Wednesday, February 29, 2012

ddim yn medru'r gymraeg

Roeddwn i'n gwybod. Sgrifennais i bost yma at y spamwyr iddyn nhw adael spams yn Gymraeg ddoe; y bore 'ma ffeindiais i dudalen fy mlog yn cael ei llenwi efo spams, yn Saesneg wrth gwrs. Dydy'r bobl sy'n medru'r Gymraeg ddim yn gyrru spams.

Tuesday, February 28, 2012

mis dr. suess


Gŵyl Dewi sy'n cynrychioli mis Mawrth yng Nghymru wrth gwrs, ond ar galendr yr ysgolion America gelwid mis Mawrth yn fis Dr. Suess. Mae plant yr ysgolion yn cael eu hannog i ddarllen yn ystod y mis.
Yn llyfrgell yr ysgol, mae yna le ar y wal i hysbysu digwyddiadau tymhorol. Maxim, y ddynes sy'n gwirfoddoli yno efo fi sy'n newid yr addurniadau bob mis fel arfer. Heddiw helpais i hi i osod ar y wal rhai cymeriadau a grewyd gan Dr. Suess.

to you spammers

I delete all the spam comments left on my blog. If you want to leave any comment, please at least do so in Welsh. I will delete them anyway, but it'll be a bit more pleasant when I read them. Emma Reese

Monday, February 27, 2012

rhy ddrud

Daeth y tiwniwr piano i diwnio'n piano ni. Roedd yna hanner dwsin o allweddau sy'n swnio'n rhyfedd. Fe wnaeth eu trwsio cystal ag y medrodd, ond y broblem ydy bod y padin ar y morthwylion wedi'u treulio. Bydd yn costio $800 i osod padin newydd! Hen biano ail-law sydd gynnon ni. Talon ni ond $200 bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Na, rhaid bodloni efo'r cyflwr ar hyn o bryd; dw i ddim yn siŵr pa hyd mae fy merch yn dal ati chwarae'r piano.

Sunday, February 26, 2012

seren ffilm!

Mae yna ffilm newydd sbon, sef Act of Valor. Brian sy'n ffrind i fy mab hynaf yn actio ynddo, hynny ydy cafodd ran fach fach fel extra. Roedd o eisiau ymuno â SEAL a chael ei hyfforddi am gyfnod. Tra oedd o wrthi, daeth y criw ffilm at yr hyfforddeion i saethu rhai golygfeydd. (Yn anffodus cafodd ei anafu wedyn ac roedd o'n gorfod rhoi'r gorau i'w freuddwyd.) Aeth y gŵr, y mab hynaf a'i ffrind i sinema ddoe i weld y ffilm; roedden nhw wrth eu boddau'n cael cip ar Brian am eiliad. Gyda llaw, dydy'r ffilm ddim yn un o'r goreuon yn eu tyb nhw.

Saturday, February 25, 2012

dysgu drwy wefan ikea

Mae'n ddiddorol a defnyddiol - des i ar draws wefan siop IKEA yn yr Eidal, yn Brescia i fod yn benodol. (Dw i'n dilyn cwrs Eidaleg ar y we a drefnwyd gan gyngor Brescia.) Mae'r gwersi'n seiliedig ar deulu yn Brescia, a heddiw aethon nhw i IKEA i brynu silff. Dyma chwilio am y siop drwy Googl a'i ffeindio. Ces i hwyl darllen am y siop wrth ddysgu geiriau newydd. 

Friday, February 24, 2012

staff dinas ar eich gwasanaeth yn yr eira

Dan ni'n cael gaeaf mwyn iawn yma yn Oklahoma tra mae'n bwrw eira o ddifrif yng ngogledd Japan. Wedi cael dros 1.5 medr o eira yn Aomori, aeth 190 o staff swyddfa'r ddinas i gael gwared â'r eira ar doeau tai henoed ac anabledd. Roedd dynes oedrannus yn byw mewn ofn wrth glywed ei tho'n gwegian o dan bwysau'r eira. A dyma bump yn ei helpu.

