Saturday, August 31, 2013

tri phenblwydd

Mae wythnos benblwydd wedi cyrraedd. Mae gan dri o fy mhlant eu penblwyddi ar y 6ed, 7fed ag 8fed mis Medi, ond fe wnaethon ni eu dathlu nhw heddiw wrth i fy mab hynaf ddod adref dros benwythnos Labor Day.  Eleni crasais cup cakes yn lle cacennau mawr yn ôl awgrym fy merched. Agoron nhw ran o'u hanrhegion yn barod ac maen nhw'n chwarae efo'i gilydd rŵan. Dan ni'n mynd i dŷ bwyta nes ymlaen, bwyd Tsieineaidd efallai. 

Friday, August 30, 2013

y ras gyntaf

Cynhaliwyd ras redeg gyntaf y tymor ymysg yr ysgolion uwchradd yn yr ardal ddoe. Roedd hi'n ras gyntaf i fy mab ifancaf ers iddo ymuno â'r tîm yr haf 'ma. Rhedodd cannoedd o fechgyn a merched bedwar cilomedr ger yr ysgol leol. Er bod hi wedi dechrau am chwech o'r gloch, roedd hi'n boeth iawn a'r rhedwyr yn chwysu'n ofnadwy. Fe wnaeth ein hysgol ni'n dda iawn a chipiwyd y lle cyntaf gan un o'n hogia ni.

Thursday, August 29, 2013

the count of monte cristo

Hon ydy'r nofel dw i wrthi'n darllen ar hyn o bryd. Am ryw reswm neu beidio roeddwn i'n cofio fod fy ail ferch yn ei darllen flynyddoedd yn ôl, dyma ddechrau arni. Gan fod y fersiwn wreiddiol yn rhy hir i mi (900 o dudalennau,) dw i'n darllen un wedi'i chwtogi. Rhaid cyfaddef bod rhai penodau braidd yn ddiflas, ond mae'r lleill yn hynod o ddiddorol. Mae yna ddwsinau o ffilmiau sydd yn seiliedig o'r nofel mewn sawl iaith. Dw i newydd ddod o hyd i hen fersiwn Eidaleg (1966.) Mae hi dipyn yn rhy araf fel y nofel, ond dw i'n ei mwynhau beth bynnag. Mae'r actor sydd yn chwarae rhan Edmond Dantes - Andrea Giordana - yn edrych fel Ioan Gruffudd.

Wednesday, August 28, 2013

methu dianc

Cafodd dyn heb docyn cywir ei atal gan staff menywaidd ifanc wrth borth gorsaf trên yn Japan ddoe. Curodd ei hwyneb er mwyn dianc ond methu - cafodd ei daflu dros ei hysgwydd a chael ei ddal gan y staff eraill ar unwaith. Doedd o ddim yn gwybod bod gan y ferch wregys du Judo! 

Tuesday, August 27, 2013

sioc

Dw i'n darllen papur newydd Japaneg bob bore ar lein. Mae'n braf cadw mewn cysylltiad efo fy ngwlad enedigol ac mewn modd mor gyfleus. Yn aml iawn dw i'n cael gwybod pethau amrywiol diddorol er bod yna ddigon o erthyglau o safbwynt rhagfarnllyd fel pob papur arall. Yr hyn sydd yn fy nharo weithiau ydy pa mor hen yr actorion yn edrych - rhai dw i'n arfer eu gweld ar y teledu amser maith yn ôl. Does ryfedd a dweud y gwir gan mai chwarter canrif yn ôl gadawais Japan, ond sioc ydy hyn beth bynnag.

Monday, August 26, 2013

rhaglen radio

Dw i'n hoffi gwrando ar radio wrth smwddio. Mae gan Radio Cymru ddewis eang diddorol, ond dw i'n methu dod o hyd i raglenni da yn Eidaleg. Heddiw fodd bynnag, des ar draws rhaglen debyg i Feti a'i Phobl - a tu per tu; mae'r cyflwynydd yn cyfweld un gwestai am y tro am hanner awr. Gan nad oes brys arnyn nhw fel mewn cyfweliadau sydyn, maen nhw'n siarad yn gymharol araf. Mae'n braf clywed cyflwynydd sydd ddim yn torri ar draws ei westai. Nano Campeggi oedd y gwestai diweddaraf. Gwrandawais ar ei hanes wrth smwddio chwe chrys y gŵr y bore 'ma.

