Saturday, September 30, 2017

sefyll yn barchus

Ymysg y stŵr hurt yn y byd pêl-droed Americanaidd diweddaraf, mae College of the Ozarks (mae fy nau blentyn yn astudio yno) newydd gyhoeddi byddai timau'r brifysgol yn sefyll yn barchus tra'r anthem yn cael ei ganu, a bydden nhw'n chwarae ond y rhai sydd yn gwneud yr un peth; os fel arall, bydden yn mynd adref heb chwarae'r gêm. Hwre da iawn Ozarks! 

Friday, September 29, 2017

diwrnod cymod

Mae Yom Kippur, diwrnod mwyaf sanctaidd Iddewiaeth, arnon ni. Cofir bod Duw wedi darparu modd i faddau pechodau’r Israeliaid am gyfnod yn ôl Lefiticus 16. Symbol oedd o fodd bynnag; roedd Duw'n cyfeirio at rywbeth llawer mwy a fyddai'n dod, sef Iesu Grist fel yr aberth berffaith dros ein pechod ni, unwaith ac am byth. Fel dilynwr Iesu, bydda i'n parchu Yom Kippur drwy ddiolch iddo am ei faddeuant a gyflawnwyd ar y groes. 

Thursday, September 28, 2017

fenter y merched

Wedi darllen erthygl Cymru Fyw am fenter y merched, gyrrais ddymuniadau gorau at Sara Lewis o Fachynlleth sydd yn rhedeg y Botwm Bach. Ces i ddiolch cynnes yn ôl ganddi. Gwych bod hi wedi gwneud mor dda er gwaethaf ei afiechyd. 

Wednesday, September 27, 2017

falafel!

Roedd Sam and Ella (pizzeria poblogaidd) yn llawn dop pan es i a'r teulu yno am ginio ddoe. Dwedodd fy merch ei bod hi ffeindio tŷ bwyta Canoldiroedd cyfagos, a dyma ni'n penderfynu mynd yno. Hummus, falafel, tahini, bara pita a mwy! (Does gen i ddim diddordeb mewn cig.) Roedd yn anodd dewis rhwng falafel a hummus; dewisais falafel oherwydd nad oeddwn i erioed wedi ei fwyta eto. Wedi aros am hir am yr unig gogydd a'r perchennog o Iran yn brysio i baratoi bwyd i bedwar ohonon ni, cawson ni flas gwych o Ganoldiroedd. Doeddwn i ddim yn gwybod bod bwyd blasus felly ar gael yn y dref yma!

Tuesday, September 26, 2017

modrwy arbennig

Roedd fy merch yn Japan eisiau modrwy a welodd ar dudalen Esty i'w phenblwydd. Gwnaed â llaw yng Ngwlad Groeg, mae'r fodrwy syml gyda physgodyn yn gain a chlws. Anfonodd y crefftwr y fodrwy ddiwrnod wedi i mi ei harchebu; derbyniodd fy merch hi mewn wyth diwrnod. Mae hi'n hynod o hapus efo'r anrheg arbennig. Dyma'r tro cyntaf i mi brynu nwyddau o Wlad Groeg!

Monday, September 25, 2017

seren dwbl

Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn ymweld â ni rŵan. Gwylion ni ffilm enwog (ymysg y teulu) a gynhyrchwyd ganddi yn 2003. Double Star ydy teitl y ffilm sydd yn ymwneud â merch swil a'i hoff chwaraewr pêl-droed o'r enw Brian Lackham. Actiwyd gan ei chwiorydd, brawd a'i ffrindiau, a ffilmiwyd gan ei chwaer, mae'r ffilm yn hynod o hwyl efo cynifer o glipiau clyfar er nad oedd ganddi gymorth technoleg ddiweddarach. Chwaraeodd fy merch arall a oedd yn saith oed ar y pryd rôl ategol. Mae hi'n astudio theatr mewn prifysgol bellach. Sori, dim ar gael gan Amazon!

Saturday, September 23, 2017

siomi ar yr ochr orau

Wedi i Lara Trump gael ei babi, mae pobl eraill yn cymryd ei lle i ddarlledu Newyddion Gwir ar dudalen Facebook yr Arlywydd Trump yn ddiweddar. Ces i fy siomi ar yr ochr orau ddoe o weld Joy Villa'n gwneud y gwaith. Roedd hi'n ddewr iawn mynegi ei barn fisoedd yn ôl yn cefnogi'r Arlywydd er gwaethaf nifer o fygythiadau a gafodd. Mae'n wych bod hi wedi cael swydd yn Nhŷ Gwyn. A dyna ysgrifennais ar y sylw. Derbyniais "hoffi" ar un waith. Ces i sioc i weld gan bwy - POTUS ei hun!! (Efallai ei staff a bostiodd, ond dim ots.)

