Saturday, October 31, 2009

ras 5 cilomedr



Mae'n braf (am newid) heddiw. Cynhaliwyd ras bum cilomedr flynyddol a noddwyd gan Adran Optometreg. Roedd fy ngwr yn rhedeg yn y ras gyda'n mab hynaf ers blynyddoedd ond mae'r olaf wedi symud i ffwrdd i fynd i'r brifysgol bellach a doedd o ddim yn medru dod yn ôl y tro hwn. 

Ymunodd rhyw 170 o bobl y dref, hen ac ifanc. Roedd y rhan fwyaf yn rhedeg ac roedd y lleill yn cerdded. Cael hwyl yn hytrach na chystadlu ydy amcan y ras.

Roedd yna declyn newydd, sef sglodyn electronig. Clymodd pob rhedwr un wrth ei esgid i gofnodi ei amser gorffen. Tynnwyd o ar ôl y ras. Hwylus iawn.

Friday, October 30, 2009

lledota

Darllenais yng nghylchgrawn Llafar Gwlad am ledota, sef y dull o ddal lledod gyda'r traed yn ardal Porthmadog flynyddoedd yn ôl. Byddwch chi'n cerdded trwy'r dwr tuag at un sy'n gorffwys mewn tywod, (rhaid gwylio'n graff) a'i throedio! Diddorol ar y naw!

Mae gynnon ni ddull arall o ddal pysgod yn Oklahoma a elwir "noodling," sef y dull o ddal "Catfish" gyda'r dwylo. Dw i erioed wedi gweld neb yn "noodle" ond clywais y gallai hynny fod yn beryglus. 

Thursday, October 29, 2009

streic eto!

Dw i'n dal i ddisgwyl y ddwy uned wedi'u marcio gan fy nhiwtor. A dw i ddim yn siwr a ddylwn i yrru'r uned wedi'i orffen ati hi eto chwaith. Mae fy ngwr yn hir ddisgwyl y lensys cyswllt o Loegr i'w waith ymchwil. 

Dw i wedi dysgu gair newydd arall yn ddiweddar, a chael ei ddefnyddio fo mewn cyd-destun:
"bydd y streic yn cael effaith andwyol ar ddysgwyr!"

Wednesday, October 28, 2009

ddim ar gael yn eich ardal

Ewch i wefan BBC Cymru hon. Dach chi'n gweld y ffeil sain i glywed cyfweliad Ifor ap Glyn? Beth welwn i a'r bobl sy'n byw tu allan i DU ar ôl clicio'r triongl bach ydy hyn:

Ddim ar gael yn eich ardal

(mewn llythrennau gwyn ar gefndir du)

Pam ddim? Peidiwch â dweud bod a wnelo hyn â'r hawlfraint. Cawn ni glywed yr union beth ar Radio Cymru heb broblem.

Monday, October 26, 2009

ymarfer yr ymennydd

Yn ddiweddar dw i'n anghofio enwau a ballu mwy o lawer nag o'r blaen (wrth reswm!) Soniodd fy merch hyna am y safle hwn y bore ma a dyma gofrestru ar fy union. Mae'r ymarferion yn syml a dim ond munudau a gymrith i'w gwneud. Yn anad dim, (dyma i ti eto Neil!) maen nhw'n rhad ac am ddim. Mae yna safleoedd eraill tebyg a dw i heb ymchwilio ynddyn nhw ond mae hyn yn ymddangos yn dda. Mae gynnyn nhw amcan rhagorol hefyd. Sbïwch ar 'amdanon ni.'

Dw i'n mynd i wneud hyn yn ogystal â 'Tai Chi' bob bore.

Saturday, October 24, 2009

gair newydd

Dw i ryw feddwl y bydda i'n cofnodi o dro i dro geiriau neu ymadroddion newydd diddorol y bydda i'n dod ar eu traws fel y medra i'w dysgu'n dda a hefyd hwyrach y byddan nhw o fudd i'r dysgwyr eraill sy'n darllen fy mlog. 

Y gair cynta ydy - disymwth
Des i ar ei draws ddwywaith yn ddiweddar:

"Mi ddaeth y cerdyn yn fwya disymwth yn y diwedd..." (hunangofiant Trebor Edwards)
"...y ffilm yr oedd yr actor Heath Ledger ar ei hanner pan fu farw'n ddisymwth .." (adolygiad ffilm gan Lowri Haf Cooke)


Friday, October 23, 2009

ateb arall

Felly pwy sy'n penderfynu'r enwau gorseddol i'r aelodau newydd? Dyna gwestiwn a gododd yn fy mhen wrth i mi wylio'r seremoni yng nghae Eisteddfod y Bala. A dw i newydd gael ateb.

