Saturday, March 31, 2018

pryd seder

Roedd yn brofiad anhygoel. Bwyta'r pethau ar y plât penodol ac yfed gwin wrth ddarllen adnodau ynglŷn Ecsodus a geiriau Iesu yn fy ngwneud gwerthfawrogi ystyr y Pasg. Mae popeth a ddigwyddodd yn Ecsodus yn arwain at Iesu. Rhaid eglwysi Cristnogol ddathlu Passover. Gyda llaw, coginiodd y ffrind ginio mawr, blasus hefyd.

Friday, March 30, 2018

passover

Bydd Passover yn cychwyn heno, ac yn para am wythnos. Dathlodd Iesu'r ŵyl fwyaf honno bob blwyddyn fel pob Iddew ffyddlon; dathlodd o hi am y tro olaf efo'i ddisgyblion cyn iddo fynd i'r groes. Yn hytrach nag oen a gafodd ei aberthu, fo oedd yr oen berffaith Dduw. Mae gan ŵyl Passover lawn o symbolaeth. Ces i a'r gŵr ein gwahodd i swper Seder heno gan ffrind Iddewig sydd yn credu yn Iesu. Edrych ymlaen.

Thursday, March 29, 2018

lle maen nhw?

Maen nhw'n hwyr eleni - y twlipiau. Fel arfer maen nhw'n dangos eu pennau ddiwedd mis Chwefror tra bod hi'n dal yn oer. Mae yna beth bach gwyrdd yn y gwely blodau fodd bynnag; dw i ddim yn sicr ydy o'n dwlip neu beidio. Gobeithio fod o. Gosodais gerrig o'i gwmpas rhag ofn i Keith sathru dan ei draed pan fyddai fo'n gweithio yn yr iard.

Wednesday, March 28, 2018

alexander fawr

Dw i'n dal i fwynhau dysgu daearyddiaeth Feiblaidd ar lein. Dw i newydd orffen y bennod sydd yn sôn am Alexander Fawr. Roedd yn hynod o hwyl darllen yn fanwl am yr hogyn ifanc enwog hwnnw a oresgynnodd cymaint o diroedd mewn deg mlynedd. Ffeindiais gyfres o fideo o safon uchel, a dyma ddechrau ei gweld un bob dydd efo'r gŵr. Maccabees ydy'r pwnc nesaf ar y cwrs.

Tuesday, March 27, 2018

glaw gwanwyn

Dechreuodd y tymor glaw. Dywedir y bydd cawod Ebrill yn dwyn blodau Mai, ond a dweud y gwir, bydd glaw gwanwyn yn dechrau ym mis Mawrth. Roedd rhaid gorchuddio’r bwydwr adar. Clywais y cardinals y bore 'ma fodd bynnag a oedd yn disgwyl eu brecwast. Dyma osod hadau ar y rheilen yn y glaw. Rhaid i'r anifeiliaid gwyllt fwyta, glaw neu beidio wedi'r cwbl.

Monday, March 26, 2018

silff llyfrau

Mae'r tŷ a'r iard yn edrych yn well byth wrth i'r gŵr dal ati i drefnu pethau (efo help ffrind.) Mae o newydd ailosod pren o gwmpas gwely blodau. (Gobeithio y bydd y tiwlipau'n dangos eu pennau eto eleni.) Fe wnaeth silff llyfrau yn yr ystafell wely hefyd. Mae o wrthi'n hwfro ar hyn o bryd tra fy mod i'n ysgrifennu’r blog. Braf iawn!

Saturday, March 24, 2018

ffa coffi o guatemala

Mae siop fwyd naturiol yn y dref yn rhostio ffa coffi yn y gegin. Dw i wrth fy modd efo nhw. Pan es i yno'r tro diwethaf, gwelais ffa o Guatemala. A dyma brynu pwys ohonyn nhw, er mwyn dangos fy niolchgarwch i Guatemala am gefnogi Israel; cyhoeddodd y prif weinidog ychydig amser yn ôl y bydden nhw'n symud eu llysgenhadaeth i Jerwsalem yn dilyn arweinyddiaeth America.

Friday, March 23, 2018

bwydwr adar

Creodd y gŵr fwydwr adar gan ddefnyddio hen lamp llawr. Mae hwn yn berffaith i gadw hadau i'r adar rhag y gwiwerod. Dw i eisiau bwydo'r olaf ond ddim eisiau iddyn nhw fwyta'r hadau i gyd. Maen nhw'n cael hadau ar y rheilen. Mae'n gweithio ac mae cardinals yn mynychu'r bwydwr tra bod ambell i wiwer geisio dringo'r polyn, heb lwyddo.

