Tuesday, May 31, 2022

fy mam

Ymwelodd fy merch hynaf gyda'u chwiorydd â'u nain yn ei chartref henoed. Rhoddon nhw albwm llun o'r teulu fel anrheg ben-blwydd iddi. Albwm llun hynod o arbennig i ddathlu ei phen-blwydd arbennig (tipyn yn hwyr) ydy o. Roedd hi wrth ei bodd wrth gwrs. Ces i fy synnu ei bod hi'n edrych yn ifancach hyd yn oed. Anodd credu mai 100 oed ydy hi.

Monday, May 30, 2022

diwrnod cofio


Y bobl sydd wedi hen fwynhau'r fath o freintiau ydyn ni'n eu mwynhau yn tueddu i anghofio bod dynion wedi marw er mwyn eu hennill. - Arlywydd Franklin D. Roosevelt

Saturday, May 28, 2022

theatr kabuki

Un o'r pethau pwysig i'w gwneud yn Japan a oedd ar restr fy merch hynaf oedd mynd i Theatr Kabuki yn Ginza a gweld perfformiad Ebizo. Ac felly a fu. (Mae hi wedi gwella'n ddigon o'i salwch.) Cafodd ei chyfareddu'n llwyr. Wedi'r perfformiad, roedd hi'n medru cyfarfod ei ffrindiau sydd yn gwirioni ar Kabuki hefyd.

Friday, May 27, 2022

gwella bob dydd



Wedi diwrnodau anarferol o wlyb ac oeraidd ym mis Mai, mae'r haul yn disgleirio’n braf yn adlewyrchu ei heulwen ar dail gwyrdd llachar heddiw. Dw i'n dal i fod yn gaeth yn y tŷ oherwydd yr anafiad ar fys y droed. Y peth da ydy mai'r
 tymor paill ydy hi rŵan. Roeddwn i'n arfer peidio mynd am dro yn yr adeg hon bob blwyddyn er mwyn osgoi'r alergedd tymhorol beth bynnag. Dw i'n ddiolchgar fy mod i'n gwella bob dydd, er yn araf iawn. Edrych ymlaen at gerdded yn y gymdogaeth cyn hir.

Wednesday, May 25, 2022

sento

Cafodd fy merch hynaf gyfle i ymlacio mewn sento (bath cyhoeddus) ger fflat ei chwiorydd. Mae nifer y baddonau felly wedi lleihau'n sylweddol, ond cadwir ychydig gan bobl frwdfrydig fel diwylliant pwysig. Maen nhw'n wych, er nad ydyn nhw cystal ag onsen (ffynnon boeth.)

Tuesday, May 24, 2022

achos annisgwyl

Wedi gorffen hunan-ynysu am dri diwrnod, roedd fy merch hynaf yn barod i gychwyn ar ei hantur yn Japan, ond cafodd hi siomi'n ofnadwy pan ddechreuodd hi'n teimlo'n sâl, ac roedd hi'n gorfod gorffwys. Fliw? Cofid? Yna, ffeindiodd hi achos y salwch - dŵr llygredig yn y fflat. Roedd y ffilter dŵr yn llawn o algâu! Gobeithio y bydd hi'n gwella'n fuan, a mwynhau ei gwyliau.

Monday, May 23, 2022

40 mlynedd

Priodais â'r gŵr yn Japan tra oedd o'n gweithio fel optometrydd Byddin America, 40 mlynedd yn ôl. Mae gynnon ni chwech o blant a dau ŵyr erbyn hyn. Diolchgar dw i am fendith a gras fy Nuw am bopeth. Yn y llun yma, roedden ni'n torri'r gacen gyda chleddyf a fenthyciwyd gan ffrind y Llynges.

Saturday, May 21, 2022

parti mewn car


Roedd yr hogiau dros y stryd yn cael parti yn ei gar wedi'i barcio am oriau yng nghanol y nos. Wrth adael golau'r car ymlaen, roedden nhw'n chwarae cerddoriaeth yr holl amser. Er bod ffenestri'r gar ar gau, roedd sŵn y drymiau wedi cyrraedd fy ystafell wely drwy'r wal. Fedrwn i ddim cysgu nes iddyn nhw stopio ben bore. Addawodd y gŵr y byddai fo'n siarad â nhw os bydden nhw'n cynnal parti eto.

Friday, May 20, 2022

montessori

Mae fy ail ferch newydd ddechrau dysgu (fel myfyrwraig) addysg Montessori, er mwyn dysgu (fel athrawes) plant. Mae hi'n dal i weithio fel athrawes yn yr un ysgol feithrin gyda chyfrifoldeb llai nag o'r blaen tra ei bod hi'n mynd i ganolfan hyfforddi ddwywaith yr wythnos. Er bod hi'n hynod o brysur, mae hi wrth ei bodd oherwydd mai dyna beth mae hi eisiau ei wneud dros flynyddoedd.

Wednesday, May 18, 2022

sŵn lliw i gysgu


Dw i'n yn cael trafferth syrthio i gysgu, ac yn codi'n aml yn ystod y nos. Darllenais bob math o erthyglau ar sut i ddatrys y broblem, a dw i'n dilyn pob cyngor, ond dw i'n dal i fethu. Yr unig fodd sydd yn ymddangos i fy helpu ydy gadael sŵn lliw ymlaen drwy'r nos. Gwyn, coch, glas, du, pinc - mae'n synnu bod yna gynifer o liwiau. Coch meddal ydy fy ffefryn. Dydy o ddim yn gweithio bob tro, ond mae o'n help yn bendant.

