Monday, September 29, 2008

ar felin draed



Wrth i alergedd yr hydref fynd o nerth i nerth, penderfynes i fynd i ganolfan ffitrwydd y brifysgol p'nawn ma i gerdded ar felin draed. Gas gen i'r teimlad chwap ar ôl stopio'r peiriant. (Oedd bron i mi syrthio heddiw!) Ac dydy cerdded arni ddim cystal â cherdded yn yr awyr agored, ond sgen i ddim dewis ar hyn o bryd.

Ac eto, rôn i'n teimlo'n braf tra mod i'n cerdded yn glou ^^.  Roedd 'na ddwy sgrîn deledu  fawr ar y wal, ond wrth gwrs dôn i ddim isio gweld rhaglenni Saesneg Americanaidd  ond gwrando ar fy CD Cymraeg. Ar ôl llai na hanner awr, roedd rhaid i mi fynd i gasglu'r plant dan adael Begw a Winni'n trafod darpariaeth Winni i fynd i Lundain i weini at y Frenhines Victoria. Mae'r sgîn yn dangos mod i'n cerdded 1.37 milltir am 23.56 munud a llosgi 117.4 calori.

Bydd rhaid i mi gychwyn yn gynt y tro nesa.

Saturday, September 27, 2008

rhaglen radio cymru

Dw i heb sylwi'r rhaglen hon ar Radio Cymru tan rwan, sef Wythnos Gwilym Owen gaeth ei darlledu ddydd Llun yr wythnos ma. In sgîl Taro 9 ar S4C, roedden nhw'n trafod y pwnc mawr gyflwynwyd gan Caryl Parry Jones am iaith plant Cymru.

Y beth mwya diddorol i mi ydy'r ffaith bod Elwyn Hughes a Heini Gruffudd yn cymryd rhan. I mi maen nhw'n cynrychioli'r Gogledd a'r De. Dw i ddim yn hoffi arddull y rhaglen a dweud y gwir. Rhaid i'r gwesteion bron i frwydro cael cyfle i siarad. A phwy bynnag sy gan lais ucha sy'n cael mynegi ei farn.

Wednesday, September 24, 2008

athro o abertawe


Mi ddaeth athro o Brifysgol Abertawe i'r brifysgol leol heddiw i annog y myfyrwyr yma i ddod i Gymru am dymor. Os enillan nhw'r ysgoloriaeth, mi gân nhw ddysgu yn Adran Addysg America ym Mhrifysgol Abertawe neu fod yn brentisiad yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Er nad oes gen i ddiddordeb yn y cynnig, roedd RHAID i mi fynd i'r sesiwn heb os. Mi gaeth fy nghlustiau sioc bob tro clywes i'r geiriau, "Wales" "Swansea" a "Cardiff." Dyma'r tro cynta erioed i mi weld unrhywun o Gymru yn y dre ma.

A dweud y gwir, Sais di-Gymraeg ydy Dr. Philip Melling, ond mae ei blant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Mi ges i gyfarfod efo fo ar ôl y sesiwn a chael sgwrs sydyn.

Dim ond llai na deg o fyfyrwyr yno, ac yn anffodus fydd neb yn dwad o Abertawe i ddysgu yma ar hyn o bryd. Felly dim Canolfan Fyfyrwyr Cymraeg yn ein ty ni am y tro.

Tuesday, September 23, 2008

tyllau o hyd


Dw i'n dal i ddarllen Tyllau. Bydda i'n darllen pennod yn Saesneg gynta, yna yr un bennod yn Gymraeg. Yn aml iawn bydda i'n cael fy synnu at grefft Ioan Kidd, y cyfieithydd.

e.e. Mae 'na stafell i'r hogia i ymlacio, ond mae'r rhan fwya o'r dodrefn wedi cael eu torri gynnyn nhw. Felly, cywirodd rhywun enw'r stafell o "rec room" i "wrec room." Ac sut mae dweud hyn yn Gymraeg? "ystafell orffwys" ac "ystafell orffwyll" !!

Mae 'na enghraifft dda o gymhlethdod atebion Cymraeg:
"Have you seen Zero?"
"No."
"No sign of him at all?"
"No."
"Do you have any idea where he went?"
"No."

"Wyt ti 'di gweld Zero?"
"Nagw."
"Dim golwg ohono fe o gwbl?"
"Naddo."  (Nage??)
"Oes gyda ti unrhyw syniad i ble aeth e?"
"Nag oes."

Dw i'n hoff iawn o'r story hefyd. Falch bod y nofel wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg.




Monday, September 22, 2008

walking stick


Mi ges i hyd i 'walking stick' ar y wal wrth y drws blaen bore ma. Pryfyn rhyfedd ydy o. Basai hi bron yn amhosib ei adnabod o tasai fo yn yr ardd. Mae rhai pobl yn cadw un yn bryfyn anwes. Mi fydd yn llawer haws gofalu amdano na moch cwta'n bendant.

