Thursday, April 30, 2020

iris cyntaf

Dyma fy iris cyntaf i'n blodeuo'n swil. Tipyn bach yn hwyrach nag arfer oherwydd y gwanwyn oeraidd efallai. Maen nhw'n ddel fodd bynnag. Mae mwy i'w dilyn. Edrycha' i ymlaen.

Wednesday, April 29, 2020

72 oed

Penblwydd hapus i Israel yn 72 oed! Mae eu bodolaeth yn profi ffyddlondeb Duw. 

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.” Genesis 12:3

Tuesday, April 28, 2020

y cam cyntaf

Cafodd y gŵr dorri ei wallt (yn broffesiynol) y bore 'ma am y tro cyntaf ers i'r siopau gau oherwydd Coronafeirws. Rhoddodd Llywodraethwr Oklahoma ganiatáu i'r busnesau gofal personol agor eu drysau'r penwythnos diwethaf ymlaen. Falch iawn i weld y cam cyntaf i'r gymdeithas fynd yn ôl i normal. 

Monday, April 27, 2020

98 oed

Mae fy mam yn Japan newydd droi'n 98 oed. Mae hi wedi gweld newidiadau anhygoel yn y gymdeithas. Hanes byw ydy hi. Roedd hi bob amser yn sionc yn ei hysbryd er gwaethaf anhawster cerdded, ond mae hi'n eithaf dryslyd yn ddiweddar. Efallai bod gan yr ynysu oherwydd Coronafeirws effaith ddrwg arni hi. Mae fy nhair merch yn barod i ymweld â hi cyn gynted ag y bydd yr ynysu'n cael ei gostwng.

Saturday, April 25, 2020

mwy o flodau

Mae Irisau hardd yn y gymdogaeth yn eu hanterth. Dw i'n eu hedmygu nhw bob tro bydda i'n cerdded wrth yr ardd. Maen nhw'n edrych fel gwragedd Japaneaidd mewn kimono yn sefyll gyda'i gilydd. Bydd fy rhai i yn blodeuo cyn hir.

Friday, April 24, 2020

sukeroku

Mae fy merch hynaf newydd orffen ei phaentiad newydd, sef Sukeroku a berfformiwyd gan Ebizo. Mae hi'n gwirioni ar Kabuki ers iddi weld un yn Japan ym mis Ionawr. Ebizo ydy ei hoff actor. Mae hi'n benderfynol o ddysgu a phaentio'r holl ddeunaw Kabuki gorau sydd gan gysylltiad cryf â fo.

Thursday, April 23, 2020

oklahoma yn ail agor

Mae'r Llywodraethwr Stitt newydd gyhoeddi y byddai Oklahoma yn ail agor y busnesau fesul cam gyda rhyw gyfyngiadau'r penwythnos hwn ymlaen! Hwrê! Y sector gofal personol bydd yn gyntaf. Bydd sectorau eraill yn dilyn Mai 1 gan gynnwys eglwysi. Cawn wasanaethau boreol yn berson Mai 3 am y tro cyntaf ers wythnosau. Fe wnaeth y gŵr apwyntiad gyda'i farbwr yn barod.

Tuesday, April 21, 2020

fideo dysgu saesneg

Dwy wythnos wedi i fy nwy ferch ddechrau gweithio mewn ysgol feithrin yn Tokyo, caeodd ei drws nes Mai 6 oherwydd Coronafeirws. Dydyn nhw ddim yn gwastraffu amser gartref fodd bynnag. Roedden nhw wrthi'n cynhyrchu fideo ar gyfer y plant a'u rhieni yn yr ysgol. Dyma'r canlyniad. Gobeithio y bydd y fideo'n eu bendithio, a chodi eu calonnau yn ystod yr amser anodd.

Saturday, April 18, 2020

elfen hwyl

Mae'n anodd gwahanu'r Americanwyr rhag synnwyr hwyl hyd yn oed yn ystod argyfwng. Wrth gyfyngiadau cymdeithasol yn parhau, mae rhai'n ychwanegu elfen hwyl at beth annifyr. 

