Monday, December 31, 2018

ar y diwedd 2018

Diolchgar dros ben ydw i am y fendith enfawr a dywalltodd fy Nuw arna i eleni eto. Mae'r rhestr yn hir iawn, ond dyma ddewis pum pheth, o'r gwaelod i'r brig.

5: Ces i gyfle i astudio daearyddiaeth y Beibl ar lein.
4: Dw i'n mwynhau'r cyfnod newydd wedi i'r gŵr ymddeol.
3: Mae fy iechyd yn ddigon sefydlog.
2: Mae fy chwe phlentyn i gyd yn rhodio yn y gwirionedd.
1: Maddeuodd Duw fy mhechodau drwy Iesu Grist, ac mae o'n paratoi lle i mi yn ei deyrnas dragwyddol.

Saturday, December 29, 2018

gyda'r holl deulu

Wedi cael gwyliau hyfryd gyda'r holl deulu (deg oedolyn, dau fabi,) dw i a'r gŵr newydd ddod adref. Gan y teulu wedi tyfu'n rhy fawr aros yma bellach, roedden ni'n rhentu Airbnb yn Norman am ddwy noson. Roedd y tro cyntaf i ni weld ein gilydd i gyd ers mwy na thair blynedd. Wnaethon ni ddim byd arbennig, ond treulio amser gyda'n gilydd, difyrru'r babis bach fy mab hynaf, a chael takeout (pizza lleol, bwyd Thai) yn hamddenol. Mae'r pedwar yn dal gyda'u chwaer hŷn yn Norman.

Wednesday, December 26, 2018

anrhegion

Penderfynodd y teulu beidio â rhoi anrhegion Nadolig eleni. Yn eu lle, dyn ni'n mynd i roi cymorth at ein gilydd pan fyddwn ni'n ymgasglu'r wythnos 'ma. Mae'n braf peidio â meddwl amdanyn nhw ond yr anrhegion gan Dduw. Dydy'r trefniant ddim yn cynnwys brawd y gŵr a'i deulu. Cafodd fy chwaer yng-ngyfraith, sydd yn dod o'r Philippins, anrhegion gwych, sef Smith & Wesson, a phortread o'r Arlywydd Trump (ac mae o'n gwenu) gyda ei lofnod.

Tuesday, December 25, 2018

mab a roed i ni

Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr;
y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau.
Canys bachgen a aned i ni,
mab a roed i ni....

Nadolig Llawen

Monday, December 24, 2018

sut cawson nhw wybod?

Y sêr-ddewiniaid - sut cawson nhw wybod bod brenin yr Iddewon wedi cael ei eni, a lle cafodd ei eni, a phopeth drwy'r sêr? Pwy oedden nhw? O le daethon nhw?  Gan bwy ddysgon nhw hyn i gyd? Ateb: Daniel yn Babilon, wrth gwrs!

Saturday, December 22, 2018

goleuni yn y nos

Chwech o'r gloch y bore 'ma. Camais allan ar y dec cefn. Roedd yn dal yn nos, ond roeddwn i'n medru gweld yr ardd yn dda fel pe bai goleuni ymlaen. Hi oedd y rheswm - Lleuad Oer, sef y lleuad lawn ym mis Rhagfyr, yn yr awyr gorllewinol. Safais am funud i edmygu creadigaeth Duw.

Friday, December 21, 2018

het i fy mam

Mae'r het a wnes ar gyfer fy mam yn Tokyo newydd gyrraedd. Gobeithio y bydd hi'n cadw fy mam yn gynnes yn y gaeaf hwn sydd yn arbennig o oer. Dw i'n dal i fwynhau crosio hetiau. Fe wnes i ddwy i fy merched, a dw i wrthi un arall rŵan.

Thursday, December 20, 2018

torri'r gwrychoedd allan

Diwreiddiwyd y gwrychoedd o gwmpas y dec cefn yr wythnos 'ma. Y gŵr a'u plannodd flynyddoedd yn ôl, ond roedden nhw'n tyfu'n rhy drwchus nes magu mosgitos ynddyn nhw. (Doedden ni ddim yn gwybod hyn tan yn ddiweddar.) Daeth Kurt â dyn arall gyda pheiriant mawr, torri'r gwrychoedd allan, a mynd â nhw i gwsmer arall sydd eu heisiau. Dim ond $250 a ofynnodd am yr holl waith; casglodd bedwar cwsmer a oedd angen y peiriant arnyn nhw fel bydden ni'n cael rhannu cost y peiriant am ddiwrnod.

