"Ga' i siarad â Trump? Ble mae o? Hoffwn gael cyfarfod ag arlywydd go iawn," meddai prif weinidog Israel, wedi cyrraedd America. Hollol gredadwy! Go da, y Wenynen unwaith eto!
Gwahodd a wnaeth Donald Trump Bibi Netanyahu i Mar-a-Lago wedi'r cwbl.
"Ga' i siarad â Trump? Ble mae o? Hoffwn gael cyfarfod ag arlywydd go iawn," meddai prif weinidog Israel, wedi cyrraedd America. Hollol gredadwy! Go da, y Wenynen unwaith eto!
Gwahodd a wnaeth Donald Trump Bibi Netanyahu i Mar-a-Lago wedi'r cwbl.
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.” Genesis 12:3
Mae rhai yn gwrthwynebu bendith Duw ar ddisgynyddion Abraham oherwydd hanes anffyddlondeb Israel. Ond nid dyna'r pwynt. Mae dewis Duw'n dibynnu ar Ei ras ac er mwyn Ei enw Ei hun. Mae'r addewidion yn dal. Bydd y rhai sy'n bendithio Israel yn cael eu bendithio, a bydd y rhai sy'n gwneud niwed iddyn nhw'n wynebu dicter Duw. I rai pobl, gall fod yn anodd sefyll a siarad dros Israel yn yr hinsawdd gyfredol, ond mae eisiau ffrindiau ar Israel rŵan yn fwy nag erioed. Well i ni fod ar ochr Dduw yn hytrach na ar ochr Ei gelynion.
Yn erbyn esgus gwirion Pen Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau, wedi iddyn nhw fethu amddiffyn y cyn arlywydd Trump, mae memes doniol yn mynd o gwmpas yn helaeth. Hwn ydy fy ffefryn. Mae angen chwerthin arnon ni yn y byd tywyll hwn, nag oes?
Dim ond gras Duw a gweddïau taer ei bobl achubodd bywyd y cyn Arlywydd Trump. "Bydded i ein cenedl ni fod yn rhagorol unwaith eto yng ngolwg Duw." Amen.
Hyd yn oed wedi'r holl drigolion eu gwacáu oherwydd ymosodiadau rocedi Hezbollah, mae'r gynulleidfa Fesianaidd yn Kiryat Shmona, yng ngogledd Israel yn dal i wasanaethu milwyr y IDF gan goginio prydau o fwyd poeth bob dydd. Goleuni mewn tywyllwch maen nhw.
Yn yr Almaen bydd fy merch hynaf yn peintio'r murlun nesaf. Bydd hi a’i gŵr yn hedfan i Wuppertal ger Cologne i greu murlun mawr ar wal adeilad 4 llawr, murlun mwyaf iddi. Mae'r trefnydd trefnus wrthi'n trin y wal ar ei chyfer hi ar hyn o bryd. (clên iawn!)
Penblwydd Hapus i America!
“Mae America yn odidog oherwydd bod America yn dda, os bydd America yn peidio â bod yn dda, bydd America yn peidio â bod yn odidog.” - Alexis de Tocqueville
Wedi'r ddadl rhwng y Cyn-arlywydd Trump a Mr. Biden, mae rhai pobl yn gwawdio'r olaf, ond byddwch chi'n ofalus, a gwybod beth mae Gair Duw yn ei ddweud:
"Pleidleisiwch dros y rhai sydd yn rhannu ein hegwyddorion ni mor agos â phosibl, oherwydd nad ydy Iesu ar y bleidlais."
"Paid ag ofni" - dywed y geiriau hyn cynifer o amser yn y Beibl. Roedd gan hyd yn oed Elias a oedd mor ddewr yn erbyn y Brenin Ahab a'r proffwydi Baal ac Asera, ofn pan fygythiwyd gan y Frenhines Jesebel; ffoi a wnaeth am ei fywyd. Mae gan bawb ofn. Dyna pam roddodd Duw i ni gynifer o addewidion. Does dim rhaid inni ofni oherwydd bod Iesu wedi gorchfygu'r byd, ac mae O gyda ni.
