Friday, February 28, 2014

siop jerrod

Mae gan fy merch hynaf ffrind a phartner busnes da o'r enw Jerrod. Mae hi'n ei alw fo'n "fy ngefell" oherwydd mai mor debyg ydyn nhw, dim ar olwg ond mewn personoliaeth. Artist gwych o gystal â dyn busnes creadigol ydy o. Mae o a'i gariad newydd agor siop ddillad sydd yn gwerthu brand gwreiddiol, ac mae yna hyd yn oed congl i gael trin eich gwallt. Clywais fod y siop yn llwyddiannus iawn. Bydd fy merch yn symud ei stiwdio yn siop Jerrod a bydd y ddau'n cychwyn cam newydd. Dw i heb ei gyfarfod eto er fy mod i'n clywed amdano fo'n aml. (Am ryfedd nad ydw i'n nabod gefell fy merch!) 

Thursday, February 27, 2014

yn aros

Roeddwn i'n gobeithio postio llun neu ddau a dynnodd fy merch yn yr Eidal achos bod hi ymweld tref wahanol dros y penwythnos, ond mae'n ymddangos bod hi'n eithaf prysur a does ganddi hi amser i bostio ei lluniau ar Face Book eto. Aeth hi i Perugia ac yn aros efo cenhadwr Americanaidd a'i deulu yno. Fe wnaeth gyfarfod cynifer o bobl glên yn yr eglwys. Daeth ar wibdaith sydyn i Assisi hefyd. Dw i'n gorfod aros yn amyneddgar.

Wednesday, February 26, 2014

te 'chamomile'

Dw i'n teimlo'n llawer gwell y bore 'ma, bron yn holl iach, diolch yn fawr i'r Arglwydd! Mae'n hyfryd cael siarad a bwyta'n normal. Wedi profi cynifer o driniaethau cartref ar gyfer y briwiau'r geg, des o hyd i wefan sydd yn sôn am de chamomile. A dyma yfed dwy neu dair paned neithiwr, ac mae'r rhan fwyaf o'r poen wedi mynd y bore 'ma. Roeddwn i'n bwriadu ffonio fy ffrind am bresgripsiwn os na wellwn i'r bore wedyn. Rhaid i mi gadw paced o de chamomile yn y cwpwrdd bob tro o hyn ymlaen.

Tuesday, February 25, 2014

pryd o fwyd mewn un sosban

Dw i'n hoff iawn o ryseitiau syml, yn annhebyg i fy mam sydd byth yn meindio sefyll yn y gegin am oriau i goginio prydau o fwyd blasus. Ces i'r rysáit hwn gan fy merch hynaf sydd yn fy nabod i'n dda - pasta cyw iâr mewn un sosban (dim spaghetti ydy hwn a dweud y gwir.) Mae'r pasta'n cael ei goginio yn y saws felly mae'n hynod o hawdd i'w wneud, ac yn flasus hefyd. 

Monday, February 24, 2014

soda pobi

Roedd y geg yn dal i frifo'r bore 'ma er gwaetha'r driniaeth halen. Penderfynais ddefnyddio soda pobi i drin y briwiau. Gweithiodd o'r blaen ond gan fod o'n rhoi poen, doeddwn i ddim yn awyddus i'w ddefnyddio. Doedd gen i ddim dewis fodd bynnag, a dyma roi past soda pobi ar y briwiau. Aw! Golchais y geg wedi hanner munud. Wedyn.... mae o'n brifo llai bellach ac roeddwn i'n medru bwyta tamaid o fwyd yn araf. Rhaid ei thrin hi mwy.

Sunday, February 23, 2014

halen

Mae gen i friwiau'r geg ofnadwy o ddolurus ers dyddiau fel mae'n anodd siarad a bwyta hyd yn oed. Yr unig beth dw i'n medru bwyta ydy uwd, saws afal, iogwrt a phethau mewn ffurf hylif. Bydd cnoi bwyd yn achosi poen. Clywais heddiw gan ffrind sydd yn ddeintydd fod rhaid cadw cymysgedd o ddŵr a halen yn y geg am bum munud neu hirach sawl gwaith y diwrnod. Halen sydd yn lladd firysau. Dw i'n meddwl bod y driniaeth yn gweithio. Bydda i'n dal ati nes gwella.