Tuesday, May 17, 2022

cyrraedd

Cyrhaeddodd fy merch Tokyo yn ddiogel. Aeth at fflat ei chwiorydd mewn bws yn syth. Yna, bydd hi'n hunanynysu am dri diwrnod. Bydd hi'n cael gorffwys a mynd i gyfarwydd ag amser Japan. Mae hi'n bwriadu gweithio ar gyfrifiadur hefyd. Bydd ganddi ddigon i'w wneud cyn cael mentro allan.

Monday, May 16, 2022

siwrnai i Japan


Mae fy merch hynaf newydd gychwyn siwrnai i Japan. Fe adawodd Oklahoma City fore cynnar; wedi dal hediad rhyngwladol o Faes Awyr Atlanta, mae hi ar ei ffordd i Tokyo dros Fôr Tawel ar hyn o bryd. Yn anffodus, dim ond pythefnos bydd hi'n cael aros yn Japan y tro 'ma, yn ymweld â'i theulu a ffrindiau. Mae ganddi gynllun cyffroes, fodd bynnag, sef mynd i theatr Kabuki a gweld perfformiad Ebizo! 

Saturday, May 14, 2022

beicio heb feic

Mae bys y droed chwith yn dal i frifo ers tair wythnos. Mae'n amlwg bod yna grac yn yr asgwrn. Does dim byd i'w wneud ond aros nes iddo wella. Yn y cyfamser, fedra i ddim mynd am dro i gadw'n heini; dw i ddim yn hoffi beic llonydd. Penderfynais "beicio" heb feic, hynny ydy pedlo ar fy nghefn. Hynod o galed ydy hyn! Dim ond ar ôl pedlo dengwaith, bydda i'n gorfod cael hoe. Dw i'n pedlo 50 o weithiau gyda hoe rhwng pob deg. Gobeithio dal ati.

Friday, May 13, 2022

golygfa hardd

Ces i fy nghyfarch gan olygfa hynod o hardd pan agorais len y gegin y bore 'ma. Mae'n fel pe bai'r gellyg yn yr iard gefn wedi penderfynu blodeuo ar yr un pryd dros nos. Maen nhw ym mhobman yn y dref rŵan.

Wednesday, May 11, 2022

nyth cacynen


Dw i newydd ddarganfod bod cacynen wrthi'n adeiladu nyth ger y drws blaen. Mae'n gornel boblogaidd iddyn nhw. Yn hytrach na chwistrellu popeth, dewisais yrru'r gacynen i ffwrdd, cael gwared ar y nyth, a chwistrellu lle oedd y nyth (fel na fydd hi'n dychwelyd.) Gobeithio y bydd hi'n penderfynu adeiladu nyth newydd mewn coedydd.

Tuesday, May 10, 2022

arwydd yn miami

Ar ôl digwyddiadau'r amgueddfa, treuliodd fy merch a'i gŵr y penwythnos yn Miami. Er bod y tywydd yn llaith ofnadwy, roedden nhw'n cael mwynhau ymlacio a mynd o gwmpas y ddinas boblogaidd. Daethon nhw ar draws arwydd diddorol. Rhaid bod crocodeiliaid mor gyffredin â throgod yn Oklahoma!

Monday, May 9, 2022

anrheg sul y mamau

Ces i 30 doler yn anrheg Sul y Mamau gan un o'r plant. (Dwedodd wrth bawb nad ydw i eisiau anrhegion, ond mae hi'n mynnu bob blwyddyn.) Es i siop leol, fodd bynnag, yn ddiolchgar am y pres. Prynais: coffi sicori, te Darjeeling, tyrmerig, sinamon Ceylon ac olew hanfodol mintys pupur. Costiodd popeth 29 doler heb gynnwys y dreth.

Saturday, May 7, 2022

arddangosfa gelf yn florida

Mae'r arddangosfa gelf Asiaidd newydd agor yn Amgueddfa Morikami yn Florida. Roedd parti i ddathlu, a thrafodaeth y panel lle gofynnwyd cwestiynau i'r artistiaid. Aeth popeth yn dda a thynnu nifer o bobl at y digwyddiadau. Roedd fy merch, un o'r pum artist, wrth ei bodd yn cael gwisgo kimono hynod o hardd.

Wednesday, May 4, 2022

camwybodaeth beryglus


Y pennawd: mae saer lleol yn parhau i ledaenu camwybodaeth a ystyriwyd yn niweidiol gan arbenigwyr crefyddol diwinyddiaeth.

"Roedd y Phariseaid, y Sadwceaid a’r Ysgrifenyddion, yn rhanedig fel arfer, yn dangos undod wrth wirio ffeithiau dysgeidiaeth Iesu."

"Mae'r arbenigwyr crefyddol, ynghyd â'r llywodraeth, yn cynllwynio i atal y gamwybodaeth beryglus rhag ymledu i Jwdea, Samaria, neu hyd eithaf y ddaear."

Da iawn chi eto, y Wenynen!

Tuesday, May 3, 2022

gellysgen gyntaf

Mae'n gellysgen gyntaf ni newydd flodeuo yn y glaw. Roeddwn i'n chwilio am fwy, ond mae'n ymddangos mai hwn ydy'r unig flodyn yn yr iard flaen. Mae gannon ni fwy yn yr iard gefn, ac mae ganddyn nhw gynifer o flagur.

Monday, May 2, 2022

tangnefedd go iawn


Mae pawb eisiau a chwilio am dangnefedd. Ond dim ond un sydd yn medru rhoi'r tangnefedd go iawn, a gwahanol dros ben ydy'r tangnefedd hwn i un a roir gan y byd.

Dyma bregeth ardderchog gan Skip Heitzig.