Saturday, July 31, 2021

boom-a-rang

Cawson ni take-out i swper eto yn hytrach na mynd i dŷ bwyta. Boom-a-rang oedd ein dewis ni'r tro 'ma. Ces i fyrgyr gyda madarch a chaws. Ychwanegais salad cartref. Cafodd y gŵr frechdan bysgodyn a phastai mefus wedi'r ffrio. Dywedodd ei fod o wedi llygadu'r bastai am flynyddoedd nes neithiwr!

Friday, July 30, 2021

yr ailgylchu eithaf


Bydd bron i 5000 o fedalau aur, arian ac efydd yn cael eu gwobrwyo yng Ngemau Olympaidd eleni, a daeth cant y cant o'r metel a ddefnyddiwyd o ailgylchu!

Roedd Prosiect Medal Tokyo 2020 yn ymdrech ledled y wlad a gasglodd ffonau, gliniaduron a dyfeisiau electronig eraill ail law. Rhoddwyd bron i 80 tunnell o electroneg a ddygodd 70 pwys o aur, 7700 pwys o arian, a 4850 pwys o efydd!

Wednesday, July 28, 2021

tîm torri'r gwair

Mae gan Ddinas Oklahoma dîm medrus ar gyfer torri'r gwair ar lethrau serth, peryglus. Dydy'r tîm ddim yn llygru’r amgylchedd; i'r gwrthwyneb, mae o'n maethu'r pridd wrth iddo weithio, a heb ofyn am gyflog hyd yn oed!

Tuesday, July 27, 2021

dim ond cip

Cerddodd fy merch yn Tokyo at Nippon Budokan, lle mae twrnamaint Judo yn cael ei gynnal gan ei fod o'n agos at ei swyddfa. Roedd popeth ar gau i'r cyhoedd wrth gwrs. Cafodd ond gip o'r adeilad drwy fariau. 

Monday, July 26, 2021

gwenynen neu "ddim yn wenynen"?


Mae'n mynd yn anoddach byth canfod ydy erthyglau Gwenynen yn wir neu ddychan. Mae'r erthygl hon yn swnio'n ofnadwy o wir fel byddai hi'n digwydd yn barod. 

Saturday, July 24, 2021

gemau anarferol


Mae Gemau Olympaidd hollol anarferol newydd gychwyn yn Japan. Mae fy nhair merch wrthi'n eu gwylio nhw ar y teledu. Er mwyn yr athletwyr sydd wedi bod yn hyfforddi'n galed bob dydd am flynyddoedd, dw i'n gobeithio’n arw y bydd yn gemau hynod o lwyddiannus. Dyma erthygl fy merch amdanyn nhw.

Friday, July 23, 2021

brenin jehoshaphat


Wedi darllen hanes Brenin Jehoshaphat yn yr Hen Destament unwaith eto, cofiais y gân boblogaidd (flynyddoedd yn ôl) amdano ymysg Cristnogion gan Don Fransico. Dyma ei ffeindio hi ar YouTube a gwrando arni. Fedrwn i ddim atal rhag dawnsio!

Wednesday, July 21, 2021

gwiwer

Ers i ni lwyddo i amddiffyn y bwydwr adar drwy osod rhwystr ar y polyn, dydy gwiwerod ddim yn dod yn aml. Ddoe, fodd bynnag, gwelais un a oedd yn ymlacio'n braf ar y dec cefn. 

Tuesday, July 20, 2021

halen môr a charamel


Mae hi'n gyflym. Mae hi'n llygad ei lle. Bob tro. Does gen i ddim syniad sut mae hi'n cyflawni camp ar ôl y llall. Dyma hi eto. Dydy'r Wenynen byth yn ein siomi ni. 


Monday, July 19, 2021

swper yn napoli's

I Napoli's aethon ni i gael swper eto. Dewisais saig newydd (i mi) y tro 'ma, sef cyw iâr a phasta mewn saws pesto. Roedd yn flasus er bod yna ormod o hufen, yn fy nhyb i. Dewisodd y gŵr ravioli cig. Clên oedd y weinyddes yn ogystal â'r awyrgylch. Doedd neb yn gwisgo mwgwd wrth gwrs.

Saturday, July 17, 2021

bwyta dail te


Cewch chi fwyta dail te wedi iddyn nhw gael eu defnyddio! Mae'r maetholion yn aros ynddyn nhw, dim yn y dŵr poeth. Doeddwn i ddim yn gwybod. (Dail te wedi'u malio ydy matcha wedi'r cwbl.) Darllenwch fwy am y pwnc hwn yn erthygl newydd fy merch.

