cymraeg prydferth a gwneud popeth yn Gymraeg (ar wahân i ambell sgwrs Saesneg gyda phobl ddi-Gymraeg.) Roedd y profiadau'n help enfawr i fy Nghymraeg llafar wrth gwrs. Ond mwy na hynny, dw i'n ddiolchgar dros ben fy mod i wedi cyfarfod cynifer o bobl glên a dod yn nabod rhai ohonyn nhw'n dda. A beth nesa? Dw i ddim yn hollol siŵr. Un dydd ar y tro amdani.

Monday, July 5, 2010

cymru 2010 - taith annisgwyl

Unwaith roeddwn i'n gwybod yn glir beth i'w wneud, roeddwn i'n esmwyth. Mwynheais i daith drwy Ddyffryn Clwyd am y tro cyntaf yn annisgwyl: Rhuthun, Dinbych, Llanelwy a Rhyl yn cael cipion ar
adeilad Popeth yn Gymraeg, yr eglwys gadeiriol a Chastell Rhuddlan.

Ces i gyfle i fynd drwy'r twnnel i gyrraedd Bangor unwaith yn rhagor hefyd. Pan es i'r safle bws, fodd bynnag, roedd y bws olaf i Lanberis a hyd yn oed i Gaernarfon wedi hen fynd. Doedd gen i ddim dewis ond dal tacsi. Fel mae'n digwydd, un clên a diddorol oedd y gyrrwr oedd yn dod o Bortwgal. Cawson ni sgwrs ddifyr nes i ni gyrraedd Llanberis.

Er bod popeth ddim yn mynd fel y disgwyl, ces i ddiwrnod hyfryd wedi'r cwbl yn cyfarfod llawer o bobl glên a gweld golygfeydd newydd ar yr un pryd. (Ond anghofiais i dynnu lluniau o'r bws!)


Sunday, July 4, 2010

cymru 2010 - lle mae'r bws?!



Wedi cael sgwrs ddymunol gyda Catherine, es i'r safle bws. Dechreuodd dynes ar y safle siarad â fi; roedd hi yng Nghaffi Catherine hefyd a chlywodd hi ein sgwrs. Roedd yn braf sgwrsio gyda hi nes i'w bws ddod.

Arhosais i am fy mws: ddaeth hanner dwsin o fysiau eraill ond fy un i. Dim ond un bws yr wythnos sy'n mynd i Fetws. Beth fyddwn i'n ei wneud os na ddôi o gwbl? Es i'n ôl i'r llyfrgell am help. Roedd y llyfrgellydd yn glên a chymwynasgar dros ben; ffoniodd hi'r cwmni bws drosta i; rhoiodd hi'r ffôn i mi wedyn i mi gael trafod y broblem gyda'r cwmni'n uniongyrchol.

Gwnaethon nhw gamgymeriad ar yr amserlen; ar ddydd Gwener mae'r bws yn rhedeg, dim ar ddydd Mawrth! Awgrymodd y ddynes ar ffôn gynllun arall; mynd i Ryl ar y bws, dal y trên i Fangor a mynd ar y bws i Lanberis, hynny i gyd yn Gymraeg, chwarae teg iddi.


Saturday, July 3, 2010

cymru 2010 - Corwen




Y peth cyntaf roeddwn i am ei wneud wedi cyrraedd Corwen oedd ffeindio'r syfle bws i Fetws-y-Coed. Es i mewn i gaffi cyfagos i archebu cinio a holi am y bws. Roedd y ddynes tu ôl y cownter yn glên iawn. Roedd y safle yn ddigon amlwg ond awgrymodd hi i mi fynd i'r llyfrgell i holi am y manylion cyn iddo gau am ginio. Allan â fi'n gadael fy mrechdan gyda'r ddynes gymwynasgar, a ches i gopi o'r amserlen. Oedd, byddai'r bws wythnosol i Fetws yn gadael Corwen am 2:15 yn bendant. Dim ond ar ddydd Mawrth mae o'n rhedeg; ddydd Mawrth oedd hi. Roedd gen i ddigon o amser hefyd.

Es i'n ôl i'r caffi'n teimlo'n esmwyth ac ailddechrau fy nghinio. A dyma sylwi bod nhw'n gwerthu Beiblau Cymraeg a hunangofiant Trebor Edwards ynghyd â'i gryno disgiau; roedd dynes y caffi'n edrych yn gyfarwydd.... Tybed mai Catherine, merch hynaf Trebor ydy hi? Dw i wedi darllen y llyfr a gweld lluniau ei deulu; mae un o'i blant yn rhedeg caffi yng Nghorwen hefyd. A dyma holi a chael ateb yn gadarnhaol! Des i'w chaffi heb wybod!

Friday, July 2, 2010

cymru 2010 - rhydydefaid




Wedi crwydro, es i Frongoch mewn tacsi. Roedd yn dda gweld Olwen a'i gŵr unwaith eto. Roeddwn i'n fwy na hapus i'w helpu gyda'r llestri tra oedden ni'n sgwrsio. Er mai gwely a brecwast ydy Rhydydefaid, roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i'n aros gyda ffrindiau.

Ffermdŷ braf ydy Rhydydefaid. Mae rhan o'r adeilad gan gynnwys yr ystafell fyw i'r gwesteion yn bedwar cant oed. Fi oedd yr unig westai'r noson honno. Rhaid cyfaddef bod gen i ofn cysgu ar fy mhen fy hun gan fod y teulu ar ochr arall o'r adeilad mawr.

Trannoeth, cerddais i o gwmpas y lle cyn cychwyn. Drueni fy mod i heb ddarllen 'Tonnau Tryweryn' cyn mynd i Frongoch, neu byddwn i fod wedi tynnu lluniau'n awchus o olion yr hen reilffordd rhwng y Bala a'r Ffestiniog welais yno.

Ces i lifft gan Olwen i'r Bala a mynd ar y bws i Gorwen i mi ddal y bws wythnosol i Fetws-y-Coed; byddwn i'n mynd yn ôl i Lanberis wedyn. Roedd dyna'r cynllun.

y trydydd llun: Afon Tryweryn


Thursday, July 1, 2010

cymru 2010 - cae eisteddfod y bala, 2009


Rhyw bwl o hiraeth ddaeth i'm bron
Wrth weld y gwacter wedi'r miri llon;
Dwndwr maes a thyrfa balch ei gwedd
Mor llonydd nawr; a distaw fel y bedd.
(Diolch i Idris am y gerdd hon.)