Friday, March 24, 2023

tatan nerthol

Ces i fy neffro gan daran arswydus tu hwnt yn ystod y nos. Er bod taranau Canol-De yn enwog am eu pŵer aruthrol, roedd hwnnw mor agos fel fy mod i'n meddwl iddo daro un o'r coed yn fy iard gefn. Bydda i'n cerdded o gwmpas i weld oedd difrod yn y gymdogaeth pan fydd y glaw yn atal.

Wednesday, March 22, 2023

diwedd tymor oer

Yn dilyn diwedd tymor oer, daeth defnydd y stôf llosgi coed ddod i ben hefyd. Roedd yn hyfryd cael fy nghynhesu gan dân braf pan oedd yn ofnadwy o oer tu allan. Bydda i'n bob amser teimlo'n drist i ddweud "hwyl am y tro" wrth y stôf. Pan ei gyffwrddais o rŵan wrth dynnu'r llun hwn, roedd o'n dal yn gynnes.

Tuesday, March 21, 2023

blodau ceiriog

Dechreuodd coed ceiriog yn Japan flodeuo'n gynt nag arfer eleni. Cyn gadael, cafodd fy merch hynaf gyfle i edmygu eu harddwch. Fe wnaeth hi a'i chwaer hanami sydyn un prinhawn.

Monday, March 20, 2023

pennod y dydd

Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd,
ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb.
Galarnad 3: 22, 23

Saturday, March 18, 2023

hunllef

Wedi treulio pythefnos bendigedig yn Japan, daeth fy merch hynaf adref neithiwr. Dwedodd, fodd bynnag, fod yna anhrefn ac oedi ym mhob maes awyr gyda nifer mwy o deithwyr mewn ciw ofnadwy o hir a welodd erioed. Roedd rhaid iddi redeg o borth i borth ym Maes Awyr Denver hyd yn oed er mwyn dal yr awyren olaf at Oklahoma City. O leiaf na fuodd unrhyw beilot farw'n sydyn, ond mae'n amlwg bod y sefyllfa deithio mewn awyren yn gwaethygu.

Thursday, March 16, 2023

y murlun cyntaf yn japan

Mae fy merch hynaf newydd baentio ei murlun cyntaf yn Japan - ei breuddwyd! Un bach y tro 'ma yn Tokyo ydy o, ond y murlun cyntaf fodd bynnag. Agorir tafarn gan ffrind iddi, a phaentiodd hi ar y wal wrth y grisiau sydd yn arwain at y dafarn islaw. Gan fod y murlun yn cael ei weld tu allan, dw i'n sicr y bydd y blodau lliwgar yn dal llygaid pobl sydd yn cerdded heibio.

Wednesday, March 15, 2023

gweld ei nain

Cyn gadael Japan, cafodd fy merch hynaf gyfle i ymweld â'i nain yn ei chartref henoed. Er bod y llywodraeth newydd leihau'r cyfyngiadau cymdeithasol, roedd rhaid i'r ddwy weld ei gilydd drwy banel plastig, ac am ddeg munud yn unig. (Roedd amserydd yn mynd!) Bendith fawr oedd fodd bynnag oherwydd bod yn hollol bosib mai dyna'r tro olaf i fy merch i'w gweld, yn y byd presennol, gan ystyried oedran ei nain.

Tuesday, March 14, 2023

ailfeddwl

Dw i wedi ailfeddwl ynghylch coffi wedi'i baratoi gyda dŵr oer. Yn sicr mae o'n ysgafnach ar y stumog, ond dw i'n hoffi paratoi coffi poeth i fi ac i bobl eraill oherwydd ei fod o'n debyg i ddefod bleserus ymdawelu. Does dim pleser yn paratoi cold brew ar noson flaen. Dim ond tasg ddiflas ychwanegol ydy o. Prynais 100 o ffilterau'n barod. O wel, bydda i'n eu defnyddio nhw o bryd i'w gilydd.

