Tuesday, December 31, 2013

caserol newydd

Dylai rysáit fod yn syml a hawdd, neu bydda i byth ei ddefnyddio er pa mor flasus ydy'r saig. Wrth gwrs fy mod i'n ceisio coginio'n iach cymaint â phosib. Des i ar draws y rysáit hwn sydd yn taro deuddeg. Gan nad ydy o'n gofyn am gaws, mae hwn dipyn yn wahanol i fy nghaserolau arferol. Coginiais hwn ddoe; roedd yn flasus iawn a hawdd wrth gwrs. Y tro nesaf, byddwn i'n defnyddio ond un tun o gawl tomato ac un tun o saws tomato yn hytrach na dau dun o gawl tomato er mwyn lleihau'r melyster.

Monday, December 30, 2013

bwyta fel chelsea fc

Mae fy mab ifancaf yn hoff iawn o glwb pêl-droed Chelsea. Cafodd lawer o bethau sydd yn gysylltiedig i'r tîm hwnnw yn anrhegion Nadolig - posteri, DVD, bandiau arddwrn, masg José Mourinho a llyfr o'r enw Play Like Chelsea FC. Mae o wrthi'n darllen y llyfr hwn sydd yn dangos sut i hyfforddi eich hun a hefyd sut i fwyta'n iach er mwyn chwarae fel nhw. Rŵan mae o eisiau bwyta pysgod; llysiau efo lliwiau gwyrdd, oren a melyn; ffrwythau; reis brown; dim gormod o bwdin. Cyn iddo fwyta, mae o'n gwneud yn siŵr bod y bwyd yn iach. Fedrwn i byth ei ddarbwyllo mor effeithiol â hynny!

Sunday, December 29, 2013

ffynnon siocled

Es i fwffe Tsieineiaidd i ginio ynghyd â'r teulu a ffrindiau. Roedd yna ffynnon siocled - cewch chi "drochi" bananas, mefus a marshmallows yn y siocled. Roedd bron i mi flasu tamaid ond penderfynais beidio wedi gweld y rhybudd i'r rhieni - peidiwch â gadael i'ch plant "drochi" eu bysedd. 

Saturday, December 28, 2013

adolygiad

Gwylais Thermae Romae roeddwn i'n edrych ymlaen at ei weld dros flwyddyn. Rhaid cyfaddef fy mod i wedi cael fy siomi. Dydy'r ffilm ddim cystal â'r manga gwreiddiol, ond tybiwn i fod hyn yn digwydd yn aml pan droir llyfrau'n ffilmiau. Collodd o elfen o ddigrifwch cynnil. Rhaid canmol fodd bynnag dewis y prif actor sydd yn berffaith ar gyfer y cymeriad, a bod y ffilm wedi cael ei saethu yn Rhufain wrth gyflogi mil neu ddau o'r bobl leol a oedd yng ngwisg y cyfnod. 

Friday, December 27, 2013

rysáit newydd arall

White bean chicken chili ydy hi. Ces i hwn o'r blaen ac roeddwn i eisiau ei goginio i'r teulu. Mae o dipyn yn wahanol i'r chili traddodiadol ond yn flasus iawn. Wnes i ddim defnyddio taragon ac roedd rhaid ychwanegu llawer mwy o botes er mwyn bwydo naw ohonon ni! Mi wnes i ddefnyddio llefrith heb lactos yn lle hufen ar gyfer un o'r plant sydd ag alergedd i lefrith.

Thursday, December 26, 2013

syrpreis!

Eleni mae pawb gartref dros Nadolig ac mae'r tŷ yn llawn dop. Agoron ni'r anrhegion ddoe wedi i fy merch hynaf a'i gŵr ymuno â ni. Dan ni i gyd wedi cofrestri ar wefan 11 Pipers a sgrifennu beth dani eisiau'n anrhegion. Ces i sgarff ysgafn a DVD Thermae Romae. (O'r diwedd dw i'n cael ei weld!) Un peth arall hollol annisgwyl er fy mod i wedi ei roi o ar y rhestr - MAC Book (wedi'i adnewyddu) ! Yn aml iawn roedd rhaid i mi aros fy nhro ar y cyfrifiadur pan fod y plant iau adref, ac felly roeddwn i'n gobeithio perchen ar fy un i am sbel. Ac eto, doeddwn i ddim yn disgwyl derbyn un go iawn; rhoddais hwn ar y rhestr er mwyn dangos fy rhwystredigaeth a dweud y gwir! Rŵan ca' i ddefnyddio cyfrifiadur pryd bynnag dw i eisiau.