Friday, September 22, 2017

penblwydd y gŵr

Penblwydd y gŵr oedd hi ddoe. Er mwyn ddathlu, aethon ni i Katfish Kitchen, tŷ bwyta poblogaidd yma sydd yn arbenigo yn catfish, a ffefryn y gŵr. (Ces i gyw iâr oherwydd nad ydyw i'n hoffi'r pysgod hwnnw.) Roedd y bwyd yn dda. Es at y til i dalu er mai'r gŵr sydd yn gwneud y gwaith talu fel arfer; ei benblwydd oedd hi wedi'r cwbl. Yna, tra oeddwn i yn y gawod gyda'r hwyr, roddwn i'n cofio'n sydyn fy mod i'n anghofio ychwanegu cildwrn at y bil! (tramgwydd difrifol yn America) Ysgrifennais nodyn sydyn at y weinyddes ac amgáu pum doler mewn amlen i roi iddi. 

Thursday, September 21, 2017

ffilm iesu yn gymraeg

Des i ar draws Ffilm Iesu yn Gymraeg. Doeddwn i ddim gwybod bod y ffilm a gynhyrchwyd yn 1979 wedi ei gyfieithu mewn 1,500 o ieithoedd, a dal i gael ei ddangos dros y byd! Wrth gwrs bod yna fersiynau Japaneg, Eidaleg, Ffrangeg a Hebraeg. Ces i fy synnu'n gwybod bod o wedi cael ei ffilmio yn Israel efo nifer o actorion lleol. Ar wahân i wallt brown Iesu, mae'r ffilm yn wych ar y cyfan, llawer gwell na'r lleill tebyg.

Wednesday, September 20, 2017

gŵyl yr utgyrn

Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, "Dywed wrth bobl Israel - ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gael diwrnod gorffwys; bydd yn gymanfa sanctaidd i'w dathlu â chanu utgyrn." Shana Tova!


Tuesday, September 19, 2017

croeso cynnes

Croeso cynnes i'r Unol Daleithiau eto, y Prif Weinidog Netanyahu! Mae'n wych gweld y wir gyfeillgarwch rhyngddo fo a'n Arlywydd Trump ni - y ddau arweinwr gorau yn y byd yn fy nhyb i.

Monday, September 18, 2017

breichledau

Roedd fy mam yn aros mewn cartref gofal am fisoedd wedi anafu ei chefn, ond aeth yn nôl at ei fflat ddiwedd mis Awst. Er bod ei chorff yn gwanhau (95 oed ydy hi,) mae hi'n sionc yn ei meddwl ac mae ganddi glyw ardderchog. Roedd hi'n dysgu gwneud breichledau yn y cartref gofal, ac wedi gwneud nifer ohonyn nhw, y rhan fwyaf fel anrhegion. Ymwelodd fy merch â hi'n ddiweddar, a dyma hi'n derbyn breichled glws (ar y dde.) Mae fy mam yn hyderus y bydd hi'n byw tan 100.

Saturday, September 16, 2017

pa loches?

Chwythodd y seiren yn sydyn, ond doedd y bobl ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dim rhyfedd; mae'r Japaneaid heb brofiad o'r fath ers yr Ail Ryfel Byd er bod nhw'n hen gyfarwydd â daeargrynfeydd. Does dim modd diplomyddol i annog Gogledd Corea i stopio profion niwclear, neu lansio taflegryn, ac felly rhaid i'r bobl ddysgu sut i amddiffyn eu hunan, meddai'r llywodraeth. Beth ddylen nhw wneud os bydd Gogledd Corea'n penderfynu anelu eu taflegryn at Japan yn hytrach na'r môr?

Friday, September 15, 2017

gwella'n braf

Wythnos ar ôl y ddamwain, mae troed fy merch yn gwella'n gyflym, diolch i ofal a thriniaeth effeithiol y doctoriaid yn y clinig. Mae ganddyn nhw declyn anhygoel yn defnyddio technoleg ddiweddaraf. Dwedodd fy merch fod ei throed yn gwella'n sylweddol ar ôl pob triniaeth. (Mae'n edrych fel clustffonau!) Mae hi'n medru cerdded heb boen bellach, ond cafodd ei rhybuddio peidio â cherdded gormod. Bydd hi'n ail-ddechrau gweithio fel athrawes Saesneg mewn gweithle newydd ddydd Sadwrn.

