Monday, February 28, 2022

confoi - 6ed dydd

Gadawodd y Confoi Oklahoma, ac maen nhw'n gyrru drwy Missouri heddiw. Aeth heibio i Lebanon, tref fach mae fy mab ifancaf yn byw ynddi! Mae'r gyrwyr yn honcio'n uchel pryd bynnag maen nhw'n gweld cefnogwyr!

Sunday, February 27, 2022

confoi - 5ed dydd

Croeso cynnes i Oklahoma! Wedi treulio'r nos yn Elk City, mae'r Confoi yn bwrw ymlaen i'r Dwyrain yn pasio Oklahoma City (lle mae fy merch hynaf yn byw ynddi.) Maen nhw'n cael croeso cynnes a chefnogaeth faterol ym mhob man. Mae'r nifer o dryciau a cheir wedi cynyddu i dros 15,000 bellach.

Saturday, February 26, 2022

confoi - 4edd dydd

Mae'r Confoi'n prysur basio "handlen padell" Texas heddiw. Dyma fideo sydyn a wnaed gan fyfyrwyr ysgol uwchradd yn New Jersey. Mae pawb yn ymddangos mewn hwyliau hynod o dda.

Friday, February 25, 2022

confoi - 3edd dydd

Mae'r Confoi'n fwrw ymlaen yn gryf wrth basio cefnogwyr angerddol ar ei ffordd. Gadawodd Lupton, Arizoma y bore 'ma, a bydd yn gorffen cymal heddiw yn Glenrio, Texas. Oklahoma nos yfory!

Thursday, February 24, 2022

confoi'r bobl

Mae Confoi'r Bobl newydd gychwyn. Gadawodd y prif gonfoi California ddoe; byddan nhw'n gyrru dros y taleithiau, a bwriadu cyrraedd Washington D.C. Mawrth 5. Maen nhw'n galw ar y llywodraeth i ddod â'r mandad Cofid i ben, ac ar "yr Arlywydd" Biden i ddiddymu Argyfwng Cenedlaethol. Mae'r confoi yn hollol heddychol, ac yn cynnwys tryciau mawr/bach a cheir a yrrir gan bobl gyffredin o bob lliw, cred a phlaid, sef pobl America.

Tuesday, February 22, 2022

adnod 2-22-22

"Glynwch wrth yr hyn sydd gennych, hyd nes i mi ddod," meddai. 

Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!

Monday, February 21, 2022

cŵn truan

Daeth un o'r cŵn drws nesaf i mewn i'n hiard ni unwaith eto. Does gen i syniad sut, oherwydd bod y gŵr newydd sicrhau'r ddau fwlch. Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn aml hefyd. Dydy'r perchennog ddim yn malio o gwbl. Dw i'n deall pam eu bod nhw eisiau ffoi oddi wrth eu hiard ofnadwy o flêr.

Saturday, February 19, 2022

ddim yn gwneud synnwyr


Dwedodd fy mrawd yn Japan fod un o'r preswylwyr yn y cartref henoed lle mae'n mam ni'n byw wedi cael diagnosis positif. O ganlyniad, na chaniateir ymwelydd er eu bod nhw wedi gwahardd ymwelydd cyn hyn. Mae pawb, sef y preswylwyr a'r staff i gyd yn cael eu brechu'n llawn mewn cartrefi henoed yn Japan. Mae rhywbeth o'i le.

Friday, February 18, 2022

tŷ i'w rentu

Mae fy merch hynaf a'i gŵr wedi setlo yn eu tŷ newydd yn Oklahoma City. Penderfynon nhw rentu eu tŷ yn Norman i denantiaid penodol, sef nyrsys teithio, yn lle ei werthu. Roedden nhw wrthi'n adnewyddu dau dŷ ar yr un pryd. Maen nhw newydd orffen, ac mae o'n edrych yn anhygoel o wych. Bydd y tenant cyntaf yn cyrraedd ddydd Sul.

Thursday, February 17, 2022

dalennau lliwio

Rhwng paentio murluniau, adnewyddu ei thŷ a llawer mwy, cafodd fy merch hynaf syniad da arall, sef gwerthu dalennau lliwio. Gallwch chi liwio pedwar o'i phaentiadau poblogaidd bellach gan lawr lwytho dalennau'n ddigidol.

Tuesday, February 15, 2022

bod yn barod

Mae'n hynod o gynnes; 66F/19C ydy hi heddiw. Mae'n llosgwr logiau ni'n cael hoe fach am sbel, ond bydd y tymheredd yn gostwng i 20F/-7C mewn deuddydd yn ôl rhagolygon y tywydd. Dw i wedi casglu bagiau o ganghennau tenau yn yr iard i gynnau a chryfhau'r tân.

