Wednesday, April 30, 2014

bruschetta gan nadia

Ffriend i Lucrezia ydy Nadia ac mae'r ddwy yn dod o Rufain (mae ganddi acen Rufain gref iawn iawn!) Roeddwn i'n petruso gweld ei fideos ar You Tube (La Pixie Dust) ar y dechrau a dweud y gwir oherwydd mai yn Saesneg ydyn nhw i gyd. Mi welais un fodd bynnag a'i ffeindio hi'n ddiddorol iawn. Cogyddes ardderchog ydy hi, ac yn ogystal, mae hi'n ddoniol! Mi wnes i wneud bruschetta gynnau bach. Yn anffodus doedd dim cystal ag y dylai iddo fod oherwydd y tomatos heb flas a oedd gen i.  Dw i'n siŵr bydd y saig fach honno'n rhyfeddol o dda os bydda i'n ddefnyddio tomatos ffres.

Tuesday, April 29, 2014

diet mediteranaidd

Roedd Lucrezia a'i ffrind yn sôn am bryd o fwyd arbennig y Pasg yn ei fideo diweddaraf yn dweud cymaint o fwyd mae'r Eidalwyr yn bwyta yn ystod y gwyliau tra byddan nhw'n bwyta llawer bob dydd beth bynnag, gwyliau neu beidio. Gofynnais pam nad oes fawr o ordewdra yn yr Eidal er bod nhw'n bwyta cymaint. Ei hateb: mae'r Eidalwyr yn bwyta cymaint, ond cymaint o fwyd iach, sef diet Mediteranaidd. Cafodd ei eni ymysg y ffermwyr tlawd yn y gorffenol a oedd yn gorfod bwyta beth bynnag a oedd ar gael oddi ar y tir. Ac yn ffodus does dim cynifer o fwytai bwyd cyflym yn yr Eidal o gymharu â'r gwledydd gorllewinol eraill. Ar ben hynny mae bwyta'n iach yn ffasiynol yn ddiweddar. 

Monday, April 28, 2014

acen rufain

Mae gan Alberto fideo sydyn newydd am acen wahanol, sef acen Rufain. Mae ganddo acen Brescia ei hun a dw i'n hen gyfarwydd â'r acen bleserus honno. Ac felly roedd yn ddiddorol clywed y cwpl o Rufain sydd yn swnio'n wahanol, ond dydy eu hacen nhw ddim yn hollol anghyfarwydd. Maen nhw'n siarad yn union fel Lucrezia! (Learn Italian with Lucrezia) Mae hi hefyd yn dod o Rufain. Dw i newydd sylweddoli fy mod i wedi bod yn siarad Eidaleg efo acen Rufain.

Sunday, April 27, 2014

prom

Digwyddiad pwysig ydy Prom i ddisgyblion yr ysgolion uwchradd yn America yn enwedig i'r merched sydd yn cael gwisgo ffrogiau ysblennydd. Mae gan lawer ohonyn nhw fechgyn i'w hebrwng nhw, ond mae'r lleill yn mynd i'r parti'n hapus efo'i gilydd. Roedd fy merch 17 oed wrthi'n paratoi efo'i ffrindiau drwy'r dydd ddoe. Aethon nhw i dŷ bwyta cyn mynd i Prom (i ddangos eu ffrogiau i'r bobl eraill, dw i'n siŵr!) Daeth hi adref yn hwyr, yn flinedig ond bodlon.

Saturday, April 26, 2014

rhosyn dynol

Ymddangosodd rhosyn enfawr ar Sgwâr San Marco yn Fenis ddoe. Mil o bobl gan gynnwys plant a oedd yn ymgasglu yno i greu rhosyn i ddathlu diwrnod eu nawddsant San Marco. Yn ogystal, hwn ydy'r diwrnod i ddyn i roi rhosyn coch i'w anwylyd fel arwydd ei gariad. (Mae yna draddodiad yn seiliedig ar chwedl.)

Friday, April 25, 2014

ffrangeg? 2

Mae yna nifer mawr o ddeunyddiau ar gael yn rhad ac am ddim ar You Tube. Dw i wedi sylweddoli nid gan bob athro acen braf. Fy ffefryn ydy Vincent o Imagiers (Learn French with Vincent.) Mae ganddo acen anhygoel o hardd ac mae o'n medru esbonio pethau'n dda iawn. Dw i'n gwneud gwers neu ddau bob dydd. Y broblem ydy bydda i'n anghofio popeth erbyn diwedd y diwrnod! Hoffwn i ddefnyddio Français Authentique (ffefryn Alberto) rywdro. Mae'n rhy anodd i mi rŵan oherwydd bod popeth yn Ffrangeg.

Thursday, April 24, 2014

ffrangeg?