Friday, April 17, 2020

mae yna achubwr

Deffrais am chwarter i bedwar o'r gloch y bore 'ma, a methu mynd yn ôl i gysgu (eto!) Daeth cân ata i tra oeddwn i'n ceisio cysgu'n ofer, a dyma ei ffeindio yn Youtube, a gwrando arni sawl tro yn y gwely. Mae yna Achubwr gan Keith Green ydy'r gân. Codais am hanner awr wedi pump gyda'r alawon yn fy mhen.

Thursday, April 16, 2020

pen-blwydd hapus

Pen-blwydd hapus i'r Frenhines Margrethe o Ddenmarc! Mae hi'n 80 heddiw. Roedd llawer o Ddaniaid yn helpu'r Iddewon yn Nenmarc yn ystod yr Holocost. Tlws a wnaed ar ôl ei henw ydy hwn. Rhoddwyd i mi gan lywydd cwmni o Ddenmarc yn Tokyo roeddwn i'n gweithio drosto flynyddoedd yn ôl.

Tuesday, April 14, 2020

pasio'r baton

Rhaid bod y blodau'n cael eu synnu gan y tywydd braidd yn oeraidd yn annisgwyl yn y tymor hwn yn Oklahoma. Mae ein Lili'r Dyffrynnoedd ni druan, fodd bynnag, yn dal eu tir er gwaethaf popeth. Maen nhw'n olynu'r asalea sydd wedi pasio eu hanterth.

Monday, April 13, 2020

bendith

Ces i ynghyd â'r gŵr a'r mab ifancaf Ddiwrnod Atgyfodi bendithiol gartref ddoe wrth gofio beth wnaeth Duw dros y byd. Aeth ar y groes i dalu am ein pechodau ni; talodd yn llawn. Yna atgyfododd yn curo marwolaeth, a rhoi i ni obaith tragwyddol. Gwrandawon ni sawl cân a phregeth ar lein. 

Cafodd fy wyrion yn Texas hwyl yn casglu wyau plastig yn y tŷ ar ôl gwasanaeth cartref. Nid melysion oedd yn y wyau ond anifeiliaid plastig bach bach. Syniad da!

Sunday, April 12, 2020

haleliwia

Dywedodd yr angel ar eistedd ar y maen fod Crist wedi atgyfodi oddi wrth y meirw yn union fel y dywedodd y byddai.
Llawenydd i'r byd, mae e wedi atgyfodi!
Haleliwia

Saturday, April 11, 2020

canlyniad cadarnhaol arall

Collodd brawd y gŵr ei waith yn Caesars Palace am y tro pan gaeodd Talaith Nevada'r casinos i gyd fel mesur i frwydro yn erbyn Coronafeirws. Roedd o'n gweithio yn y nos a phrin o gwsg bob amser, ond o'r diwedd mae o'n cael digon o amser i gysgu, gweithio o gwmpas y tŷ. Mae ganddo amser i feicio a oedd yn ei ddiddordeb mawr o'r blaen. Dyma ei feic annwyl a oedd yn arfer beicio  arno fo am 50,000 o filltiroedd.

Friday, April 10, 2020

dydd gwener y groglith

Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, “Gorffennwyd.” Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd. Ioan 19:30

Gorffennwyd - "Talwyd yn llawn" yn iaith wreiddiol y Testament Newydd - Talodd Iesu yn llawn am ein pechodau ni. Does dim byd inni wneud i ychwanegu at ei waith gorffenedig, ond ei dderbyn yn ddiolchgar ar ein gliniau.

Thursday, April 9, 2020

datrysiad i'r pandemig

"Mae angen i ni dreulio'r amser hwn o ynysu oddi wrth wrthdyniadau'r byd a chael adfywiad personol wrth ganolbwyntio ar yr unig beth yn y byd sy'n wirioneddol bwysig, sef Iesu." - Hulk Hogan

Cytuno'n llwyr â Thunderlips!

"ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad." 2 Cronicl 7:14

Wednesday, April 8, 2020

mynd heibio

"Maen nhw i gymryd peth o'r gwaed a'i roi ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws i'r tŷ lle byddan nhw'n ei fwyta." 

Bydd y Passover yn cychwyn heno. Mae'n anhygoel gweld y gydberthynas rhwng yr hyn a wnaeth Duw yn y Passover cyntaf a'r hyn a wnaeth Iesu dros fil o flynyddoedd wedyn. Byddwn ni'n darllen Exodus 12 yn lle gwneud Seder heno.

Tuesday, April 7, 2020

effaith gadarnhaol y feirws

Wrth i'r bywyd beunyddiol fynd yn fwy cymhleth oherwydd y feirws, mae effaith gadarnhaol hefyd. Mae pob man yn anhygoel o lanach nag erioed; mae'r mab ifancaf yn cael aros adref ac astudio ar lein. Cafodd niwmonia ym mis Chwefror, ac er ei fod o wedi gwella, mae o'n dal i geisio ennill ei nerth yn ôl. Dw i'n medru ei helpu gan goginio bwyd maethlon. Mae o newydd gael ei ganmol gan ei ddietegydd ar ei ddyddiadur bwyd.

Monday, April 6, 2020

bod yn greadiol

Wedi i'r gampfa wedi cau, roedd y gŵr yn defnyddio'r offer mewn maes chwarae er mwyn gwneud ymarfer tynnu i fyny. Bellach mae'r meysydd chwarae wedi cau hefyd. Dyma fo'n penderfynu creu bar tynnu i fyny yn yr iard. Doedd ganddo ddim syniad sut, ond mae popeth ar gael ar YouTube. Ar ôl gwylio sawl fideo, roedd wrthi ddoe. Yn anffodus, roedd y bambŵ a gafodd gan ei ffrind yn rhy denau; mae o'n mynd i ofyn am un mwy heddiw.

Saturday, April 4, 2020

technoleg fodern

Wrth anogaeth i aros gartref barhau, dw i'n gweld pa mor gyfleus ydy technoleg fodern. Mae'r mab yn astudio cyrsiau'r coleg ar lein ers wythnos; dw i a'r teulu'n cynnal gwasanaeth boreol ddydd Sul wrth wrando ar bodlediad ein gweinidog; mae prydau o fwyd ar gael i archebu, ac yn y blaen.

Friday, April 3, 2020

gwarcheidwad

Gwibdaith arall i Walmart - Roedd yna sawl newid; caewyd un o'r ddau ddrws, ac roedd llwybr cul i'r mynediad fel y cwsmeriaid yn mynd i mewn un ar y tro. Roedd arwyddion yn dweud am gadw draw oddi wrth y lleill, a phrynu ond un paced o rhai bwydydd. Wrth gwrs bod yna staff ym mhob man yn diheintio popeth. Y peth gorau i weld oedd gwarcheidwad papurau toiled! Roedd o'n rhoi un pecyn i un cwsmer ar y tro, a doedd neb yn cael mwy nag un. Dwyieithog oedd hyd yn oed. Dylai Walmart fod wedi gwneud hyn gynt i atal prinder.

Wednesday, April 1, 2020

mewn pryd

Cafodd fy nwy ferch yn Japan wyliau bendigedig yn Shuzenji, nid nepell o Tokyo yr wythnos diwethaf, wrth gymryd gofal yn erbyn Coronafeirws fel pawb arall. Roedd popeth mor ddiddorol a swynol i fy merch ifancaf a oedd newydd symud i Japan. Dyma nhw'n mwynhau bath troed, wedi blino'n lân yn cerdded o gwmpas. Y diwrnod wedi iddyn nhw fynd adref, cyhoeddodd Llywodraethwr Tokyo ganllaw newydd sydd yn gofyn i'r trigolion beidio â mynd allan os nad oes angen!