Monday, March 13, 2023

tymor mae pawb yn ei gasáu

Mae tymor mae pawb yn ei gasáu wedi cyrraedd unwaith eto, sef amser i lenwi'r ffurflen dreth hunanasesiad. Y broblem fwyaf ydy pa mor gymhleth a dryslyd ydy'r ffurflen. Ac mae hi'n gwaethygu bob blwyddyn. Y gŵr sydd yn gwneud popeth i ni, fodd bynnag (diolch i'r trugaredd.) Erbyn hyn mae o'n dibynnu ar gyfrifydd medrus am ran fwyaf o'r gwaith, ond rhaid iddo gasglu gwybodaeth angenrheidiol o hyd. O leiaf, mae o'n gweithio mewn awyrgylch dymunol heddiw.

Saturday, March 11, 2023

dŵr glân


Gwaith arall mae Job, y cenhadwr lleol yn Honduras a yrrodd y coffi aton ni, yn ei wneud ydy dosbarthu (yn rhad ac am ddim) hidlydd dŵr cludadwy i drigolion yr ardal. Mae cynifer o'r bobl yno heb ddŵr glân, ac felly maen nhw'n sâl yn aml. Mae o'n gweithio gyda thîm dŵr hefyd. Dyma gip ar un o'i ddyddiau.

Friday, March 10, 2023

llythyr teulu

Dw i a'r gŵr newydd orffen llythyr teulu blynyddol a oeddwn i'n gobeithio gyrru at y perthnasau a ffrindiau dros y Nadolig. Oherwydd priodas fy merch ym mis Tachwedd a phethau eraill, roedd o'n llawer hwyrach nag arfer. Mae'r llythyr, yn Saesneg a'r Japaneg, ar ei ffordd bellach, gyda golwg gwanwynol.

Wednesday, March 8, 2023

dim diolch

"Na," dwedodd mwy na 60 y cant o bobl Oklahoma yn y refferendwm ddoe, erbyn cyfreithloni defnydd hamdden o fariwana. Hynod o falch bod gan ran fwyaf o'r bobl synnwyr cyffredin. Mae troseddau a damweiniau a achoswyd gan ddefnydd "meddygol" wedi cynyddu’n arswydus yn y dalaith yma ers iddo fod yn gyfreithlon fis Tachwedd llynedd.

Tuesday, March 7, 2023

coffi o honduras


Cawson ni goffi gan Job, cenhadwr yn Honduras ydyn ni'n ei gefnogi! Un o'r pethau amrywiol mae o a'i deulu'n wneud ydy ffermio yn ardal wledig er mwyn ysbrydoli'r ffermwyr lleol. Mae o a'i griw newydd gynaeafu coffi, a gyrrodd becyn i'w cefnogwyr. Mae'r coffi'n wych, ac mae'n hyfryd profi canlyniad ei lafur.

Monday, March 6, 2023

arwres

Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad ar gyfer yr arddangosfa gelf yn Asolo, yr Eidal. Izumo no Okuni, y ddynes a gychwynnodd Kabuki yng Nghyfnod Edo ydy'r ysbrydoliaeth. Mae hi'n ddewis perffaith oherwydd mai arwyr ydy'r thema.

Saturday, March 4, 2023

drws newydd

Mae gannon ni ddrws newydd i'r garej. Daeth perchennog busnes bach i'w osod ddyddiau'n ôl. Aeth o â'r hen ddrws gydag o hefyd. Gyda gweithiwr arall, cymerodd ond awr a hanner i gwblhau popeth. Mae'r drws yn gweithio'n ardderchog, a does dim bwlch at y gongl i bryfed ddod i mewn chwaith. (Gollyngdod mawr i mi!)

Friday, March 3, 2023

gŵyl eirin

Cafodd nifer o ddathliadau eu cynnal ar gyfer Gŵyl Eirin, sef Gŵyl Ferched yn Japan ddoe. Bydda i'n tynnu fy noliau hynafol, sydd yn yr un oed â fi, bob blwyddyn o gwpwrdd. Cafodd fy merch hynaf ddoliau arbennig gan ei ffrind yn Japan. Wnaed gan ei mam â llaw maen nhw.

Wednesday, March 1, 2023

ddydd gŵyl dewi hapus

"Byddwch lawen a chadwch eich ffyd a'ch credd, a gwnewch y petheu bychain a glywsoch ac y welsoch gennyf i."