Mae nifer o Gristnogion ifanc yn chwilio am eu darpar priod, mae'n siŵr. Dydy hi ddim yn hawdd bob amser dod o hyd i'r un sydd yn addas i chi. Dyma gyngor doniol gan y Wenynen. Mae'r rhan fwyaf ohono fo'n ddefnyddiol mewn gwirionedd. Dw i'n hoffi rhif 4!
Diolch i Geert Wilders am ei ddewrder. Bydded i Dduw Israel ei fendithio yn ôl Ei addewid.
"A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd, ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r Arglwydd, diffygiodd ei hysbryd." - 1 Brenhinoeddd 10:4,5
"Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un." - y Pregethwr 12:13
Roedd y Brenin Solomon yn ddyn doethaf yn y byd, a bendithiwyd gan Dduw yn fawr iawn. Trueni na chymerodd o'i gynghorion doeth ei hun.
Mae'r ci drws nesaf yn mynnu dod i'n hiard ni drwy ddringo'r ffens. Mae'r perchennog yn gwrthod ateb y drws pan aeth y gŵr i siarad â fo. Ces i syniad da - Mae gynnon ni hen arwyddion iard ymgeiswyr gwleidyddol yn y garej. Dyma ni yn eu hailgylchu nhw er mwyn atal y ci rhag dringo'r ffens.
Gobaith - yr elfen bwysicaf mewn bywyd
Pwy gall fyw hebddo fo? Ond beth ydy gobaith? Mae rhai yn dweud mai agwedd meddyliol cadarnhaol ydy o, ond mae'r Beibl yn dweud mai dibyniaeth gadarn ar Dduw ydy gobaith. Ac mae gan obaith enw, sef Iesu.
Mae fy merch hynaf newydd orffen murlun arall. Roedd dwsinau o artistiaid wrthi'n creu murluniau lliwgar yn Ŵyl Furlun yn Ponca City, Oklahoma penwythnos diwethaf. Cafodd gymorth gwerthfawr gan ei gŵr a'i ffrind o Japan. Dagrau Mefus ydy teitl y murlun. Roedd yn hynod o boblogaidd ymysg ymwelydd benywaidd.
Cangarŵ druan! Mae'n mynd o ddrwg i waeth iddyn nhw.
Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad wedi'i gomisiynu. Dyma ferch Ffilipinaidd sydd yn gwisgo ffrog gyda llewys pwff traddodiadol. Sampaguita ydy'r blodyn gwyn (blodyn cenedlaethol Ynysoedd y Philipinau.)
Roedd yn ein 42fed penblwydd priodas ni ddoe. Dathlon ni gan gael swper yn Napoli's, ac archebu Tiramisu. (Dan ni byth yn archebu pwdin fel arfer.) Dw i'n diolch i Dduw bob dydd am y gŵr sydd yn caru Iesu o'i galon, a gweithredu Gair Duw yn ddidwyll.
- Gary Hamrick, Cornerstone Chapel, Virginia
Dywed Arglwydd y Lluoedd:
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio ...." Genesis 12:3
".... am fod pob un sy'n cyffwrdd â chwi yn cyffwrdd â channwyll ei lygad." Sechareia 2:8
Dyma ddarluniad gan fy merch hynaf, wedi iddi glywed y ddihareb a bostiais Ddydd Llun! Ces i fy synnu ei bod hi wedi ei throi hi yn gelf, ac ar unwaith hefyd. Rhaid bod y ddihareb danio ei dychymyg.
Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor hardd ydy blodau coffi nes gweld y fideo hwn gan Job yn Honduras. Mae o a'i deulu'n rhedeg fferm er mwyn dangos i'r ffermwyr lleol ffordd llawer gwell i ffermio. Mae hyn yn agor drws iddo rannu'r Efengyl gyda nhw hefyd. Cafodd help gan griw o Iowa'n ddiweddar.
