Wednesday, June 29, 2022

awdio beibl yn y nos


Yn hytrach na gadael sŵn coch ymlaen pan fydda i'n methu cysgu, penderfynais wrando ar awdio Beibl. Neithiwr, dechreuais gyda Llyfr Esther. Roeddwn i'n rhyw gofio bod y Brenin Ahasferus yn gwylltio'n lân oherwydd bod ei wraig wedi gwrthod ufudd iddo. Pan ddeffrais, roedd David Suchet wedi symud i Efengyl Ioan, ac yn darllen y 10fed pennod....

Tuesday, June 28, 2022

paentiad newydd

Wedi dychwelyd o Japan, roedd fy merch hynaf wrthi'n paentio'n barod. Cafodd hi ganiatâd swyddogol i baentio Ebizo Ichikawa ar gyfer gŵyl ZEN yn yr haf, mae hi'n llawn cyffro ac egni. Mae'r paentiad newydd orffen ac yn barod i gael ei anfon i Japan. Bydd o ar werth ynghyd â'i gopïau yn yr arddangosfa.

Monday, June 27, 2022

mwy o ddŵr

Mae hydragea angen cymaint o ddŵr. Dw i'n siŵr y byddan nhw'n hapus mewn glaw drwy'r dydd bob bydd. Wrth i ddyddiau hynod o boeth barhau, mae'r gŵr yn eu dyfrhau nhw dwywaith y dydd. Byddan nhw'n adfywio'n syth wedi derbyn dŵr.

Saturday, June 25, 2022

naid ddirgel


"Cafodd naid ddirgel ei theimlo yng nghrothau miliynau o fenywod, yn ôl rhai arbenigwyr. Gall hyn fod yn gysylltiedig â phenderfyniad diweddar Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau."

Da iawn chi, y Wenynen am y gamp arall!

Friday, June 24, 2022

cefnogaeth

Cynhalir pleidleisio'n gynnar 23, 24 a 25 Mehefin yn Oklahoma. Dyma'r gŵr yn dangos ei gefnogaeth i un o'i hoff ymgeiswyr gan wisgo crys-T gyda'i enw tra oedden ni'n siopa yn Walmart ddoe. 

Wednesday, June 22, 2022

troi'n bitsa


Beth i'w wneud gyda'r croen gyoza sydd ar ôl ydy'r cwestiwn bob tro. Yr ateb - gwneud pitsa. (Ces i syniad gan dudalen rysáit Japaneg.) Dyma baratoi un i ginio bach i'r gŵr. Roedd yn hynod o hawdd a blasus (yn ôl y gŵr.)

Tuesday, June 21, 2022

chwerthin


"Llwyddodd Iesu i gysgu'n drwm ar y cwch yn ystod y storm, oherwydd ei fod o'n defnyddio FyNgobennydd."

Diolch i'r Wenynen unwaith eto am y cyfle i mi chwerthin yn braf.

Monday, June 20, 2022

sul y tadau

Gyoza ydy hoff fwyd fy ngŵr. Bydda i'n ei goginio iddo fo ddwywaith y flwyddyn, sef ar gyfer ei benblwydd a Sul y Tadau. (Dw i'n siŵr na fydd o'n meindio os bydda i'n ei goginio'n fwy aml, ond na fydd yn arbennig os wna i.) Felly a fu. Sul y Tadau hapus. Dw i'n ofnadwy o ddiolchgar bod gan fy mhlant dad bendigedig.

Saturday, June 18, 2022

5.10


Mae pris petrol yn dal i gynyddu. 5.10 doler y galwyn mae o (heddiw) yn y dref yma. Roedd yn llai na 1.90 pan oedd yr Arlywydd Trump wrth y llyw. Mae'r Unol Daleithiau'n prysur chwalu ym mhob agwedd. Mae'r llywodraeth gyfredol, fodd bynnag, yn mynnu bod popeth yn iawn ac yr economi'n bwrw ymlaen yn braf. Be? 

Friday, June 17, 2022

247



Mae'r hydrangea yn dal i ddwyn blodau hardd! Mae yna 247 i fod yn fanwl. (Cyfrifodd y gŵr.) Mae o'n eu dyfrhau nhw dwywaith bob dydd oherwydd bod nhw'n hoff iawn o ddŵr ac yn dioddef yn y gwres heb law. 

