Thursday, August 31, 2017

gwirod eirin

Erthygl newydd gan fy merch - ar wirod eirin. Gwirod poblogaidd yn Japan ydy o, ac mae nifer o bobl yn mwynhau ei wneud gartref. Roedd fy mam yn arfer paratoi jwg ddiwedd mis Mai. Mae'n braf i yfed wrth ychwanegu dŵr a rhew. Mae'n gwneud lles i chi hefyd! Doedd gen i ddim diddordeb dysgu'r grefft pan oedd cyfle gen i yn Japan, ond wedi darllen yr erthygl, byddwn i'n hoffi ei wneud o. Yn anffodus, dydy'r cynhwysion ddim ar gael yma!

Wednesday, August 30, 2017

mae pawb yn bihafio

Daeth miliwn o bobl i weld y dawnsio. Er gwaethaf y torf enfawr, doedd dim anhrefn. Dim ond yn Japan.

Tuesday, August 29, 2017

awa-odori

Aeth fy nwy ferch yn Japan i weld Awa-odori (dawnsio gwerin) dros y penwythnos ynghyd â'r filiwn o bobl eraill. Roedd y merched yn medru sicrhau man gwych i dynnu lluniau hyfryd. Roedd yna lawer o grwpiau dawnsio yn dangos dawnsiau unigryw pob un ohonyn nhw. Mae'r egni'n anhygoel. Un o'r traddodiadau hafaidd poblogaidd yn Japan. 

Monday, August 28, 2017

drawer sbeisys

Dw i'n trefnu'r tŷ ychydig ar y tro bob dydd. (Mae gen i ddigon o amser i'w wneud ar ôl i'r plentyn ifancaf adael adref.) Y cyflawniad diweddaraf oedd y drôr sbeisys hwn. Roedd y sbeisys amrywiol yn arfer rholio ym mhob man yn y drôr. Yna, gwelais fideo ar sut trefnu pethau (yn Ffrangeg os cofia' i'n iawn.) Roedd dynes yno'n trefnu ei drôr wrth ddefnyddio rhannwr a brynodd hi. Dyma greu un tebyg o hen galendr a blwch grawnfwyd. Mae'r sbeisys yn aros yn eu lle'n dwt. Braidd yn falch ohono fo ydw i!

Saturday, August 26, 2017

tomatos coch

Es i farchnad ffermwyr y bore 'ma am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Cynhalir dan do enfawr bellach, ac mae yna fand hyd yn oed a oedd yn creu awyrgylch dymunol. Wedi rhoi cip ar bob stondin, dewisais un a oedd yn gwerthu maint lleiaf (i fi a'r gŵr.)  Prynais bwys o domatos coch coch. Gwerthir gwin lleol hefyd, ond yn anffodus doedd gen i ddim digon o bres parod. Y tro nesa efallai!

Friday, August 25, 2017

y prosiect diweddaraf

Mae'r gŵr yn dal wrthi'n rhoi trefn ar y tŷ ers ymddeol, a dw i wrth fy modd wrth gwrs! Y prosiect diweddaraf oedd - ail-blannodd y poinsettia druan i mewn i bot blodyn mwy. Mae'r planhigyn eisoes yn edrych yn hapus. (Cafodd ei achub gan fy merch pan oedd ei bos ar fin ei daflu i ffwrdd ar ôl tymor Nadolig y llynedd.)

Thursday, August 24, 2017

erthygl arall fy merch

Cafodd erthygl arall fy merch newydd ei chyhoeddi. Ysgrifennodd am ei hymweliad â Gajoen, gwesty/tŷ bwyta cain yn Tokyo. Roedd hi'n cynnwys profiad ei nain a oedd yn gweithio yno fel gweinyddes cyn yr Ail Ryfel Byd. Rhyfeddol iawn bod fy mam yn dal i fyw a sionc yn ei hysbryd. Fu farw ei ffrindiau i gyd a oedd yn gweithio efo hi. Rhaid i Gajoen ddod a'i chyfweld i glywed ei hanes anhygoel dri chwarter canrif yn ôl!
(fy mam ar y dde yng ngardd Gajoen)

Wednesday, August 23, 2017

hotspur

Dechreuais ddarllen Hornblower gan C.S. Forester unwaith eto. Roeddwn i'n gwirioni ar y gyfres honno ryw ddeg mlynedd yn ôl. (Criais a chriais pan gafodd Mr. Bush ei ladd mewn brwydr!) Mae'r nofel yn hynod o ddiddorol er fy mod i'n ei darllen yr aildro. Ces i fy nghyfareddu o newydd gan Hornblower yn drysu llong Ffrengig sydd yn llawer mwy na'i long Hotspur drwy ei gynllun medrus a dewr. 