Thursday, February 23, 2012

rhaglen orig

Gwyliais i raglen ar fywyd y diweddar Orig Williams, diolch i Linda am y DVD. Wedi darllen ei hunangofiant, sef Cario'r Ddraig, roeddwn i'n awyddus i'w gweld. Braf gweld iddo gario'r Ddraig Goch i'r gornestau'n llythrennol. Roedd lluniau o'r reslwyr cryfion yn dal Tara Bethan yn fabi fach ddel yn ddiddorol!


Des i i wybod am y reslwr ifanc llwyddiannus o Gymru hefyd - Barri Griffiths, y Cymro Cymraeg cyntaf i reslo efo WWE. Dw i ddim yn gweld rhaglenni reslo o gwbl, ond mae'n dda i mi weld pa mor llwyddiannus ydy o.

Wednesday, February 22, 2012

dal i gredu

Roeddwn i'n falch o ffeindio un o Lanberis yn westai ar raglen ddiweddaraf Dal i Gredu, Radio Cymru, sef Heather Lynn Jones. Aelod selog o Eglwys Llanbadarn ydy hi, ac mae'n amlwg bod hi'n byw ei ffydd bob dydd. 


Dyma ofyn i berchennog Maesteg yn Llanberis dw i wedi aros efo nhw sawl tro ydy hi'n nabod Heather. Wrth gwrs mae hi! Mae pawb yn nabod ei gilydd yn y byd Cymraeg. (Tybed a gawn i aros efo nhw eto.)

Tuesday, February 21, 2012

sbwriel

Mae'n sbwriel ni'n cael ei gasglu unwaith yr wythnos ers blynyddoedd. Fel arfer mae'r lori'n dod yn hwyr, byth cyn un o'r gloch. Felly es i â phopeth ond y bag sbarion bwyd at ymyl y palmant cyn gadael yn y bore rhag i gŵn ei dorri tra byddwn i oddi cartref. Roeddwn i'n siŵr y down i'n ôl i fynd â fo allan cyn i'r lori ddod. 
Ond heddiw, daeth hi'n gynt. 
A dyma ddod â'r bag yn ôl. Rhaid ei adael am wythnos arall. Dw i'n mynd i chwistrellu fineg arno fo.

Monday, February 20, 2012

awyren fach fach

Mae fy mab hynaf ynghyd ei gyd-fyfyrwyr wrthi'n gwneud awyren fach fach fel y prosiect terfynol yn y brifysgol. Rhaid cynllunio, prynu defnydd a gwneud un sy'n medru codi, hedfan a glanio. Mae'n dipyn o waith, rhaid i mi ddweud! Wedi damwain anffodus, llwyddon nhw o'r diwedd. Hwrê!

Sunday, February 19, 2012

mae'n gynnes

Dyma ni yng nghanol mis Chwefror a hithau'n gynnes fel gwanwyn - rhyw 60 gradd (16C) yma yn Oklahoma. Mae'r gaeaf yma'n rhyfedd o fwyn; dim ond unwaith cawson ni eira a ddiflannodd y diwrnod wedyn. Mae pawb yn ymlacio yn y p'nawn braf gan gynnwys y moch cwta ar y dec cefn. Dw i'n teimlo'n gysglyd hefyd. Dylwn i fynd am y tro.

Saturday, February 18, 2012

y ffilm

Wedi cael y sgriptiau, roeddwn i eisiau gweld La Vita è Bella unwaith yn rhagor. Felly fu wrth smwddio crysau'r gŵr y bore 'ma. Cymerodd llawer mwy o amser nag arfer i orffen y gwaith wrth reswm! Ffilm hyfryd heb os - y stori, y sgriptiau, yr actorion, y gerddoriaeth... Dw i'n gwirioni ar yr hogyn bach annwyl. Un peth sy'n fy mhoeni ydy fod o'n credu y câi'r tanc go iawn. Gobeithio na chafodd ei siom.

Friday, February 17, 2012

araith y milwyr

O'r diwedd dw i'n gwybod beth mae milwyr yr Almaen yn gweiddi ar yr Iddewon tra oedd Guido'n rhoi cyfieithiad mwyaf rhyfedd yn y ffilm, La Vita è Bella (Life is Beautiful.) Wrth gwrs y cewch chi ddychmygu i ryw raddau drwy'r amgylchiadau, ond roeddwn i'n chwilfrydig beth bynnag. 