Mae hi'n iaith ofnadwy o anodd dysgu (i mi o leiaf) o ran ynganiad a sillafu. A does gen i ddim diddordeb yn y diwylliant Ffrainc. Ac eto mae hi'n swnio'n braf i'r clustiau, ac oherwydd bod hi'n ymddangos yn amhosib i mi ei dysgu, dechreuais wylio fideo tiwtorial neu ddau ar You Tube yn ddiweddar. Ydy, anodd mae hi, ac eto, mae'n ddiddorol. Ces i fy synnu'n sylweddoli pa mor debyg ydy gramadeg y Ffrangeg i'r Eidaleg. Dw i ddim yn bwriadu gwneud gormod o ramadeg serch hynny, dim ond peth sylfaenol i mi gael deall awdio syml. (Diolch i Alberto am ei gyngor.) 

Wednesday, April 23, 2014

chwynnu

Wedi glaw sydyn ddoe roedd y pridd yn yr ardd yn feddal y bore 'ma; amser chwynnu! Mae'n gas gen i weithio yn yr ardd ond roeddwn i'n ymwybodol o'r chwyn a oedd yn tyfu yng ngwely iris ac yn gwybod beth fyddai'n digwydd os byddwn i'n oedi'r gwaith. Roeddwn i wrthi am ond hanner awr yn awyr oeraidd. Dw i'n meddwl bod yna fwy o goesynnau nag arfer ac maen nhw'n edrych yn hapus rŵan! Edrycha' i ymlaen at weld y blodau.

Tuesday, April 22, 2014

jac y do

Mae'n rhyfedd glywed geiriau Cymraeg oddi wrth ystafell fy merch arall wrth iddi ddysgu "gyda" Nia Parry. Efallai mai hyn yn cael effaith ar fy mab ifancaf; gofynnodd i mi ddysgu cân Gymraeg. Roedd yn anodd meddwl am gân digon hawdd. (Dw i ddim yn meddwl bod Un Dydd ar y Tro gan Trefor Edwards yn addas rhywsut.) Wedi ymchwilio ar y we, des i ar draws un da, sef Mi Welais Jac y Do. Dyma ymarfer canu tipyn a sgrifennu'r geiriau ar bapur drosto fo. Perffaith.

Monday, April 21, 2014

werth yr ymdrech

Mae fy merch yn dal i deithio o gwmpas yr Eidal. Wedi aros yn Florence un neu ddau ddiwrnod, aeth yn sydyn i Cinque Terre. Dw i'n edmygu ei dewrder. Aeth i fyny Cromen Brunelleschi yn ogystal â Thŵr Giotto yn Florence. Dwedodd nad oedd yn anos na'r disgwyl, ond roedd yna gynifer o dwristiaid eraill a oedd eisiau gwneud yr un peth fel roedd hi'n gorfod aros am ryw dair awr cyn cychwyn i fyny. Aros a wnaeth fodd bynnag a doedd dim edifar ganddi hi oherwydd yr olwg a gafodd oddi ar ben y gromen.

Sunday, April 20, 2014

pasg hapus

"Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: Peidiwch chwi ag ofni. Gwn mai ceisio Iesu a groeshoeliwyd, yr ydych. Nid yw ef yma oherwydd y mae wedi ei gyfodi fel y dywedodd y byddai." Haleliwia.

Friday, April 18, 2014

plac

Aeth y pedwar bachgen o Japan (Llysgenhadaeth Tensho) i Fenis hefyd ar ôl eu hymweliad â'r Pab yn 1585. Yn ôl y llyfr Japaneg a ddarllenais, codwyd cofeb drostyn nhw yno. Roeddwn i'n chwilio am wybodaeth ynglŷn â hi ond heb lwyddiant tan yn ddiweddar. Penderfynais gysylltu ag Alberto Toso Fei, hanesydd/awdur lleol yn Fenis. Ces i wybod lle mae'r plac, yn hytrach na chofeb, diolch i'w ymdrech; mae o ymysg y casgliad yn yr oriel dros nesaf i Santa Maria della Salute. Cafodd y plac ei adfer gan fudiad Japaneaidd ryw dro ac aethpwyd copi i amgueddfa yn Japan.

Thursday, April 17, 2014

yn florence

Wedi cwblhau'r gwaith gwirfoddoli, sef dysgu Saesneg i blant yr ysgol am ddau fis, mae fy ail ferch yn mwynhau mynd ar wibdaith yn yr Eidal. Roedd hi yn Napoli yr wythnos diwethaf, a rŵan mae hi yn Florence. Byddwn i eisiau gweld mwy o luniau ond dwedodd hi fod yna gynifer ohonyn nhw fel na fyddai hi'n medru rhoi trefn arnyn nhw. Ac felly mae hi'n uwchlwytho un neu ddau  ar Face Book o bryd i'w gilydd. Mae'n anhygoel ei gweld hi o flaen cromen Brunelleschi!