Saturday, February 22, 2014

diwrnod twrnamaint

Diwrnod twrnamaint pêl-droed ysgol ydy hi heddiw. Daeth dau dîm i'n tref ni i chwarae gemau drwy'r dydd. Cafodd fy mab ifancaf chwarae'r rhan fwyaf o'r amser. Mi wnaeth o dda iawn gan ystyried mai'r flwyddyn gyntaf ydy o. Roedd o a'i mêt yn agos at y gôl unwaith ac aeth y bêl i mewn i'r rhwyd. Roedd y ddau mor agos at ei gilydd nad oedd yn amlwg pwy sgoriodd. Rhaid i mi ofyn i fy mab heno. (Mae o'n dal yn y cae.) Roedd yn gyfleus bod y cae mor agos at y tŷ. Enillon ni ddwy gêm allan o dair.

Friday, February 21, 2014

yr unig estron

Mae fy merch yn dal i fwynhau ei phrofiad newydd yn yr Eidal. Dim lle poblogaidd i dwristiaid ydy o er bod hi'n dref dwt a hardd sydd yn debyg mewn sawl agwedd i'r dref fy mam yn byw ynddi yn Japan. Ac felly does dim llawer o dwristiaid yno. A dweud y gwir, mae hi'n meddwl mai hi ydy'r unig estron bron. Pan roedd hi'n mynd o gwmpas yn ei chrys-t un diwrnod braidd yn gynnes, cafodd hi ei ofyn gan y trigolion ydy hi'n ymwelydd! Maen nhw i gyd yn gwisgo siacedi eithaf trwm. Mae pawb yn glên iawn beth bynnag, y teulu, ffrindiau'r teulu, yr athrawon eraill.

Wednesday, February 19, 2014

bara arbennig

Prynais fara hynod o flasus sawl tro mewn siop fach pan oeddwn i yn Fenis. Un tro pan es yno wedi'r dosbarth Eidaleg, roedd y siop ar gau nes 4 o'r gloch, ac felly es yn ôl cyn y dosbarth y diwrnod wedyn er mwyn sicrhau fy nhorth. Dw i newydd gael gwybod, diolch i Yvonne, bod y bara hwnnw'n cael ei grasu gan bobydd arbennig, sef Giulio Cortella sydd yn 93 oed! Edrycha' i ymlaen at fwyta un arall pan a' i i Fenis ym mis Mai.

Tuesday, February 18, 2014

dosbarth saesneg cyntaf

Ces i fy chat hir cyntaf ar Face Book efo fy merch y bore 'ma. Aeth y dosbarth Saesneg yn dda iawn ddoe. Cynorthwyydd i'r athrawes ydy hi, ac felly does dim pwysau trwm arni hi, ac eto mi fydd hi'n medru cyfrannu at y dosbarth yn fawr drwy gymryd mantais ar ei phrofiadau yn Corea. Dwedodd hi nad ydy'r plant yn medru canolbwyntio'n hir, ac mae'r athrawes yn gorfod gweiddi arnyn nhw'n aml. Mae hi'n mynd i ddefnyddio'r modd unigryw a ddyfeisiodd yn Corea, sydd yn cadw sylw plant wrth iddi eu dysgu nhw gan ddefnyddio anifeiliaid meddal a gemau. 

Monday, February 17, 2014

tiramisu dilys

Dechreuodd fy merch bostio lluniau ar Face Book. Dw i a'r teulu ynghyd ei ffrindiau'n eu mwynhau nhw'n fawr. Mae hi'n cael cynifer o sylwadau fel fy mod i'n ofni iddyn nhw ei chadw hi'n brysur yn eu hateb nhw. Ymunodd hi â chinio dydd Sul a barodd am bedair awr a chael bwyd Eidalaidd dilys gan gynnwys Tiramisu!

Sunday, February 16, 2014

ga' i weld o?

Jeli oedd yr 'o' ond nad oedd o'n goch fel jeli Begw ond jeli coffi. Dechreues i gymryd gelatin plaen bob dydd er mwyn fy lles. Fel arfer byddai'n ei gymysgu efo iogwrt ond penderfynais wneud jeli coffi mewn gwydr hirgoes fel gwnaeth mam Begw. Fe wnes i dywallt hufen melys arno fo cyn bwyta; roedd o'n flasus iawn. Mae o'n beth poblogaidd yn Japan.

Saturday, February 15, 2014

cyrraedd!

Dw i newydd glywed gan fy merch! Cyrhaeddodd hi'n ddiogel. Dwedodd fod y teulu'n glên iawn ac mae'r dref fach ddymunol yn ei phlesio hi'n fawr. Mae hi ar fynd i dŷ bwyta efo'r teulu i gael pizza Eidalaidd go iawn! Cenfigennus ydw i!