Sunday, August 25, 2013

yr wythnos olaf

Bydd fy ail ferch yn Japan ddydd Sadwrn. Mae hi'n dysgu Saesneg yn Corea ers mis Mai'r llynedd a hon ydy ei wythnos olaf yno. Er bod y gwaith yn ofnadwy o galed, cafodd amser gwerthfawr ac mae hi wedi cyfarfod llawer o bobl glên. Dw i'n siŵr bydd yn anodd ffarwelio â nhw ond mae'r amser wedi dod. Bydd hi'n dysgu Saesneg yn Japan am fis ac wedyn dod adref. Dw i a'r teulu i gyd yn edrych ymlaen at ei gweld hi cyn hir.

Saturday, August 24, 2013

hen siop fach

Mae gynnon ni hen hardware store yn y dref. Er bod yna ddwy siop DIY fawr, mae'r siop fach yn dal i sefyll. Dw i'n siŵr mai eu gwasanaeth personol sydd yn cadw'r cwsmeriaid ffyddlon. Maen nhw'n barod i roi cynghorion pryd bynnag oes gynnoch chi gwestiynau ac mae'n ymddangos bod ganddyn nhw bopeth dach chi eisiau rhywle yn y siop sydd yn orlawn o filoedd o nwyddau ar y silffoedd ac ar y llawr. Ces i wybod ar ddamwain yn ddiweddar bod un o'r staff yn hogi cyllyll fel hobi. Dyma fynd â fy nghyllell gegin bŵl ato fo ddiwrnod cynt, a heddiw derbyniais i hi'n ôl. Mae hi'n finiog! Gwrthododd gael ei dalu'n gyndyn. Dw i'n mynd â bisgedi iddo fo ryw dro.

Friday, August 23, 2013

creu ewyn

Dw i'n colli cappuccino a ges i bron bob bore yn sefyll wrth gownter siop goffi in Fenis. Roeddwn i'n trio creu ewyn tebyg ond mae'n anodd heb y peiriant. Torrodd ein frother fisoedd yn ôl a dw i ddim eisiau prynu un arall. Mae rhai'n argymell modd neu ddau ar y we, ond y peth sydd yn gweithio heb ddefnyddio dim byd arbennig ydy hyn: ysgwydwch yn dda creamer hylifol yn ei botel (un funud o leiaf) HEB ei dwymo, a thywalltwch fo ar y coffi yn syth. Yn naturiol bydd yn fwy effeithiol os ydy'r botel yn hanner gwag. Yna rhaid yfed y coffi cyn i'r ewyn ddiflannu.

Thursday, August 22, 2013

damwain arall

Mae'r mab ifancaf yn aelod o glwb cross country ac mae o'n rhedeg efo'r tîm a'u hyfforddwr bob dydd hwyr yn y prynhawn. Fel arfer mae bws yr ysgol yn eu cludo nhw i bell iddyn nhw gael rhedeg ar ffyrdd gwledig. Torrodd y bws ar ei ffwrdd yn ôl ddoe, ac roedd y tîm yn gorfod aros am fws arall am ddwy awr. Doedd gan neb ffôn symudol ar wahân i'r gyrrwr ac un neu ddau gan mai rhedeg roedden nhw. Ces i a'r teuluoedd eraill dw i'n siŵr amser pryderus nes i'r tîm ddod yn ôl i'r ysgol. Roedd y mab yn rhy flinedig i orffen ei waith cartref neithiwr, ond gobeithio bydd yr aelodau'n derbyn trugaredd gan yr athro mathemateg; y fo ydy hyfforddwr y clwb.

Wednesday, August 21, 2013

finegr

Tra oedd y gŵr yn adeiladu bwrdd o flaen y tŷ, cafodd ei bigo gan wenyn. Daeth i mewn ar unwaith yn gofyn am finegr. Y cymorth cyntaf a ddysgodd yn ei blentyndod ydy hyn. Dyma roi darn o gotwm wedi'i lenwi efo finegr ar y sbotyn poenus. Mewn munudau (llawer hirach iddo fo efallai!) roedd o'n dechrau teimlo'n well. Mae hyn gweithio bob tro.

Tuesday, August 20, 2013

y risotto cyntaf

Ces i risotto asbaragws blasus yn Fenis er ei fod o allan o fag ac y fi a goginiodd yng nghegin y llety. Des o hyd i ryw fagiau a hyd yn oed reis o'r Eidal mewn siop leol yn annisgwyl. Prynais y reis efo rysáit ar y cefn gan ei fod o'n llawer rhatach na'r llall. Dyma goginio fy risotto cyntaf i swper - risotto efo nionyn, olew olewydd, menyn, isgell a chawl Parmesan. Roedd yn flasus iawn, a chydfynd yn dda efo gwydraid o Bellini. 