Cafodd fy mam ymwelydd arbennig, sef ei gor-wyres. Aeth fy merch â'i babi i weld ei nain am y tro cyntaf ers cael y babi dri mis yn ôl. Roedd fy mam wrth ei bodd wrth gwrs, ac yn mynnu y byddai ei gor-wyres yn tyfu'n ferch hardd!
Mae gen i syniad gwych i ddatrys problem gyfredol yn Gaza: dylai'r Aifft agor y porth ar groesfan Rafah, a gadael i bobl Gaza lochesi yn eu gwlad. Wedi'r cwbl, mae cyd Mwslemiaid mae pobl Gaza, heb sôn am ba mor enfawr ydy Penrhyn Sinai. Mae yna fwy na digon o le i groesawi ffoaduriaid. Os nad ydy'r Aifft eisiau ei wneud o, dylai'r Cenhedloedd Unedig, neu'r Unol Daleithiau orchymyn i'r Aifft ei wneud o, fel maen nhw'n bob amser orchymyn i Israel wneud hyn a'r llall. Yna, gall yr IDF ddinistrio Hamas yn llwr heb boeni am y bobl.
Cafodd coesyn iris yn yr iard ei dorri'n ddau gan storm gref. Achubodd y gŵr y planhigyn druan neithiwr, a dyma fi'n ei osod mewn ffiol. Ces i fy synnu'n bleserus y bore 'ma yn gweld y blaguryn yn blodeuo. Wrth weld y blodyn yn fanwl, ces i fy nharo i sylwi'r harddwn a chynllun anhygoel y Duw.
Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith. - y Salmau 90:10
Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. - Effesiaid 5:15
Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni. - Effesiaid 10:11
Yn union fel roedd gwaed oen perffaith yn amddiffyn yr Israeliaid rhag y pla, bydd gwaed Iesu yn amddiffyn pawb sy'n credu ynddo rhag digofaint Duw.
Peidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef. (Rhufeiniaid 12:2)
Ces i fy nghyfarch gan yr iris cyntaf yn yr iard y bore 'ma. Ceith ei ddilyn gan nifer o eraill. Maen nhw'n dda; dydyn nhw ddim angen gofal o gwbl bron. Dyma flodau i mi!
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio..."
Pan gododd gwas gŵr Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, “O feistr, beth a wnawn ni?” Dywedodd yntau, “Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.
2 Brenhinoedd 6: 15,16
Mae'n llygad ei le.
Roedd yr awyrgylch yn od dros ben wrth i'r haul tywyllu yng nghanol dydd. Aeth goleuadau cyntedd y cymdogion ymlaen yn awtomatig. Roedd y gŵr yn barod i weld diffyg yr haul mewn modd diogel, heb niweidio'r llygaid. (Optometrydd wedi ymddeol mae o.) Roedd y ddelwedd yn glir ar bapur. Yna, aeth popeth drosodd, ac mae'r haul wedi "dychwelyd."
Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall am sbel, i helpu'r lloches cŵn lleol. Bandit ydy ei enw. Er ei fod o'n edrych yn ffyrnig, swil ac ofnus ydy o. Mae'n debyg ei fod o wedi cael ei gam drin o'r blaen. Mae o'n caru fy merch yn fawr bellach. Gobeithio y bydd o'n ffeindio cartref parhaus yn fuan, ond bydd yn drist ffarwelio gyda fo hefyd.
Yn eistedd wrth oleuadau traffig y tu ôl i gar Heddlu Dinas Oklahoma, methodd y gyrrwr weld beth oedd y swyddog yn ei wneud. Er bod y golau'n troi'n wyrdd, stopiodd y swyddog y traffig gyda golau coch ymlaen ar ben y car. Yna, gwelodd y gyrrwr hwyaden a'i babis yn croesi'r stryd.
Mae rhai pobl yn hoffi cyhuddo Israel am ei pholisi apartheid, heb wybod dim byd am y ffeithiau. Neu efallai eu bod nhw'n ymwybodol ohonyn nhw, ond does dim ots gyda nhw.
