Saturday, October 31, 2015

japan - priodas

Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn dal yn Japan tra fy mod i wedi dod yn ôl i Oklahoma. Aethon nhw i briodas ffrind a oedd wedi graddio yn y brifysgol yma. Yn Kanazawa, tref hardd ar ochr arall mynyddoedd Japan cynhaliwyd y briodas, mewn cysegrfa Shinto. Mae nifer o gwplau yn priodi yn steil Shinto yn Japan, ond prin ydy seremoni sydd yn cael ei chynnal mewn cysegrfa go iawn. 

Friday, October 30, 2015

llif byw

Rhaid i mi gael hoe rhag adrodd fy hanes yn Japan heddiw er mwyn sgrifennu am yr e-bost a ges i gan BBC Cymru Fyw. Gyrrais neges sydyn atyn nhw am fy merch (un roedd yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe) a gyflwynodd Gymru yn y ffair astudio tramor yn y brifysgol leol. Fe wnaethon nhw gyfeirio ati ar y llif byw. Diolch i Dafydd Owen.

Thursday, October 29, 2015

japan - asakusa

Wedi treulio amser braf efo fy merch, es i Asakusa, un o'r llefydd roeddwn i am weld yn Tokyo'r tro hwn. Er bod hi'n nosi erbyn i mi gyrraedd, roedd yna nifer o ymwelwyr. Roedd yr awyrgylch dipyn yn wahanol i ystod y dydd.

Wednesday, October 28, 2015

japan - park shakujii

Ymwelais â fy ail ferch sydd yn byw yn Tokyo fel athrawes Saesneg ers mis Mawrth. Roedd yn rhyfedd ei gweld hi yn Japan am y tro cyntaf ers i mi a'r teulu symud i America. Mae hi'n byw mewn ardal ddistaw ond ddim yn bell o ganol y ddinas. Wedi cael pecyn cinio sydyn yn ei fflat clyd, es i efo hi i Barc Shakujii sydd yn lle poblogaidd i'r trigolion. Wrth i ni gerdded yn y parc hyfryd hwnnw, daethon ni ar draws dyn sydd wrthi'n paentio golygfa hardd ar gynfas. Dw i newydd gael gwybod mai artist lleol enwog ydy o.

Tuesday, October 27, 2015

japan - y nodweddion

Bob tro dw i'n mynd yn ôl i Japan, dw i'n cael fy nharo gan nifer o bethau - glendid, absenoldeb sbwriel ar y strydoedd, trefnusrwydd, trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, bwydydd hyfryd, cwrteisi'r Japaneaidd a mwy. Roedd yn anhygoel gweld merch at y til mewn archfarchnad trin pob peth yn y fasged pe bai e'n drysor iddi. Ces i sioc newydd felly pan es i siopa ddoe; agorodd y ddynes at y til byth ei cheg ond datgan faint ydy'r swm; y fi a ddiolchodd iddi hi.

Monday, October 26, 2015

japan - siopa

Un o'r pethau pleserus i'w wneud yn Japan ydy cerdded yn hawdd i siopau hyfryd. Es i archfarchnad gyfagos bob dydd i brynu ychydig yn hytrach na llond troli o fwydydd ac ati dwywaith yr wythnos fel bydda i'n ei wneud fel arfer. Es i unwaith efo fy mam ynghyd â fy merch a'i gŵr sydd yn ymweld â Japan yr un pryd.

Sunday, October 25, 2015

adra

Dw i newydd ddod yn ôl o Japan wedi treulio wythnos efo fy mam. Roedd yn wych bwyta ei bwyd blasus, cerdded i bobman, mynd ar wibdaith sydyn ar y trên, popeth yn hawdd a diogel. Ac eto, dw i'n hapus dod adref. Does unman yn debyg i adra, meddai Gwyneth Glyn.

Tuesday, October 13, 2015

mynd i japan

Dw i'n mynd i Japan i weld sut mae fy mam. Fe adawa' i ddydd Iau a dod yn ôl ar y 24ain. Dyma'r tro cyntaf i mi ymweld â Japan yn yr hydref; yn y gwanwyn es i bob tro - yr amser blodau ceirios. Bydd fy merch hynaf a'i gŵr yn mynd hefyd, wythnos wedyn i fynychu priodas ffrind. Dan ni'n mynd i'n cyfarfod yn fflat fy mam. Dw i'n edrych ymlaen at gael teithio'n hawdd ar y trên ac ar fws o gwmpas Tokyo.

