Wednesday, December 30, 2020

ysgogi'r economi



Mae'r Arlywydd Trump wrthi'n gweithio dros bobl weithgar America tra ei fod o'n brwydro'n ddiflino yn erbyn y Gors drwchus bob dydd. Mae o eisiau gyrru siec arall at bob trethdalwr er mwyn ysgogi'r economi. Er gas gen i feddwl bod y Democratiaid yn ceisio cymryd mantais ar y bil, byddwn i eisiau helpu economi America. Dyma gyfrannu ato drwy archebu bwyd a llyfr ar lein.

Tuesday, December 29, 2020

pecyn cinio

Mae'r mab ifancaf adref ar ei wyliau am dair wythnos cyn cychwyn y tymor newydd yn y brifysgol. Roedd o eisiau pecyn cinio, a gofyn i mi baratoi un fel roeddwn i'n arfer ei wneud iddo fo - brechdan gig twrci a chaws, ffyn moron, afal a chreision. Cafodd bicnic braf ar y dec cefn.

Monday, December 28, 2020

helpu llaw

Ces i a'r gŵr hwyl chwarae gyda'n ddau ŵyr - hogyn pedwar oed a hogan dair oed. Daeth hi ato'n hystafell wely ni wedi iddi ddeffro yn y bore, a helpu'i thaid i wneud ymarfer corf. Roedd ein plant ni'n arfer gwneud hyn hefyd pan oedden nhw'n fach.

Saturday, December 26, 2020

amser gyda'r teulu

Dw i wedi treulio tri diwrnod yn Norman gyda'r teulu sydd yn America. Yn anffodus, methodd fy tair merch yn Japan ddod adref oherwydd y cyfyngiadau llym. Wnaethon ni ddim dim byd arbennig, ond bod gyda'n gilydd a chyd bwyta. Yr uchaf bwynt oedd gweld y ddau furlun a phaentiad diweddaraf fy merch hynaf. Eisteddon ni o flaen un o'r ddau mewn tŷ bwyta, a chael ramen a yakitori hynod o flasus.

Friday, December 25, 2020

y newydd da


Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i'r holl bobl: 

ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw'r Meseia, yr Arglwydd.

Nadolig Llawen

Monday, December 21, 2020

y bugeiliaid ger bethlehem


Nid bugeiliaid cyffredin oedd y rhai a glywodd y neges ryfeddol gan yr angel y noson honno. Y bugeiliaid a oedd yn gofalu am yr ŵyn arbennig ar gyfer aberth teml yn Jerwsalem oedden nhw. Gwyliwch ar y fideo anhygoel gan One for Israel am ffeithiau anhysbys hanes y Geni.

Saturday, December 19, 2020

lle newydd

Dw i newydd osod y ddwy Olygfa Eni arferol. Roedd yr un a brynais yn Japan flynyddoedd yn ôl yn addurno’r silff ben tân bob blwyddyn, ond eleni, dewisais le gwahanol, wedi symud y teledu dan ni byth yn ei ddefnyddio'n ddiweddar i ffwrdd. Mae'r angel yn hongian ar "fachyn" bag llaw a ges i'n anrheg yn Fenis. Creais seren fawr er mwyn cuddio'r socedi trydan.

Friday, December 18, 2020

y goleuni

Roedden ni'n dathlu Chanwcah am wyth diwrnod wrth gofio sut bendithiodd Duw'r grŵp bach o Iddewon iddyn nhw fedru trechu'r fyddin anhygoel o nerthol. Rŵan, tymor Nadolig! Yr un goleuni a oedd yn disgleirio yn adeg Maccabees yn dal i dreiddio'r tywylloch hyd at heddiw.

Wednesday, December 16, 2020

2+2=5

2+2=5

Maen nhw'n mynnu bod hyn yn gywir, a'i ailadrodd tro ar ôl tro nes i chi amau eich synhwyrau, a chredu efallai bod hyn yn gywir wedi' cwbl.

"Doedd dim twyll yn yr etholiad diwethaf," meddai'r Democratiaid a'r prif gyfryngau er gwaethaf y llu o dystiolaeth dan eu trwynau.

Peidiwch â' credu nhw, ond edrych ar y ffeithiau amlwg.

Tuesday, December 15, 2020

mynd i sento



Methodd ein tanc dŵr poeth ni echdoe. Roedd y plymwr yn hynod o brysur wedi'r eira sydyn fel nad oedd o'n siŵr pryd byddai fo'n medru dod aton ni hyd yn oed ddoe. Dydy un noson heb fath ddim yn rhy ofnadwy, ond fedrwn i a'r gŵr ddim yn goddef dwy noson. Roedd dyma ni'n penderfynu mynd i gym y brifysgol er mwyn cael cawod. Talais bum doler oherwydd nad aelod ydw i. Wrth deimlo'n gynnes a glân ar ôl y gawod, roeddwn i'n cofio fy mhlentyndod pan es i sento (bath cyhoeddus) gyda fy mam bob noson.

