Wednesday, August 31, 2022

llinell wen

Codais fy mhen, wedi cychwyn cerdded yn y bore. Gwelais linell wen hir yn yr awyr las. Awyren a oedd yn tynnu'r llinell lachar ar y cynfas enfawr. Roedd o'n hedfan tuag at y Gorllewin. Anelu at faes awyr Tulsa, mae'n debyg. 

Tuesday, August 30, 2022

wedi'i oresgyn

Plannodd cymydog bwmpenni wythnosau'n ôl. Roedden nhw'n edrych yn ddigon diniwed ar y dechrau, ond cyn hir dw i wedi sylwi bod nhw'n tyfu'n gyflym, bron i hanner droedfedd dros nos. Maen nhw'n gorchuddio’r iard flaen bellach ac yn dal i dyfu. Mae blodau melyn ac ambell ffrwyth bach dan y dail hefyd.

Monday, August 29, 2022

dathlu bywyd


Dw i newydd ddod yn ôl o seremoni goffa ar gyfer Rosie. Mae gan y cwpl bedwar plentyn, 11 ŵyr ac 11 gor-ŵyr. Daethon nhw a'r perthnasau eraill o daleithiau pell i "ddathlu" bywyd Rosie, sydd yn bellach gydag Iesu. Roedd yna lawn o chwerthin yn ogystal â dagrau. Gorchfygodd ein Harglwydd farwolaeth. Yn ei addewidion mae gynnon ni obaith pendant.

Saturday, August 27, 2022

ffodus dros ben

Fu farw Rosie, dynes yn ei 70au yn sydyn. Gwelais i hi yn yr eglwys ddydd Sul diweddaf, a dweud y gwir. Roedd yn cael llawdriniaeth ar ei chalon ddyddiau'n ôl, ac aeth rhywbeth o'i le'n annisgwyl. Fu farw yn y fan a'r lle. Cafodd ei gŵr sioc ofnadwy oherwydd nad oedd neb yn disgwyl cymhlethdodau. Mae o yn hedd Duw bellach drwy Ei drugaredd. Dw i'n teimlo'n ddwfn drosto fo, ond ar yr un pryd, yn eiddigeddus iawn ohoni. Roedd hi dan anesthesia, a phan agorodd ei llygaid, gwelodd hi Iesu o'i blaen hi!

Friday, August 26, 2022

peth annisgwyl

Daeth Marcus, ein dyn-o-bob-tasg newydd i baentio'r dec cefn y bore 'ma. Methodd fwrw ymlaen, fodd bynnag oherwydd defnyddiodd y dyn arall, a olchodd y dec yn ddiweddar, chemeg i ddiogeli'r pren rhag pwdu. Mae hwn yn gwrthyrru paent hefyd. Rhaid cael gwared ar y cemeg; rŵan mae Marcus wrthi'n golchi'r dec gyda pheiriant wedi'i rentu. Wrth gwrs y bydd hyn yn cynyddu’r bil. Bydd rhaid iddo aros nes i'r dec sychu hefyd. Mae pethau annisgwyl yn digwydd yn aml. Rhaid cymryd un peth ar y tro. O leiaf cafodd neb ei ladd.

Wednesday, August 24, 2022

yr un sy'n cau ei geg

Mae pobl yn siarad gormod, heb wrando ar y llall. Yn aml iawn, maen nhw'n meddwl am beth fyddan nhw'n ei ddweud nesa tra bod y llall yn siarad. Mae'r Beibl yn annog i "fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefalu, ac yn araf i ddigio." Bydd yn well siarad llai na mwy yn gyffredinol, a dweud y pethau sydd wir o bwys.

Tuesday, August 23, 2022

breichled rosari

Wrth glywed bod un o'r prif gyfryngau wedi galw rosari'n arwydd eithafwyr treisgar, dyma wneud breichled rosari. (Ailgylchais glawr llyfr nodiadau plastig i greu'r groes.) Dim Pabydd ydw i, ond dw i eisiau dangos cefnogaeth iddyn nhw. Y nhw sydd yn cael eu hymosod yn dreisgar gan grwpiau milain dros eu gweithred o drugaredd ar gyfer mamau a babanod mewn argyfwng.

Monday, August 22, 2022

datrysiad syml


Roedd fy Moka wedi bod yn y cwpwrdd dros fisoedd. Er fy mod i'n hoffi'r peth bach o'r Eidal, dw i ddim hoffi'r maint o goffi a ddod allan ohono fo. Pedwar cwpan mae i fod i wneud; mae'r cyfan yn llai na hanner a fydda i'n hoffi yfed, ac yn rhy gryf, a dweud y gwir. Yna, ces i syniad; beth am ychwanegu dŵr poeth at y cwpan? Dyna fo. Perffaith o ran faint a chryfder.

Saturday, August 20, 2022

ddim yn deg

Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen eto. Ces i gyw iâr, eto. Cafodd y gŵr stecen hamburger, tatws stwns, mac & cheese, gyda phentwr o grefi - ei ffefryn a bwyd Americanaidd nodweddiadol. Dydy o byth yn ennill pwysau, fodd bynnag. Ddim yn deg!