Thursday, March 22, 2018

gwersi hebraeg

Mae gwersi Hebraeg newydd ar You Tube! Daniel o Tel Aviv ydy'r tiwtor. Mae'n anodd ffeindio gwersi sydd ddim yn rhy hawdd, anodd na diflas. Mae hyn yn berffaith i mi. Mae yna ymarferion ar lein hefyd, ac mae Daniel yn annog i chi yrru eich ateb iddo. A dyma a wnes i.

Wednesday, March 21, 2018

jiráff


Mae hi newydd orffen! - murlun ar gyfer tŷ bwyta newydd (Hawkers) yn Orlando, Florida. Jiráff ydy'r anifail mewn gwyrdd, yn ôl y bobl hynafol yn y dwyrain. Roedd y perchennog wrthi ei fodd; bydd y tŷ bwyta'n agor y mis nesaf.

Tuesday, March 20, 2018

alergedd bwyd

Mae fy merch yn Japan newydd ddarganfod bod ganddi alergedd i lefrith, glwtyn, wyau, a soi! Mae bywyd yn anodd iawn yn Japan os oes gynoch chi alergedd i soi oherwydd bod soi mewn cynifer o fwydydd yno. Cafodd hi sioc pan glywodd y dyfarniad gan y meddyg, ond mae hi'n ymdopi a cheisio gwneud y gorau ohono yn paratoi bwyd blasus a maethlon fel hyn.

Saturday, March 17, 2018

adref dros wyliau

Daeth y ddau blentyn adref neithiwr dros wyliau'r gwanwyn. Byddan nhw adref am wythnos cyn mynd yn ôl i College of the Ozarks. Roedden nhw'n astudio a gweithio mor galed fel pawb arall yn y brifysgol, fel dwedodd y prifathro wrth yr Arlywydd Trump yn St. Lois, "does gan fy myfyrwyr amser i ddiogi fel Snow Flakes." Mae'n braf bod nhw'n cael ymlacio am wythnos.

Friday, March 16, 2018

murlun yn florida

Mae fy merch newydd ddechrau murlun arall ar gyfer tŷ bwyta yn Orlando, Florida. Paentiodd gymaint yn barod ar y diwrnod cyntaf. Bydd hi a'r cynorthwyydd, sef ei gŵr yn aros yno am ddyddiau nes gorffen y gwaith. Maen nhw'n cael ymlacio yn y tywydd braf bob noson hefyd.

Thursday, March 15, 2018

yn st. lois

Aeth yr Arlywydd Trump i St. Lois ddoe. Tra oedd yn ymweld â ffatri Boeing, diolchodd rhyw ddwsin o bobl yn Nhalaith Missouri iddo am y toriad treth diweddaraf. Tri ohonyn nhw oedd prifathro a staff College of Ozarks lle mae fy nau blentyn yn astudio ynddo! Roedd y ddwy ddynes yn llawn o emosiynau a dweud wrtho sut roedden nhw'n defnyddio'r bonws mawr.

Wednesday, March 14, 2018

superman yn israel

Mae Superman yn ymweld ag Israel ar hyn o bryd. Ymwelodd â'r Prif Weinidog Netanyahu'n rhoi cymaint o barch i'r olaf. Dwedodd mai breuddwyd oedd dod i Israel. Er nad ydy o'n Iddewig (hanner Japaneaidd a rhan Gymreig ydy o!) mae Dean Cain yn gefnogwr brwd Israel a'r Arlywydd Trump. Hogyn ifanc Iddewig a greodd Superman yn y 30au wedi'r cwbl. Ac felly mae'n briodol i'r superhero ddod adref.

Tuesday, March 13, 2018

prager university

Prager University ydy un o'r rhaglennu dw i a'r gŵr yn mwynhau ei weld ar You Tube. Y diweddaraf oedd "pam adawodd Prydain y Cenhedloedd Unedig?" a esboniwyd gan y dyn addas ar gyfer y pwnc hwnnw, sef Nigel Farage (un o fy ffefrynnau arall.) Mae'n ymddangos bod llywodraeth Prydain yn cymryd amser ofnadwy o hir i wireddu canlyniad y refferendwm.

Monday, March 12, 2018

dim ond yn oklahoma

Mae'r gŵr wrthi'n datblygu ei hobi sydd wedi troi'n fusnes newydd, sef dysgu gwers conceiled carry. Wedi i'r myfyrwyr ddysgu'r rheolau, diogelwch, ayyb dan do, maen nhw'n mynd i'r cae cyhoeddus penodol fel arfer ar gyfer yr hyfforddiant ymarferol. Ddoe, fodd bynnag, aeth y dosbarth i fferm ei ffrind. Ymgasglodd cynulleidfa chwilfrydig annisgwyl. Doedden nhw ddim yn meindio sŵn mawr y gynnau o gwbl. Roedd bron i afr fwyta'r papur targed yn llaw fy ngŵr!