Wednesday, December 19, 2018

dau set y geni

Dw i newydd osod dau set y Geni, un wrth y fynedfa, y llall ar y silff ben tân eleni eto. Prynais y set porslen yn Japan, a chael yr un wedi'i wau yn anrheg gan Judy o Loegr lletyais gyda hi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009. Dw i wedi colli cysylltiad gyda hi'n anffodus. Gobeithio ei bod hi'n iawn.

Tuesday, December 18, 2018

dan y wal

Aeth criw o artistiaid gan gynnwys fy merch i Ogledd Israel i greu murluniau ar y wal ffin saith mis yn ôl. Maen nhw newydd glywed mai dan y wal honno roedd Hezbollah wrthi'n palu twneli ers peth amser! Pe baen nhw wedi mynd at y wal gyda'r nos, efallai bod nhw wedi clywed y sŵn. Da iawn IDF am ddarganfod y twneli a'u gwrthweithio. Mae'r trigolion yn ddiogel am y tro, ond rhaid aros yn wyliadwrus.

Monday, December 17, 2018

cerdyn nadolig

Cawson ni gerdyn Nadolig gan y Tŷ Gwyn a llofnodwyd gan yr Arlywydd a Mrs. Trump, a'u mab Barron! Talwyd yr holl gost gan bwyllgor cenedlaethol y Gweriniaethwyr, nid gan y trethdalwyr, er gwybodaeth. (Anfonon ni roddion i'r pwyllgor yn ystod yr etholiadau diwethaf hefyd.)

Saturday, December 15, 2018

arbenigwr coffi

Mae fy ŵyr yn hoff iawn o "helpu" ei dad i baratoi coffi. Pan glywith sŵn y malwr coffi, bydd o'n rhedeg at y gegin wrth weiddi'n llawen. A dyma fo'n canolbwyntio ar y gwaith yn ddwys. Os bydd o'n tyfu'n arbenigwr coffi yn y dyfodol, dylai fo adrodd sut cychwynodd ei gyrfa pan oedd o'n ddwy flwydd oed!

Friday, December 14, 2018

cerdd

Lluniodd fy merch gerdd er cof am y babi. Cyfieithais yn Gymraeg.

Mawr yw tallit fel arfer
ar ysgwyddau dyn sanctaidd
neu ganopi uwch ben y plant bach 
sydd yn tyfu fel Esther neu Manasseh.

Ond eith y tallit bychan â thithau 
o dan ddillad a rwygwyd
o dan ddagrau
at fynwes yr Un a oedd hefyd yn fabi diymadferth o'r blaen.

Ac felly, tallit bychan, hwyl fawr am y tro.

Na ddaw ef aton ni.
Ond pan ddatgloir llaw'r Tywysog Giât Aur,

fe awn ni at ef.

Thursday, December 13, 2018

bwndl bach

Cynhaliwyd angladd ar gyfer y babi bach ar Fynydd yr Olewydd neithiwr. Wrth gael ei lapio mewn tallit yn freichiau ei daid, roedd yn edrych yn fach fach. Daliodd IDF rai o'r troseddwyr erchyll. Gobeithio y byddan nhw'n dal y gweddill, a dod â nhw i gyd i gyfiawnder.

Wednesday, December 12, 2018

dweud kaddish galarwr

Un o'r saith a gafodd ei saethu yn Israel ddydd Sul gan y Palestiniaid ysgeler oedd Shira. Beichiog oedd hi. Cafodd hi ei hanafu'n ddifrifol. Roedd rhaid cymryd y babi o'r groth i achub y fam. 30 wythnos oed oedd y babi. Er bod Shira wedi dod drwodd, fu farw'r babi. A llawenhau mae Hamas.