Monday, August 19, 2013

plât oer

Wrth i'r tywydd anarferol o boeth barhau yn Japan, dechreuodd tŷ bwyta gynnig saig unigryw sef powlen o reis, wy a llysiau efo iâ wedi'i falu. Mae yna beth tebyg efo dŵr poeth, ond hollol newydd ydy'r syniad o ddefnyddio iâ. Swnio'n flasus a dw i'n siŵr doith â chwa o awyr iach at y bobl sydd yn dioddef o wres.

Sunday, August 18, 2013

dim lle diogel

Echdorrodd un o'r llosgfynyddoedd mawr yn Ne Japan. Roedd dyna'r 500 tro eleni a mwyaf ers tua 60 mlynedd. Mae'r mynydd yn dal i wasgaru lludw ar yr ardaloedd o'i gwmpas. Clywais fod rhai pobl wedi symud i'r De ar ôl y trychineb yn y gogledd ddwy flynedd yn ôl. Does dim lle hollol ddiogel ar y ddaear.

Saturday, August 17, 2013

damwain

Roedd yna ddamwain ofnadwy yn Fenis heddiw a laddodd Almaenwr ar Gamlas Fawr. Cafodd gondola a oedd yn cludo teulu Almaenaidd ei tharo gan fws dŵr a geisiodd osgoi bws arall. Y tad a gafodd ei ladd. Mae'r gamlas yn orlawn efo bysiau dŵr, chychod a gondolâu yn ystod y dydd. Dw i ddim yn gwybod oes 'na reol i gadw trefn, ond mae angen rhywbeth effeithiol yn fuan cyn i drychineb arall ddigwydd.

Friday, August 16, 2013

wyneb ci

Mae gan fy merch hynaf gi annwyl. Mae hi'n gwirioni arno fo fel basai fo'n fab iddi. Mae o'n gi clyfar iawn mewn gwirionedd ond dipyn yn ofnus. Pan fydd o'n cyflawni rhywbeth,  (llwyddo i wynebu ci arall heb droi'n ôl, i neidio dros grât garthffos ar y stryd ac yn y blaen) fydd ganddo olwg falch ar ei wyneb, dwedodd fy merch. Gofynnais sut olwg. Yna, tynnodd hi fraslun sydyn i esbonio. Mae o'n wir edrych yn falch efo fo ei hun!

llun uchaf: balch
llun isaf: arferol



Thursday, August 15, 2013

tokyobling wrthi

Mae gan Japan dywydd llawer poethach nag arfer yr haf 'ma. Er gwaetha'r gwres bodd bynnag, mae dawnswyr a chefnogwyr Awaodori wrthi'n dawnsio a gwylio'r ddawns. Diolch i Tokyobling am ei blog diflino; cewch chi deimlo'r cynnwrf drwy ei luniau ardderchog. Byddwn i eisiau gweld gorymdaith neu ddwy heb os pe bawn i'n mynd i Japan yn yr haf.

Wednesday, August 14, 2013

traed glas

Darllenais ar Facebook am fodd unigryw i drin y traed efo cymysgedd o gegolch, fineg a dŵr. Roeddwn i'n mwydo fy nhraed yn yr hylif am ddeg munud. A dweud y gwir, dw i ddim yn siŵr ydw i wedi llwyddo neu beidio. Mae fy nhraed yn teimlo'n lân o leiaf ac mae ganddyn nhw ogla ffres, ond maen nhw wedi troi'n las, yn enwedig o gwmpas yr ewinedd! (Fe brynais gegolch glas yn ôl beth ddwedodd yr awdur.) Gobeithio na arhosith y lliw.

Tuesday, August 13, 2013

prosiect mawr

Mae gwyliau haf yr ysgol yn dirwyn i ben. Dw i'n meddwl bod fy mhlant wedi cael amser braf yn gwneud pethau creadigol yn aml. Prosiect mawr i'r merched oedd gwnïo dillad cyflawn Nyrs Sybil Crawley yn rhaglen Downton Abbey. Mae'r plant ynghyd eu ffrindiau wedi bod yn gwirioni ar y rhaglen honno; prynodd y merched ddillad gwely ail-law a chynllunio a gwnïo'r dillad yn ôl lluniau'r rhaglen ar y we. Cymerodd yr holl wyliau i gwblhau popeth. Dw i eisiau eu canmol am eu creadigrwydd a dyfalbarhad. Y cwestiwn nesa ydy beth maen nhw'n mynd i wneud efo'r dillad?