Saturday, March 10, 2018

sain y distawrwydd

Mae pobl yn sgwrsio heb siarad;
mae pobl yn clywed heb wrando.

Pa mor wir ydy'r llinell yma heddiw. Mae Maccabeats wedi rhoi golwg arall i'r gân enwog Sound of Silence a gafodd ei greu dros hanner can mlynedd yn ôl. 

Friday, March 9, 2018

canu danny boy

Dw i heb glywed Danny Boy ers blynyddoedd, ond dw i'n hoffi'r gân wedi'r cwbl er bod y geiriau'n eithaf trist. (Mae'n hawdd ei chwarae ar y bysellfwrdd hefyd.) Mae cynifer o gantorion wedi canu'r gân honno - dynion a merched. Dw i'n credu'n siŵr, fodd bynnag, mai mam Danny, dim ei gariad, a oedd yn canu am ei hogyn annwyl a fyddai'n gadael adref i fynd i frwydro. Felly mae'n rhaid cael ei ganu gan ddynes hŷn. Yn fy nhyb i, hi ydy'r orau.

Thursday, March 8, 2018

bysellfwrdd electronig

Dw i newydd brynu bysellfwrdd electronig bach (tegan i blant ydy o, a dweud y gwir, ond mae'n ddigon i mi.) Rhoddais ein piano ni i ffwrdd yn barod wedi i fy merch adael adref, ond roedd chwant chwarae alawon syml arna i'n sydyn. Dyma fo! - un ysgafn sydd yn medru cael pŵer drwy gyfrifiaduron. Cyfleus iawn chwarae tra fy mod i'n edrych ar y sgrin. Fy repertoire hyd yma - Danny Boy, Hava Nagila, Hatikva. Mae'n hwyl!

Wednesday, March 7, 2018

cadi

Mae'n ymddangos bod fy nec cefn yn cael ei adnabod gan yr adar o gwmpas hefyd. Mae nifer mawr ohonyn nhw'n dod i fwyta'r hadau. Yn ddiweddar dw i'n gweld un neu ddau'n aros am fwyd ar y rheilen wag yn y bore. Yn eu mysg mae Cardinal, aderyn coch hardd a'i wraig sydd yn llai lliwgar. Dw i'n ei galw fo'n Cadi; yn aml iawn mae o'n edrych arna i'n gosod hadau oddi ar linell trydan, a chyn gynted ag y bydda i'n mynd i mewn, bydd o'n dod am ei frecwast. 

Tuesday, March 6, 2018

broffwydes deborah

Roedd y gynulleidfa'n gorfoleddu - 18,000 o bobl a llenwodd gynhadledd AIPAC ddoe. Maen nhw'n ei charu. Roedd hi'n edrych yn llawn o emosiynau. Dechreuodd siarad wedi iddyn nhw ddistewi (er bod hi'n dal i gael ei hymyrryd dwsin o weithiau gan gymeradwyaeth angerddol.) Mae hi'n hyfryd - llysgennad America i'r Cenhedloedd Unedig, un sydd yn sefyll dros y peth iawn heb ofn. Dw i'n ei charu hi hefyd. Pob bendith i Nikki Haley.

Monday, March 5, 2018

mary poppins

Mae Theatr College of the Ozarks yn perfformio Mary Poppins ar y llwyfan am dri diwrnod. Gan fod ein merch yn un o'r criw actio o gystal â pharatoi dillad a props, aeth fy ngŵr i weld y sioe ddoe. Dwedodd o fod pawb yn perfformio'n ffantastig!

Saturday, March 3, 2018

hinamatsuri

Hinamatsuri sydd yn ŵyl Japaneaidd i'r holl ferched bach (a hŷn.) Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, roeddwn i'n cofio tynnu'r doliau allan o'r blwch dyddiau cyn heddiw. Am y tro cyntaf, does dim merch neu hyd yn oed mab adref i weld y doliau. Hinamatsuri Hapus beth bynnag!

Friday, March 2, 2018

brwydro, goresgyn neu farw

Creodd fy merch y dyluniad hwnnw yn ddiweddar ar gyfer sgarff sydd yn cael ei gwerthu gan Contrado, cwmni yn Llundain. (Mae o ar gael drwy Contrado US hefyd.) Mae blodau a phatrwm Japaneaidd yn asio'n hyfryd efo'r arwyddair penderfynol byddin Canada. Mae'r nwyddau gan y cwmni'n cael eu gwneud yn Llundain, dim yn Tsieina.

Thursday, March 1, 2018

dydd gŵyl dewi hapus!

"Gwnewch y pethau bychain" ydy fy arwyddair yn ddiweddar; ychwanegaf "yn ffyddlon" ar ddiwedd y frawddeg. Mae'r ffrwythau sych yn mwydo mewn te cryf dros nos; dw i'n barod i grasu bara brith.