Dau o fy ffefrynnau yn yr erthygl hon:
Does dim rhaid i rai pobl ddweud celwydd wrth ddathlu'r diwrnod hwn. Mae'r llywodraeth (America yn yr achos hwn) yn hen gyfarwydd â thwyllo ei bobl yn ddiweddar fel bydd yn syniad ffres iddo ddweud y gwir heddiw am newid.
Roedd Nehemeia'n ymddiried ar Dduw, a gweddïo drwy'r amser. Roedd yn gwneud yn siŵr i arfogi'r gweithwyr tra eu bod nhw'n gweithio. Gorffennwyd y wal o gwmpas Jerwsalem mewn 52 diwrnod dan ei arweinyddiaeth ddewr er gwaethaf cynllwynion y gelynion. Un o'r gwersi y gallwch eu dysgu o Lyfr Nehemeia - byddwch yn weddigar ac yn ymarferol.
Mae'n ymddangos nad oedd neb yn talu sylw ar fy Hamantaschen yn ystod y cinio ddoe. Clywais, fodd bynnag, ei fod o wedi bendithio rhai ffrindiau Iddewig fy merch hynaf. Gyrrodd hi'r llun atyn nhw, ac roedden nhw i gyd yn hapus. Dwedodd un ohonyn nhw ei fod o'n teimlo'n ddwfn yn ei galon fy ngweithred o gariad. Mae hyn yn fwyn na digon i mi.
Roedd gan Haman gynllwyn i ddinistrio'r holl Iddewon yn yr ymerodraeth Bersia, ond cafodd ei grogi yn y diwedd. Dylai'r Hamas ddarllen Llyfr Esther yn y Beibl, a dysgu gwers.
Dyma fy fersiwn o Hamantaschen ar gyfer potlwc yn yr eglwys heddiw.
Daeth aelodau Sefydliad Cynghreiriaid Israel o fwy nag ugain gwlad at ei gilydd yn Kfar Aza yn ddiweddar i weld y dinistr a achoswyd gan ymosodiad Hamas Hydref 7fed.
Dw i'n falch o weld y Ddraig Goch ar y bwrdd.
Mae'r IDF yn defnyddio cŵn roboteg wedi'u cyfarparu ag arfau a chamerâu, yn nhwneli Hamas. (Mae hyn yn llawer gwell na defnyddio cŵn byw er bod anfon cŵn at y twneli'n llawer gwell na anfon dynion, wrth gwrs.) Mae'r robotau’n costio 165,000 doleri'r un, ond mae Israel yn gwerthfawrogi bywydau, hyd yn oed bywydau anifeiliaid.
Gwelais arwydd gwanwyn y bore 'ma, sef tŷ adar y gymdoges. Mae hi'n ei dynnu i lawr yn ystod y gaeaf bob blwyddyn. Mae nifer o adar eisoes yn prysur adeiladu nyth tu mewn.
Wedi dyddiau cynnes, gostwngodd y tymheredd fel mae'n digwydd yn aml yn Oklahoma. Cafodd y blodau a oedd yn mwyhau'r cynhesrwydd eu sioc. Roedden nhw'n crynu mewn oerfel y bore 'ma (gan gynnwys y goeden geirios yn y gymdogaeth.)
Enillodd y Cyn-arlywydd Donald Trump Super Tuesday yn ddirlithriadol, fel disgwyliwyd. Bydd o'n wynebu Mr. Biden yn y ras arlywyddol. Mae pawb yn gwybod bod yr olaf yn dioddef o ddementia, ac yn methu siarad yn gydlynol, heb sôn am arwain gwlad. Gawn ni weld sut bydd o'n ymdopi dadleuon arlywyddol.
Super Tuesday ydy hi heddiw. Eleni, bydd 15 talaith yn pleidleisio i ddewis ymgeisydd arlywyddol dros bob un o'r ddwy blaid. Mae'r canlyniad yn amlwg yn barod, ond rhaid bwrw ymlaen fodd bynnag. Dw i ddim yn cael pleidleisio yn anffodus oherwydd mai preswylydd CYFREITHLON ydw i.
"Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno." Salmau 121:4
Dyma gyflwr y grwpiau a geisiodd dinistrio pobl Israel hyd yma. (Diolch i Hanannya am y rhestr.) Dylai pawb gofio adewid Duw a roddwyd i Abraham a'i ddisgynyddion:
"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio."
"Dyn ni'n dod atat ti yn enw Arglwydd y Lluoedd, Duw byddin Israel, yr wyt ti wedi ei herio."
"Dan ni'n ôl yn America. Yma, mae'r seddi toiled yn oer ond y tai yn gynnes." Dyna beth ddwedodd fy merch ar dudalen Facebook! Mae hi'n wir. Dydy pobl Japan ddim yn defnyddio systemau effeithiol i gynhesu eu tai am ryw reswm, er bod ganddyn nhw dechnoleg flaenaf mewn meysydd eraill (gan gynnwys seddi toiled anhygoel.)
Daeth fy merch hynaf a’i gŵr adref yn Oklahoma City yn ddiogel neithiwr. Treulion nhw dau fis a hanner yn Japan. Collodd hi 3 phwys, a chollodd ei gŵr 10 dim ond trwy orfod cerdded o gwmpas, a defnyddio grisiau ar orsafoedd trên! Roedden nhw'n bwyta cymaint a mynnon nhw hyd yn oed.
Wedi treulio dros ddau fis yn Japan yn cyflawni nifer o bethau sylweddol, mae fy merch hynaf a'i gŵr ar adael am adref. Dyma olwg wahanol ei murlun diweddaraf. O dan reilffordd brysur mewn tref boblogaidd, mae o'n tynnu sylw nifer o bobl.
Wrth i Ddydd Valentine nesáu, mae prisiau blodau, balwnau, ayyb yn codi'n hurt. Mae brawd y gŵr yn hoffi rhoi anrhegion cariadus i'w wraig annwyl yn gydwybodol ar bob achlysur. Ceisiodd drechi'r gad drwy wneud y gwaith siopa'r wythnos diwethaf, ond roedd y prisiau wedi codi'n barod yn anffodus. Dw i'n falch nad ydw i na'r gŵr yn credu yn Nydd Valentine.
Dyma furlun newydd fy merch yn Tokyo. Gweithiodd hi a'i gŵr yn galed drwy eira a gwynt am ddyddiau. Mae'n wych dros ben. Gobeithio y bydd o'n bendith i'r ardal.
Cafodd Tokyo eira, tua dwy fodfedd, fel dyddiau fy mhlentyndod. Ces i fy magu ym maestrefi Tokyo, a dw i'n cofio chwarae mewn eira gyda ffrindiau, adeiladu iglw bach gyda fy mrawd, a chael te tu mewn. Mae eira sylweddol yn brin yno yn ddiweddar fodd bynnag. Roedd yn brofiad arbennig i fy merched.
Wal hiliol a adeiladwyd gan Israel? Na. Y wal ffin rhwng Gaza a'r Aifft a adeiladodd yr olaf ydy o, er mwyn cadw pobl Gaza allan o'r Aifft. Mae'n amlwg ei fod o'n effeithiol oherwydd bod neb yn medru ffoi i'r Aifft o Gaza. Diolch i Hananya Naftali am y llun.
Mae fy merch hynaf wrthi'n creu ei murlun cyntaf yn Japan, mewn un o'r trefi ffasiynol yn Tokyo. Cafodd ei sioc i wybod bod yn hollol ddiogel gadael ei phethau wrth ochr y wal, a does neb yn chwistrellu cyffuriau neu greu llanast o gwmpas! Y broblem fawr oedd ffeindio paent ar gyfer waliau gan nad ydy pobl Japan yn paentio tai neu ddodrefn fel hobi.