Tuesday, August 22, 2017

rhyfeddod

Roedd y tro cyntaf i mi brofi diffyg ar yr haul. Gamais allan o'r drws blaen, a dyma weld cysgodion yr haul drwy'r coed ar y ddaear; roedden nhw'n edrych fel miloedd o Cheshire Cats yn gwenu'n siriol. Daeth y gŵr â lens oddi wrth y coleg optometreg, a dyfeisio offer syml i weld yr haul yn ddiogel a chlir. Wrth i'r lleuad cuddio'r haul mwyfwy, dechreuodd hi'n tywyllu ac roeddwn i'n medru clywed y tymheredd yn gostwng. Rhyfeddach fyth!

Monday, August 21, 2017

diffyg ar yr haul


Roedd yn hynod o ryfedd gweld mor o lygaid gwenu ar y ddaear!

o israel gyda chariad

Roedd e-bost personol gan Jane o Jerwsalem yn fy nisgwyl y bore 'ma. Diolchodd hi am fy nghefnogaeth, a dweud bod ei bys y troed yn gwella'n araf bach. Mae hi angen llawdriniaeth a dweud y gwir, ond yn aros i'r cwmni aswiriant benderfynu talu am y gost. Fedrith hi ddim cerdded yn iawn ar hyn o bryd, ac felly rhaid aros cartref. Efallai bod hyn yn amserol oherwydd y bygythiadau gan gannoedd o Fwslemiaid a dderbyniodd yn ddiweddar. Mae hi'n dal wrthi'n postio i gefnogi Israel er gwaethaf pawb a phopeth. Gyrrodd y llun hyfryd hwn hefyd.

Saturday, August 19, 2017

dim dyddiad cau

Mae'r gŵr wrthi'n gweithio o gwmpas y tŷ ers ymddeol. Mae ganddo amser i'w wneud o'r diwedd. Mae o'n dal, fodd bynnag, i geisio gorffen rhyw waith papur ar gyfer y brifysgol, symud ei holl eiddo oddi wrth ei swyddfa heb sôn am wneud y ddyletswydd amrywiol yn ei fywyd. Ac felly na fydd o byth yn segur. Y gwahaniaeth ydy nad oes dyddiad cau bellach. Braf iawn!

Friday, August 18, 2017

salm 3

Arglwydd, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!
Y mae llawer yn codi yn f'erbyn....
Ond yr wyt ti, Arglwydd, yn darian i mi....
Nid ofnwn pe bai myrddiwn o bobl yn ymosod arnaf o bob tu....
Byddi'n taro fy holl elynion yn eu hwyneb, a thorri dannedd y drygionus.
I'r Arglwydd y perthyn gwaredigaeth.
Bydded dy fendith ar dy bobl.

Salm Dafydd, pan ffodd rhag ei fab Absalom; fe allai fod yn weddi'r Arlywydd Trump

Thursday, August 17, 2017

y swper olaf

Aeth fy merch yn ôl i Japan y bore 'ma wedi tair wythnos o wyliau gartref ac yn Honduras. Cyflawnodd hi gynifer o bethau pwysig - treulio amser efo'i theulu; cael gwared ar y pentwr o'i heiddo diangen yn ei ystafell; trefnu ei thrwyddedau amrywiol; mynd i weld ei ffrindiau agos a bell. Crasodd ddwy dorth o'i bara banana enwog i'r teulu yn y cyfamser. Roedd hi eisiau bwyta lasagna (ei ffefryn) i swper neithiwr, a dyma fi wrthi drosti hi. Bydd hi'n Nadolig y flwyddyn nesaf pan ga' i'w gweld hi eto.

Wednesday, August 16, 2017

mellt a tharanau yn america.