Monday, August 12, 2013

car newydd

Ddim yn newydd sbon ond newydd i ni. Pan oedd y gŵr yn Hawaii, prynodd gar ei fam; dydy hi ddim yn medru gyrru bellach oherwydd cyflwr ei hiechyd. Teithiodd y car ar y llong o Hawaii i Los Angeles, a hedfanodd y gŵr i'w nôl. Gyrrodd ryw 1,500 o filltiroedd dros sawl talaith ac mae o newydd ddod adref yn ddiogel. Cymerodd dri diwrnod. Mae'r car yn braf iawn. Does fawr o "mileage" arno fo (ar wahân i'r 1,500 milltir) ac mae o mewn cyflwr ardderchog. Gobeithio y bydd o'n ein gwasanaethu amser hir.

Sunday, August 11, 2013

siwrnai ffrind

Dw i newydd glywed bod ffrind i mi yn y dref hon yn gadael am Ewrop efo ei chwe chyfnither mewn wythnosau; maen nhw wrthi'n cynllunio eu siwrnai. Byddan nhw'n ymweld â Llundain, Paris, Prâg, Rhufain, Fenis a mwy. Mae pob un yn gyfrifol am un ddinas ac arwain y lleill. Syniad unigryw a diddorol, ond mae ganddyn nhw bythefnos yn unig am bopeth. Tra fy mod i'n gobeithio y cân nhw amser gwych, fyddwn i ddim eisiau gwneud yr un peth - ymweld â chynifer o wledydd mewn amser byr ac efo grŵp. Byddai well i gen i deithio ar ben fy hun i ardal neu ddwy ac aros yno cyhyd ag y medrwn i. 

Saturday, August 10, 2013

rhagolygon y tywydd

Mae gweld/clywed rhagolygon y tywydd yn fodd braf i ddysgu iaith arall oherwydd cewch chi ddychmygu beth mae'r person yn ei ddweud heb ddeall popeth. Dw i wedi sylweddoli gwahaniaeth diddorol rhwng rhagolygon y tywydd Japaneaidd ac un Eidalaidd.  Mae'r ferch Japaneaidd yma'n hollol ddifrifol ac mae hi bron yn ddisymud wrth iddi adrodd y tywydd. I'r gwrthwyneb, mae'r Eidales hon yn llawn o egni ac ystum; mae hyd yn oed y cyfarwyddwr yn ymddangos i ddweud cellwair sydyn. 

Friday, August 9, 2013

rhestr bacio

Darllenais ar y we fod rhai pobl yn pacio eu bagiau deg munud cyn cychwyn y siwrnai. Bydda i'n gwneud rhestr bacio ar sail un sylfaenol wythnos neu ddwy ymlaen llaw. Yna, bydda i'n dechrau casglu pethau o dipyn i beth dyddiau cyn yr ymadawiad; byddai'n cwblhau popeth y noson olaf. Wedi gwneud siwrneiau rhyngwladol sawl tro, dw i wedi dysgu gwers a cheisio teithio'n ysgafn. Ac eto, cymrith ddyddiau o gynllunio gofalus; fedra i ddim dychmygu gwneud popeth yn y munud olaf.

Thursday, August 8, 2013

mynd ar goll

Prin fy mod i'n gyrru tu allan y dref fach hon oherwydd dw i'n hollol anobeithiol ar ffyrdd anghyfarwydd. Weithiau, bodd bynnag, dw i'n gorfod mynd i'r maes awyr Tulsa. Fy merch sydd yn gyrru a dw i'n ei helpu a dweud y gwir. Chychwynnon ni am bump y bore 'ma. Aeth popeth yn iawn am hanner awr wedi gadael y maes awyr. Yna ffeindion ni fod y draffordd tuag at ein tref ar gau oherwydd gwaith atgyweirio. Aethon ni i gyfeiriad arall am sbel a sylweddoli bod ni ar goll yn gyfan gwbl. Roedd rhaid ffonio'r gŵr a chael cyfarwyddiadau byw wrth iddo edrych ar ei iPad. Yn y diwedd llwyddon ni ffeindio'n ffordd ni adref a dw i'n cael adrodd fy hanes rŵan.

Wednesday, August 7, 2013

tŷ totoro

Mae o'n union fel y tŷ yn y ffilm. Roedd y Cyfarwyddwr Miyazaki yn gwneud yn siŵr bod popeth yn ddilys yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd pawb sydd yn ymddiddori yn Totoro wrth ei fodd yn ymweld â fo. Dodrefnwyd y tŷ hyd yn oed mewn modd hollol gredadwy. Mae ystafell y tad yn ddigon anniben fel basai fo newydd gamu allan. Mae ganddo reol wahanol i'r amgueddfeydd eraill; cewch chi gyffwrdd popeth sydd yn y tŷ.

