Wednesday, December 31, 2014

diwedd y flwyddyn

Mae blwyddyn arall wedi mynd! Mwy nag weithiau roedd yn anodd dod o hyd i bynciau ar gyfer y blog gan fy mod i'n byw bywyd braidd yn ddistaw, ond dw i'n fodlon fy mod i wedi parhau i bostio bron bob dydd eleni eto. Mae fy niddordebau a phwyslais wedi newid dros flynyddoedd ers i mi ddechrau'r blog saith mlynedd yn ôl. Mae o'n dal, fodd bynnag, i fod yn rhan bwysig yn fy mywyd er mwyn i mi gadw cysylltiad â'r Gymraeg. Gobeithio i ddal ati eto yn y flwyddyn newydd.

Tuesday, December 30, 2014

diwedd y gwyliau

Des i adref yn ddiogel efo'r teulu ddoe. Aeth popeth yn iawn. Mae'r tŷ yn dal i sefyll. Dechreuais olchi mynydd o ddillad. Es i Walmart. Mae pethau cyffredin yn ymddangos yn bleserus. Dan ni i gyd yn cael ein cyfareddu gan Keurig. Ces i baned o de English breakfast a choffi Italian roast yn y cwpan a brynwyd i mi gan y teulu yn Grand Canyon.

Sunday, December 28, 2014

y tŷ llawn

Cyrhaeddodd y teulu'n ddiogel neithiwr wedi gyrru 22 awr dros dair talaith. Mae tŷ fy merch yn llawn dop yn braf. Dan ni angen ond fy ail ferch sydd yn Honduras i fod yn nheulu cyflawn. Aeth y plant i gyd i siopa; aeth fy ngŵr â'r ci am dro. Dw i'n gwarchod y tŷ wrth sgrifennu'r post hwn. Fe a' i am dro ar ôl i'r gŵr ddod yn ôl. Mae'n heulog; mae'r eira yn prysur doddi.

Saturday, December 27, 2014

diwrnod distaw

Ar ôl dyddiau o weithgareddau amrywiol ac anarferol, roedd yn braf wneud dim byd yn arbennig am newid ddoe. Tra oedd fy merch a'i gŵr allan o'r tŷ, es i â'u ci am dro, sgrifennu llythyr (go iawn) hir at fy mam wrth gadw llygaid ar y moch cwta mewn cawell dros dro yn yr ardd, gwneud pwdin efo hen grystiau bara a ffeindiais yn yr oergell. Daeth fy merch adref a dweud na fyddai ei gŵr angen swper; penderfynon ni weld Emma (fersiwn 1996) wrth fwyta'n swper ni. Dan ni'n cytuno'n llwyr mai Mark Strong ydy Mr. Knightley gorau. Heno bydd y gweddill o'r teulu'n dod. Mae'n bwrw eira heddiw.

Friday, December 26, 2014

yn ôl i norman

Wedi treulio'r Nadolig efo'r teulu estynedig yn Las Vegas, des yn ôl i dŷ fy merch yn Norman neithiwr. (Cychwynnodd y gweddill o fy nheulu'r bore 'ma mewn car a dôn nhw yma yfory.) Roedd yn braf, yn enwedig i weld gwen prin ar wyneb mam fy ngŵr sydd yn methu siarad oherwydd y strôc. Cawson ni amser bywiog wrth agor ein hanrhegion fore Nadolig. Mae Keurig gan y brawd ac roedd dyma'r tro cyntaf i mi ei ddefnyddio mewn rhyfeddod. Ces i a'r gŵr y peiriant anhygoel hwnnw ganddo fo'n hollol annisgwyl.

