Friday, December 31, 2021

oherwydd

Oherwydd Ei fod O'n byw, dw i'n medru wynebu yfory.
Oherwydd Ei fod O'n byw, mae pob ofn wedi diflannu.
Oherwydd fy mod i'n gwybod Ei fod O'n dal y dyfodol,
mae'r bywyd yn werth ei fyw;
dim ond oherwydd Ei fod O'n byw.

Wednesday, December 29, 2021

o enau ffoaduriaid

"Rwy am ddysgu Cymraeg am mai dyma iaith gynta' Cymru," meddai Xiao Xia, ffoadur o China, sydd wedi cartrefi yng Nghymru bellach. Mae ganddi a'r lleill, a soniwyd yn yr erthygl, agwedd canmoladwy. Gobeithio y bydd rhai trigolion Cymru, heb geisio dysgu Cymraeg, yn clywed hyn a dechrau dysgu.


Tuesday, December 28, 2021

mynd at geiropractydd


Es i at fy ngheiropractydd y bore 'ma, am y tro olaf eleni. Roedd gen i boen miniog ar y cefn. Diolch i Dr. Chris, fodd bynnag, fe wnaeth o fy nhrin, a dw i'n teimlo'n iawn. Beth wna i hebddo? Es i ato fo ryw ddeg mlynedd yn ôl am y tro cyntaf pan faglais yn yr iard a tharo fy mhen yn erbyn y wal. Dw i'n mynd ato fo bob yn ail wythnos bellach fel mesurau ataliol rhag anhwylder.

Monday, December 27, 2021

yn ôl at y bywyd syml

Wedi treulio pedwar diwrnod adref, aeth y mab ifancaf yn ôl at ei fflat yn Nhalaith Missouri y bore 'ma. Mae'i gar ffyddlon (Toyota Camry 1997) yn rhedeg yn dda. Yn ôl at y bywyd syml gyda'r gŵr mewn nyth wag. Mae'n braf a chynnes fel gwanwyn heddiw.

Sunday, December 26, 2021

newyddion da

Newyddion da ym Methlehem drwy fy hoff wefan "newyddion" -

"Duw gyda ni"

Saturday, December 25, 2021

y nadolig


"Y mae'r Arglwydd ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele'r wyryf yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel."
"Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a'r baban yn gorwedd yn y preseb."

Nadolig Llawen

Friday, December 24, 2021

y geni

Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. 

Oherwydd nid i gondemnio'r byd yr anfonodd Duw ei Fab i'r byd, ond er mwyn i'r byd gael ei achub trwyddo ef.

Wednesday, December 22, 2021

pleser gaeafol

Mae'r gŵr wrthi'n paratoi ei wers o flaen tân braf yn sipian ei hoff goffi heddiw. Un o'i bleserau gaeafol ydy hyn. Mae sgrin y gliniadur yn amddiffyn ei wyneb rhag gwres y tân yn gyfleus hyd yn oed. 

Tuesday, December 21, 2021

bowlio


"Ces i fy ngwahodd i ymuno â'r hogiau i chwarae bowlio a chael swper cyn darllen y Beibl nos Iau," meddai'r gŵr. "Bydd yn iawn efo ti?" "Wrth gwrs," atebais. Fe ga' i swper yn dawel ar fy mhen fy hun. Ces i fy synnu bod y lle bowlio’n dal i fodoli yn y dref. Rhaid bod yna ddigon o gwsmeriaid. Roeddwn i'n arfer hoffi bowlio pan oeddwn i'n blentyn. Roedd yn boblogaidd iawn yn Japan.

Monday, December 20, 2021

cadw'n gynnes

Wedi cyfnod anarferol o gynnes, gostwngodd y tymheredd i ddauddegau o'r diwedd. Mae'n edrych fel y bydd yn para am y tro. Dw i a'r gŵr yn cadw'n gynnes, diolch i'r llosgwr logiau a digon o logiau yn y garej. O'r iard gefn daeth hanner ohonyn nhw.

Saturday, December 18, 2021

peth crwn melyn

Dw i'n cael hoe fach rhag coginio swper, a bwyta allan gyda'r gŵr ar Ddydd Gwener. Does dim llawer o ddewis yn y dref fach hon, ond mae'n braf peidio â meddwl am beth i'w goginio weithiau. Napoli's oedd ein dewis ni neithiwr unwaith eto. Ces i basta gyda chyw iâr a phigoglys mewn saws caws. Doedd gen i ddim syniad beth oedd y peth crwn melyn yng nghanol y pasta nes i mi ei droi. Hanner lemwn oedd!

Friday, December 17, 2021

erthygl yr wythnos


"Ces i lond bol ar Efrog Newydd; dw i'n mynd i Florida." Wrth adael y neges honno ar sylfaen y cerflun, mae Dynes Ryddid wedi symud i Dalaith Heulwen, yn ôl Gwenynen Fabilon. Hon ydy Erthygl yr Wythnos yn fy nhab i (oni bai bydd yna un gwell yfory wrth gwrs!)