Dw i newydd ffeindio gwefan sy'n trafod yr Eidaleg a diwylliant Eidalaidd gan un o Japan a oedd yn gweithio yn yr Eidal. Mae'n ofnadwy o ddifyr a defnyddiol. Postiodd yr awdur rhai sgriptiau'r ffilm hon gan gynnwys araith y milwyr a gyfieithwyd yn Japaneg. (Does dim is-deitl ar ei chyfer hi yn y ffilm.) Ffilm ardderchog ac un o fy ffefryn ydy hi.

Thursday, February 16, 2012

kindle eto

Mae'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf; mae'n gyfleus; mae'n hawdd darllen arno fo. Ac eto dw i ddim yn ei licio wedi'r cwbl - Kindle. Does bai arno; mae'n well gen i ddarllen llyfrau go iawn! Dw i'n licio troi'r tudalennau, sgrifennu nodiau arnyn nhw a defnyddio'r llyfrnodau a wnaeth y plant i mi. Fydd dim rhaid i mi ofni pan fydda i'n gollwng llyfrau ar ddamwain chwaith. Hen ffasiwn ella ond dyna fo. 

Wednesday, February 15, 2012

dolis barbi brenhinol

Roedd gan fy merched ddwsinau o ddolis Barbi pan oedden nhw'n iau. Roedd rhaid bod nhw'n gwalio cannoedd o ddoleri'n casglu un ar ôl y llall. Bydden nhw wedi bod yn falch o fuddsoddi eu pres i berchen ar hyn! (Diolch i Aled Huws o Bost Cyntaf am y wybodaeth!)

Tuesday, February 14, 2012

cennin i fwncïod

Dywedir yn Japan fod negi sy'n debyg i gennin yn cynhesu'ch cyrff a gwneud lles i chi. Cafodd mwncïod mewn sw yn Japan negi'n anrheg gan gynhyrchydd yn ddiweddar. Roedd o'n gobeithio na fydd y mwncïod yn dal annwyd, ac wrth gwrs yn hysbysebu ei gynnyrch ar yr un pryd. Hysbyseb neu beidio roedd y mwncïod yn bwyta'r negi'n awchus. Gobeithio y byddan nhw'n iach drwy'r gaeaf.

Monday, February 13, 2012

hotok

Mae gan y gŵr ddiddordeb newydd sef dysgu Coreeg. Wedi cyfarfod myfyriwr o Corea yn y ganolfan hamdden, mae o'n mwynhau ei gwmni'n gyson. Gwahoddon ni fo i ginio sydyn ddoe. Roeddwn i'n digwydd bwriadu paratoi hotok a ges i'n anrheg gan fy mab hynaf a oedd yn treulio mis yn Corea'n ddiweddar. Y broblem oedd mai yn y Coreeg roedd y cyfarwyddiadau a dydy'r un o'r ddau (y gŵr a'r mab) yn ddigon rhugl. Felly mi wnaeth presenoldeb ein ffrind newydd achub y diwrnod. Ces i ynghyd fy mab a'n ffrind lawer o hwyl yn paratoi hotok sy'n debyg i grempogau efo triog yng nghanol. Roedden nhw'n flasus dros ben!

Sunday, February 12, 2012

yn hollol annisgwyl

Fedra i ddim credu beth sydd wedi digwydd y bore 'ma. Pan oeddwn i wrthi'n gweini coffi ar ôl yr ysgol Sul, daeth dynes ddieithr am goffi. Merch un o'r aelodau ydy hi, ac mae hi'n ymweld ei mam yma ar hyn o bryd ond yn byw yn yr Eidal ers 26 mlynedd! Doeddwn i ddim yn disgwyl ffasiwn beth! Dechreuon ni sgwrsio'n Eidaleg - y sgwrs Eidaleg fyw gyntaf i mi. Roedd yn anodd cofio popeth dw i wedi bod yn ei ddysgu; roeddwn i eisiau dweud mwy ond rhaid bodloni efo pynciau syml. Roedd fy mab sy'n treulio'r penwythnos efo ni'n digwydd gwisgo crys tîm pêl-droed cenedlaethol yr Eidal! Dyma gael tynnu llun ohonon ni. 