Wednesday, June 15, 2022

iogwrt a siocled


Dau beth a brofais yn y gegin yn ddiweddar - gwneud iogwrt soi heb siwgr a siocled. Bydda i'n bwyta'r iogwrt gyda mêl a sinamon. Dim ond cymysgedd o olew cnau a phowdr coco a mêl ydy cynhwysion y siocled. Bydd o'n soled mewn oergell. 

Tuesday, June 14, 2022

penblwydd hapus

 Penblwydd hapus i 46fed Arlywydd (cyfreithlon) Unol Daleithiau America!

Monday, June 13, 2022

efeilliaid

Des i ar draws hen lun of fy chwaer hyn ac un o fy mrodyr a welais erioed. Ces i fy synnu'n gweld pa mor debyg ydy fy ŵyr iddi (dim i fy mrawd.) Fe allan nhw fod yn efeilliaid. 

Saturday, June 11, 2022

yn y gwres

Mae'r haf wedi dechrau o'r diwedd, ar ôl cyfnod anarferol o oeraidd a gwlyb. Mae'n boethach yn Texas lle mae fy mab hynaf a'i deulu'n byw nag yn Oklahoma wrth reswm. Mae'n 99F/37C ydy hi yno heddiw. Tra bod pawb yn cysgodi tu mewn rhag y gwres, mae un plentyn wrth ei bodd yn chwarae yn y parc. Fy wyres ydy hi!

Friday, June 10, 2022

diwedd y gwyliau yn japan

Wedi treulio amser hynod o braf, ac eithrio'r annwyd a gafodd, mae fy merch hynaf ar ei ffordd adref (dros y Môr Tawel ar hyn o bryd.) Cyn iddi adael Japan, y peth olaf a wnaeth oedd mynd i'r sento gyda'i chwaer. A oes peth gwell na chael diod oer ar ôl ymlacio mewn bath poeth?

Wednesday, June 8, 2022

hoffi glaw

Mae'n bwrw glaw bron bob dydd; mae'r hydrangea yn yr iard flaen wrth eu boddau, ac yn mynd o nerth i nerth. Tymor hydrangea ydy hi yn Japan hefyd. Gyrrodd fy merch lun o rai yn y gymdogaeth. 

Monday, June 6, 2022

llaw fy mam

Aeth fy nwy ferch i Westy Gajoen yn Tokyo lle'r oedd ei nain yn gweithio 80 mlynedd yn ôl. Mae ystafelloedd hardd ar hyd y Cant Grisiau enwog. Un ohonyn nhw a gelir Ystafell Kiyokata yn dangos paentiadau gan Kiyokata Kaburaki, artist o fri. Fe welir dynes mewn eira yn eu mysg; fy mam oedd y model! - ei llaw hi i fod yn fanwl. Tra oedd hi'n gweini ar y gwestai enwog, gofynnodd ohoni i ddangos ei llaw dde a'i chadw hi'n llonydd tra oedd o'n paentio. A dyma hi (ei llaw) yn dal i addurno'r ystafell hynod o brydferth.

Saturday, June 4, 2022

ar lan y môr

Treuliodd fy mab hynaf a'i deulu wrth y môr am wythnos, yn Galveston (Texas) i fod yn fanwl. Cafodd fy nau ŵyr amser mor braf fel eu bod nhw eisiau aros yno am wythnos arall, dwedodd fy mab. Does angen teganau ar blant pan eu bod nhw ar draeth! Mae'n rhaid bod nhw'n iachach bellach.

Friday, June 3, 2022

dros 200

Wedi methu dwyn digon o flodau ers cael eu plannu yn yr iard flaen sawl blwyddyn yn ôl, mae'n hydrangea ni'n bwrw ymlaen yn hynod o dda eleni. Mae yna dros ddau gant yn barod i flodeuo. Efallai bod y maeth a roddodd y gŵr iddyn nhw'n gweithio, neu maen nhw'n ymateb i'w anogaeth. (Clywais ei fod o'n siarad â nhw!) 

Wednesday, June 1, 2022

llefrith mefus

Mae fy merch hynaf yn dal i fwynhau Japan. Mae hi'n hoffi ymlacio yn y sento (bath cyhoeddus) cyfagos yn y nos ar ôl diwrnod llawn gyffro. Mae'n anhygoel o ddiogel hyd yn oed yng nghanol Tokyo fel na fydd ganddi ofn cerdded adref ar ei phen ei hun, yn yfed llefrith mefus, yn ei phyjamas.