Thursday, December 25, 2014

nadolig llawen

Nadolig Llawen. Dyma fy hoff emyn - O, Noson Sanctaidd

Wednesday, December 24, 2014

gormod o ddewis

Fel arfer mae'n anodd ffeindio pwnciau ar gyfer y blog ond rŵan mae'n anodd dewis un oherwydd dw i wedi gwneud lawer o bethau ers cyrraedd Las Vegas. Treulio amser efo'r teulu estynedig ydy'r peth pwysicaf wrth gwrs. Aethon i Westy Red Rock i gael brecwast bwffe y bore 'ma. Mae mynd o gwmpas y ddinas yr unig yn brofiad hollol wahanol. Beth bynnag dw i a'r teulu'n ei wneud yn y tŷ, dan ni'n cael cwmpeini'n gyson, sef eu pedwar ci bach sydd eisiau neidio ar eich glin pryd bynnag dach chi'n eistedd.

Tuesday, December 23, 2014

i las vegas

Roedd yn amser i mi hedfan i Las Vegas i ymuno â'r teulu heddiw. Hedfanodd yr awyren uwchben Grand Canyon lle'r oedd y teulu wedi bod ddoe a chyrraedd y maes awyr mewn tair awr. Gwelais frawd y gŵr a'i wraig am y tro cyntaf ers 27 mlynedd; mae mam y gŵr wedi cryfhau'n sylweddol. I swper aethon ni i dŷ bwyta teppanyaki. Roedd y cogydd yn anhygoel o fedrus. Gwelais sioe goginio anghredadwy. Uchafbwynt y swper oedd pan daflodd y cogydd ddarn o ferdys yng ngheg fy merch!

Monday, December 22, 2014

cylchdaith

Ces i gyfle i weld Canolfan Ymchwilio Heddlu Norman heddiw. Capten Gibson, pennaeth y ganolfan a chadlywydd SWAT a oedd yn fy nhywys i a fy merch. Dyn ifanc hynod o glên a hawddgar ydy o. Aeth â ni o gwmpas wrth fy nghyflwyno â'r staff clên yno. Y peth a oedd yn fy nharo oedd yr ystafell holi ar gyfer plant a merched wedi'u haflonyddu; cafodd hi ei dodrefnu fel ystafell fyw glyd fel bydden nhw'n teimlo'n llai ofnus. Dw i'n llawn edmygedd ac yn diolchgar tuag at yr heddlu sydd yn ymroddedig i amddiffyn y bobl er gwaethaf yr ymosodiadau maen nhw'n gorfod eu dioddef.

Sunday, December 21, 2014

grand canyon

Tra fy mod i'n mwynhau paned o goffi a croissant efo fy merch a'i gŵr yn ein hoff siop coffi, sef Michelangelo y bore 'ma, roedd y gŵr a'r tri phlentyn yn cerdded ar Bright Angel Trail yn Grand Canyon efo'u cegau ar agor. Dwedodd fod yna eira a rhew yma ac acw. Arhoson nhw mewn gwesty yno neithiwr a byddan nhw'n archwilio'r ceunant enfawr drwy'r dydd. Dw i newydd dderbyn y llun yma ganddo fo.

Saturday, December 20, 2014

i oklahoma city

Es i Oklahoma City efo fy merch prynhawn 'ma. Wedi cinio bach mewn tŷ bwyta Fietnamaidd, aethon ni i weld murlun fy merch. Mae'n enfawr. Dw i'n llawn edmygedd ei bod hi wedi paentio llun cymaint â hynny. Mae'n hyfryd - y lliwiau, y cynllun a phopeth. Dw i'n hynod o falch fy mod i wedi medru ei weld. Yna prynon ni fwydydd Asiaidd mewn siop arbennig, yfed te efo boba a dod adref. Roedd yn ddiwrnod hollol wahanol i fy nyddiau arferol.

Friday, December 19, 2014

ymweliad â'r heddlu

Fe adawodd y teulu'r bore 'ma. Maen nhw newydd groesi'r ffin rhwng Texas a New Mexico. Byddan nhw'n aros yn Albuquerque heno ac yn cyrraedd Grand Canyon yfory. Yn y cyfamser es i siopa am fwyd efo fy merch hynaf. Mae Norman yn llawer mwy na fy nhref i ac mae yna gynifer o siopau. Yna daeth hi â fi i Orsaf Heddlu i ddangos y lle i mi a fy nghyflwyno i rai heddweision mae hi'n eu nabod. Maen nhw i gyd yn glên iawn ac mae gan un cyn heddwas gasgliad o hetiau'r heddlu o wledydd eraill. 