Friday, July 16, 2021

arth wen

Mae yna nifer mawr o dai bwyta a siopau coffi sydd yn cynnig bwyd anhygoel o amrywiol ag ansawdd uchel dros ben yn Japan. Dw i'n mwynhau gweld fideos sydd yn eu cyflwyno. Des i ar draws y rhew melys wedi'i falio gyda hufen iâ hwn. Mae'n rhy annwyl ei fwyta!

Wednesday, July 14, 2021

maen nhw'n dal

Dyma ni yng nghanol mis Gorffennaf, ac eto mae'n hydrangea ni'n dal i flodeuo un ar ôl y llall! Rhaid bod y gaeaf caled oedd yr achos heb os. Maen nhw'n rhoi i fi a'r gŵr bleser annisgwyl beth bynnag.

Tuesday, July 13, 2021

y cwbl

Mae fy merch hynaf newydd orffen ei phaentiad diweddaraf - Sukeroku, cymeriad arall yn Kabuki. Fo a'i gariad Agemaki ydy cwbl enwog yn y stori gyda'r un enw (Sukeroku.) Cafodd fy merch gais i'w baentio gan gyd aelod ZEN yn Japan. Y hi sydd eisiau prynu Agemaki. Dwedodd fyddai Agemaki angen ei chariad wrth ei hochr.

Monday, July 12, 2021

sgit gŵyl seren

Cynhaliwyd dathlu Gŵyl Seren yr wythnos diwethaf yn yr ysgol ryngwladol yn Tokyo lle mae fy nwy ferch yn gweithio fel athrawon ynddi. Un o'r rhaglen oedd sgit sydyn gan rai athrawon yn seiliedig ar y chwedl. Cafodd fy merch ifancach brif ran fel Orihime, sef Tywysoges Seren wrth ddefnyddio ei medr actio. Yn anffodus, roedd pawb yn gorfod actio gan wisgo mwgwd.

Saturday, July 10, 2021

fandaliaeth

Mae nifer o drigolion yn Oklahoma City wedi bod yn mwynhau chwarae ping-pong ar y bwrdd hardd hwn am dair blynedd. Gweithiodd fy merch yn galed i greu'r darn o gelf hwnnw, ond cafodd ei fandaleiddio yn ddiweddar. Trosedd erchyll ydy hyn. Yn anffodus, does dim modd i'w atal oherwydd bod y bwrdd mewn parc cyhoeddus.

Friday, July 9, 2021

myg newydd

Roeddwn i'n chwilio am fyg gwydr ar gyfer coffi oer. Gwelais hwn yn Walmart ddoe. Fel arfer, mae'r pethau felly yn cael eu gwneud yn Tsieina, ond gwnaed yn UDA mae o. Prynais i fo'n syth. Fy unig bryder dros y gwneuthurwr ydy mai rhy rad ydy o - dim ond 99 sent. Gobeithio bod nhw'n gwneud elw drwy werthu mewn swmp i Walmart.

Wednesday, July 7, 2021

gŵyl seren


Gŵyl seren ydy hi heddiw yn ôl traddodiad Japan. Dyma erthygl newydd sbon amdani gan fy merch. Creodd becyn bwyd yn seiliedig ar yr ŵyl. Rhaid ei bod wedi meddwl yn galed oherwydd bod ganddi alergedd bwyd difrifol.

Tuesday, July 6, 2021

ffoadur yn yr iard


Mae'r ci drws nesaf yn dod i mewn ein hiard ni'n aml er gwaethaf y rhwystr dan y glwyd. Roedd o yn yr iard eto'r bore 'ma. Wedi iddo gael ei ddychryn gan y gŵr, rhedodd yn ôl at ei iard drwy'r bwlch anhygoel o gul rhwng y ddwy ffens! Dyma'r gŵr osod darn o bren yno. Fedrai ddim beio bod y ci eisiau dod aton ni, fodd bynnag. Mae ei iard fel jwngl, ac mae o'n cael ei esgeuluso’n ofnadwy.

Monday, July 5, 2021

22 oed

Dathlon ni benblwydd fy mab ifancaf. Daeth fy merch hynaf' a'i gŵr i'r dathliad eleni. Ymunodd fy nhair merch yn Japan â ni drwy Zoom. Cawson ni pizza a salad cyw iâr gan Sam & Ella's. I fy mab, roedd pizza heb glwten Walmart. Fe wnes i baratoi teisen caws hufen ac iogwrt (heb glwten) hefyd.

Sunday, July 4, 2021

245 oed


Penblwydd hapus i Unol Daleithiau America.

"Ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad."
2 Cronicl 7:14