Daeth fy merch adref yn hwyr neithiwr, wedi ymweld â'i chwaer hŷn yn Norman. Roedd storm rymus a symudodd o'r gorllewin i'r dwyrain â'r un cyflymder efo'i char bron. Roedd y glaw mor drwm fel roedd hi'n gorfod stopio ar ochr y draffordd am sbel ynghyd â'r nifer o geir eraill. Gwelodd hi fellten anhygoel o lachar dros yr awyr un ar ôl y llall. Roedd hi wedi anghofio pa mor nerthol ydy mellt a tharanau yn America!

Tuesday, August 15, 2017

arfer newydd

Wedi i'n plentyn ifancaf ni adael cartref, dechreuais a'r gŵr arfer newydd, hynny ydy gwylio You Tube wrth i ni fwyta swper. Dan ni'n dewis dwy neu dair fideo fer, rhwng pump a deg munud yr un. Anerchiadau'r Arlywydd Trump a Prager University ydy'n ffefryn ni. Pobl amrywiol o feysydd amrywiol sydd yn siarad dros Prager U ar bynciau llosg. Weithiau maen nhw'n cadarnhau'r hyn dan nieisoes eu gwybod; troeon eraill agoriad llygaid maen nhw.

Monday, August 14, 2017

yn jerwsalem

Y mae ein traed bellach yn sefyll o fewn dy byrth, O Jerwsalem... Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem, "bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu; bydded heddwch o fewn dy furiau..."
Salmau 122

Lwcus iawn ydy Jane. Mae hi'n darllen, dros baned o goffi, y Beibl am Jerwsalem, yn Jerwsalem! Mae hi'n dal ati sefyll yn ddewr dros Israel er gwaethaf y bygythiadau erchyll gan filoedd o Fwslimiaid. 

Saturday, August 12, 2017

shoji

Prynais sgrin blygadwy sydd yn edrych fel shoji (drysau traddodiad mewn tai Japaneaidd) ar gyfer mynedfa fy nhŷ. Does gan dai Americanaidd cyffredin ddim mynedfa go iawn. Rhaid cami mewn yn ystafell fyw. Fedra i ddim dioddef hyn a dweud a gwir gan mai o Japan dw i'n dod. Mae'r sgrin honno'n rhoi tipyn bach o breifatrwydd i'r bobl yn y tŷ tra gadael i'r golau naturiol hidlo trwyddo. Dw i wrth fy modd; dylwn i fod wedi ei brynu flynyddoedd yn ôl!

Friday, August 11, 2017

distawrwydd

Gadawodd fy mab ifancaf am brifysgol yn nhalaith Missourri y bore 'ma. Mae'n ofnadwy o ryfedd na fydd unrhyw blentyn gartref o hyn ymlaen. Fe ddaw fy ngŵr sydd wedi mynd â'n mab ni i'r brifysgol, adref yn hwyr heno, ac felly mae'n ddistaw iawn yn y tŷ. Wrth gwrs roeddwn i ar ben fy hun am flynyddoedd pan aethon nhw i'r gwaith/ysgol, ond mae'r distawrwydd hwn yn hollol wahanol. Yn sydyn dw i'n sylweddoli bod yna gynifer o seddau gwag o gwmpas. 

Wednesday, August 9, 2017

blas yr haf

Dw i a'r teulu'n mwynhau gwylio cyfres teledu Japaneaidd ar Netflix. Japanese Style Originator ydy'r rhaglen; maen nhw'n cyflwyno traddodiad, diwylliant a bwyd Japaneaidd mewn modd difyr. Wedi gweld pennod ar tofu a hiyayakko (tofu oer efo saws soia, ayyb) roedden ni i gyd eisiau un! Fel arfer bydda i'n defnyddio tofu mewn ryseitiau amrywiol; prin bydda i'n ei fwyta fel hyn. Mae'n dda iawn - blas yr haf.