Thursday, September 14, 2017

mark wiens

Mark Wiens ydy fy ffefryn newydd ar You Tube. Americanwr o wraidd Gwlad Thai ydy o, ac mae o'n hynod o glên a llawn o egni yn cyflwyno bwyd amrywiol mewn gwledydd amrywiol dros y byd. Wrth wylio ei fideo, dw i'n teimlo fel pe byddwn i'n wir gerdded ar y lonydd lleol a blasu'r bwyd lleol. Hwn ydy fy hoff glip yn Jerwsalem. Mae ganddo sawl fideo ar Japan hefyd. Sioc - mae o'n bwyta cymaint ond yn denau iawn!

Wednesday, September 13, 2017

arfer newydd arall

Yn hytrach na choginio swper drosta i a'r gŵr bob dydd, penderfynais goginio'r un maint a oeddwn i'n arfer gwneud, a bwyta'r hanner y diwrnod wedyn. Rhaid i mi goginio ond bob yn ail ddiwrnod; braf iawn! Yr arfer newydd arall ydy gwin; dan ni'n yfed hanner gwydr o win coch wedi'i gymysgu efo sudd grawnwin bob yn ail ddiwrnod. Enwais y diwrnod yn Ddiwrnod Gwin. Braf iawn hefyd!

Tuesday, September 12, 2017

penblwydd arall

Penblwydd fy mlog ydy Medi 11 hefyd. (Doedd gen i ddim rheswm arbennig i gychwyn blog ddiwrnod hwnnw.) Deg mlynedd - swnio'n hir iawn. Digwyddodd gynifer o bethau yn ystod y deg mlynedd; es i Gymru pedair gwaith, i'r Eidal dwywaith, i Japan saith gwaith. Mae fy niddordebau, cyflwr fy iechyd, y nifer o'r teulu gartref wedi newid hefyd. Dw i'n bwriadu dal ati ysgrifennu’r blog hwn er mwyn ysgrifennu yn Gymraeg a chyhoeddi rhan o fy meddyliau. (Mae gan bawb hyd yn oed yr oedrannus awydd am show and tell, nag oes?) Dyma newid y templed i gychwyn blwyddyn arall.

Monday, September 11, 2017

16 mlynedd ers 9/11

Na fyddwn ni byth yn anghofio. Nid dim ond y bobl a gafodd ei lladd, ond yr ideoleg tu ôl y terfysgwyr erchyll. Dylen ni ddal ati'n wyliadwrus, a sefyll yn gadarn dan arweiniad yr Arlywydd Trump yn erbyn y gelynion sydd eisiau dinistrio America.

Saturday, September 9, 2017

mae amser i bob dim

Cafodd fy merch ddamwain a hollti tendon ei ffêr! Roedd hi'n brysio i fynd i'r gwaith a chael ei chodwm mewn gorsaf trên. Aeth i'r gwaith ond roedd ei ffêr yn ofnadwy o boenus fel roedd rhaid mynd i'r clinig y diwrnod wedyn. Yn ffodus mae ei chwaer yn byw yn agos, ac aeth â hi (ar ei chefn!) at y clinig cyfagos. Dwedodd fy merch bod hi'n teimlo'n llawer gwell ar ôl y driniaeth. Rhaid iddi ddefnyddio baglau am sbel. 

Friday, September 8, 2017

potel anghywir

Mae fy drydedd ferch newydd symud tŷ yn Japan. Er bod y teulu roedd hi'n byw efo nhw'n glên iawn, roedd hi eisiau mwy o breifatrwydd. Y peth cyntaf roedd rhaid gwneud oedd golchi ei dillad, a dyma hi'n mynd i'r siop am hylif angenrheidiol. Dydy ei Japaneg ysgrifenedig ddim cystal â'i iaith lafar, a phrynodd botel roedd yn edrych fel meddalydd. Roedd yn syniad da iddi googlo cyn defnyddio'r hylif oherwydd cannydd oedd o! Mae ei llety'n agos iawn i'w chwaer hŷn bellach fel byddan nhw'n cael gweld ei gilydd yn hawdd.