Friday, February 14, 2014

cychwyn

Mae fy ail ferch yn gadael am yr Eidal heddiw. Wedi dysgu Saesneg yn Japan a Corea, roedd hi adref am bedwar mis yn gweithio mewn siop drin gwallt tra oedd hi'n chwilio am gam nesaf. Bydd hi'n aros efo teulu lleol mewn tref fach sydd yn wynebu Môr Adria yn dysgu Saesneg iddyn nhw ac i blant mewn ysgol am dri mis. Yna mae hi eisiau teithio yn Ewrop gan ddiweddu ei siwrnai yn Lloegr cyn dod adref. Mae hi'n meddwl am fynd i De America  am sbel wedyn. Dw i'n edrych ymlaen at ddarllen ei blog a addawyd.

Thursday, February 13, 2014

cromen brunelleschi

Mae fideo ar gael bellach o'r diwedd. Cewch chi ei weld yn rhad ac am ddim gan PBS. Dw i newydd ei weld a ches ysgryd lawr fy nghefn. Dyn anhygoel oedd Brunelleschi. Mae'r gromen yn dal i sefyll yn gadarn. Edrycha' i ymlaen at ei weld ac at ddringo i'r ben.

Wednesday, February 12, 2014

y fedal arian

Llongyfarchiadau mawr i Ayumu! Enillodd y fedal arian. Hogyn arall o Japan a enillodd y fedal efydd; fedal aur i hogyn o Swistir; Shaun White a ddaeth yn y pedwerydd. Roedd yn hanner nos pan orffennodd y gystadleuaeth. "Ces i hwyl," meddai Ayumu. Rŵan mae o eisiau bwyta bwyd ei fam.

Tuesday, February 11, 2014

i'r rownd derfynol

Daeth Ayumu yn y cyntaf yn y rhagarweiniol, a bydd o'n mynd i'r rownd derfynol efo Shaun White a oedd yn y grŵp arall. Er bod o'n llithro tipyn bach ar y diwedd, cafodd sgôr uchel iawn. Roedd o'n ardderchog! Ces i ias lawr fy nghefn pan welais ei frig cyntaf. Dal ati Ayumu!

Monday, February 10, 2014

alberto arall

Alberto Angela dw i'n son amdano fo. Mae o'n gwneud llawer o bethau gan gynnwys paleontologist, awdur, newyddiadurwr. Ar raglen Ulisse ynglŷn Fenis a Florence gwelais fo am y tro cyntaf. Mae o'n teithio dros y byd a chyflwyno hanes, diwylliannau a mwy mewn modd hynod o ddiddorol. Cafodd ei eni yn Ffrainc ac mae o'n medru sawl iaith. Gan fod o'n siarad yn glir a chymharol araf, dw i'n hoffi gwrando arno fo er mwyn ymarfer gwrando a dysgu pethau newydd ar yr un pryd. 

Sunday, February 9, 2014

barclod wedi'i ailgylchu

Wedi gweld linc ar sut i wneud barclod gan ddefnyddio hen grys, penderfynais wneud un; mae yna hanner dwsin o hen grysau'r gŵr yn y cwpwrdd dillad. Dw i newydd orffen. A dweud y gwir, well geni fy un i a wnes i flynyddoedd yn ôl, ond dim ots. Mae'n braf cael ailgylchu hen grys ac mae gen i farclod sbâr bellach.

Saturday, February 8, 2014

trwch blewyn

Dw i newydd wybod (diolch i Bluoscar) bod yna gynllun i godi ysbyty modern yn Fenis yn y 60au. Gofynnwyd i bensaer enwog i gynllunio ysbyty enfawr ac fe wnaeth un anhygoel o fodern o goncrit. Fe fuodd farw cyn i'r cynllun wireddu fodd bynnag, a phenderfynwyd diddymu'r cynllun wedi'r cwbl. Na fyddai'r adeilad go fodern felly byth wedi gweddu'r ddinas hynafol fel Fenis. 

Friday, February 7, 2014

seren ifanc yn sochi

Mae o'n anhygoel. Dim ond 15 oed ydy o. Cafodd ei ddewis fel un o aelodau cenedlaethol Japan ar gyfer y gemau Olympaidd yn Sochi. Mae o'n "eirafyrddio ar hanner peipen." Dechreuodd y chwarae yn bedwar oed ac mae o wedi ennill nifer o fedalau mewn cystadlaethau rhyngwladol yn ddiweddar. Ayumu Hirano ydy'r enw. Pob hwyl iddo fo!