Tuesday, February 28, 2023

wedi drysu

Codais y Ddraig Goch o flaen y drws, a phostio cyfarchion Ddydd Gŵyl Dewi'r bore 'ma. Yna, roeddwn i'n sylweddoli mai yfory ydy'r 1af Mawrth! Dw i newydd dynnu’r faner yn ôl yn gyflym, a symud y post yn y blwch drafft. Tan yfory felly.

Monday, February 27, 2023

corwynt

Aeth corwynt drwy Norman, Oklahoma lle oedd fy merch a'i gŵr yn arfer byw. (Maen nhw'n rentio eu tŷ bellach.) Cafodd y tai dros y stryd eu dinistrio'n llwyr tra bod y rhai ar ochr tŷ fy merch heb ddifrod. Mae'n dangos bod y bobl yn ddiogel, a bydd yr yswiriant yn talu dros y tai a gollon nhw, ond bydd yn gyfnod ofnadwy o galed am fisoedd.

Saturday, February 25, 2023

blodau ceirios cyntaf

Dyma ddillad (Blodau Ceirios Cyntaf) ar gyfer ymarfer corff ac ymlacio mae fy merch hynaf newydd ddylunio. Maen nhw ar seiliedig ar 72 tymor micro Japan. Tybed fydd hi'n bwriadu dylunio 71 gwahanol ddillad eleni? Gawn ni weld.

Friday, February 24, 2023

twll sydyn

Ymddangosodd dwll dan fondo yn sydyn. Does gen i syniad beth ydy'r achos. Efallai dim ond bod y tŷ yn heneiddio. Dyma i'r gŵr gau'r twll gyda thâp dwythell a masgio er mwyn atal rhyw anifeiliaid bach yn mynd i mewn a gwneud nyth.

Wednesday, February 22, 2023

het gwych

Cafodd y gŵr anrheg sydyn yn annisgwyl gan y cymydog drws nesaf - het Trump 2024! Prynodd y cymydog un iddo ei hun ac arall i'r gŵr. Mae'r gŵr wrth ei fodd wrth gwrs, ac yn ei gwisgo ym mhob man, hyd yn oed yn y tŷ.

Tuesday, February 21, 2023

yn lle nuttela


Siwgr ac olew palmwydd ydy'r ddau gynhwysyn gyntaf yn Nuttela. Er ei fod o'n hynod o flasus, dw i byth yn ei fwyta bellach. Dyma bast llawer iachach sydd yn debyg dw i wedi ei greu. Dim ond cymysg o bowdr coco, mêl a llefrith soi ydy o. 

Monday, February 20, 2023

adnodau

Pura fi ag isop fel y byddaf lân;
golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.
y Salmau 51:7

Crea galon lân ynof, O Dduw,
rho ysbryd newydd cadarn ynof. 
y Salmau 51:10

Saturday, February 18, 2023

coffi ysgafn

Roedd gen i eisiau sydyn ar goffi wedi ei baratoi gyda dŵr oer. Mae o'n hynod o boblogaidd yn barod, ond doeddwn i ddim yn bwrw sylw arno fo tan yn ddiweddar. Mae o'n ysgafn heb fod yn sur. Dw i ddim yn hoffi diod oer, ac felly bydda i'n ei gynhesu gyda llawer o lefrith soi. Mae'n hynod o hawdd ei baratoi ond yn drafferthus ei hidlo fodd bynnag. Bydda i eisiau bagiau rhwyll dafladwy fel hyn.

Thursday, February 16, 2023

pothos

Cawson ni bothos gan ffrind ddoe. Doedd gynnon ni ddim planhigion yn y tŷ ers blynyddoedd. Doedd gen i ddim diddordeb. Braf gweld peth gwyrdd wedi'r cwbl. Mae'n ymddangos mai hynod o hawdd gofalu am bothos; planhigyn perffaith i mi!

Wednesday, February 15, 2023

dim gwastraff

Dw i heb gael gwared ar y lint o'r peiriant sychu am sbel. Casglais gryn dipyn heddiw. Na thaflais o yn y bin sbwriel, ond yn y bag o frigau a chonau pinwydd yn y gornel. Defnyddir nhw i gynnau tân yn y stôf llosgi coed.

