Saturday, April 30, 2022

hanes anhygoel mewn lle cyffredin

Mae fy mab ifancaf yn hoffi cyfarfod pobl a dechrau sgwrsio'n hawdd (yn hollol wahanol i'w fam sydd yn fewnblyg.) Yn ddiweddar, dechreuodd siarad yn gyfeillgar â dynes hŷn ar ôl ei waith yn ei dref. Cafodd ei synnu'n clywed ei chefndir hynod o unigryw; Ffrances oedd ei mam, a milwr Americanaidd oedd ei thad a frwydrodd ar Normandy! Cafodd ei anafu, ac roedd mewn ysbyty yn Cornwall am sbel. Clywodd fy mab yr hanes anhygoel hwn i gyd mewn golchdy tra oedd o'n aros am ei ddillad yn cael eu golchi!

Wednesday, April 27, 2022

netherfield park

Mae yna ardal brydferth a chyfoethog ger tŷ fy merch. Gan nad oes wal o'i chwmpas, mae fy merch yn hoffi rhedeg neu feicio yno gyda'i chi yn aml. Awgrymais iddi ei galw'n Netherfield Park. Ac felly a fu. Mae ei chi yn hoffi mynd am dro yno hefyd.

Tuesday, April 26, 2022

canllawiau i fewnblyg


Dyma syniadau creadigol gan y Wenynen i osgoi amser cyfarch mewn eglwysi! Dw i ddim yn erbyn cyfarch pobl wrth gwrs, ond mae'n gas gen i fy ngorfodi gwneud hynny. Well i mi gyfarch yn naturiol pan wela' i bobl cyn gwasanaethau. Falch bod fy eglwys wedi atal yr arfer hwnnw oherwydd y Feirws, ac mae hi heb ailgychwyn.

Monday, April 25, 2022

100 oed

Penblwydd fy mam ydy hi heddiw, yn 100 oed. Symudodd i gartref henoed y llynedd, ond mae hi'n cadw'n eithriadol o dda gan ystyried ei hoedran. Ymwelodd fy nhair merch â hi ddoe. Er gwaethaf cyfyngiadau llym yn y cartref, roedden nhw'n medru dathlu ei phenblwydd. Roedd fy mam wrth ei bodd wrth gwrs.

Saturday, April 23, 2022

anrheg werthfawr

Ces i anrheg dwymgalon gan hogan fach yn yr eglwys. Diemwnt mawr glas (plastig) hardd ydy o. Rhoes iddi gasgliad ar hap o ddeunydd ysgrifennu a ffeindiais yn y tŷ yn ddiweddar. Roedd hi'n hapus dros ben gyda fo. Efallai ei bod hi wedi dewis un o'i thrysorau i'w roi i mi er mwyn mynegi ei diolch.

Friday, April 22, 2022

anafu fy nhraed

Llwyddais i anafu fy nhraed gan gicio drws ar ddamwain yn y tŷ (unwaith eto.) Dw i wedi gwneud hynny nifer o weithiau yn y gorffennol. Y tro 'ma, roedd mor ofnadwy o boenus fel collais fy anadl. Drwy drugaredd, na thorrwyd asgwrn, mae'n ymddangos. Dim ond cael taro'n wael, dw i'n meddwl. Dim mynd am dro am sbel. Falch nad ydw i wedi cael gwared ar y baglau yn y cwpwrdd.

Tuesday, April 19, 2022

y 247fed pen-blwydd


Y 247fed Pen-blwydd Brwydr Lexington-Concord ydy hi heddiw. Safodd dynion cyffredin a dinasyddion arfog yn erbyn y Fyddin Brydeinig a anfonwyd i ymafael eu drylliau. Dyma oedd dechreu America rydd. “Mae milisia wedi’i rheoleiddio’n dda yn angenrheidiol i ddiogelu gwladwriaeth rydd. Ni chaiff hawl y bobl i gadw a dwyn arfau ei thorri.” - yr Ail Ddiwygiad, Cyfansoddiad UDA

Monday, April 18, 2022

lledaenu byd-eang


Achos y lledaenu byd-eang dychrynllyd oedd Duw a wrthododd bellter cymdeithasol oddi wrth ddynoliaeth! Daeth, yn hytrach, yn agos aton ni, wedi byw yn ein plith, a fu farw ar groes. Yr unigolyn a elwir yn Iesu o Nasareth sydd yn gyfrifol am y lledaenu iachawdwriaeth ddigynsail, yn ôl ymchwilwyr. Tarodd y Wenynen unwaith eto!

Sunday, April 17, 2022

dydd sul yr atgyfodiad


"Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych. Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai."

Saturday, April 16, 2022

gorffennwyd


Un o'r erthyglau efengylaidd Cristnogol gorau a symlaf ydy hon. Mae'n taro deuddeg drwy ond ychydig o eiriau. Hollol annisgwyl oherwydd mai gan y Wenynen ydy hi. Does dim mymryn o ddychan ynddi. 