Saturday, February 11, 2012

gobaith arall

Gan fod ein rhyngrwyd yn annioddefol o araf, cwynodd y gŵr wrth ATT sy'n ein gwasanaethu. Does dim byd i'w wneud ar hyn o bryd oherwydd lle dan ni'n byw, ond mae ATT yn bwriadu gosod llinell newydd yn ein hardal ni erbyn yr haf i wella'r sefyllfa! Hwrê! Mae'r rhyngrwyd yn dal yn araf, ond mi fedra i oddef yn well mewn gobaith.

Friday, February 10, 2012

myffins cwrw

Doeddwn i ddim yn siŵr sut fyffins a gaen ni pan dywalltais i gwrw yn y cymysgedd o flawd. Roedd yr arogl cwrw'n gryf iawn. Dw i ddim yn yfed cwrw. Fedrwn i ddim prynu un, felly roedd rhaid prynu hanner dwsin (y rhataf wrth gwrs.) Os byddwn i'n methu, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud efo nhw. Pan dynnais i'r myffins o'r popty, ges i fy synnu ar yr ochr orau. Roedden nhw'n hynod o flasus; roedd yr arogl cwrw wedi diflannu'n gadael ond arogl ysgafn tebyg i furum. Does dim rhaid i mi daflu gweddill o'r cwrw!

Thursday, February 9, 2012

gobaith

Dyma nhw'n ôl, y tiwlipau a ges i gan yr hogan o Abertawe yn 2010 (dim tiwlipau o Gymru ond rhai lleol i fod yn benodol.) Ddiwedd tymor y llynedd mi wnes i dorri'r pennau i fwrdd yn ôl gwybodaeth ar y we'n gobeithio y bydden nhw'n blodeuo eto. Dw i newydd weld egin bach yn gwthio eu ffwrdd i fyny drwy'r dail sychlyd. Mae'n debyg y cawn ni dywydd oer cyn dyfodiad y gwanwyn yn swyddogol. Gobeithio y bydd y tiwlipau'n goroesi'r tywydd rhyfedd eleni a dwyn eu blodau hardd eto.

Wednesday, February 8, 2012

oherwydd yr eira mawr

Dw i wedi gweld hanner dwsin o geirw yn neidio ar draws ffordd, ond welais erioed cynifer ohonyn nhw, ac mewn gorymdaith ar stryd! Druan ohonyn nhw; rhaid eisiau bwyd o ddifrif i wneud ffasiwn beth. Gobeithio bod nhw wedi ffeindio rhywbeth.


Ond pam mai yn Saesneg mae'r arwydd ffordd?

Tuesday, February 7, 2012

dvd il volo

Bydd DVD cyntaf il Volo ar werth Chwefror 28. Wrth gwrs fy mod i wedi archebu copi'n syth. (Yn ffodus mae gen i ddigon o bwyntiau Amazon fel mai ond doler daliais i.) Prynais i chwe chân Eidaleg gan iTune hyd yma a dw i'n mwynhau gwrando arnyn nhw dro ar ôl tro. Edrycha' i ymlaen at y DVD yn fawr iawn felly. Mae yna fwy o ganeuon Eidaleg a rhai yn ieithoedd eraill a ganwyd yn fyw yn Detroit. Ces i gip sydyn arno fo; mae ansawdd y lluniau'n arbennig o dda. Diddorol gweld bod pobl ganol oed (dynion hefyd!) ynghyd merched ifanc yn cael eu swyno'n llwyr gan yr hogiau ifanc o'r Eidal. A dw i'n medru cydymdeimlo â nhw'n llwyr!

Monday, February 6, 2012

fy hoff ddiwrnod

Dydd Llun ydy fy hoff ddiwrnod yr wythnos. Wedi goresgyn penwythnos prysur, mae'n braf cael bod yn y tŷ distaw nes dechrau'r gwasanaeth tacsi am hanner dydd ymlaen. Dydy'r gwaith gwirfoddoli ddim bore dydd Llun chwaith. Dw i'n mwynhau darllen a gwrando ar newyddion o'r Unol Daleithiau, o Japan o Gymru ac o'r Eidal ar y we wrth gadw llygad ar bynciau diddorol ar gyfer fy mlog. Mae fy merch briod yn sgrifennu e-bost ata i bob dydd ar wahân i benwythnosau, felly ar ddydd Llun dw i'n falch o dderbyn ei neges gyntaf yr wythnos.