Wednesday, December 25, 2013

nadolig

Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel - y mae Duw gyda ni.

Nadolig Llawen i bawb!

Tuesday, December 24, 2013

nova

Dwedodd Jim Atkins fyddai fo'n cynghori rhaglen ar NOVA ynglŷn â Chromen Brunelleschi ym mis Chwefror yn ogystal â'r erthygl yng Nghylchgrawn National Geographic. Des o hyd i glip sydd yn edrych yn ofnadwy o ddiddorol. Does gen i ddim cabl teledu ac felly gobeithio y ca' i weld y rhaglen gyfan ar y we. Edrycha' i ymlaen!

Monday, December 23, 2013

myffins moron

Dw i wedi casglu ryseitiau newydd dros dymor Nadolig, a dyma brofi un ohonyn nhw, sef myffins moron. Mae yna ryseitiau amrywiol a hon ydy fy newis. Pan welais y cymysgedd cyn ei grasu, ces i dipyn o ofn gan fod yna gymaint o foron; roedd o'n hollol oren a dweud y gwir! Roedd y myffins yn ofnadwy o flasus. Roeddwn i'n teimlo'n dda hefyd yn gwybod fy mod i'n cymryd llawer o fitamin A. :)

Mi wnes i ddefnyddio ond blawd gwyn, a cheirch yn lle wheat germ. Mae llond llwy fwrdd o fanila'n swnio'n ormod; mi wnes i ddefnyddio llond llwy de ohono fo.

Sunday, December 22, 2013

erthyglau eraill ar y gromen

Des o hyd i gyfres o erthyglau arall ardderchog ar Gromen Brunelleschi. Mae yna 12 sydd yn llawn o wybodaeth arbennig o ddiddorol gan Jim Atkins. Mae pob erthygl yn disgrifio gwahanol agwedd o'r gromen, y pensaer a'r hanes yn fanwl mewn modd clir a brwdfrydig. Erbyn i mi gyrraedd y bennod olaf, roeddwn i'n rhannu ei gyffro ac yn cerdded efo fo o'r orsaf trên at y gromen ac i fynnu'r grisiau. Does ryfedd nad oedd yn medru peidio â gweiddi o ben y gromen. Sgrifennais ato fo a chael ateb clên (eto.) Dwedodd fydd cylchgrawn National Geographic yn cyhoeddi erthygl ar y gromen honno ym mis Chwefror y flwyddyn nesa. Mi bryna' i gopi'n bendant.

Saturday, December 21, 2013

pŵer gwrando

Mae Alberto (Italiano Automatico) yn pwysleisio'n aml pa mor bwysig ydy'r gwrando wrth ddysgu iaith estron, a gwrando ar bethau dach chi'n eu mwynhau. Sylfaen ei fodd ydy hyn a dweud y gwir. Dw i'n cytuno'n llwyr. Pan oeddwn i'n dysgu Saesneg yn ddwys yn Tokyo, roeddwn i'n gwrando ar gomedi radio Americanaidd drwy'r amser fel dwedais o'r blaen. Er bod gan y sefydliad fodd arloesol ac effeithiol i ddysgu Saesneg, dw i'n credu'n siŵr mai'r gwrando a wnaeth gwahaniaeth i mi. Fedrwn i ddim yn siarad Saesneg o gwbl pan ddechreuais yno er fy mod i wedi dysgu am chwe blynedd yn yr ysgol fel pawb arall. Pan orffennais y cwrs, roeddwn i braidd yn rhugl. Doeddwn i ddim yn sylweddoli hyn i gyd ar y pryd, ond dw i'n gwybod bellach, diolch i Alberto.

Friday, December 20, 2013

storm arall

Roedd hi fel gwanwyn am ddyddiau wedi'r eira, ond mae storm aeaf arall ar ei ffordd; mae'r tymheredd yn prysur ddisgyn. Dw i newydd orffen siopa. Prynais ddigon o fwydydd i bara am ddyddiau a hefyd dros ginio Nadolig. Cawson ni drwsio drws y garej o'r diwedd. Falch iawn bod ein ceir yn ddiogel y tro hwn. Methodd un o'r ddau (un o Hawaii!) yn ystod y storm ddiwethaf. Gobeithio bydd y ffyrdd yn ddigon da'r wythnos nesaf pan ddaw'r plant hyn dros Nadolig.

