Friday, January 21, 2011

cerdyn gwrdd

Mae'n amser i adnewyddu fy ngherdyn gwyrdd eto. Codais i'n fore (4 a.m.) a mynd i'r swyddfa agosaf yn Fort Smith, Arkansas sydd rhyw 70 milltir i ffwrdd. Y gŵr a yrrodd yr holl ffordd wrth gwrs; dw i'n anobeithiol am yrru tu allan i'r dref fach hon. Roedd y ffyrdd ddim cynddrwg na'r disgwyl er gwaetha'r eira a gawson ni ddoe. Cyrhaeddon ni mewn pryd (7:30) ac aeth popeth yn iawn.

Roedd y siwrnai adref yn un ddymunol wedi i mi gyflawni'r ddyletswydd yn ddidramgwydd. Ces i gyfle i weld (achos bod yna ddigon o olau!) bryniau braf Arkansas wedi'u gorchuddio gan eira...Lake Tenkiller...... cyn syrthio i gysgu'n braf.

Wednesday, January 19, 2011

wedi'r gwersi cyntaf

Prynais i dapiau dysgu Eidaleg (Pimsleur) ail-law drwy Amazon. Dim ond $4 costion nhw gan gynnwys y tâl post. Mae yna wyth o wersi, hanner awr yr un. Fel gweddill o ddeunyddiau Pimsleur, does dim llyfrau i'w dysgu.

Dw i wedi gorffen yr wyth gwers; maen nhw'n ardderchog. Maen nhw'n gwneud i chi siarad a chofio geiriau newydd drwy ailadrodd tro ar ôl tro. Mae Eidaleg y ddau (dyn a gwraig) yn swnio'n wych hefyd. Bellach dw i'n medru dweud "che cosa Lei vorrebbe mangiare?" (beth hoffech chi ei fwyta?) ac yn y blaen.

Rŵan, y cwestiwn ydy, beth ddylwn i ei wneud nesa? Mae yna 90 o wersi i gyd gan Pumsleur ac maen nhw'n costio cannoedd o ddoleri. Dw i ddim am wario cymaint o bres pa mor hyfryd bynnag mae'r cwrs. Os oes gynnoch chi syniad, gadewch i mi wybod. (Neil, beth mae dy ffrind yn ei ddefnyddio?)

Thursday, January 6, 2011

o japan


Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn Japan ers dydd Sul diwethaf i helpu criw ffilm Gristnogol. (Paratoi bwyd iddyn nhw ydy eu gwaith pennaf a dweud y gwir! Ond maen nhw'n cael mynd yno o leiaf.) Dw i wedi clywed ganddi hi sawl tro'n adrodd eu hanes.

Maen nhw wrth eu boddau gyda'r bwyd (mewn tai bwyta rhad, dim y bwyd maen nhw'n eu paratoi.) Yn aml iawn mae yna arddangosfeydd o flaen tai bwyta i hysbysu pa fath o fwyd byddwch chi'n medru ei ddisgwyl cyn mynd i mewn (modelau cwyr.) Ac maen nhw'n edrych yn andros o dda.

Tuesday, January 4, 2011

gair newydd

Roeddwn i wedi chwilio amdano fo o'r blaen heb lwyddiant. Gair digon cyffredin ydy o. Pam na fedra i ffeindio'r gair mewn geiriaduron felly? Wedi croeswirio ar y we neithiwr, dw i'n meddwl mod i wedi cael yr ateb; "annoying" byddwn ni'n dweud yma, ond "vexing" ydy'r gair ym Mhrydain, on'd ydy? Plagus - dyna fo.

Monday, January 3, 2011

tân braf


Ydyn ni'n cael gaeaf mwyn eleni. Mae'n ddigon oer yn gyson o'r diwedd i gynnau tân yn ein llosgwr logiau. Gan fod y mab hynaf a oedd yn arfer helpu torri coed tân oddi cartref bellach (mae e ar ei wyliau yn Corea ar hyn o bryd,) y mab fengaf 11 oed a helpodd ei dad i wneud y gwaith ddoe.

Er bod yna waith syrffedes a budr i gadw'r tân, mae e'n cynhesu'r tŷ'n braf wedi'r cwbl. Cawson ni goed gwych gan ffrind mae'n ymddangos; does fawr o ludw wrth iddyn nhw losgi. Rhaid i mi goginio stiw cig eidion ar y llosgwr yr wythnos hon.

Saturday, January 1, 2011

diwedd y gwyliau


Daeth y teulu'n ôl yn ddidramgwydd heddiw wedi mwynhau eu hunan i'r eithaf yn Hawaii heb sôn am dreulio amser gwerthfawr gyda rhieni'r gŵr. Aeth yr ail ferch yn ôl i Japan i ailddechrau gweithio fel tiwtor Saesneg.

Ces i anrhegion o Japan ganddi hi; edrychwch ar un ohonyn nhw! Addurn bach twt a wnaed yn Japan.

Roedd yn wythnos braf heb orfod gwneud fawr o waith tŷ, ond dw i'n falch o fynd yn ôl i'r bywyd arferol, a dweud y gwir.

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.