Monday, December 10, 2018

tan y tro nesaf

Daeth Hanukkah ddirwyn i ben neithiwr. Tan y flwyddyn nesaf i  Ŵyl y Goleuni. Er bod yr ŵyl wedi drosodd, mae'r wir oleuni'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch. 

Saturday, December 8, 2018

olynydd nikki

Heather Nauert ydy olynydd Nikki Haley. Llefarydd y Tŷ Gwyn a chyn cyflwynydd Newyddion Fox mae hi. Aeth i Ogledd Corea gyda Mike Pompeo i ryddhau'r gwystlon Americanaidd. Mae hi'n siarad yn glir a heb gynhyrfu, ac yn ymddangos yn hynod o graff. Gobeithio bydd hi'n brwydro mor ddewr â Nikki yn y Cenhedloedd Unedig dros gyfiawnder. 

Friday, December 7, 2018

arddangosfa fach

Roedd arddangosfa fach ffasiynol mewn siop posh yn Oklahoma City ddoe. Merch o Cameroon a ffrind i fy merch a oedd yn arddangos bagiau o bren a wnaeth. Paentiodd fy merch un ohonyn nhw. Roedd yr arddangosfa'n llwyddiannus ysgubol.

Thursday, December 6, 2018

shamash

Cannwyll gynorthwyol ydy shamash. Hi sydd yn cynnau'r canhwyllau bob noson Hanukkah. Ac eto, dydy hi ddim yn cael ei chyfri ymysg yr wyth; dim ond rhoi golau iddyn nhw. Iesu ydy shamash, y wir oleuni a ddaeth fel gwas i weini.

"Ni ddaeth Mab y Dyn i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu."
"Myfi yw goleuni'r byd," meddai Iesu. "Ni fydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd."

Wednesday, December 5, 2018

llythyr teulu

Mae'r amser wedi dod, sef amser creu llythyr teulu blynyddol at y perthnasau a ffrindiau. Fel arfer mae'r gŵr yn sgrifennu yn Saesneg gyntaf, yna bydda i'n sgrifennu yn Japaneg, nid cyfieithu'n llythrennol, ond ceisio cyfleu'r ystyr. Dan ni'n ceisio sgrifennu mor fyr â phosib oherwydd fydd neb eisiau darllen llythyr teulu hir. Dyma fo o'r diwedd. Mae'n edrych yn wych gyda digon o luniau, mae'n rhaid dweud!

Tuesday, December 4, 2018

bwyd olewog

Dyma ginio sydyn a baratois ar gyfer Hanukkah - latkes (crempog tatws) a thoesenni (Hawaiinaidd a gawson ni gan frawd y gŵr.) Bwyd olewog i gofio gwyrth Hanukkah.

Monday, December 3, 2018

goleuni buddugol

Fe gynnwyd yr hanukiah (canhwyllbren ar gyfer Hanukkah) fwyaf yn Ewrop o flaen Giât Brandenburg yn Berlin, 80 mlynedd ar ôl Kristallnacht (noson wydr wedi'i dorri.) Methodd Nazis yn llwyr. Enillodd y Goleuni sydd yn amddiffyn ei bobl. Mae O'n dal i ennill.

Sunday, December 2, 2018

noson gyntaf hanukkah

"Myfi yw goleuni'r byd," meddai (Iesu.)
"Ni fydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd."

Gŵyl Hanukkah Hapus! 

Saturday, December 1, 2018

rhybudd tornado

Daeth sŵn uchel oddi ar y ffôn neithiwr; rhybudd tornado oedd. Ces i a'r gŵr neges (gan bwy, dw i ddim yn gwybod!) sydyn sydd yn annog i ni fynd i'r lloches. Roedd dyma ni'n casglu rhyw bethau hanfodol er mwyn mynd at yr islawr am y munud olaf. Wedyn, er bod y glaw a'r gwynt yn ofnadwy, roeddwn i mor gysglyd fel penderfynais i fynd i'r gwely wedi gwneud yn sicr bod gen i bopeth angenrheidiol gerllaw. Arhosodd y gŵr ar ei draed yn hirach i weld y sefyllfa. Yn ffodus, na ddaeth y tornado'r ffordd yma. Dwedodd y gŵr y bore 'ma fod yna daran ofnadwy o agos, ond ni chlywais mohoni!