Wednesday, December 15, 2021

teimlo'n well

Dw i'n teimlo'n llawer gwell wedi cyflawni ymprydio ysbeidiol. Fe wnes i ddwywaith yr wythnos 'ma. Dw i'n bwyta'n normal bellach, ond tipyn bach llai o fwyd nag arfer. Modd gwych a hawdd i gadw'r coluddion yn iach ydy hyn. Mae yna nifer o fanteision ychwanegol hefyd. Dw i'n bwriadu dal ati ddwywaith yr wythnos o hyn ymlaen.

Tuesday, December 14, 2021

rhosyn gwyn

Des i ar draws rhosyn gwyn ymysg dail sych ar ochr y ffordd y bore 'ma. Yn gyntaf, roeddwn i'n meddwl iddo gael ei daflu i ffwrdd. Wedi edrych arno fo'n agos, fodd bynnag, fedrwn i ddim ond credu ei fod o'n fyw. Sut ar y ddaear? Dirgelwch y bore.

Monday, December 13, 2021

ymprydio ysbeidiol

Methais gysgu neithiwr oherwydd bod gen i boen stumog ofnadwy. Er fy mod i'n teimlo'n well erbyn y bore, penderfynais ymprydio ysbeidiol i ofalu am fy stumog (a oedd yn gorweithio dw i'n siŵr.) Na ches i fwyd am dros 16 awr. Yna, ces i frecwast llai nag arfer. Gobeithio bod fy stumog wedi cael hoe fach. Dw i'n teimlo'n llawer gwell rŵan. Gorffenna' i fwyta swper ysgafn erbyn chwech o'r gloch heno. 

Saturday, December 11, 2021

saboth


Datganodd y gŵr na fyddai fo'n gwneud rhestr waith heddiw, ond ymlacio a mwynhau'r Saboth; byddai fo'n gwneud beth bynnag a ddôi i'w feddwl, a'i gofnodi. Syniad gwych oherwydd ei fod o mor brysur bob dydd er ei fod o wedi hen ymddeol.

Wednesday, December 8, 2021

gair duw yn y nos

Yn ddiweddar dw i'n deffro sawl tro yn y nos, a methu mynd yn ôl i gysgu tua thri o'r gloch. Dim problem. Yn lle cyfri defaid, bydda i'n gwrando ar bregeth ar y we. Pastor Paul a Pastor Skip ydy fy hoff bregethwyr. Mae'r ddau yn weinidogion Capel Calfaria. Fel pregethwyr yr enwad hwnnw, maen nhw'n pregethu llyfrau'r Beibl i gyd, fesul pennod. 

Tuesday, December 7, 2021

setiau'r geni

Mae'n amser i dynnu allan setiau'r Geni. Mae gennym ni ddau - un a brynwyd yn Japan, a'r llall a wnaed â llaw gan ddynes o Loegr. Arhosais yn ei thŷ hi er mwyn mynychu Eisteddfod y Bala yn 2009. Collais gysylltiad gyda hi ar ôl derbyn setiau'r Geni. Dw i'n dal i gofio amdani hi yn enwedig ystod tymor y Nadolig.

Saturday, December 4, 2021

cymdogion hanesyddol

Prynodd fy merch hynaf a'i gŵr hen dŷ o 50au yn Oklahoma City fisoedd yn ôl, ac roedden nhw wrthi'n ei adnewyddu. Maen nhw newydd orffen y gwaith a symudon nhw. Maen nhw hefyd newydd sylweddoli bod Route 66, hen ffordd hanesyddol America'n rhedeg o flaen eu tŷ! Roedd hi'n pasio'r dref fach yn Nhalaith Missouri mae fy mab ifancaf yn byw bellach ers iddo gael swydd ym mis Hydref. Rhyw gymdogion maen nhw mewn ffordd!

Friday, December 3, 2021

llythyrau nadolig

Mae tymor gyrru llythyrau Nadolig gyda newyddion y teulu wedi cyrraedd. Aeth popeth yn effeithiol a chyflym eleni. Gorffennwyd y dasg yn barod; mae 13 o lythyrau Japaneg gyda lluniau gwych ar eu ffordd at y perthnasau a ffrindiau yn Japan. Anfonir y llythyrau Saesneg nes ymlaen.

Wednesday, December 1, 2021

fy ngherdd ar flog fy merch


Mae fy merch newydd bostio erthygl newydd at ei blog, am y gerdd a ysgrifennais (yn Japaneg yn wreiddiol) ddyddiau'n ôl. Roedd hi'n ei hoffi cymaint fel gofynnodd am ganiatâd i'w chyhoeddi. Dim ond cerdd ddamweiniol oedd hi, ond trodd fy merch hi yn beth rhyfeddol. Ar ben hynny, ymchwiliodd ar hanes a ffurf y gerdd draddodiadol Japan hwnnw nad oeddwn innau'n gwybod rhai ohonyn nhw hyd yn oed.