Dw i wrthi'n darllen hunangofiant Trefor Edwards ar hyn o bryd. Un diddorol ydy o, ac yn anad dim, dw i'n deall ei Gymraeg yn dda! Hwyrach y bydda i'n sgrifennu mwy amdano fo ar ôl ei orffen. 

Cafodd o ei ethol yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Machynlleth ym 1981 a gofynnwyd iddo anfon hyd at dri enw ar gyfer ei enw gorseddol. Fo a wnaeth ddewis yr enw Trebor o'r Bryniau! Dyna fo! Enw da beth bynnag.

Thursday, October 22, 2009

buddug

Des i ar draws Buddug wrth ddarllen am y Rhufeiniaid yn Hanes Cymru. Hanes ofnadwy o echryslon a gwaedlyd sy'n fy atgoffa i o hanes William Wallace ydy o. Serch hynny dyma chwilio am wybodaeth amdani a chael hyd i raglen BBC chwe rhan ar You Tube. Mae'r rhaglenni hanes gan BBC yn wych o lawer. Daw hanes yn fyw gyda chymorth gweledol. A dw i'n falch iawn cael eu gweld nhw ar You Tube.

Gyda llaw, clywes i y câi ffilm newydd gan Mel Gibson amdani hi ei dangos y flwyddyn nesa. Dw i'n siwr y bydd hi mor 'heart-rending' â Braveheart. (Fedra i ddim ffeindio'r ansoddair addas.)

Monday, October 19, 2009

dotiau coch

Am declyn! Welais erioed y ffasiwn beth. Wel, hwyrach bod hyn wedi bod ers amser a dim ond fi sy heb wybod amdano. Digon posibl. Beth bynnag, dyma fo, map sy'n dangos pwy wedi ymweld y blog. Mae'n ddiddorol gweld y gwledydd amrywiol lle mae'r ymwelydd yn byw ynddyn nhw. Dw i'n siwr mai fi sy'n cynrychioli'r ddot yng nghanol yr Unol Daleithiau! Ac mae yna rai o Vancouver (neu Comox) efallai?

Friday, October 16, 2009

ymarfer corff

Es i ddosbarth arall yn y ganolfan ffitrwydd wedi i ddosbarth Tai Chi gael ei ganslo ond roedd yn eithaf caled ac roedd fy mhengliniau a fferau'n brifo'n arw ar ôl i mi orffen. ^^; Wna i ddim mynd yn ôl.

Dw i eisiau gwneud rhywbeth i ymarfer corff yn ogystal â cherdded. Mae dawnsio llinell yn iawn ond bydd yn neis cael gwneud pethau gwahanol hefyd. Yna, des i ar draws 'New York City Ballet Workout' ar You Tube heddiw. Mae o'n dda iawn. Mae yna ryw ddeg o rannau byrion digon hawdd ond digon heriol. Yr unig broblem ydy bod ein cysylltiad rhyngrwyd ni'n rhy araf fel y fy mod i'n gorfod aros yn hir iddyn nhw lawrlwytho cyn gwneud y rhan ganlynol. Dw i'n mwynhau serch hynny.

Tuesday, October 13, 2009

pecyn cadarn


Ces i becyn gan gwales.com heddiw. Prynais Hanes Cymru gan J.G. Jones, a dau gylchgrawn. Mae gen i lyfrau hanes Cymru yn Saesneg ond dw i eisiau darllen yn Gymraeg. 

Maen nhw'n gwneud y gwaith lapio llyfrau'n drylwyr ar y naw bob tro. Mae'r pecyn yn fwy cadarn fyth y tro hwn y fel mae hyd yn oed y cylchgronau tenau wedi cyrraedd yn gyflwr perffaith. Sbïwch ar yr haenau o'r pacin! Diolch yn fawr i bwy bynnag a wnaeth y gwaith.

Monday, October 12, 2009

dim eto

Bydd y sbwriel yn cael ei godi ar ddydd Llun yn yr ardal yma. Ond heddiw roedd o'n dal am 3 o'r gloch yn y prynhawn. Dylai hyn fod wedi canu'r gloch ond es i swyddfa'r post i yrru fy ngwaith at y tiwtor Cymraeg   beth bynnag. Roedd y drws ar glo. Ac roedd yna arwydd arno fo, "Columbus Day." Mae yna sawl gwˆyl felly yn yr Unol Daleithiau. Dim ond y gweithiwyr cyhoeddus heblaw'r athrawon sy'n cael diwrnodau i ffwrdd yn achosi anghyfleusterau i'r bobl gyffredin.