Thursday, December 18, 2014

gwyliau

Dw i a'r teulu'n mynd ar wyliau ar wahân bob tro, ond dan ni newydd gychwyn ar ein gwyliau efo'n gilydd. Heddiw dan ni'n aros efo fy merch hynaf ac yfory bydd y gŵr a'n tri phlentyn yn gyrru dros daleithiau i gyrraedd Grand Canyon. Las Vegas ydy eu cylchfan lle mae brawd y gŵr yn byw efo ei wraig a'i fam. Well gen i beidio teithio mewn car cyhyd ac felly bydda i'n hedfan yr wythnos nesaf i ymuno â nhw. Bydd y mab hynaf yn hedfan hefyd. Dyma fydd y tro cyntaf i'r teulu i gyd (bron) i ymgasglu. Tra bydd y teulu'n archwilio Grand Canyon, bydda i'n treulio dyddiau efo fy merch hynaf a'i gŵr. Dw i'n edrych ymlaen.

Wednesday, December 17, 2014

anrheg drwy amazon japan

Dw i'n gyrru anrheg Nadolig at fy mam yn Japan drwy'r post ers blynyddoedd. Mae hi'n hoff iawn o gnau ac felly bydda i'n eu prynu yn Walmart, eu pacio a mynd â nhw i'r swyddfa bost fel arfer. Mae'r tâl post yn eithaf drud fel bydd o'n costio mwy na'r cnau. Eleni, fodd bynnag, mi wnes i lawer gwell, hynny ydy, archebais bwys o gnau braf drwy Amazon.japan drosti hi. Costiodd popeth rhyw 17 doler (sydd yn llawer llai na'r tâl post rhyngwladol ei hun) gan gynnwys y tâl post. Wrth gwrs bod y gyfradd gyfnewid ffafriol ddiweddar yn helpu. 

Tuesday, December 16, 2014

swrpreis!

Wrth chwilio am fideo dysgu Ffrangeg ar You Tube, des o hyd i hwn a dechrau'i weld. Roeddwn i'n meddwl mai hogyn Ffrengig a oedd yn siarad (dim ond ei law chwith oedd ar y sgrin) nes iddo ddweud y gair Eidaleg nodweddiadol o Brescia! Alberto a oedd yn siarad yn rhugl! Dwy flynedd yn ôl fe'i gwnaeth hyd yn oed.

Monday, December 15, 2014

y preseb credadwy

Mae yna gynifer o luniau a cherfluniau o'r Preseb drwy'r byd ond roeddwn i erioed wedi gweld un credadwy. Mae pob llun a cherflun yn dangos Mair yn eistedd wrth breseb yn lân a phrydferth gan edrych ar fabi Iesu'n gariadus, ond mae unrhyw ferch sydd wedi cael babi'n gwybod yn dda pa mor flinedig bydd hi'n teimlo ar ôl enedigaeth. Ac felly roeddwn i'n hynod o falch i weld y preseb hollol gredadwy hwn. Does dim gwybodaeth amdano fo'n anffodus.

Sunday, December 14, 2014

emma

Wedi gorffen Balchder a Rhagfarn gan Jane Austen, dw i'n mwynhau ail ddarllen (neu wrando ar awdio'n ddiweddar) Emma. Rhaid cyfaddef mai yn Saesneg dw i'n darllen wedi'r cwbl. Mae fersiwn Eidaleg dipyn yn rhy anodd er fy mod i'n troi ati hi sydd yn fy helpu deall rhannau aneglur o bryd i'w gilydd. Mae nifer o bethau'n ymddangos yn newydd gan gynnwys "lluniau o St. Mark's Plaza in Venice" mae Emma a'i thad yn edrych arnyn nhw yn nhŷ Mr. Knightly. 