Thursday, December 19, 2013

ryseitiau newydd

Coginiais gawl briwgig eidion a oedd yn ffefryn yr Arlywydd Ronald Reagan a chacen afalau a oedd yn ffefryn yr Arlywydd Van Buren. Doeddwn i erioed wedi defnyddio hominy o'r blaen. Mae o'n blasu fel pop-corns. Roedd y cawl yn arbennig o dda. Gan fod y rysáit yn aneglur ynglŷn â'r nifer o afalau, dewisais ddau, ond mae'n amlwg bod ond un a oedd angen. Roedd yn cymryd amser hir i grasu'r gacen oherwydd bod yna ormod o leithder. Roedd yn flasus beth bynnag. Heno, mi goginia' i macaroni cheese caseroll a oedd yn ffefryn yr Arlywydd Ronald Reagan.

Wednesday, December 18, 2013

anrheg funud olaf

Dw i newydd gofio fy mod i heb yrru anrheg Nadolig at fy mam eleni. Panig! Fel arfer dw i'n gyrru ffrwythau sych a chnau, ond yn lle redeg at siop i'w prynu nhw, penderfynais archebu lluniau o'i wyrion mewn ffurf poster. Mae yna lawer o ddewis ar wefan Walmart a dewisais bum llun i wneud poster fel hwn. Yn anffodus bydd hi'n cymryd pythefnos; bydd rhaid i mi ddweud wrth fy mam y byddai ei hanrheg yn cyrraedd yn hwyr. O leiaf, dw i'n siŵr bydd y poster yn ei phlesio.

Tuesday, December 17, 2013

pot luck heb y myfyrwyr

Roedd yna pot luck arall yn Ysgol Optometreg heddiw. Gan fod y myfyrwyr i gyd ar wyliau bellach, dim ond yr athrawon a'r staff a oedd yno. A dweud y gwir, doedd o ddim yn dda. Rhaid i mi gofio hyn a pheidio mynd flwyddyn nesaf! Cyn cychwyn bwyta, es at NET Building a dringo fy nghrisiau. 

Mae'n gynnes iawn eto ond dan ni'n disgwyl storm eira arall dros benwythnos.

Monday, December 16, 2013

merched 7-5-3

Y post gan Tokyobling hwn yn fy atgoffa i o fy mhrofiad fel Shichi-go-san girl amser maith yn ôl. Prynodd fy mam kimono pert i mi er ein bod ni braidd yn dlawd ac aeth hi â fi i deml gyfagos. Ces i bowdwr ar fy wyneb yn ôl yr arferiad ond roedd fy nhrwyn mor goslyd fel fy mod i'n methu peidio â'i grafu. Dw i'n ymddangos yn anhapus yn y llun; dw i'n cofio nad oeddwn i eisiau cael tynnu fy llun gan y ffotograffydd proffesiynol yno oherwydd fy mod i'n ymwybodol byddai'n ddrud, ac roedd ofn gen i dros fy mam.

Sunday, December 15, 2013

diwrnod i orffwys

Mae NET Building ar gau dros benwythnosau ac felly roeddwn i'n mynd i fyny a lawr y grisiau yn fy nhŷ i ddoe. Mae ond 12 ohonyn nhw; roedd rhaid gwneud 40 set er mwyn cyrraedd y nod. Roedd fy nghoesau'n brifo'n ofnadwy ddau ddiwrnod cyntaf, ond roeddwn i'n teimlo'n well ddoe. Efallai fy mod i wedi pasio'r llinell. Dw i ddim yn dringo heddiw. Rhaid cael gorffwys un diwrnod bob wythnos. Edrycha' i ymlaen at yfory. Dw i ddim yn gwirioni ar y dringo ei hun ond y ffaith fy mod i'n mynd yn gryfach, ac mae hyn yn golygu bydda i'n medru dringo Cromen Florence heb achosi niwed i fi fy hun.

Saturday, December 14, 2013

diwedd yr eira

Dechreuodd fwrw glaw ddoe ac mae'r glaw'n prysur doddi'r eira a oedd yn cuddio'r ddaear bron i wythnos. Dw i'n falch bod y teulu wedi bod yn ddiogel er bod fy ail ferch bron wedi cael damwain; methodd hi atal wrth y draffordd oherwydd y rhew a throi i'r tir isel yn hytrach na mynd ymlaen. Cymerodd ryw ddeg munud iddi fynd i fyny ar yr heol ond roedd popeth yn iawn wedyn. Tynnais lun o'r olion teiars cyn iddyn nhw ddiflannu. 