Wednesday, April 16, 2014

dysgu cymraeg

Mae gen i dipyn o gasgliad ar gyfer dysgu Cymraeg, a dweud y lleiaf. Mae fy merch wrthi'n gwrando ar y CD a ges i'n rhad ac am ddim gan ACEN flynyddoedd yn ôl. Mae Nia Parry'n rhoi'r fersiwn gogleddol ac un deheuol. Awgrymais i fy merch ddysgu'r olaf oherwydd mai yn Abertawe bydd hi. Gan ei bod hi eisiau gwybod am Gymru hefyd, beth fyddai'n well na'r llyfr gan y diweddar Gwynfor Evans, sef the Fight for Welsh Freedom.

Tuesday, April 15, 2014

ysgoloriaeth

Enillodd fy nhrydedd ferch ysgoloriaeth Brad Henry! Mae hyn yn golygu y bydd hi'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe am dymor! Mae'n anhygoel bod yna gysylltiad rhwng Oklahoma a'r brifysgol yno ac mae'n anhygoel fyth y bydd fy merch yn byw yng Nghymru am fisoedd. Roedd dau ymgeisydd yn y rownd derfynol am yr ysgoloriaeth yn y brifysgol leol; ffrind i fy merch ydy'r llall. Cafodd y ddwy eu dewis! Maen nhw'n cael mynd efo'i gilydd, ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Rŵan mae fy merch yn benderfynol o ddarllen am Gymru ac yn awyddus i ail-ddechrau dysgu Cymraeg. Mae'n dal yn anodd credu.

Monday, April 14, 2014

neges gas

Mae'n drist bod rhai pobl yn mwynhau bod yn gas. Druan o Lucrezia sydd wrthi'n sgrifennu blog a chreu fideos i helpu dysgwyr yr Eidaleg; cafodd hi neges ofnadwy o gas yn ddiweddar. Rhaid bod hi'n cael sioc gan ei bod hi'n ei bostio ar ei thudalen Face Book. Ar y llaw arall, mae'n hyfryd gweld cynifer o negeseuon cefnogol gan y bobl sydd yn ei gwerthfawrogi a cheisio ei chysur hi.

Sunday, April 13, 2014

draemon

Mae Ryan, myfyriwr y brifysgol leol dw i wedi dod i nabod yn ddiweddar, wrthi'n dysgu Japaneg, ac mae o'n hoff o Draemon, cartŵn poblogaidd. Mae'n fodd da i ddysgu Japaneg gan fod o'n llawn o ymadroddion llafar. Ces i sioc yn clywed gan Ryan fod robot ydy Draemon! Roeddwn i'n credu'n siŵr mai creadur rhyfedd ydy o fel Totoro. Cafodd hyn ei gadarnhau gan fyfyriwr o Japan sydd yn ffrind i Ryan. 

Saturday, April 12, 2014

ras 5k

Cynhaliwyd Ras 5k Ysgol Optometreg y bore 'ma. Cafodd un olaf ddwy flynedd yn ôl ei ganslo'n sydyn wedi i fyfyrwyr Optometreg gael ei ladd mewn damwain gar ddeu dydd cyn y ras. Hon oedd y ras gyntaf ers hynny ac er cof amdano fo. Roedd Ras Optometreg yn tynnu cannoedd o redwyr bob blwyddyn fel arfer ond yn anfoddus doedd dim digon o hysbys eleni ac felly dim ond ryw ugain o bobl a redodd gan gynnwys fy ngŵr a'n mab ifancaf. Hogyn rhyw deg oed oedd yr enillwr! (Gweler y llun.) Does ryfedd oherwydd mai aelod o glwb cross country ydy o. 

Thursday, April 10, 2014

tiwlipau

Mae tiwlipau Leanne newydd flodeuo; yn anffodus dim ond dau sydd wedi goroesi. Cawson i ddeg yn anrheg gan yr hogan o Abertawe pan ddaeth hi yma flynyddoedd yn ôl ac maen nhw'n dwyn blodau bob blwyddyn er bod y nifer yn lleihau bob tro. Eleni roedd yna bedwar eginyn, ond cafodd dau ohonyn nhw eu torri i ffwrdd gan rywun. (Mi welais olion trosedd!) Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd.

Wednesday, April 9, 2014

nyth wiwerod

Mae dwy wiwer yn prysur adeiladu nyth uwchben coeden yng ngardd drws nesaf. Y bore 'ma roedden nhw'n rhedeg i fynnu efo dail sych yn eu cegau, ac yna i lawr i gasglu mwy. Does gen i ddim syniad faint o siwrneiau sydd angen i gwblhau popeth. Ces i gip ar y nyth rŵan; mae hi'n fawr bellach a does dim gwiwer o gwmpas. Efallai bod hi wedi gorffen. Gobeithio y bydd hi'n ddioel trwy'r tymor.

