Thursday, June 30, 2011

cymru 2011 - o gwmpas y maes parcio


Byddwn i'n mynd am dro amser cinio drwy'r maes parcio yn ymyl y castell a chael picnic ar fainc yn South of France (gelwyd gan y bobl leol.) Mae awyr y môr yn wych wedi gweithio mewn lle amgaeedig am oriau.

Bob tro awn i heibio'r maes parcio, byddwn i'n gweld Kevin wrthi'n gwerthu tocynnau parcio i'r nifer mawr o ymwelwyr yn union fel roedd o'n ei wneud yn rhaglen y Menai gan S4C y llynedd. Dyma gael gair efo fo yn ogystal â Richard Jones, Harbor Master sy'n hwylio Balmoral ar y Menai'n fedrus. Byddwn i fod wedi wrth fy modd yn mynd o gwmpas Ynys Môn arni hi ond yn anffodus byddwn i'n gadael Cymru cyn y diwrnod mawr.

Wednesday, June 29, 2011

cymru 2011 - siop elusen


Yn siop elusen Gyngor Henoed y byddwn i'n gwirfoddoli am wythnos; dim ond 12 munud o gerdded o dŷ Iola ar Lôn Eifion ar hyd y Rheilffordd Eryri. Wedi cael fy nhywys yn yr adeilad gan un o'r staff, dyma gychwyn fy ngwaith trefnu pentyrrau o roddion gan y cyhoedd. Mae pob siop elusen yn wynebu problem gyffredin; mae rhai pobl yn rhoi sbwriel i gael gwared arno fo'n gyfleus. Does dim diwedd ar y gwaith.

Fel siopau elusen ym mhob man, mae siop Gyngor yn dibynnu ar wirfoddolwyr. Yn ystod yr wythnos dw i wedi cyfarfod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ogystal â'r staff. Maen nhw i gyd wedi croesawu'r ddynes ryfedd hon o Oklahoma.

Tuesday, June 28, 2011

cymru 2011 - bara brith


Fe wnes i Fara Brith yn ôl rysait sydd gan Iola un diwrnod. Mae hi'n defnyddio clorian hen ffasiwn wych i bwyso'r cynhwysion. Er fy mod i'n dweud fy hun, mae'r Bara Brith wedi troi'n arbennig o dda, diolch i stof Aga Iola. Hoffwn i fod wedi dod â darn yn ôl adref, ond penderfynais i beidio rhag ofn iddo gael ei daflu gan swyddogion Customs yn Chicago.

Crasu un adref wnes i, ond dydy o ddim cystal o gwbl. Dw i angen cyrens duon yn ogystal ag Aga!

Monday, June 27, 2011

cymru 2011 - moel eilio


Heddiw dw i, Iola a Lori'n cerdded i ben Moel Eilio (ac yn ôl,) llwybr poblogaidd lleol. Mae o'n edrych fel pwdin Nadolig yn ymyl yr Eliffant. Mae'r llwybr yn gymharol hawdd ac mae fel pe bawn i'n cerdded ar garpedi. Dangosodd yr Wyddfa ei phen o'r cymylau. Mae'r trenau bach yn mynd i fyny ac i lawr. Dacw Drefor a Chaergybi. Medra i weld Llanberis a Marteg hyd yn oed! Dacw Lyn Gadair, Llyn y Dywarchen a Llyn Cwellyn ar yr ochr arall. Mae'r golygfeydd panoramig yn anhygoel.

Sunday, June 26, 2011

cymru 2011 - dau wasanaeth

Y pregethwr y bore 'ma yng Nhan y Coed ydy John Robinson o Tennessee'n wreidddiol sy'n byw ym Mangor bellach. Mae ganddo faich dros y gwledydd Celtaidd ac yn gwybod mwy na dwsin o ieithoedd. Mae o'n rhugl yn fwy na hanner ohonyn nhw. Pregethodd yn Gymraeg heb betruso er bod ganddo acen estron. Wrth gael sgwrs efo fo wedyn ces i fy synnu'n clywed o'n siarad Eidaleg!

Ar ôl cinio dydd Sul hyfryd a baratowyd gan Iola, aethon ni i Eglwys Bedyddwyr Penrallt ym Mangor am wasanaeth nos heddiw. Dw i wedi bod mewn cysylltiad gyda Peter, y Gweinidog. Mae'n rhyfeddol bod nhw'n cannu union yr un fath o ganeuon addoli â'n heglwys yn Oklahoma. Er mai eglwys Saesneg ydy hi, mae yna rai yn siarad Cymraeg gan gynnwys Peter.