Thursday, September 7, 2017

beibl newydd

Prynais Feibl newydd. TLV - Tree of Life Version ydy hwn. Cyfieithwyd gan dîm o Iddewon a chenedl-ddynion sy'n credu yn Iesu, mae'r fersiwn yma'n "siarad" gyda llais pro-Iddewon. Dim dechrau crefydd newydd oedd marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, ond cyflawniad cyfamod Duw a wnaeth gyda'i phobl wedi'r cwbl. Does gan y rhan fwyaf o'r cyfieithiadau mo'r natur Iddewig fel bod yr ysgrifen a ysgrifennwyd at yr Iddewon ac am yr Iddewon, yn ddiffygiol o'r elfen bwysig honno, sef craidd Iddewig. Mae'r drefn Iddewig gan yr Hen Destament hwn, a defnyddir enwau Hebraeg (Yeshua, Adonai ayyb.) Mae yna fwy wrth gwrs, a dw i'n edrych ymlaen at ei ddarganfod.

Wednesday, September 6, 2017

croeso yn ôl

Ces i sioc i weld y lleuad wrth gamu allan o'r tŷ i fynd am dro yn y bore cynnar heddiw -  hongian yn isel yn yr awyr gorllewinol, roedd hi'n enfawr a melyn melyn.  Roedd yr awyr boreol hebddi am ddyddiau, yna yn sydyn, dyma hi. Croeso yn ôl! Mae'r gŵr yn dweud mai rhith optegol sydd yn achosi i'r lleuad ger y gorwel yn edrych yn fawr. Dw i ddim yn credu'r fath lol wrth gwrs. 

Tuesday, September 5, 2017

synnwyr cyffredin

Wrth i'r Arlywydd Trump ystyried rhoi terfyn ar DACA, postiodd y gŵr ar Face Book ei farn ar fewnfudo:

Croeso i bawb sy'n ymrwymo ei hun i -
1) Garu ein gwlad a'n diwylliant
2) Ddysgu ein hiaith
3) Gyfrannu at ein cymdeithas
4 ) Dderbyn caniatâd i ddod
Os nad ydach chi'n barod i wneud hyn i gyd, mae'n debyg nad ydy America yn lle addas i chi. Roeddwn i'n byw yn Japan am flynyddoedd fel mewnfudwr, ac wrth gwrs fy mod i wedi gwneud hyn i gyd. Synnwyr cyffredin ydyn nhw.

Cytunodd nifer o ffrindiau. A finnau!

Monday, September 4, 2017

garlleg amrwd mewn mêl

Dalais annwyd am y tro cyntaf ers blynyddoedd, un trwm iawn hefyd. Mae'n anodd cysgu oherwydd peswch ofnadwy, ac mae'n teimlo fel byddai fy ngwddf yn cael ei brathu gan gyllell weithiau. Dw i'n sâl ers rhyw ddeg diwrnod; bob tro roeddwn i'n meddwl mynd at y meddyg, bydda i'n gwella tipyn. Ac felly dw i heb weld un eto. Yn y cyfamser dw i'n defnyddio home remedies - te seidr finegr afal, olew cnau coco, digon o de llysieuol, garlleg amrwd mewn mêl, ayyb. Dw i'n ddiolchgar, fodd bynnag, nad oeddwn i erioed sâl felly tra oedd y plant adref. Mae gen i ddigon o amser i fod yn sâl bellach.

Saturday, September 2, 2017

yn enw iesu

Wrth ddweud mai ein lloches a nerth ydy Duw, cyhoeddodd yr Arlywydd Trump y trydydd Medi yn Ddiwrnod Gweddi Cenedlaethol er mwyn gweddïo dros y dioddefwyr yn Nhalaith Texas. Diolchodd y gweinidogion ac offeiriad iddo am roi Duw yn ôl yn y llywodraeth. Yna gweddïodd un ohonyn nhw dros y dioddefwyr a'r achubwyr yn ogystal â'r holl bobl America. Gweddïodd yn enw Iesu a groeshoeliwyd er mwyn maddau i ni! Na chawson ni ddisgwyl clywed gweddi felly yn y Tŷ Gwyn yn y gorffennol.

Friday, September 1, 2017

ateb

Ysgrifennais e-bost i Gajoen ddoe er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am fy mam a oedd yn gweithio yno dri chwarter canrif yn ôl. Wedi darllen erthygl gan fy merch amdanyn nhw, dechreuais feddwl dylen nhw gael eu gwybod am yr hanes byw. Bydd yn golled fawr iddyn nhw os na chaen nhw, a bydd fy mam wrth ei bodd yn siarad â nhw. Ces i ateb ganddyn nhw'n syth; mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr ynddi ac eisiau siarad â hi! Galwa' i hi heno i rybuddio hi.