Monday, February 14, 2022

canlyniad

Dyma gip sydyn ar ganlyniad ymbil fy merch hynaf ar Dduw am gymorth. Mae'r paentiad yn seiliedig ar Narukami, stori Kabuki. Paentiodd fy merch murlun o'r un thema yn Oklahom City o'r blaen; bydd hwn yn cael ei arddangos yn Florida. Na fydd yr arddangosfa'n agor tan fis Mai, ac felly fe roddaf gip arbennig i fy narllenwyr annwyl!

Saturday, February 12, 2022

dewis gwahanol

Es i a'r gŵr i Napoli's eto neithiwr. Dewison ni fwyd anarferol y tro 'ma. Ces i spaghetti gyda pheli cig, ei ffefryn, a chafodd o basta gyda chyw iâr a lemwn, fy ffefryn. Roedd y ddau'n dda. Ces i wydraid o win coch hefyd i ddathlu.

Friday, February 11, 2022

gweddi ddiffuant

Roedd gan fy merch hynaf broblem wrth baentio ar gynfas. A dyma hi'n gweddïo ar Dduw yn ymbil arno fo am ei gymorth; dwedodd hi, "rhaid dy fod ti wedi cael dy ddychryn gan fy ngwaith pitw hwn oherwydd mai artist rhagorol wyt ti. Wnei di fy helpu, a rhoi dy nerth i mi baentio'n well?" Atebodd Duw a llwyddodd hi. 

Wednesday, February 9, 2022

eithafwyr peryglus


Mae protest y gyrwyr tryciau yn Ottawa yn erbyn gormes y llywodraeth yn mynd o nerth i nerth, wrth gasglu cefnogaeth ryngwladol aruthrol. Ffrwydrodd llais y bobl gyffredin na allai'r Bobl Fawr neu'r prif gyfryngau ei ddiffodd. Dyma'r Wenynen unwaith eto gydag erthygl ofnadwy o ddoniol.

Tuesday, February 8, 2022

swyddfa genfigennus


Roedd gan berchennog llety mewn ardaloedd gwanwyn poeth yn Japan syniad gwych. Wrth i'w fusnes grebachu oherwydd y cyfangiadau diweddar, roedd rhaid iddo ddod o hyd i fodd i'w achub. Dyma fo'n cynnig ei lety fel swyddfa gwmni. Cafodd ymateb ardderchog. Mae sawl cwmni o Tokyo eisoes wedi cymryd mantais ar y cyfle anhygoel, a sefydlu canghennau yno. Mae'r gweithwyr yn fodlon dros ben hefyd. Pwy na fyddai eisiau mynychu cyfarfod busnes wrth socian eu traed mewn dŵr poeth braf?

Monday, February 7, 2022

eira

Roedd yn braf gweld yr eira yn rhyfeddu at greadigaeth Duw, ond mae hefyd yn braf ei fod o wedi toddi, ac mae'r ffyrdd yn ddiogel bellach. Cawson ni ryw bedair modfedd y tro 'ma - llawer llai a gawson ni ddeg blynedd yn ôl pan adeiladodd y plant iglw. Dyma lun o'u cyflawniad.

Saturday, February 5, 2022

ysgrifennu sylw

Dydy NHK, rhwydwaith newyddion cenedlaethol Japan ddim yn adrodd y digwyddiadau diweddar hynod o bwysig. Ces i ddigon, a dyma ysgrifennu atyn nhw (yn Japaneg.) Dw i braidd yn sicr byddan nhw'n fy anwybyddu, ond roedd rhaid i mi ei wneud o.

"Yn ddiweddar, mae gwledydd Ewropeaidd a Seland Newydd wedi llacio'n sylweddol y cyfangiadau ar gyfer y coronafeirws. Pam nad ydych chi'n adrodd y newyddion pwysig hyn? Hefyd does sôn am y confoi tryciau yn Canada, sydd wedi cael effaith ffrwydrol nid yn unig ar ei gwlad ei hun ond ledled y byd."

Thursday, February 3, 2022

byd cannaid

Dechreuodd fwrw eira prinhawn ddoe. Codais yn y byd cannaid y bore 'ma. Syrthiodd y tymheredd o 70F/21C i 17F/-18C mewn dyddiau. Tywydd nodweddiadol Oklahoma! Cawson ni'n rhybuddio ymlaen llaw, ac felly dan ni'n barod i aros tu mewn drwy'r ddydd heddiw. Mae'r llosgwr logiau yn ein cadw ni'n gynnes braf.

Wednesday, February 2, 2022

adnewyddu cymhwyster yn y gegin

Mae'r gŵr mewn dosbarth Zoom (fel myfyriwr) rŵan, yn y gegin. Cwrs i adnewyddu cymhwyster atgyweirio gynnau ydy o. Chwe heddwas o daleithiau amrywiol ydy ei gyd-fyfyrwyr. Roedd wrthi'n ymarfer ei sgil am ddyddiau ar gyfer heddiw. Yn lle hedfan i ddinas bell i gyflawni'r gofynion, mae o'n cael gwneud popeth at fwrdd y gegin!