Friday, April 15, 2022

pessach - dydd gwener y groglith

Eleni ac am y trydydd tro yn y ganrif hon, mae Pessach (Passover) a Dydd Gwener y Groglith yn disgyn ar yr un diwrnod. (Cyd-darodd y ddau yn 2012 a 2015.) Mae'n hollol addas oherwydd bod Iesu wedi gwireddu'r Oen Heb Nam er mwyn achub pawb a fyddai'n credu ynddo, yn union fel gwaed oen wedi achub yr Israeliaid rhag pla y cyntafanedig yn yr Aifft. 

Wednesday, April 13, 2022

gwyntoedd cryfion

Mae tywydd eithafol arnon ni, yn yr ardaloedd helaeth yn America. Mae'r gwyntoedd yn ofnadwy o gryf lle dw i'n byw ynddo. Syrthiodd y bwydwr adar i lawr yn yr iard unwaith eto, er bod y gŵr wedi gosod bricsen arall ar y gwaelod. 

Monday, April 11, 2022

ailgylchu glo


Roeddwn i'n darganfod modd i ailgylchu'r glo a oedd ar ôl yn ein llosgwr logiau ni. Maluais fo'n fân, a dw i'n ei ddefnyddio fel powdwr aeliau. Mae'n gweithio'n dda -  rhad ac yn ddim a hollol naturiol!

Saturday, April 9, 2022

katfish kitchen

Tro Katfish Kitchen oedd hi ddoe. Er bod ni wedi cyrraedd cyn 5 o'r gloch, roedd nifer o gwsmeriaid yno'n barod. Ac erbyn i'n bwyd ni ddod, roedd y lle'n llawn dop. Mae'n amlwg mai un o dai bwyta mwyaf poblogaidd y dref ydy o, gan yr Heddlu hefyd. Dewisais i fy ffefryn (cyw Iâr wedi'i grilio ) tra bod y gŵr yn cael pysgod wedi'i grilio.

Friday, April 8, 2022

pregethau eidaleg


Des i ar draws cyfres o fideo byr gan weinidog Eidalaidd. Bydd o'n darllen adnodau o'r Beibl, wedyn rhoi sylwadau arnyn nhw. Mae o'n siarad yn araf ac yn glir fel bydd yn hawdd i mi ei ddeall. Mae ganddo bwynt clir yn ei bregeth fer bob tro. Braf gweld Alpau Eidalaidd yn y cefndir hefyd. (Credwch neu beidio mae o'n  ymdebygu i fy niweddar ewythr pan oedd o'n ifanc!)

Wednesday, April 6, 2022

y canlyniad


Enillodd yr ymgeisydd a oedden ni'n ei chefnogi! Cafodd hi 60 y cant o'r pleidleisiau. Mae hi'n frwdfrydig gweithio dros blant yr ysgolion yn y dref. Llongyfarchiadau mawr a phob bendith i Mrs. C!

Tuesday, April 5, 2022

etholiad lleol 2

Fel arfer na ceith etholiadau lleol fawr o sylw gan ran fwyaf o drigolion. 16 pleidlais a benderfynodd y canlyniad yn y gorffennol er bod 16,000 o bobl yn byw yn y dref yma. Wrth i'r byd fynd mwy gwallgof byth bob dydd, mae'n hynod o bwysig i'r bobl gyda synnwyr cyffredin geisio cymryd rhan yn y wleidyddiaeth cymaint â bo modd. Mae'r gŵr yn weithgar dros ben yn y maes hwnnw ynghyd â rhai eraill. Dyma fi'n gwneud peth bach - creu arwydd i atgoffa'r cymdogion i bleidleisio heddiw. 

Monday, April 4, 2022

etholiad lleol

Etholiad bwrdd yr ysgol mae hi yfory. Mae dau ymgeisydd yn fy ardal i; cyn athrawes ardderchog yn yr ysgol uwchradd ydy un ohonyn nhw. Cafodd dri o fy mhlant eu hyddysg ganddi. Wedi ymddeol o'i gyrfa hir, mae hi'n frwdfrydig gweithio ar fwrdd yr ysgol rŵan. Mae'r gŵr wedi bod wrthi'n ei chefnogi fel "rheolwr ymgyrch" answyddogol ers misoedd, yn siarad gyda'i ffrindiau drosti hi, a chanfasio o ddrws i ddrws yn y gymdogaeth. Fel ymgyrch olaf, aeth i ddosbarthu nodiadau atgoffa'r bore 'ma yn y glaw. 

Saturday, April 2, 2022

ymdopi'r chwyddiant

Ces i a'r gŵr swper yn Napoli's neithiwr. Dewisais ravioli sbigoglys; cig llo parmigiana iddo fo. Roedd cyfaint ei spaghetti'n fach iawn, llawer llai nag arfer. Efallai mai dyna sut mae'r perchennog yn ceisio ymdopi'r chwyddiant. Roedd yn flasus fodd bynnag yn ôl y gŵr.