Monday, October 12, 2015

stori'r hen gapten

Daniel Evans, actor gwych a ddarllenodd y stori hon gan T.Llew am deithiwr a gollodd ei ffordd yn cael llety mewn hen ficerdy ar noswyl Nadolig. Wrth wrando, roeddwn i'n sylwi fy mod i wedi gwrando arni hi o'r blaen ond heb gofio beth oedd hanes y ficer. Stori drist yn hytrach na arswydus ydy hi. Mae gan Gristnogion obaith ar ôl marwolaeth yn ôl addewid Duw. Doedd dim rhaid i'r ficer golli ei galon. Un lletygar ydy o beth bynnag. 

Sunday, October 11, 2015

gorau t.llew jones

Awr cyn canmlwyddiant T. Llew, gorffennais ail-ddarllen y llyfr hwn, y gorau ganddo fo yn fy marn i, sef "Corn, Pistol a Chwip." Roeddwn i'n anghofio'r stori erbyn hyn, ac felly roedd yn gyffrous dros ben dilyn siwrnai hir ac anhygoel o galed y Mêl o Lundain i Gaergybi yn y gaeaf yn yr adeg pan adeiladwyd Pont Menai. Roedd y nofel yn ddiddorol o'r dudalen gyntaf i'r diwedd. Hoffwn i ei gweld hi'n cael ei hail-argraffu. (y llun: Nant Ffrancon a hen lôn bost)

Saturday, October 10, 2015

cwrs eidaleg newydd alberto

Roedd Alberto'n gweithio'n galed i greu ei ail gwrs Eidaleg ers blwyddyn. Wedi ei weld o ar gael y bore 'ma, prynais y cwrs ar yr unwaith. Roeddwn i'n bwriadu ei brynu ers iddo sôn amdano fo er mwyn diolch iddo am ei ymdrech dygn i helpu dysgwyr yn rhad ac am ddim ers blynyddoedd, a hefyd gwella fy Eidaleg wrth gwrs. Mae gan y cwrs gymaint o awdios, fideos a PDF amrywiol ar seiliedig ar ei ddull dysgu effeithiol y bydd yn cael anfon atoch chi un wers ar y tro. 

Friday, October 9, 2015

murlun newydd

Cafodd fy merch gomisiwn arall am furlun, ar gyfer Heddlu Norman y tro hwn. Mae hi newydd ddechrau gan drosglwyddo ei dyluniad at wal adeilad yr heddlu. Roedd rhaid gwneud y gwaith hwnnw yn y nos er mwyn defnyddio taflunydd, a chafodd hi a'i gŵr sydd yn ei helpu eu hymosod gan filoedd o fosgitos!

Thursday, October 8, 2015

tatŵ dros dro

Mae busnes tatŵ dros dro fy merch yn ffynnu'n ddiweddar. Mae hi'n derbyn archebion o dramor yn gyson gan gynnwys Tanzania a Rwsia. Yn ogystal â dyluniadau unigryw ar ei gwefan, mae hi'n creu rhai ar gais. Rhain ydy'r diweddaraf yn y siop - llythrennau Tsieineaidd sydd yn boblogaidd bob amser.

Wednesday, October 7, 2015

woodchuck

Gwelais woodchuck yn ein hiard ni. Dyma'r ail dro, ond y tro hwn, roedd o'n cerdded tuag at y tŷ ac felly roeddwn i'n medru gweld ei wyneb yn glir. Gwelodd o fi'n ceisio tynnu llun ohono fo o'r ffenestr a throi'n ôl, dringo'r ffens a mynd i'r iard dros nesaf. Mae woodchuck yn edrych yn annwyl iawn er bod nhw'n achosi problemau weithiau gan balu tir ger tai. 