Monday, August 7, 2017

nofel dditectif japaneaidd

Dw i newydd orffen nofel dditectif Japaneaidd gan Kyotaro Nishimura. Yr Arolygydd Heddlu Totsukawa ydy'r prif gymeriad, ac mae o'n datrys troseddau cymhleth fel Sherlock Holmes. Mae'r gyfres honno'n hynod o boblogaidd ers degawdau. Mae gan y gŵr sawl copi ar ei silff; mae o'n eu darllen i ddysgu Japaneg. Dechreuais ddarllen un ohonyn nhw ddyddiau'n ôl, a ches i fy nghyfareddu gan y stori a chymhlethdod y plot. Gwnaethpwyd nifer o ddramâu teledu yn seiliedig ar y nofelau. Ces i gip, ond rhaid dweud mai llawer gwell ydy'r llyfr. 

Saturday, August 5, 2017

kama naiim - pa mor braf

Mae gen i ffefryn newydd, sef Kama Naiim, cân Hebraeg a oedd yn boblogaidd yn Israel yn y 60au. Mae'n ysgafn ac yn debyg i un o ganeuon Beach Boys. (Does ryfedd wir!) Roedd o'n hynod o boblogaidd fel roedd cynifer o gantorion wedi canu'r gân hon gan the High Windows. Wrth gwrs fy mod i'n ceisio dysgu'r geiriau, ond maen nhw'n anodd! 

Friday, August 4, 2017

sugnwr llwch

Mae'r sugnwr llwch newydd dorri i lawr. Aeth i'r siop (efo'r gŵr newydd ymddeoledig) i weld sut dewis sydd ganddyn nhw. Cas gen i upright trwm heb fag llwch bellach; dw i eisiau canister a ddefnyddir yn Japan yn gyffredin. Does dim byd o'r fath yn y siop fodd bynnag. Daethon ni adref, a dyma fi'n chwilio ar y we. Mae'n ymddangos bod canister da'n costio'n ffortiwn. Wedi chwilio yn helaeth, penderfynais ar Oreck. Er mai upright ydy o, mae o'n ysgafn a braidd yn denau fel bydd o'n medru glanhau dan welyau, a dydy o ddim yn rhy ddrud. Dyna fo. Diwedd y cur pen.

Thursday, August 3, 2017

mynd a dod

Mae tymor mynd a dod ar fy nheulu. Mae'r gŵr newydd ddod yn ôl o Las Vegas wedi gofalu am ei fam am ddyddiau; mae fy merch hynaf a'i gŵr yn dal yno ar fusnes; mae fy ail ferch newydd gyrraedd Honduras, a bydd hi'n treulio wythnos efo ei ffrind; mae fy nhrydedd ferch yn Tsieina yn ymweld â'i ffrind; bydd fy mab ifancaf ar fin adael cartref am brifysgol. O'r diwedd does dim rhaid i'r gŵr fynd i'r gwaith bellach; mae o'n mynd i'r gampfa nes ymlaen, yna, mynd i'r siop drosta i. 

y llun - golygfa wych oddi wrth ystafell westy mae fy merch hynaf yn aros ynddi.

Wednesday, August 2, 2017

safon ddwbl (eto)

Un o brif wrthwynebwyr Israel ydy o, ac eto mae Saeb Erekat, uwch swyddog Awdurdod Palestina yn cael ei drin mewn ysbyty Israel ar gyfer cyflwr ei ysgyfaint. Rŵan mae o eisiau trawsblaniad. Mae'n amlwg nad ydy o'n malio derbyn ysgyfaint Iddewig i ymestyn ei fywyd. Anhygoel ydy ei safon ddwbl. Cyhoeddodd Adran Iechyd Israel, beth bynnag, go brin byddai fo'n cael y fraint oherwydd mai trigolion Israel sydd gan y flaenoriaeth, ac mae yna ryw 70 sydd yn aros am drawsblaniad ysgyfaint. 

Tuesday, August 1, 2017

ychwanegiad

Mae'r llun a archebais newydd gyrraedd - un o'r Arlywydd Trump a'r Prif Weinidog Netanyahu ar achlysur ymweliad yr olaf i America ym mis Chwefror. Roeddwn i eisiau portread swyddogol yr Arlywydd Trump, ond mae o'n gwgu yn y llun; mae'n well gen i ei wên. Wedi chwilio ar y we, ffeindiais y llun hwnnw drwy eBay. Dyma ei fframio ar yr unwaith a'i osod yn ymyl y baneri America ac Israel ar y silff ben tân.