Saturday, December 13, 2014

dyn ffyddlon

Bu farw tad fy ngŵr ddoe. Roedd yn 93 oed. Roedd o newydd symud ynghyd ei wraig o Hawaii i Las Vegas er mwyn byw efo'i ail fab. Roedd y gŵr yn medru ei weld am y tro olaf (ar y ddaear) y penwythnos diwethaf. Dyn ffyddlon, amyneddgar, glên, hael oedd o. Roedd o'n gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel Vietnam yn ddewr. Mae o'n gorffwys yn y nefoedd wrth ymyl Iesu Grist bellach. Hwyl am y tro, Dad.

Friday, December 12, 2014

dirwnod kanji

Diwrnod Kanji (logogram Japaneaidd) ydy hi heddiw yn Japan. Ar ddiwrnod hwn dewisir kanji sydd yn atgoffa digwyddiad y flwyddyn drwy bleidleisiau cyhoeddus. Dewiswyd eleni zei sydd yn golygu treth. Does ryfedd; cynyddwyd y dreth werthiant o 5% i 8% ym mis Mai eleni ar gyfer y pensiwn. Mae gan lywodraeth Japan gynllun i'w chodi mwy hyd at 10% mewn tair blynedd. Mae prif fynach yn Deml Kiyomizu, Kyoto yn ysgrifennu'r kanji buddugol bob blwyddyn.


Thursday, December 11, 2014

arddangosfa gelf

Es i efo'r plant i arddangosfa gelf yr ysgol neithiwr. Roedd seremoni fach agoriadol, a chafodd nifer o blant gan gynnwys fy nau blentyn wobrau braf gan noddwr hael. Brook a enillodd y wobr orau. Hi ydy'r orau bob tro; does ryfedd oherwydd mai artistiaid hyfryd ydy ei rhieni. (Ei thad oedd athro celf fy merch hynaf yn y brifysgol.) Fe wnaeth bawb yn dda iawn; roedd yn noson bleserus.

Llun: Audrey Hepburn gan fy merch

Wednesday, December 10, 2014

munud bach

Tra dach chi'n aros am y ficrodon am funud neu ddau, beth fyddwch chi'n ei wneud? Mi fydda i'n ymestyn fy mreichiau neu wneud ymarfer y llygaid a ballu er mwyn peidio gwastraffu amser. Dw i newydd dystio fy merch yn gwneud push-ups o flaen y ficrodon.

Tuesday, December 9, 2014

hanner pwys

Gweithiodd fy nghynllun yn Walmart. Y ddynes Tsieineaidd oedd tu ôl cownter y deli'r bore 'ma. Yn lle gofyn am bwys o gig moch, gofynnais am hanner pwys, ac yna tafellodd hi lawer mwy na hanner pwys ond llai na phwys - y maint roeddwn i eisiau. 

Monday, December 8, 2014

gwylanod!

Cafodd dynes ei chipio ei brechdan oddi ar ei llaw pan gamodd hi allan o siop yn Piazza San Marco! Gwylan oedd y dihiryn. Cafodd hi fraw'n ofnadwy oherwydd bod ganddi ofn adar (heb sôn am y sioc.) Pan oeddwn i'n eistedd wrth fwrdd yno yn sipian Bellini fis Mai, ces i fy momio gan wylan hefyd (dim ond diferion o ddŵr yn ffodus.) Mae'r adar hynny'n feiddgar!

Sunday, December 7, 2014

lucky

Pan gamais allan o'r tŷ i fynd am dro, clywais fewian bach y gath drws nesaf. Mae fy mhlant yn edrych amdani hi o bryd i'w gilydd pan ei meistres i ffwrdd ond dw i ond ei gweld hi weithiau. Roedd hi'n gyfeillgar iawn wrtha' i serch hynny ac yn fy rhwbio ar y fferau. Dechreuodd hi fy nilyn wrth i mi gychwyn cerdded ac roedd rhaid dweud wrthi fynd adref. Lucky ydy ei henw hi.