Saturday, June 25, 2011

cymru 2011 - diwrnod agored ar fferm

Dw i wedi symud o Farteg i dŷ Iola, fy ffrind yng Nghaernarfon. Heddiw mae'n ddiwrnod agored ar fferm ffrind Iola. Wedi helpu llnau eu bwthyn i ymwelwyr yn y bore, dyma ymuno â'r dyrfa a chael lifft yn y wagen a dynnir gan y tractor i fynd yng nghanol y gwartheg sy'n pori'n hamddenol yn y cae. Yn ôl yn y sied dyma ffermwr ifanc yn arddangos ei sgil cneifio. Mae'r gwynt yn eithaf main i'r defaid truan i ddadwisgo eu gwlân a dweud y gwir! Ces i ac Iola gaws Cymreig yn anrheg gan ddyn clên yn y stondin gwybodaeth.

Friday, June 24, 2011

cymru 2011 - aberdaron

Wedi gadael Nant Gwrtheyrn, dan ni'n anelu at Aberdaron. Mae'r tywydd yn dal yn braf felly dydy'r tonnau'r môr ddim mor wyllt ond tyner. Dw i ddim yn disgwyl cael dod i fynegfys y Pen Llŷn. Dan ni'n mynd i mewn i Eglwys Sant Hywyn lle a oedd R.S.Thomas yn bugeilio. Mae'r drws ar agor ac mae anrhegion ar werthu yn y tawelwch ond heb neb i'w gwarchod.

Mae'n rhyfeddol gweld y môr ar y ddwy ochr wrth i ni yrru.

Mae awyr y môr wedi dwyn chwant bwyd arnon ni. Cawson ni swper gwych yn yr Harbwr, tŷ bwyta mawr newydd yn ymyl y Galeri yng Nghaernarfon. Diolch i Linda ac Idris am y plât stecen heb sôn am y diwrnod arbennig.

Thursday, June 23, 2011

cymru 2011 - nant gwrtheyrn

Yn o'r pethau roeddwn i'n edrych ymlaen ato oedd gweld Linda ac Idris a oedd yn ymweld â'u teuluoedd yng Nghymru'r un adeg â fi.

Daethon nhw i Farteg i fy nghasglu, ac i ffwrdd â ni i Nant Gwrtheyrn. Gadawon ni'r car ar ben y bryn a cherdded i lawr y llethr ofnadwy o serth. Roedd yn ddiwrnod anhygoel o braf yn annisgwyl er bod y gwynt yn gryf. Cawson ni bicnic wrth fwrdd tu allan sy'n wynebu'r môr yn edmygu'r golygfeydd godidog. Cerddon ni o gwmpas y lle wedi'i gynllunio'n fedrus, a phan gyrhaeddon ni'r Ganolfan Treftadaeth, roedd dosbarth Cymraeg ymlaen ynddi hi. Dw i erioed wedi gwneud cwrs yma, ond rhaid bod yn hyfryd cael aros mewn lle mor braf a dysgu.

Cerddon ni i lawr, felly rhaid cerdded i fyny!

(Diolch i Linda ac Idris am y lluniau.)

Wednesday, June 22, 2011

cymru 2011 - diwrnod olaf yn Llanberis

Wedi i'r glaw trwm stopio, penderfynais i gerdded ar y llwybr tu ôl i'r ysbyty chwarel, llwybr 'cymharol wastad' yn ôl Carol o Farteg. Roeddwn i ar ran ohono fo efo Gareth y llynedd, ond daethon ni o gyfeiriad dirgroes.

Rhaid fy mod i wedi cymryd tro anghywir, roedd y llwybr yn mynd i fyny'r llethr eithaf serth. Doedd neb o gwmpas. Dechreuais i feddwl a ddylwn i ddod yn ôl. Yna yn sydyn dyma ddod i mewn man agored. Lle roeddwn i ond ar ben Chwarel Vivian! Roedd yr olygfa'n werth yr holl ddringo. Hoffwn i fod wedi rhannu'r pleser efo cwmni neu ddau. Aeth y llwybr i lawr wedyn trwy'r twmpath sbwriel llechi.

Gorffennais i'r wythnos yn Llanberis yn clywed Côr Merched Clychau Grug o Lanrug yng Ngwesty Victoria gyda'r nos.

Tuesday, June 21, 2011

cymru 2011 - bangor

Heddiw dw i'n cael cinio efo Nia, tiwtor Cymraeg a Cathrin o Borthaethwy. I dŷ bwyta poblogaidd o'r enw Awyr Las yng nghanol tref Bangor dan ni'n mynd. Mae'r salad cyw iâ'n anhygoel o flasus. Mae'n braf gweld y ddwy eto. Maen nhw'n brysur fel arfer ond yn edrych yn dda.