Tuesday, February 14, 2023

lucca

Mae fy ail ferch yn Japan eisiau mynd i'r Eidal yn ystod ei gwyliau gwanwyn. Cafodd awydd hollol sydyn. (Roedd hi'n dysgu Saesneg i blant am dymor yno o'r blaen.) Mae hi eisiau dysgu Eidaleg ynghyd â darlunio y tro 'ma. Gofynnodd i mi am y cwrs Eidaleg a fynychais yn Lucca yn 2014. Dyma bori'r lluniau wrth gofio'r profiad braf a ges i. (y llun: cinio yn Sgwâr Puccini)

Monday, February 13, 2023

damwain unigryw

Ces i ddamwain unigryw yn y tŷ ddeuddydd yn ôl. Syrthiodd y stôl a oeddwn i arno, a ches i godwm ofnadwy o galed ar y llawr pren. Drwy drugaredd Duw, na throwyd esgyrn, ond roeddwn i mewn poen ofnadwy am sbel. Dw i'n teimlo'n llawer gwell heddiw. Rhaid i mi fod yn fwy gofalus (wrth i mi heneiddio!) Gweler y tramgwyddwr yn y llun.

Saturday, February 11, 2023

llaw arth


Mae stondin coffi dros dro unigryw yn Osaka, Japan. Llaw arth sydd yn eich gweini. Pobl gydag ofn cyfathrebu sydd yn gweithio yno yn gwisgo maneg flewog. Cyfle iddyn nhw weithio heb orfodi siarad â neb. Mae'r cwsmeriaid wrth eu boddau hefyd, yn enwedig plant. Syniad gwych.

Friday, February 10, 2023

cappucino

Dw i newydd ddarganfod bod llefrith soia'n dda i wneud cappuccino. Ffeindies y modd gorau i greu ewynnau hefyd - ysgwydwch lefrith cynnes mewn llestr wedi'i gau'n dynn. Mae hyn yn gweithio'n llawer gwell na'r offerynnau drud (ac eithrio un proffesiynol wrth gwrs.) Yr anfantais ydy bydd ewynnau'n diflannu'n gyflym!

Tuesday, February 7, 2023

wyau

Wrth i brisiau popeth gynyddu’n gyflym (diolch i'r llywodraeth gyfredol,) dw i a'r gŵr yn ceisio arbed pres mwy nag o'r blaen. Mae'n hurt pa mor ddrud ydy wyau'n ddiweddar. Mae'r gŵr yn cael brecwast yn ffreutur y brifysgol bob wythnos, a bwyta cymaint ag y myn.

Monday, February 6, 2023

lle mae'r caws?

Prynu pecyn o gaws a wnes i ddydd Gwener. Dw i'n siŵr fy mod i oherwydd bod gen i dderbynneb. Ond methais ei ffeindio. Efallai fy mod i wedi ei adael at y til yn ddamweiniol. Yna, ffeindiais o ddeuddydd wedyn, mewn drôr yn y gegin..... 

Saturday, February 4, 2023

dadmer

Wrth i'r tymheredd godi, mae'r strydoedd yn ddiogel o'r diwedd. Roeddwn i'n medru cerdded tu allan am y tro cyntaf ers wythnos. Er bod y gwynt yn oeraidd, roedd yr awyr yn ffres ac adfywiol. Roedd mor braf!

Thursday, February 2, 2023

gwresogydd bach

Dw i'n hoff iawn o'r gwresogydd bach hwn. Mae o'n cynhesu ystafell fach yn effeithiol heb chwythu awyr annifyr. Pan fod gen i waeth wrth y ddesg, bydda i'n gynnes braf tra bod y gŵr yn gweithio ar ei gyfrifiadur wrth y tân yn yr ystafell fyw. Dyn ni'n arbed pres hefyd heb ddefnyddio'r gwres canolog.

Tuesday, January 31, 2023

tywydd garw a rhaglen ddiddorol

Daeth fy merch hanaf a'i gŵr i fynd at ddeintydd lleol, sydd yn ffrind teulu. Roedden nhw'n bwriadu gadael ar ôl yr apwyntiad ddoe, ond cawson nhw eu caeth oherwydd eira a rhew. Gobeithio y bydd y ffyrdd yn cael eu clirio heddiw. Yn y cyfamser, cawson ni ymlacio a gwylio rhaglen hynod o ddiddorol ar Netflix, o'r enw Makanai: coginio ar gyfer tŷ maiko.