Tuesday, August 6, 2013

llyfrau

Ces i dair nofel yn fenthyg gan y llyfrgell leol - nofelau sydd yn lleoli yn Fenis. Wedi darllen rhyw dudalennu pob un, rhoes i'r gorau iddyn nhw. Maen nhw'n hollol ddiflas yn fy marn i oherwydd bod yna ormod o ddisgrifiadau ar y cymeriadau, ac maen nhw'n trin Fenis ond fel y cefndir. Efallai bydd y storiâu'n gwella nes ymlaen, ond nad oes gen i ddigon o amynedd. Mae'n anodd dod o hyd i nofelau o'r fath sydd yn taro deuddeg. Well i mi bodloni fy hun efo llyfrau ffeithiol am y tro.

Monday, August 5, 2013

ffarwel i focus

Daethon ni o hyd i rywun sydd yn fodlon prynu'n car ni. Achosodd fy merch ddamwain gar wythnosau'n ôl. Doedd neb cael ei anafu drwy drugaredd, ond cafodd ein Focus hanner ei ddinistrio ac na fydd yn werth cael ei drwsio gan ystyried y cyflwr gwreiddiol. (Does gynnon ni ddim yswiriant ar ein ceir ni.) Roedd o yn y garej ers hynny ond heddiw prynodd ffrind i'r gŵr sydd yn arbenigwr o geir ein car a thalodd $550. Mae hwn yn fwy na'r disgwyl a dan ni'n ddiolchgar bydd y dyn yn dod i'w nôl hyd yn oed. 

Sunday, August 4, 2013

gŵyl dreth ar werth

Mae gan Oklahoma (ddim yn gwybod am y taleithiau eraill) "ŵyl" dreth ar werth bob haf cyn dechrau'r ysgol. Does dim treth (9.5%) ar ddillad ac esgidiau am dri diwrnod ym mhob siop yn Oklahoma. Fel arfer bydda i'n ei chofio'n rhy hwyr, ond eleni roeddwn i'n barod a gwneud rhestr siopa ymlaen llaw. Y penwythnos 'ma ydy'r ŵyl ac es i Walmart ddoe i gymryd mantais ar y cyfle i arbed pres. Roedd y siop yn orlawn o gwsmeriaid a oedd gan yr un syniad ac roedd yn llanast enfawr. Y cwsmeriaid a wnaeth y llanast gan dynnu'r nwyddau o'r silffoedd a'u thaflu nhw ym mhob man. Er fy mod i wedi arbed $11.30 drwy beidio talu'r dreth, roedd yn brofiad ofnadwy o annifyr. Roeddwn i wedi blino'n llwyr hefyd. Penderfynais beidio fynd i'r "ŵyl" honno byth eto.

Saturday, August 3, 2013

teml solomon

Des i ar draws dudalen hynod o ddiddorol y bore 'ma. Fe wnaeth hogyn 17 oed fodel teml Solomon efo Lego (flynyddoedd yn ôl, ond dim ots.) Fe wnaeth y gwaith ymchwilio'n drylwyr er mwyn adeiladu model dilys. Mae Jakin a Boaz (y ddwy golofn dâl wrth y drws blaen) yn edrych yn smart iawn. Mae'r hogyn yn wir amyneddgar parhau am dros flwyddyn. 

Friday, August 2, 2013

cyflogwr da yn y dref

Mae fy merch ifancaf newydd ddechrau gweithio'n rhan amser i'r siop hufen iâ ynghyd ei chwaer. Roedd fy nau blentyn hŷn yn gweithio yno hefyd flynyddoedd yn ôl. Cyflogwr da ydyn nhw yn y dref hon. A dweud y gwir, mae yna gynifer o bobl ifanc yn yr ysgol uwchradd leol yn gweithio hefyd. Mae fel pe bai hi'n rhan o'r ysgol! Felly er bod fy merch yn newydd yn y gwaith, mae hi'n nabod llawer o'r gweithwyr yn barod. Mae hi eisiau cynilo pres i fynd i'r Iwerddon efo'i chwaer ryw ddiwrnod. 

Thursday, August 1, 2013

yr olwg harddaf



Mae yna ddi-ri o olygfeydd hardd yn Fenis; mae'r dref yn orlawn ohonyn nhw. Yn fy marn i, fodd bynnag, hon ydy'r orau; yr olwg tuag at Eglwys Salute 
oddi ar Bont Accademia. Es i at y bont sawl tro a syllu ar yr olwg anhygoel. Felly pan welais y llun bendigedig gan BluOscar yn ddiweddar, fedrwn i ddim peidio cofio'r pythefnos braf dw i wedi treulio yn y dref swynol.