Friday, December 31, 2010

y cawr addfwyn


Dw i newydd orffen hunangofiant y cawr addfwyn, sef John Charles, un o'r pêl-droedwyr gorau yn y byd. Fe wnes i ymddiddori ynddo ef yn ddiweddar oherwydd yr elfennau Cymreig ac Eidalaidd yn ogystal â phêl-droed.

Yr hyn a wnaeth fy nharo mwy na'i sgil athrylith fel pêl-droediwr oedd y ffaith ei fod e'n ddyn gostyngedig ac 'addfwyn' dros ben. Doedd e erioed wedi ffowlio'n fwriadol yn erbyn neb ar y cae na thalu'n ôl er fod ef ei hun wedi cael ei gicio, ei daclo a phoeri arno'n ddi-ri.

Roedd yn hynod o ddifyr darllen am ei bum mlynedd ogoneddus gyda Juventus. (Roeddwn i wrthi'n chwilio am ei glipiau ar You Tube neithiwr.) Ond rhaid cyfaddef nad oedd gen i galon i ddarllen popeth a ddilynodd wedyn.

Hoffwn i fod wedi gwylio un o'i gemau yn yr Eidal!

Thursday, December 30, 2010

ffarwel i ffrind arall

Ffarweliais â myfyrwraig arall o Japan neithiwr. Hi oedd yn gweithio'n rhan amser i fy ngŵr yn ffyddlon a medrus dros ddwy flynedd. Ces i wers gyfrifiadur sydyn ganddi hi hefyd. Mae hi newydd raddio ac yn barod i fynd yn ôl i Japan, hynny ydy ar ôl gwyliau bach yn Las Vegas gyda'i mam sy'n ymweld â hi ar hyn o bryd. Gan fod y gŵr yn dal yn Hawaii, es i â nhw i Napolis, ei hoff dŷ bwyta yn y dref hon. Cawson ni i gyd gawl Minestrone a Tiramisu i bwdin. Roedd popeth yn flasus. Yna daeth amser i ffarwelio....

Wednesday, December 29, 2010

cerdded yn y coedwig


Mae gen i a'r mab ddigon o amser yr wythnos 'ma. Wedi gweithio tipyn ar y trydydd jig-so, gwylio DVD, chwarae play station a darllen Hardy Boys, mae e eisiau mynd am dro yn y goedwig gerllaw.

Dydy hi ddim yn oer ac er bod hi'n wlyb wedi glaw, mae'n ddigon dymunol cerdded ar garpedi o ddail a brigau (weithiau ar gerrig anwastad) ac anadlu'r awyr iach. Roedden ni'n mynd yn hamddenol ond ces i fy synnu'n gwybod ar ôl cyrraedd adref bod ni'n cerdded am ryw ddwy awr. Doedd ryfedd mod i wedi ymlâdd!

Ydyn ni'n barod am swper yn Napolis heno.

Tuesday, December 28, 2010

dyfan wrth y llyw

Mae effaith toriad cyllideb yn amlwg yn rhaglenni Radio Cymru; dydy Post Cyntaf a Nia ddim yn cael eu darlledu ar ddydd Llun bellach. Dim ond hanner awr roedd Post Cyntaf yn para'r bore 'ma hyd yn oed.

Ond am swrpreis! Dyfan Tudur, fy hoff ohebydd sy'n cyflwyno'r rhaglen heddiw am y tro cyntaf yn lle Gary Owen. Hwrê! (Does gen i ddim byd yn erbyn Gary, cofiwch.) Bydda i ond yn gwrando ar y bwletin fel arfer, ond fe wrandawa' ar rhaglen gyfan os bydd Dyfan yn ei chyflwyno ac os bydd hi'n para ond am hanner awr. (Dw i newydd glywed iddo ddwud âi'r rhaglen yn ôl i'r trefn arferol yfory. O, wel.)

Monday, December 27, 2010

brithwe dewi sant


Am y tro cyntaf gwisgais i'r sgarff brithwe Dewi Sant a ges i'n anrheg. Perchennog y siop lyfrau Cymraeg ym Mhorthaethwy a rodd hi i mi yn yr haf. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor ysgafn a chyfforddus yw gwlân (gwlân Cymreig wrth gwrs.) Doedd e ddim yn goslyd o gwbl er fy mod i wedi ei wisgo am fy ngwddf am hanner dydd ddoe. A chadwodd hi fi'n gynnes yn braf.