Saturday, January 28, 2023

grawnfwyd newydd


Mae cynifer o erthyglau'r Wenynen, gan gynnwys rhai a oedd yn swnio'n hollol wallgof ar y pryd, wedi dod yn wir. Rhaid bod hyn yn profi pa mor wallgof mae'r byd bellach. Na chai fy synnu os bydd yr erthygl honno wedi dod yn wir hefyd.

Friday, January 27, 2023

byth eto?


"Byth eto," dwedir Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost bob blwyddyn, ond dydy'r bobl ddim yn dysgu o hanes. Digwyddodd yr erchyllter oherwydd bod cydwybod y wladwriaeth, sef Eglwys yr Almaen, yn cadw'n ddistaw yn erbyn y drygionus. Anwybyddon nhw lais Dietrich Bonhoeffer, a mynd ymlaen pe bai popeth yn iawn. Mae'r un peth yn prysur ddigwydd yn America - nid dim ond yn erbyn yr Iddewon, ond yn erbyn yr holl genhedlaeth. Darllenwch am Bonhoeffer. Deffrowch, Eglwys America.

Tuesday, January 24, 2023

murlun newydd

Mae fy merch hynaf newydd orffen murlun arall, mewn airbnb yn Oklahoma City. Cymeriad o Kabuki ydy hi unwaith eto a elwir yn Forwyn Crëyr. Bydd cwsmeriaid lwcus yn cael edmygu'r murlun hwnnw.

Monday, January 23, 2023

dal i fwynhau

Dw i'n mwynhau gweithio ar y cnau pecan bob dydd. Wrth wneud y gwaith, roeddwn i'n gwrando heddiw ar Eric Metaxas yn sôn am ei lyfrau, sef Letter to the American Church a Bonhoeffer: Pastor, Martyr, Prophet, Spy. 

Saturday, January 21, 2023

cnau gwerth fawr

Doeddwn i ddim yn gwybod bod y goeden pecan wrth ochr ein heglwys ni wedi bod yn cynnyrchu cnau a'u gollwng nhw bob tymor er fy mod i a'r teulu'n mynychu'r eglwys dros ugain mlynedd. Dim ond ddoe roeddwn i'n sylwi bod cnau gwerthfawr ar gael yn rhad ac am ddim! Dyma fynd i'w casglu'r bore 'ma (yn yr oerfel.) Er bod y tymor wedi hen orffen, roedd cymaint ar y ddaear. Rhaid fy mod i wedi casglu rhyw bum punt. Mae'n anhygoel o hawdd tynnu'r cig o'r cregyn, yn hollol wahanol i gnau hicori. Mae gen i fwy o waith hwyl i'w wneud am sbel!

Thursday, January 19, 2023

ailgylchu

Bydd hi'n oer am sbel eto. Cyneuodd y gŵr ein stôf llosgi coed ni'r bore yma gan ddefnyddio canghennau, tiwbiau papur toiled, lint o’r sychwr dillad, corc o botel win a chonau pinwydd a roddwyd gan ffrind. Gweithion nhw'n ardderchog.

Wednesday, January 18, 2023

dannedd cryfion

Mae gan wiwerod ddannedd anhygoel o gryf. Ces i fy nghyfareddu'n gweld gwiwer yn bwyta cneuen hicori ar gangen o flaen fy ffenestr y bore 'ma. Ofnadwy o galed ydy cregyn cnau hicori. 

Tuesday, January 17, 2023

seren newydd


Mae rhedwr ifanc (15 oed) yn tynnu sylw'n ddiweddar yn Japan. Torrodd record yn y ras gyfnewid merched cenedlaethol fis yma. Mae ei ffurf rhedeg yn edrych yn ardderchog. Dwedodd y gŵr ei bod hi'n rhedeg dwywaith mor gyflym â fo! Mae ganddi dad o Ganada a mam o Japan, ac yn siarad Japaneg yn hollol rugl.

Monday, January 16, 2023

peidio â chael eich twyllo


Un o arwyddion diwedd y byd ydy cynnydd personau sydd yn eu galw eu hunain yn broffwydi Duw ac Iesu Grist hyd yn oed, yn ôl y Beibl. Dwedodd Iesu, fodd bynnag, na fyddai unrhyw amheuais pan ddaw eto. "fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn." Matthew 24:27 Darllenwch Air Duw fel na fyddech chi'n cael eich twyllo.