Monday, December 14, 2020

digon oer


Cawson ni eira cyntaf y tymor ddoe, digon i'r plant yn yr ardal greu dynion eira a chwarae yn yr eira. Cynnon ni dân yn y llosgwr logiau am y tro cyntaf yn y gaeaf hwn hefyd. Roedd y gŵr wrthi'n clirio'r dreif a'r dec cefn heddiw. 

Saturday, December 12, 2020

newydd ddechrau brwydro

"Cawsom ein siomi gan y Goruchaf Lys mewn gwirionedd. Dim doethineb, dim dewrder!" meddai'r Arlywydd Trump y bore 'ma. Cytuno'n llwyr. Rhaid cofio bydd barnwyr yn cael eu barnu'n llymach gan Farnwr Goruchaf y Bydysawd un diwrnod. 

Falch o weld, fodd bynnag, bod yr Arlywydd Trump yn dyfalbarhau'n ddewr heb golli ei galon. Dw i'n dal ati'n gweddïo’n daer drosto fo, ynghyd â'r llu o bobl drwy'r byd. Ddylen ni ddim ildio i'r drygioni. 

Friday, December 11, 2020

chanwcah hapus

Gelwir Gŵyl y Goleuni. Roedd Iesu yn Jerwsalem unwaith (o leiaf) yn ystod Gŵyl Chanwcah. Y fo ydy goleuni go iawn y byd. 

“Ni fydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd," meddai.

Wednesday, December 9, 2020

te ar y dec

Mae hi'n anhygoel o braf. Ces i de ar y dec cefn yn yr heulwen gynnes. Gan ei bod hi'n ganol gaeaf, does dim pryfed plagus. Fe gynhyrchodd fy nghorf ddigon o fitamin D am heddiw!

Tuesday, December 8, 2020

pan fethech chi gysgu



Deffrais am dri o'r gloch y bore 'ma a methu cysgu'n ôl; mae hyn yn digwydd yn aml yn ddiweddar wrth i mi heneiddio! Bydda i'n gwrando ar bregeth Pastor Paul fel arfer yn hytrach na chyfri defaid. Gwrandewais ar hanner cyntaf cyfres Llyfr Esther ddyddiau'n ôl, ac felly roeddwn i'n barod i wrando ar yr hanner olaf heddiw. Ac roedd dyma fi'n clywed am frenin a oedd yn gwrando ar lyfr a ddarllenwyd iddo oherwydd ei fod o'n methu cysgu!

Monday, December 7, 2020

datganiad

Pam sensrodd Google Ddatganiad Great Barrington? Bellach mae Technoleg Fawr yn trin unrhyw un sydd yn gwrthwynebu polisïau "cloi i lawr" fel gwybodaeth anghywir, hyd yn oed os ydy hynny gan wyddonwyr blaenllaw. Cewch chi ddarllen y datganiad hwnnw er mwyn gweld os ydy o'n gwneud synnwyr neu beidio.

Saturday, December 5, 2020

olion traed

Mae twyll y Democratiaid yn yr etholiad yn dal i gael ei ddadorchuddio ym mhob man. Peth rhyfedd ydy eu bod nhw wedi gadael cymaint o olion traed y troseddau. Darllenais sylw diddorol gan ddyn o Kenya ynghylch y pwnc:




Friday, December 4, 2020

llythyr nadolig

Mae amser anfon llythyr Nadolig at y teulu a'r ffrindiau wedi cyrraedd. Roeddwn i a'r gŵr wrthi'r dyddiau diwethaf yn sgrifennu pwt a chasglu lluniau. Dyma bostio'r ddau cyntaf at yr eglwysi cysylltiedig â ni yn Japan. Bydd y gweddill yn dilyn nes ymlaen.

Thursday, December 3, 2020

gobaith


"Stopiwch wylio'r Newyddion Ffug a pheidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calonnau. Byw eich bywydau gan wybod y bydd popeth yn iawn. Bydd yr Arlywydd Trump yn parhau i fod yn yr arlywydd."

Dyma ran o'r erthygl sydyn a phwysig gan gyn Twrnai Cyffredinol Florida ynglŷn â'r etholiad. Codwch eich calonnau, bawb!

Tuesday, December 1, 2020

fideo cyflym

Dyma fideo cyflym i ddangos sut creodd fy merch hynaf ei murlun diweddaraf (gyda chymorth y gwirfoddolwyr.) Cewch chi ddarllen amdano fo ar y wefan yma hefyd.