Sunday, February 5, 2012

gŵyl eira

Cynhelir Gŵyl Eira rhwng Chwefror 6 a 12 yn Sapporo, Japan. Bob blwyddyn dros 200 o gerfluniau eira'n cael eu gwneud gan bobl leol, aelodau'r lluoedd amddiffyn Japan ar strydoedd y ddinas. Ers 40 mlynedd mae timau tramor yn ymuno â'r ŵyl yn ychwanegu eu cerfluniau. Mae'r ŵyl yn tynnu cannoedd o filoedd o ymwelwyr. Y peth trist ydy bydd y cerfluniau i gyd yn cael eu chwalu ar ôl yr ŵyl er diogelwch y cyhoedd.

Saturday, February 4, 2012

y cardiau post

Roedden nhw rhwng tudalennau un o'r llyfrau sy'n pentyrru. Roeddwn i'n chwilio amdanyn nhw ers misoedd yn credu'n siŵr na fyddwn i byth wedi  eu tablu nhw - dau gerdyn post a anfonwyd gan gwpl tra oedden nhw ar eu gwyliau yn yr Eidal ddwy flynedd a hanner yn ôl. Pan dderbyniais i'r cardiau, fedrwn i ddim dychmygu y byddwn i'n dysgu'r Eidaleg un diwrnod. Mae yna gyfuniad rhyfedd - cardiau post o'r Eidal a sgrifennwyd yn Gymraeg.


Lle mae Totoro? Na, chewch chi mo'i weld o bob tro. Ella rywdro...

Friday, February 3, 2012

glaw sydyn

Pan oeddwn i ar adael y tŷ p'nawn 'ma i gasglu'r plant, dechreuodd fwrw glaw ond dim llawer. Felly adawais i'r tri mochyn cwta ar y dec cefn iddyn nhw fwynhau'r awyr iach. Wedi'r cwbl roedd yna gadair os rhaid iddyn nhw gael cysgod rhag glaw. Hanner awr wedyn dechreuodd fwrw'n ddifrifol efo mellt a tharanau! Penderfynais i frysio'n ôl ar ôl casglu ond un o'r plant. Daeth y glaw yn drwm ar ffwrdd; roedd y goleuadau traffig i gyd yn goch! Gollyngais fy mab wrth ddrws y garej, yna i ffwrdd â fi i gasglu fy merch a oedd yn aros amdana i yn y glaw. Erbyn i ni gyrraedd adref o'r diwedd, stopiodd y glaw, a ffeindiais i'r moch cwta yn eu cwt yn bwyta eu bwyd yn hapus wedi cael eu sychu gan fy mab. 

Thursday, February 2, 2012

camp

Dw i newydd sylweddoli mai Baruto enillodd y twrnamaint swmo cyntaf eleni! Er ei fod o wedi methu ennill yr holl ornestau, fo a enillodd mwyaf (14-1.) Camp fawr gyntaf iddo ers dod i Japan wyth mlynedd yn ôl. Mi wna i ddilyn y twrnamaint nesa ym mis Mawrth!

Wednesday, February 1, 2012

un o'r aifft

Sgrifennais i am y reslwr Swmo o Estonia o'r blaen. Heddiw gadewch i mi gyflwyno un o'r Aifft, y reslwr Swmo cyntaf o Affrica.


Mae Abdelrahman, 19 oed yn dod o Daquahlia. Dechreuodd chwarae Swmo ers pedair blynedd. Enillodd gystadlaethau yn Ewrop sawl tro'n barod. Daeth i Japan y llynedd i gychwyn ei yrfa fel reslwr Swmo proffesiynol. Mae o newydd gael ei dderbyn gan un o dimau Swmo, ac wrthi'n ymarfer er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth ym mis Mawrth. Clywais i si mai Storm Tywod Fawr a fyddai ei enw fel reslwr. Pob llwyddiant!