Friday, December 13, 2013

ymarfer dringo

Dw i ddim yn dringo grisiau'n aml ers symud i America, felly penderfynais ymarfer dringo. Yr unig adeilad tal yn y dref hon ydy NET Building yn y brifysgol. Rhaid mynd i fyny ac i lawr pedair gwaith oherwydd bod yna ond 112 o risiau. Es i yno ddwywaith bellach. (Mae fy nghoesau'n brifo!) Dw i eisiau ei wneud mor aml ag y bo modd o hyn ymlaen. Awgrymodd Ross King i mi ddringo'r tŵr yn ei ymyl hefyd er mwyn cael golwg dda o'r gromen. Gobeithio y bydda i'n ddigon ffit i gyflawni popeth erbyn mis Mai!

Thursday, December 12, 2013

penderfyniad

Ces i fy nghyfareddu gan hanes cromen Brunelleschi yn Florence. Dw i eisiau dringo i ben y gromen er bod yna 463 o risiau a does dim lifft. Efallai bydd rhai eisiau ei wneud er mwyn cael y golygfeydd godidog o'r copa, ond yr atyniad i mi ydy cyfle i weld y gromen anhygoel honno yn fanwl, a hefyd dringo i fyny (ac i lawr) yr un grisiau a ddefnyddiwyd gan y seiri maen 600 mlynedd yn ôl. Doedd gen i ddim diddordeb yn Florence o'r blaen a dweud y gwir; dechreuais ddarllen y llyfr hwn er mwyn gwybod tipyn amdani hi gan fy mod i'n hedfan yna cyn mynd i lefydd eraill yn yr Eidal flwyddyn nesaf. Doeddwn i ddim yn disgwyl ffeindio pethau diddorol felly.

Wednesday, December 11, 2013

gorffen y llyfr

Dw i newydd orffen y llyfr, Brunelleschi's Dome. Roedd o'n hynod o ddiddorol hyd yn oed i mi sydd heb ddiddordeb o gwbl mewn mathemateg. Dw i'n credu'n siŵr mai yr awdur sydd yn haeddu'r canmol oherwydd gallai'r pwnc fod yn ddiflas. Sgrifennais at Ross King yn dweud popeth a oedd yn fy meddwl neithiwr, a chael ateb clên iawn ganddo'r bore 'ma. Tasai fo sgrifennu gwerslyfrau hanes, byddai pawb yn awyddus i ddysgu!

Tuesday, December 10, 2013

dal ar gau, eto

Mae'r ysgolion yn dal ar gau! Fedra i ddim cwyno oherwydd bod y strydoedd yn dal yn llithrig. Dw i wedi bod yn prysur helpu'r gŵr i farcio'r prawf, a pharatoi llythyr Nadolig i'r ffrindiau. Mae yna naw ohonon ni yn y teulu, ac felly mae'n dipyn o her i ddisgrifio beth ddigwyddodd eleni efo llun mawr ar un dudalen. Dw i wedi blino; rhaid i mi ymarfer corf rŵan.

Monday, December 9, 2013

dal ar gau

Mae'r ysgolion a'r brifysgol yn dal ar gau heddiw. Es i Braum's i brynu llefrith prynhawn ddoe (a dweud y gwir, y gŵr a yrrodd) a gweld bod y strydoedd yn dal yn llithrig. Diwrnod arholiad y tymor i'r myfyrwyr yn Ysgol Optometreg ydy hi heddiw, ond rhaid iddyn nhw ei sefyll ar lein am 1 o'r gloch. Mae'r gŵr yn ceisio ei sgrifennu ers dyddiau heb gael digon o gwsg. Roedd y ddau blentyn ifancaf yn cael hwyl yn yr eira'n adeiladu wal a thylluan. Dyma'r eira trwm cyntaf ers dwy flynedd.

Sunday, December 8, 2013

nick

Cafodd gwasanaeth yr eglwys ei ganslo heddiw oherwydd y perygl ar y strydoedd, a dyma gael un gartref efo'r teulu. Gwyliodd glip am Nick Vujicic sydd wedi cael ei eni heb freichiau a choesau. Os dach chi'n ond gweld ei wyneb siriol a chlywed ei jôc, dydych chi byth yn dychmygu bod ganddo gymaint o anfantais ofnadwy felly. Wrth gwrs nad oedd o'n siriol bob amser; ceisiodd ladd ei hun pan oedd yn ddeg oed. Rhaid clywed ei hanes er mwyn gwybod beth sydd wedi newid ei fywyd. Pan oedd fy ail ferch yn teimlo'n is yn Corea, cafodd hi gyfle i'w gyfarfod. Cewch chi ddychmygu beth ddigwyddodd iddi wedyn.