Sunday, December 26, 2010

o hawaii


Mae'r gŵr a'r gennod yn mwynhau eu gwyliau yn Hawaii ar hyn o bryd. Mae un ohonyn nhw'n cwyno bod hi'n rhy boeth! Aethon nhw i ben y bryn sy'n enwog am wyntoedd cryfion, ond yn anffodus mae'n ymddangos bod gwyntoedd ar wyliau hefyd!

Saturday, December 25, 2010

nadolig llawen


Nadolig Llawen
メリークリスマス
Buon Natale

Tuesday, December 21, 2010

life is beautiful (la vita è bella)

Pan oedd y plant yn gwylio'r ffilm ar DVD o'r blaenl, doedd fawr o ddiddordeb gen i. Ond prynais i gopi drwy Amazon yn ddiweddar a'i wylio ef yn awyddus y tro hwn. Wrth gwrs bod clywed yr Eidaleg yn braf (er mod i wedi deall fawr o ddim!) ond mae'n ffilm arbennig o dda o bob ystyr hefyd - y stori, y sgript, yr actorion, y lluniau, y gerddoriaeth. Roedd yr hogyn bach yn ofnadwy o annwyl! Rhaid i mi ei hychwanegu at restr fy hoff ffilmiau.

Monday, December 20, 2010

cymer y seren gan cefin roberts

Ces i ddiddordeb yn y nofel hon wedi darllen adolygiad yn dweud mai i'r Eidal âi'r prif gymeriad. A dweud y gwir, roedd y stori'n datblygu braidd yn araf yn fy nhyb i. Er bod diwedd y stori'n annisgwyl dros ben, roeddwn i'n methu gweld bai ar y tad a oedd yn gyfrifol am y digwyddiad. Poeni am ei unig ferch oedd ef. Y peth gorau i mi oedd fy mod i'n medru deall yr Eidalwr a oedd yn siarad â'r prif gymeriad ar y ffôn!

Sunday, December 19, 2010

agor anrhegion


Oherwydd bod fy ngŵr a'r gennod yn gadael am Hawaii ddiwrnod Nadolig i ymweld â Thaid a Nain yno, penderfynon ni agor ein hanrhegion ddoe gyda fy merch hynaf a'i gŵr. Bydd yna dros gant fel arfer, ond 59 oedd gynnon ni eleni oherwydd ein prif Santa yn Japan ar hyn o bryd. Fi a wnaeth ddyfalu'n gywir faint fyddai yno i gyd ac ennill tocyn i unrhyw ffilm sydd ymlaen yn y theatr.

Mae'r mab hynaf yn treulio ei wyliau yn Corea y tro 'ma. Bydd yn ddistaw yn y tŷ'r wythnos nesa.

Thursday, December 16, 2010

prawf gyrru a 'tiramis'


Pasiodd fy merch brawf gyrru pnawn 'ma. Es i â hi i Napolis i ddathlu dros banad o goffi a 'tiramis' anhygoel o flasus. Mae hi wedi bod yn ymarfer gyrru dros flwyddyn. Rŵan mae hi'n cael gyrru heb ei rhiant wrth ei hochr; does dim rhaid i mi fynd â hi i bob man chwaith!


Tuesday, December 14, 2010

i napolis!

Ddim i'r Eidal ond i un o'r tai bwyta poblogaidd yn y dref yr es i a'r teulu ynghyd â ffrindiau o Japan. Roedd o wedi bod ers blynyddoedd ond roeddwn i'n awyddus i fynd yno heno wedi ymddiddori yn yr Eidaleg yn ddiweddar. Ces i gyw iâr Frorentine gyda phasta. Cafodd fy merched 'calzone' oedd cymaint â chlustogau! Eidalwyr ydy'r gweinyddion i gyd ac mae'r perchennog sy'n medru sawl iaith yn dod o Sicily ac yn arfer byw yng Nghaerdydd am sbel. A dyma drio fy 'per favore, grazie, buonanotte' arnyn nhw'n awchus. Roedd yn braf clywed y perchennog yn fy ateb yn Eidaleg! (Dyn busnes ydy o'n bendant!)

Friday, December 10, 2010

google translate

Mae'r teclyn hwn wedi bod ers sbel, ond doeddwn i erioed wedi meddwl ei ddefnyddio o ddifri tan yn ddiweddar.