Friday, August 19, 2022

rhestr FBI gyfrinachol

Datgelwyd rhestr FBI gyfrinachol gan chwythwr chwiban yn ddiweddar. Ychwanegwyd rhai o symbolau mwyaf gwladgarol America at y rhestr rybuddio terfysgaeth honno.

Cynhyrchwyd crysau-T amrywiol i herio hyn ar yr unwaith, yn ôl ysbryd herfeiddiol Americanwyr. Dyma i'r gŵr brynu un, a'i wisgo ynghyd â het MAGA yn Walmart. Rhaid ychwanegu gleiniau rosari i fod yn gyflawn!


Wednesday, August 17, 2022

arwydd cariad

Dw i'n hapus gweld bod brawd y gŵr yn dal i garu ei ail wraig yn fawr, a phostio negesau hynod o gariadus yn aml. Mae o'n bob amser yn galw hi gydag enwau melys wrth roi tusw o flodau hardd iddi. Y tro 'ma, postiodd o lun o ddeilen â ffurf unigryw honno a ffeindiodd yn ei iard. "Arwydd fy nghariad," meddai.

Monday, August 15, 2022

y murlun yn chicago

Gorffennodd fy merch y murlun. Mae'n wych dros ben (er mai ei mam sydd yn dweud!) Mab Ebizo Ichikawa ydy'r model. Bydd yr hogyn ifanc (9 oed) yn perfformio un o ddramâu enwog Kabuki ym mis Tachwedd yn Tokyo wrth iddo lwyddo'r enw yn y teulu, sef Sinnosuke. Mae o mewn gwisg y cymeriad. Gobeithio y bydd y murlun yn rhoi llawer o bleser i bawb fydd yn ei weld.

Friday, August 12, 2022

un o fy angylion


Gwelodd asiantau FBI, a gyflawnodd gyrch ar dŷ Donald Trump, angel wrth ochr drws wedi'i agor y blwch diogel. "Nid yw'r dogfennau dych chi'n eu ceisio yma," meddai.

Gorau'r wythnos gan y Wenynen yn fy nhyb i!

Wednesday, August 10, 2022

titan walls

Mae fy merch hynaf newydd ddechrau paentio murlun, gyda chymorth ei gŵr. Maen nhw'n paentio ynghyd â nifer o artistiaid, ar gyfer Titan Walls, yr ŵyl furlun fwyaf yn Chicago. Mewn gardd gwrw mae ei wal hi. Cyfleus iawn pan fyddan nhw heisiau hoe fach!

Tuesday, August 9, 2022

blodau gwyrdd

Mae blodau ein hydrangea ni wedi troi'n wyrdd, ond yn dal yn iach. Byddan nhw felly am fisoedd cyn gwywo'n llwyr. Yna, bydd rhaid inni eu torri nhw i ffwrdd i sicrhau blodau hardd y tymor nesaf.

Monday, August 8, 2022

tarzan



Wedi gweld adolygiad gwych gan Epoch Times, dechreuais ddarllen Tarzan of the Apes, nofel a ysgrifennwyd dros ganrif yn ôl. Cynhyrchwyd nifer o ffilmiau, a gwelais innau un flynyddoedd yn ôl, ond roedd y tro cyntaf i mi ddarllen y nofel. Roedd yn hynod o ddiddorol! Er bod y stori'n amhosib, fedrwn i ddim stopio. Heddiw des at y bennod olaf, a gweld bod y stori'n parhau i'r dilyniant! Wrth gwrs y bydda i'n ei ddarllen er mwyn ffeindio beth fydd yn digwydd i Tarzan a Jane! (Dw i ddim yn cofio'r diwedd, a dw i ddim eisiau unrhyw spoiler.)

Saturday, August 6, 2022

gyda chwpon


Cawson ni take-out o Pizza Hut am y tro cyntaf ers misoedd oherwydd fy mod i wedi dod ar draws cwpon. Dewisais bitsa mawr grwst denau gyda pepperoni, cyw iâr a madarch ar ben. Byddai'n costio $19 fel arfer, ond costiodd ond $10 gyda'r cwpon. Bargen wych.

Friday, August 5, 2022

dawn eiddigeddus

Mae gan y gŵr ddawn eiddigeddus. Mae o'n medru syrthio i gysgu unrhyw amser, unrhyw le, pryd bynnag mynnith. Ar ôl fy ngollwng at y ceiropractydd bob yn ail wythnos, bydd o'n cysgu'n braf am ddeg munud yn y car nes i mi ddod yn ôl. Dw i'n dioddef o anhunedd tymor hir ers misoedd; hoffwn i gael ychydig bach o'i ddawn!

Wednesday, August 3, 2022

argyfwng yn sodom a gomora


"Does dim byd o gwbl y gallwn beidio â'i wneud rhag cael ein heintio. Ein hunig obaith yw cael ein brechu." Da iawn chi eto, y Wenynen!

Monday, August 1, 2022

mewn blwch

Fel arfer, mae nwyddau drud yn cael eu gosod mewn blwch plastig mewn siopau. Dechreuodd siop yn Ddinas Efrog Newydd osod SPAM mewn un rhag lladrata yn ddiweddar. Un o'r nifer o ganlyniadau Bidenflation.