Digwyddodd hyn o'r blaen ond ddysgais mo'r wers!

Sunday, October 11, 2009

wyneb newydd

Dechreuodd rhywun newydd ddod i'n heglwys ni. Dennis, athro hanes Ewrop yn y brifysgol leol ydy o. Mae o'n dod o Rwsia ac yn medru pump o ieithoedd. Cafodd fy ngwr gyfle i dreulio amser gyda fo ddoe ac roeddwn i'n awyddus i siarad â fo hefyd. Gyda chymorth google, dysgais bedwar ymadrodd Rwsieg yn sydyn:

Dôbre wˆdre (bore da)
Minya zafwt ______. (______ dw i.)
Spasîba (diolch)
Dasfidania (hwyl)

Dwedais "Dôbre wˆdre" wrtho fo y bore ma, ac atebodd o "con nitsi wa" (helo yn Japaneg!) Mynychodd o ddosbarth Japaneg am wythnos ac mae o'n dal i gofio rhai ymadroddion. Ces i ddweud y pedwar ymadrodd Rwsieg i gyd ac roedd o'n fy neall!  Cawson ni sgwrs am ieithoedd wedyn.

Saturday, October 10, 2009

ateb

Gofynnais i fy ffrindiau ar ôl Eisteddfod y Bala beth fyddai'n digwydd i'r gadair na chafodd ei gwobrwyo. Doedd neb yn gwybod.

Ces i fy ateb y bore ma. Roedd yn siom mawr peidio gweld seremoni gadeirio, ond roedd gan y beirniaid reswm rhesymol. Ceith y gadair hardd cyfle arall rwan.

Friday, October 9, 2009

diwrnod i'r brenin

Diwrnod Cenedlaethol Cofio T.Llew Jones ydy hi heddiw. Baswn i eisiau gyda'r 13,000 o blant ysgolion cynradd Cymru cofio un o'r awduron a beirdd mwyaf Cymru.

Darllenais ddwsin o'i lyfrau hyd yn hyn a mwynhau pob un ohonyn nhw, Barti Ddu yn enwedig fel dwedais droeon. Mae llyfrau T.Llew yn ddelfrydol i ddysgwyr canolradd ymlaen. Drwy ei llyfrau des i'n gyfarwydd â Chymraeg safonol a hanes Cymru mewn ffordd mor ddiddorol.

Mae rhai o'r plant yn gwisgo i fyny fel cymeriadau o'i lyfrau. Pe bawn i'n cael ymuno â nhw, efallai baswn i'n fodryb Tim Boswel, Tân ar y Comin. Does yna ddim llawer o wragedd yn ei storiau.

Gobeithio y caf i ddarllen gweddill o'i llyfrau i gyd. Dim ond rhyw 40 sydd ar ôl!

Tuesday, October 6, 2009

y deuddegfed llyfr

Gorffennais fy neuddegfed llyfr gan T.Llew Jones a brynais am bunt ym mhabell y Cyngor Llyfrau ym maes Eisteddfod y Bala. Bargen fawr wir! Dirgelwch yr Ogof ydy hwn, stori Siôn Cwilt, smyglwr Cwmtydu. Er bod y diwedd dipyn yn rhy ramantus yn fy nhyb i, does yna ddim dwywaith mod i wedi mwynhau'r nofel hon gan feistr y stori antur.

Mae Diwrnod Cofio T.Llew rownd y gornel. Braf cael darllen llyfr arall gynno fo.


Monday, October 5, 2009

siom

Dw i newydd glywed gan diwtor fy nosbarth "Tai Chi" bod y dosbarth dydd wedi cael ei ganslo. Does yna ddim digon o bobl sy'n dod yn y dydd yn ddiweddar. Dim ond dosbarth nos sy'n dal. Fedra i ddim ei fynychu achos mod i'n brysur gyda'r hwyr. Bydda i'n ymarfer "Tai Chi" ar fy mhen fy hun adref bob dydd ond dydy hynny ddim cystal â mynd i ddosbarth wrth reswm. Wel, sgen i ddim dewis. Mae'r tymor alergedd ar fin darfod. Bydda i wrthi'n cerdded.

Friday, October 2, 2009

o gymru

Dyma alaw sy'n glynu'n dynn wrth eich meddwl yn syth. Dw i'n siwr mod i wedi clywed y gân hon o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf i mi glywed y fersiwn llawn a hanes tu ôl iddi hi. Mae'n wefreiddiol. Bryn Terfel sy'n ei chyflwyno ar Radio Cymru