Saturday, December 7, 2013

wedi'r eira

Cafodd popeth ei ganslo ddoe ac roedd y teulu i gyd gartref yn ddiogel. Heddiw mae'r haul (gwan) yn cael ei weld er bod y tymheredd yn isel iawn (14F/-10C.) Dim ond fy ail ferch a fydd yn gweithio yn y prynhawn. Mae'r gŵr eisiau cerdded yn y goedwig efo'n mab ni nes ymlaen. Roeddwn i'n treulio dros awr yn sgrifennu post yn Eidaleg ar Face Book at Alberto'n disgrifio beth mae'r bobl yn Japan yn ei wneud ar Nos Galan. Roedd yn dipyn o her ond diddorol.

Friday, December 6, 2013

yr eira

Mae'r eira wedi cyrraedd; mae'r ysgolion a'r brifysgol wedi cael eu canslo; ces i drwsio'n gwresogydd ni; mae gynnon ni ddigon o fwyd. Mae un o'r merched i fod i weithio heno ond gobeithio bydd y siop yn cau ei drws; pwy sydd eisiau bwyta hufen iâ heddiw? Rhaid parcio'r ceir tu allan oherwydd bod drws y garej ddim yn gweithio ers dyddiau ond does gan Kurt ddim amser i'w drwsio eto. 

Thursday, December 5, 2013

yn barod am y storm

Dydy hi ddim yn rhy oer eto ond bydd y storm eira ar ei ffordd. Mae'r ysgol wedi cael ei chanslo ymlaen llaw. Dw i wedi benthyg llyfrau ddoe, ac felly bydd gen i ddigon i'w wneud yn ystod y storm. Mae un ohonyn nhw'n ddiddorol iawn - llyfr am Filippo Brunelleschi a gynlluniodd cromen enfawr Santa Maria del Fiore yn Firenze yn 1418. Ddim pensaer oedd o, ond gof aur a chlociwr. Roedd yna gystadleuaeth gynllunio ar gyfer y gromen; y fo a enillodd. Er ei fod o'n llyfr ffeithiol, dydy o ddim yn sych fel llyfrau hanes arferol. Dw i newydd orffen yr ail bennod ac yn awyddus i ddod yn ôl ato fo i wybod am antur Filippo. Brunelleschi's Dome gan Ross King

Wednesday, December 4, 2013

58F - 24F

Mae gynnon ni dywydd mwyn yn ddiweddar. Heddiw mae'n 58F/14C gradd ond yn ôl rhagolygon y tywydd, cawn ni storm eira yfory a'r diwrnod wedyn. Bydd y tymheredd yn gostwng at 24F/-4C ddydd Gwener. Dw i'n hen gyfarwydd â thywydd eithafol Oklahoma. A' i siopa heddiw a phrynu digon o fwydydd i bara am dipyn rhag ofn na cha' i yrru am ddyddiau.

Tuesday, December 3, 2013

reuben

Mae gan fy merch hynaf gi mae hi'n gwirioni arno fo. Mae o'n beniog a hoffus. Yn anffodus mae ganddo stumog sensitif. Ym mhob cinio Gŵyl Ddiolchgarwch, bydd o'n gyffro i gyd pan ddechreuith fy ngŵr dorri twrci. Eleni, bwytodd fwy nag arfer yn hapus. Roedd yn ymddangos yn iawn ond clywais fod o'n sâl ddiwrnod wedyn. Druan o Reuben.

Monday, December 2, 2013

lluniau annisgwyl

Ces i amser hyfryd efo'r teulu i gyd yn Norman. Wrth i'r plant dyfu, mae'n mynd yn fwy anodd i ni ymgasglu. Efallai na chawn fy ail ferch flwyddyn nesa; mae'n debyg bydd hi rhywle yn Ewrop. 

Cyn ffarwelio'n gilydd, cawson ni ginio mewn tŷ bwyta newydd. Ces i bentwr o salad efo cynhwysion anhygoel o amrywiol a ffres. Roedd yn ddewis addas ar ôl y cinio twrci. Wedi gorffen y bwyd, codais fy llygaid a sylwi bod yna nifer mawr o ffotograffau ar y waliau. Ac yn eu mysg mae yna hanner dwsin o olygfeydd Fenis - golygfeydd annodweddiadol hyd yn oed. Doeddwn i ddim yn disgwyl eu gweld nhw mewn tŷ bwyta yn Norman. Methais ofyn yr hanes tu ôl iddyn nhw.