Thursday, February 6, 2014

ffarwelio i ferdinando

Fe fuodd farw Ferdinando Vianello'n 83 oed yn ddiweddar. Fo oedd y gondolier a rwyfodd y gondola ar gyfer y briodferch Irina Furstenburg yn 1955. Fe syrthiodd o ac Americanes o Boston mewn cariad yn Fenis pan aeth hi yno fel athrawes hanes celf efo'i myfyrwyr. Roedden nhw'n byw'n hapus yn Boston wedi priodi, ond roedd yn dymuno i gael ei gladdu yn Fenis. Ac felly bydd ei lwch yn dychwelyd at ei le genedigol.

Wednesday, February 5, 2014

dysgwr eidaleg arall

Mae fy ail ferch wrthi'n dysgu Eidaleg rŵan wrth weld y diwrnod i fynd yno agosáu. Cawson ni sgwrs sydyn yn Eidaleg o'r diwedd, ond roedden ni'n ddwy'n teimlo braidd yn swil a methais siarad yn dda. Dwedais wrthi hi am Alberto a dyma hi'n dechrau gwrando ar ei bodlediad yn syth. Falch o weld dysgwr arall manteisio ar y wefan ardderchog honno. 

Tuesday, February 4, 2014

cynghorion alberto

Dw i'n dal i ddilyn cynghorion Alberto o Italianoautomatico wrth ddysgu Eidaleg. A dweud y gwir, ddim dysgu llyfrau gramadeg dw i'n ei wneud, ond yn hytrach, dw i'n ei defnyddio pryd bynnag dw i'n cael cyfle drwy'r dydd - darllen erthyglau, gweld You Tube, gwrando ar bodlediad, sgrifennu sylwadau ar flogiau, popeth yn Eidaleg. Dw i'n ceisio gwneud dau beth ar yr un pryd os yn bosib - gwrando ar bodlediad tra bydda i'n gwneud y gwaith tŷ, gwneud ymarfer corf a gyrru; gweld You Tube yn ystod fy amser cinio ayyb. Dw i'n cadw dyddiadur ar bapur hefyd. (Rhoes y gorau i'r blog.) Yn anad dim, dw i ddim yn gwneud hyn i gyd oherwydd fy mod i'n gorfod ei wneud, ond oherwydd fy mod i'n mwynhau ei wneud.

Monday, February 3, 2014

hen siaced

Dw i newydd wnïo dau patch newydd ar siaced fy mab ifancaf. (Roedd yr hen patches yn edrych yn eithaf carpiog wedi nifer o olchi.) Hen siaced ydy hi a dweud y gwir; roedd ei dad yn gwisgo ers blynyddoedd. Prynodd hi dros 30 mlynedd yn ôl yn Japan. Er bod yna dyllau bach yma ac acw, mae hi mewn cyflwr da ar y cyfan. Roedd fy mab hynaf wedi ei gwisgo hi am sbel, a rŵan cafodd hi ei throsglwyddo i fy mab ifancaf. Mae o eisiau ei gwisgo hi nes i'r sip dorri.

Sunday, February 2, 2014

eira sydyn

Pan adawais y tŷ am 8 o'r gloch y bore 'ma, dim ond tipyn o blu eira a oedd yn disgyn ond dechreuodd fwrw o ddifri mewn oriau. Erbyn i mi a'r teulu adael yr eglwys, roedd popeth o dan flanced wen. Roedd gyrru'n beryglus iawn; falch iawn mai fy ngŵr a yrrodd, a dim fi! Pan gyrhaeddon ni fynedfa'n gymdogaeth, roedd y llethr mor llithrig fel methon ni fynd i fyny. Parcion ni lawer y ffordd a dechrau cerdded adref. Roedd yn siwrnai ofnadwy o oer oherwydd nad oeddwn i'n gwisgo'n addas ar gyfer cerdded yn yr eira. 

Saturday, February 1, 2014

pittima

Roedd o'n gwisgo clogyn coch a mwgwd gwyn. Byddai fo'n eich dilyn chi wrth weiddi arnoch chi nes i chi dalu'n ôl eich dyled. Na chawsoch chi ei atal neu ei anafu achos mai ei waith oedd hynny ac roedd o'n cael ei amddiffyn gan y gyfraith. Ganrifoedd yn ôl roddodd Gweriniaeth Fenis y dasg unigryw hon i'r tlodion fel modd i'w cadw nhw mewn gwaith. Gelwyd yn pittima. Mae'n swnio'n effeithiol a thipyn yn ddoniol, llawer gwell na chyflogi rhyw ddihirod.