Dyma gerdded tuag at y Pier ar ôl ffarwelio efo nhw. Mae'n ddiwrnod braf ond mae'r gwynt yn ddigon cryf i'ch chwythu i'r Menai.

Monday, June 20, 2011

cymru 2011 - betws-y-coed

Wedi cael map gan Gwilym y ganolfan groeso, daliais i fws Sherpa i fynd i Fetws-y-Coed heddiw. Dim ond punt mae'r tocyn sengl yn ei gostio. Dan ni'n mynd trwy olygfeydd godidog Bwlch Llanberis . Dw i'n disgyn o'r bws wrth Raeadr Ewynnol, a dyma gerdded i lawr y grisiau at Afon Llugwy sy'n orlawn ar ôl y glaw trwm. Mae'r sŵn yn anhygoel yn atseinio o fy nghwmpas. Ces i mo fy siomi; am olygfa!

Rhaid cyfaddef bod tref Betws-y-Coed braidd yn ystrydebol gyda gormod o dwtistiaid, ceir a bysiau. Ond mae yna lwybrau braf ymysg coed dalsyth yn ei chylch.


Sunday, June 19, 2011

cymru 2011 - llanberis 2

Roedd yn stormus yn y bore ond ciliodd y cymalau yn y pnawn, felly ffwrdd â fi i grwydro. Gan ei bod hi'n dal yn oer, prynais i dop cynnes mewn siop gyfagos.

Dw i'n anelu at Amgueddfa Lechi. Gwelais i bopeth y tro diwethaf ond mae naddu llechi ar fin cychwyn; i mewn i'r adeilad efo dwsin o dwristiaid. Ar ôl yr arddangosiad gan grefftwr medrus, dw i'n cael gair gydag ef. Fo sydd ar bamffledi'r amgueddfa ac un clên hefyd.

Wrth i mi gerdded o gwmpas y dref, gwelais i hogiau ifanc wrthi'n chwarae gêm pêl-droed ar y cae yn ymyl Llyn Padarn. Dyma ymuno â'r rhieni brwdfrydedd a mwynhau rhan o'r ail hanner. Roeddwn i'n edrych ymlaen at weld gêm gartref tîm Llanberis ond mae'r tymor wedi drosodd yn barod.

Saturday, June 18, 2011

cymru 2011 - llanberis 1


Dw i'n disgyn oddi ar y tacsi wrth Siop Joe Brown a mynd i Farteg i adael y cês. Yna at Ganolfan Groeso i weld ydy Gwilym yno. Dyma fo'n eistedd o flaen y swyddfa efo ffrind yn sgwrsio. Chafodd o ddim ei synnu fy ngweld; peth arferol yn yr haf. Trist clywed mai fo ydy'r unig staff bellach a bydd y ganolfan yn cau ym mis Medi oherwydd y toriadau. Maen nhw'n effeithio ar bob dim.

Mae yna ddefaid yn crwydro'n rhydd ar strydoedd a mynd i erddi pobl i bori. Dw i'n ofni bydden nhw'n cael eu taro gan geir. Mae'r pentref yn llawn o bobl athletaidd heddiw; cynhaliwyd Triathlon yma a nofion nhw yn Llyn Padarn rhewllyd! Hogyn lleol a enillodd.

Braf gweld yr wynebau cyfarwydd yng Nghapel Coch gyda'r hwyr. Cyri Indiaidd efo naan cartref i swper wrth ymyl Llyn Padarn, cyri gorau a fwytais i erioed.




Friday, June 17, 2011

cymru 2011 - cyrraedd

Helo bawb! Wedi tair wythnos braf yng Nghymru, des i'n ôl yn hapus ac yn gallach. Fel arfer, byddwn i am sgrifennu fy atgofion.

Cyrhaeddais i Fanceinion am 7:30 yn y bore, Mai 22, dim ond saith awr o Chicago. Aeth popeth yn iawn y tro 'ma heb golli awyren fel gwnes i'r llynedd.

Mae'n oer! Does gen i ddim côt gynnes oherwydd bod hi'n boeth y llynedd yr un adeg. Dylai bws fynd o Fangor i Lanberis tua dau yn ôl yr amserlen a welais i ar y we ymlaen llaw, ond does dim byd tan bump! Does dim tacsi wrth ymyl yr orsaf hyd yn oed. Rhaid galw un. Tra oeddwn i'n aros, lapiais i flanced ysgafn a ddes i â fo o fy nghwmpas rhag cael fy rhewi. Hogyn lleol clên oedd y gyrrwr a chawson ni sgwrs ddymunol ar y ffwrdd.

Roeddwn i'n darganfod wedyn fy mod i'n aros wrth safle anghywir! Roedd yna fws tua dau wedi'r cwbl......