Saturday, January 14, 2023

doethineb billy graham


"Os ydy Cristionogaeth yn ddilys, pam mae cymaint o ddrwg yn y byd?" 

Atebodd y pregethwr enwog, "gyda chymaint o sebon, pam mae cymaint o bobl fudr yn y byd? Rhaid cymhwyso Cristnogaeth, fel sebon, yn bersonol os am wneud gwahaniaeth yn ein bywydau ni."



Friday, January 13, 2023

diwedd tymor

Diwedd tymor cnau Hicori - mwynheais gracio cnau wrth wrando ar bodlediadau, a chael cnau maethlon blasus yn rhad ac am ddim ar yr un pryd. Sych ydy'r rhain yn y llun, a dydyn nhw ddim yn werth y drafferth, felly penderfynais eu rhoi nhw i wiwerod.

Wednesday, January 11, 2023

gras duw

Mathew 20:1-16

Mae dameg Iesu hon bob amser yn fy atgoffa i o fy niweddar dad. Fo ydy'r gweithir a gyflogwyd olaf i weithio yn y winllan. Wedi byw bywyd gwyllt drwy ei fywyd, credodd yn Iesu Grist rhyw oriau cyn iddo farw o ganser yn yr ysbyty. Mae o gydag Iesu yn y baradwys ynghyd â'r miliynau o'r ffyddloniaid. 

Tuesday, January 10, 2023

seremoni urddo

Cynhaliwyd seremoni urddo'r Llywodraethwr Stitt yn Oklahoma City ddoe. Cychwynnodd ei ail derm wrth annerch dros filoedd o'r gynulleuddfa. Aeth y gŵr i fynychu'r achlysur pwysig. Ces i fy nharo gan yr effaith Cristnogol ym mhobman, yn enwedig gan weddi'r gweinidog, tad y Llywodraethwr, a roddodd ogoniant i Dduw yn enw Iesu Grist.

Monday, January 9, 2023

diolch i'r wiwer


Mae tymor cnau Hicori wedi hen orffen; dim ond ychydig ohonyn nhw sydd yn dal ar y canghennau. Wrth weld allan o'r ffenestr, roeddwn i'n sylwi gwiwer yn prysur ddringo'r coed o flaen y tŷ. Roedd hi'n ceision dal cnau, ond methodd a syrthiodd ddau i lawr. Dyma fynd allan, codi un, a'i gracio. Er bod y plisgyn yn dduraidd, roedd y gneuen tu mewn yn feddal.

Saturday, January 7, 2023

am y tro olaf

Daeth fy merch yn ôl o Oklahoma City. Nad oes ganddi lawer o amser cyn iddi adael am Japan, ond penderfynon ni baentio am y tro olaf neithiwr. Mae hi'n artist dawnus fel ei chwaer. (Athrawes ydy hi fodd bynnag.) Mae hi eisiau dysgu paentio golygfeydd rŵan.

Thursday, January 5, 2023

dwy chwaer

Wedi gwella o Gofid, aeth fy merch at ei chwaer yn Oklahoma City i dreulio rhyw ddyddiau. Mae'r ddwy'n cael amser arbennig o wych, mae'n ymddangos. Bydd hi'n dychwelyd i Japan ddydd Sul.

Wednesday, January 4, 2023

cariad at yr arlywydd go iawn


Waeth pa mor galed mae'r prif gyfryngau'n dweud fel arall, na fedran nhw wadu poblogrwydd y cyn Arlywydd Trump.

Tuesday, January 3, 2023

2023

Casglodd y plant a'r wyrion yma dros y flwyddyn newydd yn lle'r Nadolig. Roedden ni'n treulio dyddiau teuluol prin ymysg cyffro a gweiddi hapus y bychain. Dim ond un pryd a goginiais. Bwyton ni tu allan, a phrynu bwyd am y gweddill o'r prydau. Wedi golchi pentwr o ddillad gwely a thaweli; hwfro, mopio'r llawr, mae'r tŷ yn ddistaw unwaith eto. Blwyddyn Newydd Dda.