Mae fy wyres newydd yn edrych yn union fel un o fy mabis, yn enwedig fel ei mam, (wrth gwrs.) Ces i fy merch 30 mlynedd yn ôl, a rŵan, mae hi wedi cael babi bach.
Dw i'n archebu ar lein o Walmart bob wythnos, ar wahân i fwyd ffres. Bydda i'n mynd i'r siop yn berson am yr olaf. Yn aml iawn bydda i'n gweld gweithwyr Walmart yn gwneud siopa wrth lusgo troli enfawr ar gyfer y cwsmeriaid. Roedd nodyn cyfarch, gyda fy nwyddau, gan Christopher a wnaeth siopa drosta i. (Am y tro cyntaf i mi weld nodyn felly.) Dyma fo!
Torrodd ein blwch post ni un diwrnod. Roedd o a'r polyn yn gorwedd ar y ddaear! Daeth gyda'r tŷ pan brynon ni o chwarter canrif yn ôl wedi'r cwbl. Dyma ofyn i Marcus, ein dyn-o-bob-tasg ni i osod blwch a pholyn newydd. Fe wnaeth y gwaith yn anhygoel o gyflym.
Yn ôl arolwg diweddar gan Brifysgol Harvard, mae 51 y cant o Gen Z, sef Americanwyr rhwng 18 a 24 oed yn credu dylai Israel derfynu fel gwlad, a dylai'r tir ei roi i'r Palestiniaid er mwyn datys y broblem rhwng y dwy bobl. Mae'r genhedlaeth hon yn dilyn y mwyafrif, wir ai peidio yn anwybyddu ffeithiau a hanes. Rhaid cofio geiriau Duw wrth Abraham, "bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio."
Wedi mynd yn ôl i Tokyo, penderfynodd fy merch weld meddyg wrth ei chyflwr barhau. Mae'n bosib bod ganddi beswch asthma, a chafodd feddyginiaeth.160 doleri oedd cyfanswm y gost, gan gynnwys prawf gwaed a phelydr-x, heb aswiriant. Methodd fy merch credu'r swm, a gofyn i'r derbynnydd a oedd yn iawn. Yn America, byddai wedi costio cwpl o filoedd o ddoleri GYDAG aswiriant! Mae rhywbeth o'i le gyda'r system feddygol yn y wlad yma.
Mae tywydd gaeafol llym yn parhau, yn Oklahoma ac yn Japan. Cafodd fy merch hynaf annwyd ofnadwy; dydy'r tywydd ddim yn helpu wrth gwrs. Cafodd hi a'i gŵr gwahodd i fynd i Okinawa, ynys ddeheuol Japan, fodd bynnag, ac maen nhw'n treulio wythnos braf mewn tywydd mwyn. Gobeithio y bydd hi'n gwella.
Ymwelodd fy merch feichiog â'i nain yn ei chartref henoed. Roedd fy mam wrth ei bodd yn "cyfarfod" ei gor-wyres. Bydd ond tair wythnos tan y dyddiad geni disgwyliedig.
Efallai nad ydy Llyfr Numeri yn y Beibl yn cael eu darllen yn aml. Ond ces i fy synnu'n darganfod bod yna nifer o bethau diddorol wrth ei ddarllen eto. Yn y bennod un, cewch chi weld bod Duw'n penodi 12 dyn a fyddai'n helpu Moses. Mae o'n eu galw nhw gyda'u henwau nhw, ynghyd ag enwau eu tadau. Mae Duw yn fy nabod i, eich nabod chi. Mae o'n ein galw ni gyda'n henwau i ni.
"Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu." - Philipiaid 4:6,7
Daeth yr adnodau hyn ata i ddyddiau'n ôl pan oeddwn i'n wynebu her. Yna, clywais iddyn nhw gael eu darllen ar lein. Yna, darllenodd gwraig y gweinidog yr un adnoddau yn y gwasanaeth boreol ddoe. Mae'n amlwg bod y Duw eisiau gwneud yn siŵr fy mod i'n clywed ei neges! Yn wir i'w addewid, ces i ei dangnefedd sydd goruwch pob deall.