Er ei fod ef ond yn gyfieithydd bras, fe allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer geiriau unigol neu frawddegau byrion. Yr hyn ydw i'n ei gael yn hwylus ydy'r cymorth sain. Mae hwn yn help mawr i mi ddysgu Eidaleg. Hefyd er mwyn dysgu Eidaleg drwy gyfrwng y Gymraeg, bydda i'n gosod y ddwy iaith hyn i chwilio am eiriau.

Mae gen i gwyn fodd bynnag, sef ansawdd y sain. Mae Saesneg yn swnio'n dda, yn hollol naturiol ac mae Eidaleg yn dderbyniol. Ond swnio fel robot cyntefig mae'r Gymraeg!

Teclyn defnyddiol ydy hwn beth bynnag, ac mae o'n haeddu i gael ei osod ar fy Bookmarks Bar.

Tuesday, December 7, 2010

cyngerdd nadolig yr ysgol


Roedd yn gyngerdd ardderchog - y canu, dawnsio, ffidl, piano, clychau llaw. Mae plant yr ysgol uwchradd wedi gwneud yn dda iawn. Mwynheais i ynghyd â'r teuluoedd eraill y noson bleserus.

Rŵan dim ond pythefnos sydd ar ôl nes i wyliau'r Nadolig gychwyn. Mae'r amser yn gwibio heibio.

Sunday, December 5, 2010

gwaith rhan amser


Dw i'n gweithio'n rhan amser i'r gŵr ers misoedd yn helpu ei waith ymchwil, cyfieithu, ffeilio ayyb. Wrth i dymor y brifysgol ddirwyn i ben, mae'r myfyrwyr yn sefyll arholiadau. Mae fy ngwaith diweddaraf oedd marcio papurau arholiad. Gan fod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n gwestiynau amlddewis, roedd yn waith syml ond syrffedus. Roeddwn i'n gweithio rhyw awr a hanner i farcio 28 o bapurau'n arbed gwaith y gŵr ac ennill pres yr un pryd.

Mae'r gŵr yn hoffi gosod un cwestiwn difyr bob tro i godi calonnau'r myfyrwyr. Dyma'r cwestiwn diweddaraf:

Pa un ydy'ch hoff dîm bêl-droed?
a. Manchester United
b. Los Angeles Galaxy
c. NSU (ein prifysgol)
d. Fighting Salmon (tîm Ysgol Optometreg)

Mae unrhyw ddewis yn gywir! ('d' oedd dewis pawb ond un beth bynnag.)

Friday, December 3, 2010

pitsa!

Ces i fy ysbrydoli i wneud pitsa Eidalaidd i swper heno. Gan fy mod i'n gyfarwydd â rhai Americanaidd gyda gorlawn o gaws a'r toppings eraill, roedd braidd yn chwith defnyddio cyn lleied o gynhwysion. Dyma'r tro cyntaf i mi ddefnyddio caws Motsarela ffres hefyd. Wrth gwrs fod o ddim cystal â hwn ond roedd yn bitsa blasus beth bynnag.

Thursday, December 2, 2010

pwy sy'n dysgu eidaleg?

Dw i newydd ddechrau dysgu Eidaleg oherwydd y ffrindiau newydd o'r Eidal. Iaith hardd a chymharol hawdd ydy hi (llawer haws na'r iaith Fietnam!) Dim ond deunyddiau ar y we dw i'n eu defnyddio ar hyn o bryd rhag ofn i mi beidio parhau. Mae yna gymaint ar gael ond dydy'r un ohonyn nhw'n taro deuddeg; mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw ar gyfer twristiaid. Does gen i ddim diddordeb ynddyn nhw achos mod i ddim yn bwriadu mynd i'r Eidal ar hyn o bryd. (Wedi meddwl, does gen i ddiddordeb yn iaith dwristiaid Cymraeg erioed chwaith. Mae hi'n hollol ddiflas yn fy nhyb i.)

Yna des i ar draws y safle gwych hwn. Fe gewch chi ddysgu sgyrsiau a geirfa gyffredin. Cyflwynir y gramadeg angenrheiddiol o dipyn i beth. Mae'r perchennog yn bwriadu ychwanegu mwy o wersi nes ymlaen.

Pwy sy'n dysgu Eidaleg? Gadewch i mi wybod.