Saturday, September 20, 2008

i-ffôn


Mae 'ngwr newydd brynu i-ffôn wedi'r pris gostwng hanner cant y cant bellach, ac mae o wrth ei fodd yn dysgu sut i ddefnyddio'r teclyn diweddara ar hyn o bryd. Dyfais anhygoel ydy hwn. Beth nesa, tybed.

Friday, September 19, 2008

grad student to study in wales

Dyma un o'r penawdau ar bapur y brifysgol yr wythnos ma. Mi gaeth myfyrwraig leol ysgoloriaeth i astudio diwylliant, hanes America ac yn y blaen ym Mhrifysgol Abertawe tan mis Rhagfyr. 

Mae'n syndod mawr gweld y gair "Wales" mewn papur lleol. Newyddion annisgwyl ydy hwn felly. Gobeithio eith popeth yn dda iddi.

Thursday, September 18, 2008

cyfrinach y bedd (o hyd)



Mi wnes i gyfarfod efo clerc y dre sy'n gweithio i adran y fynwent p'nawn ma, a chael copi o fap clwt Jones a Smith (teulu gwraig John B.) 

Dyma fo.  Rev. John Buttrick Jones (12/24/1834 - 06/13/1876)

Dydy ei fedd ddim lle ôn i'n meddwl i fod. Ond does mo'i garreg. Dim ond lle gwag.

Rhaid i mi gael gwybod mwy. Mi wnaeth y clerc ddweud fod 'na rywun yn y dre ma oedd yn ymchwilio am Evan a John! Dw i'n gobeithio siarad â hi.

Gyda llaw, roedd Joy, y clerc yn glên iawn. Roedd hi lawer mor chwilfrydyg â fi ac yn hapus rhoi'r gwybodaeth. Gofynodd i mi siarad Cymraeg hyd yn oed!

Diolch yn fawr iawn felly i chi, Joy! (Thank you very much, Joy!)

Wednesday, September 17, 2008

diwrnod braf

Mae Ike wedi dod ag awyr claear. Dan ni wedi cael tywydd braf (ar wahân i'r alergedd) wedi iddo fynd.

Mae'r plant yn cadw "hamming bird feeder" yn yr ardd. Creaduriaid twt ac anhygoel ydy'r adar ma. Mae'n ddiddorol gweld nhw'n "yfed" y dwr melys tra fyddan nhw'n arnofio yn yr awyr. Maen nhw'n fy atgoffa i o Tinkerbell. Neu ella bod Disney wedi cael y syniad gan yr adar bychain.

Tuesday, September 16, 2008

diwrnod owain glyndwr


Cyfarchion o Oklahoma i Gymry. Sgen i ddim baner Glyndwr, felly dyma'r Ddraig Goch. (Dim gwynt chwaith!)

Sunday, September 14, 2008

swper


Mi gaethon ni fyfyrwraig Japaneaidd i swper heddiw. Mae hi'n helpu fy ngwr efo'i ymchwil rhan amser. Mi wnes i bryd o fwyd Japaneaidd syml sef, "tori no soboro." Cig twrci mân efo saws soia. Mae o'n mynd ar reis efo wyau wedi 'u sgramblo. A chawl past soia. Mi ddaeth y fyfyrwraig â chacen fach flasus wnaeth hi ei hun.

Saturday, September 13, 2008

mae ike yn dwad

Mae Ike, corwynt newydd mwy nerthol na Gustaf wedi cyrraedd Texas. Rôn ni'n ei ddisgwyl dwad at ni yma yn nwyrain Oklahoma, ond mae'n ymddangos fod o'n cyfeirio tuag at orllewin Arkansas (lle mae fy mab yn byw ynddo!)

Fel arfer bydd corwyntoedd yn dechrau colli eu nerth ar ôl glanio ar diroedd, felly gobeithio mai dim ond glaw byddwn ni'n cael dros y Sul.

Friday, September 12, 2008

morton


Dw i wedi clywed llawer amdano fo. Myfyriwr Americanaidd ydy Morton heb unrhyw gysylltiad â Japan ar wahân i ei ffrindiau Japaneaidd. Ond mae 'na nifer o bobl yn dweud pa mor dda ydy ei Japaneg, a finna heb gyfarfod efo fo eto. Rôn i'n chwylfrydig dros ben.

Felly mi es i swyddfa fy ngwr y bore ma achos mod i'n clywed byddai fo'n dwad i siarad â fy gwr. Am syndod! Dim ond ers blwyddyn a hanner mae o'n dysgu Japaneg ond mae gynno fo acen naturiol er fod o ddim yn hollol rugl. Mae o'n dysgu Tseineg, Coreaeg a Fietnameg hefyd. Mae'n amlwg bod gan rhai pobl ddawn dysgu ieithoedd.

Thursday, September 11, 2008

penblwydd blog

Wnes i ddim yn fwriadol o gwbl ond  ar Fedi 11eg flwyddyn yn ôl dechreues i sgwennu fy mlog.