Tuesday, April 8, 2014

hanami yn norman

Mae'r gwanwyn yn hwyr yn cyrraedd eleni. Dw i'n mwynhau gweld blodau ceirios wrth yrru drwy'r dref y dyddiau hyn. Dwedodd fy merch hynaf yn Norman ei bod hi a'i gŵr yn cael hanami o dan eu coeden geirios sydd yn llawn o flodau hardd. Plannon nhw hi ryw flynyddoedd yn ôl ac mae hi'n tyfu'n goeden gref sydd yn dwyn blodau bob gwanwyn. Mae hi'n sefyll wrth y palmant, ac felly roedd y picnic sydyn yn cael ei weld gan bawb.

Monday, April 7, 2014

photo booth

Dw i newydd ddarganfod peth hwylus ar fy MAC Book (er ei fod o yma drwy'r amser.) Photo Booth ydy o. Roeddwn i'n meddwl mai ond tynnu lluniau a wnaeth. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod o'n tynnu fideo hefyd. Awgrymodd Alberto i recordio'ch hun yn siarad Eidaleg bob mis i weld sut dach chi'n symud ymlaen. Roeddwn i'n arfer recordio fy hun yn siarad Cymraeg ar recordydd tâp (swnio'n hynafol!) o'r blaen. Yn ddiweddarach roeddwn i'n defnyddio Garage Band. Mae'n gas gen i glywed fy hun heb sôn am weld fy hun ar fideo, ond dw i'n gwybod bod hyn yn fodd effeithiol er mwyn gwella unrhyw iaith dach chi'n ei dysgu.

Saturday, April 5, 2014

you tube arall

Yn ogystal ag Alberto a Lucrazia, dw i'n dilyn sianel You Tube Sgrammaticando (dw i ddim yn gwybod enw'r awdures) ers wythnosau. Dw i'n ddiolchgar iawn wrthyn nhw am eu hymdrech i helpu dysgwyr yr Eidaleg. Mae'n wych cael clywed Eidalwyr brodorol yn siarad yn naturiol ac yn glir (a digon araf.) Mae'n anodd iawn cael hyd i glipiau sydd ddim yn rhy syml na rhy anodd er bod yna gannoedd o ddeunyddiau ar gael ar y we. 

Friday, April 4, 2014

eli gwefusau arbennig

Mae merch ffrind teulu'n gwneud eli gwefusau cartref a'i werthu i'w ffrindiau a'r lleill. Mae hi'n defnyddio chynhwysion naturiol gan gynnwys cwyr gwenyn a lafant. Mae o'n hyfryd. Prynais 30 i fynd â nhw i Japan yn anrhegion i ffrindiau fy mam. Roedd hi a phawb wrth eu boddau. Ces i alwad ffôn ganddi ddyddiau'n ôl; roedd hi eisiau mwy. Dyma archebu deg arall i Susan a dw i newydd eu gyrru nhw at fy mam. Does dim enw neu label ar y nwyddau; awgrymais iddi ei alw'n "Sue's Bee."

Thursday, April 3, 2014

cynllwyn

Wedi cymharu'r derbynebau, roeddwn i'n sylweddoli bod pris fy moddion wedi cynyddu teirgwaith! Ffoniais y fferyllfa i wneud yn siŵr nad oedd unrhyw gamgymeriad; nag oedd. A dyma googlo am wybodaeth a darganfod bod y prisiau meddyginiaeth generig dros America'n codi'n arswydus yn ddiweddar, deg gwaith am rai. Does dim rheswm rhesymol. Mae'n ymddangos bod rhywun wedi penderfynu codi'r prisiau, a does gen i ddewis ond talu.

Wednesday, April 2, 2014

sioc yn walmart

Ces i sioc yn clywed y swm wrth y til yn Walmart heddiw - $250! Fel arfer bydda i'n talu tua $150 neu lai bob wythnos. Mi edrychais y dderbynneb ddwywaith i weld a oes camgymeriad neu ddau. Nag oes. Y peth drytaf oedd fy moddion sydd yn dyblu'r pris mewn misoedd. Ac roedd rhai pethau angenrheidiol a brynais yn ddrud iawn. Ebychodd y gweithiwr oedrannus wrth y til ei syfrdandod hefyd!

Tuesday, April 1, 2014

pizza!

Mi wnes i bizza hefo cymorth gan y peiriant bara a wnaeth y toes. Roedd digon am ddau fawr. Dim ond caws wedi'i dorri a basil sych a oedd gen i ond roedd yn pizza hynod o flasus. Y tro nesa, dw i eisiau defnyddio Mozzarella a basil ffres er mwyn crasu pizza Margherita.