Tuesday, October 6, 2015

dŵr

Torrodd peipen dŵr dan ddaear yn ein hiard blaen. Daeth staff ar unwaith ond gadael heb wneud dim. "Rhaid cysylltu â'r cwmni teleffon gyntaf i ffeindio lle mae'r llinell ffôn cyn cael cloddio," medden nhw. Ddigwyddodd dim dros y penwythnos tra bod y dŵr yn llifo o ddifrif ac yn gwneud rhaeadr ar gynffon y stryd. Daeth griw mawr efo peiriant cloddio brynhawn ddoe. Roedden nhw wrthi am oriau a stopion nhw'r dŵr o'r diwedd. Collwyd tunnell o ddŵr yn ystod y pedwar diwrnod. O leiaf mae'r tywydd wedi bod yn sych a chafodd yr anifeiliaid gwyllt yn y gymdogaeth ddigon o dŵr. (Mae'r rhyngrwyd yn gweithio heddiw.)

Monday, October 5, 2015

yn y llyfrgell

Does dim rhyngrwyd gartref prynhawn 'ma. Mae hyn wedi digwydd o bryd i'w gilydd, ac fel arfer bydd y broblem yn cael ei ddatrus ar ei ben ei hun. Heddiw fodd bynnag, mae'r sefyllfa'n wael. Penderfynais ddod i'r llyfrgell leol er mwyn sgrifennu fy nau flog. Daeth myfyrwraig at fy ochr chwith e dechrau defnyddio ei Mac Book yn pesychu o dro i dro. Symudais at ddesg ar y llawr plant heb dynnu ei sylw. Roeddwn i ar fy mhen fy hun am ddeg munud cyn i blentyn bach ddod ata i a dechrau siarad. Symudais at ddesg arall eto. Roedd yn ddistaw ar y dechrau ac eithrio sŵn peiriant ac ambell i sgwrs sydyn rhwng y llyfrgellydd a'r trigolion. Rŵan mae mwy a mwy o bobl yn dod yn siarad yn uchel. Sgrifenna' i fy mlog Eidaleg ac yna casglu fy mab yn yr ysgol. Gobeithio y bydd y rhyngrwyd yn gweithio erbyn inni gyrraedd adref.

Sunday, October 4, 2015

canmoliaeth

Ces i fy nghanmol am fy nawnsio efo fy mab gan nifer o bobl. Y peth gorau a welodd hi erioed mewn parti priodas, meddai un ohonyn nhw. Wrth gwrs nad ydw i wedi dawnsio llinell efo fy mab er mwyn diddanu'r gwesteion; dw i ddim yn medru dawnsio'r walts. Dyna pam. Roedd yn hwyl iawn beth bynnag ac efallai bod y lleill wedi mwynhau'n gweld ni'n dawnsio'n llawen. 

Saturday, October 3, 2015

y llyfr hir disgwyliedig

Mae "Corn, Pistol a Chwip" newydd gyrraedd o Flaenau Ffestiniog. Ces i dipyn o siom oherwydd bod y llyfr yn eithaf llwyd. Wrth gwrs fy mod i'n gwybod ei fod o allan o argraff ers meitin ond doeddwn i ddim yn disgwyl llyfr sydd yn drewi. Rhaid ei adael yn yr haul am ddyddiau cyn i mi gael ei ddarllen. 

Friday, October 2, 2015

sgarff werdd

Mae'r tywydd wedi troi'n oeraidd yn sydyn; mae fy merch yn hapus cael gwisgo o'r diwedd y sgarff a brynodd yn Nulyn yn yr haf. Mae hi'n colli'r wlad werdd yn fawr iawn a dechrau dysgu Gwyddeleg ar ei phen ei hun hyd yn oed.

Thursday, October 1, 2015

breuddwydio (yn y nos)

Dw i'n ceisio cael breuddwydion yn y nos yn ddiweddar i fwynhau'r amser cysgu. Darllenais erthyglau ar y we a chael gwybod y dylech chi beidio â defnyddio cyfrifiaduron yn union cyn mynd i'r gwely er mwyn cysgu'n braf a hefyd cael breuddwydion. A dyna beth dw i'n ei wneud - diffodd fy Mac Book a darllen llyfr am hanner awr. Dw i'n cysgu'n well ac yn meddwl fy mod i'n breuddwydio'n amlach nag o'r blaen. Y cam nesaf ydy eu cofio nhw.