Dw i wedi bod yn mwynhau'r profiad yn llwyr. Dw i'n cael ymarfer sgwennu Cymareg tra mod i'n cael boddhad gweld fy narnau wedi 'u hargraffu. Hyfryd cael cysylltu â fy ffrindiau a gwneud rhai newydd.

Diolch yn fawr i chi i gyd sy'n darllen fy mlog. Ac dw i'n gwerthfawrogi pob sylw. (Dw i erioed wedi cael sylwadau cas ar wahân i rai wnaeth ceisio rhoi firws i mi.)

Wednesday, September 10, 2008

tymor alergedd yr hydref

Mae tymor alergedd yr hydref wedi cychwyn. Mae'r "pollen trend" yn y dre gan ragolygon y tywydd wedi bod yn uchel ers dyddiau. Dw i'n teimlo fel tasai'r tymor diwetha yn gorffen yn ddiweddar.  Mi fydda i a'r rhan fwya o'r teulu'n diodde am wythnosau tan y gaeaf.

Monday, September 8, 2008

embarrassing

Mae Elwyn Hughes yn dweud bod 'na ddim gair Cymraeg sy'n medru mynegi'r teimlad mor effeithiol â 'embarrassing.' Dw i ddim yn siwr ydy pawb yn cytuno â fo ond rôn i mewn sefyllfa heddiw oedd yn haeddu'r gair ma.

Mi roies i fy ngherdyn credyd a fy nhrwydded yrru i'r clerc yn swyddfa'r post i dalu. Hyny ydy rôn i'n meddwl mai fy nhrwydded yrru roies i. Mi roiodd o dderbynneb i mi arwyddo arni. Dyma sylwi am y tro cynta mai cerdyn y llyfrgell wnes i roi iddo! Ond roedd y clerc yn glên. Dwedodd o fod o wedi fy ngweld i'n ddigon aml fel doedd o ddim rhaid iddo ofyn am fy mhrawf adnabod.

'Embarrassing' I'r dim. Allan a fi'n gyflym wrth deimlo'r gwres ar fy wyneb.

Sunday, September 7, 2008

pot lwc eto


Dw i'n ofni bod pobl yn meddwl bod ni ddim yn gwenud dim byd ond cael pot lwc yn ein eglwys ni. Mi gaethon ni un arall dros y myfyrwyr Japaneaidd heddiw beth bynnag.

Roedd 'na fwy na digon o bwyd da gan gynnwys bara Indiaidd. Mi wnes i fethu fy un i yn anffodus. Dim llun ohono fo felly.

Dyma lun o'r bwrdd pwdin. Cacen afal pîn oedd yr orau yn fy marn i.

Saturday, September 6, 2008

penblwydd arall


Penblwydd fy nhrydedd merch ydy hi heddiw. Mi gaeth hi ei geni Ddydd Gwyl Llafur 15 mlynedd yn ôl. Wir i chi. Wnaeth hi ddim crio o gwbl ar ôl cael ei geni. Dim ond gwneud swˆn bach roedd hi.

Mi wnes i gacen fefys eto. Roedd hi'n dda fel chi'n gweld.

Friday, September 5, 2008

lle mae bedd John?

Mae Dr. Hunter yn credu bod bedd John B. Jones yn Denver. Ond beth am fap y fynwent? A hanes First Baptist Church?

Mi es i lyfrgell y brifysgol y bore ma i chwilio am erthyglau hen papur newydd ar ficroffilm. Dwedodd yr erthygl mai yn Denver mae bedd John hefyd. Mae 'na rester gladdu mynwent y dre ma yn y llefrgell. OND fe'i chychwinir ar ôl y flwyddyn fu farw John!

Dw i'n dal wrthi. Mi wnes i yrru e-bostiau i'r eglwys a Chenedl Cherokee. Gobeithio ca i glywed oddi wrthyn nhw.

Wednesday, September 3, 2008

cwrs pellach eto

Dw i'n cael ail-ddechrau Cwrs Pellach trwy'r post heddiw ar ôl gwyliau haf y tiwtor. Dim ond tri uned sydd ar ôl. Dw i wedi bod yn mwynhau'r cwrs ma'n fawr. Mae o'n fwy effeithiol na dosbarthiadau cyffredin yn fy marn i. Wrth gwrs chewch chi ddim cyfleoedd i siarad â'r bobl eraill, ond mi gewch chi ddysgu popeth arall yn dda.

Monday, September 1, 2008

blas o america


Gan fod fy mab oedd yn arfer torri'r lawnt wedi adael adre, mi wnaeth y gwr ofyn i un o'r myfyriwyr Japaneaidd ein helpu ni. Roedd o'n hapus gwneud y gwaith efo fy ngwr. Mi gaeth o flas o America heno felly. Dydy nhw ddim yn cael gweithio am gyflog oherwydd y deitheb. Felly mi wnes i roi swper iddo fo.