Saturday, December 6, 2014

ffrainc bach

Gelwir yn Ffrainc Bach oherwydd yr awyrgylch a phresenoldeb ysgol Ffrangeg yn ar ardal. Mae yna nifer o dai bwyta Ffrengig heb sôn am rhai Eidalaidd hefyd. Kagurazaka dw i'n sôn amdano fo. Ardal ddistaw yng nghanol Tokyo ydy hi. A dweud y gwir, dw i erioed wedi bod yno. Diolch i bost a lluniau hyfryd Patrick, mae gwibdaith i Kagurazaka ar fy amserlen bellach. Mae'r strydoedd culion yno yn fy atgoffa i o'r rhai yn Venice. Gwahaniaeth mawr ydy bod popeth yn anhygoel o lân yn Kagurazaka.

Friday, December 5, 2014

pecyn o abertawe

Cafodd fy merch becyn wybodaeth gan Brifysgol Abertawe! Mae'r campws yn edrych yn dwt a llawer agosach at y môr na'r disgwyl. Bydd hi a'i ffrind yn cychwyn fis nesaf. Cyrhaeddan nhw dri diwrnod cyn i'r tymor ddechrau. Prynodd hi got law'n barod. Rhaid i ni ail ddechrau gwersi Cymraeg ar ôl iddi sefyll yr arholiad olaf.

Thursday, December 4, 2014

ymarfer rhifau

Mae braidd yn hawdd cofio sut i ddweud, "faint ydy hwn?" yn Ffrangeg, ond clywed a deall yr ateb yn fater hollol wahanol. Des o hyd i wefan ddelfrydol i ymarfer rhifau Ffrangeg. Ar ôl clywed rhif yn Ffrangeg, dw i'n ceisio dweud yr un rif yn Eidaleg (yn hytrach na Saesneg) fel medra i ymarfer Eidaleg ar yr un pryd. Mae yna 100 o rifau a dw i'n ymarfer 25 bob dydd.

Tuesday, December 2, 2014

taith gerdded hyfryd

Postiodd BluOscar yn ei flog am y cyfarfod efo un o'i ddarllenwyr, sef Stephanie yn Fenis. Efallai mai hi ydy'r darllenwr mwyaf brwdfrydedd gan ei bod hi'n postio sylw cadarnhaol bob tro. Rhaid bod yn hyfryd iddi gael cerdded o gwmpas efo un sydd yn nabod y ddinas fel cledr ei law. Dw i'n sylwi bod hi'n sefyll yn Campo San Polo lle oeddwn i'n arfer mynd i gael picnic ar fainc. (Roedd fy llety'n agos iawn.)

Monday, December 1, 2014

tatws melys japaneaidd

Cawson ni datws melys Japaneaidd gan ffrindiau sydd gan fferm. Mae o'n hollol wahanol i rai Americanaidd. Mae ganddo groen piws coch ac mae'n felyn tu mewn. Mae o'n llawer melysach union fel cnau castan. Does angen siwgr na menyn. Dw i'n hoff iawn ohono fo ond doeddwn i ddim yn disgwyl ei fwyta yn America. 

Sunday, November 30, 2014

twristiaid da

Roedd ffrindiau i fy merch hynaf yn Fenis am ddyddiau ar eu mis mêl. Roedden nhw mor fodlon efo'r ddinas honno fel arhoson nhw yn hirach na threfnwyd yn wreiddiol. Maen nhw newydd ddod adref gan deimlo'n drist gadael y ddinas swynol. Braf clywed bod nhw wedi aros yn ddigon hir er mwyn gwerthfawrogi'r lle. Mae Fenis angen twristiaid fel nhw.

Saturday, November 29, 2014

wedi'r cinio

Ar ôl i bawb fwyta'r twrci oer yn frechdanau, mae'r cig yn ogystal â phopeth arall yn dal i lenwi'r oergell. Mae'r teulu i gyd allan yn y prynhawn er mwyn cymryd mantais ar y tywydd mwyn. Fe es i Walmart yn y bore yn barod. (Dw i'n hollol foddlon osgoi Black Friday!) Wedi tacluso'r tŷ a chychwyn y peiriant golchi, dw i'n cael eistedd efo panad o de a darn o gacen oer yn mwynhau amser distaw am sbel.

Friday, November 28, 2014

y cinio

Roedd y cinio'n llwyddiannus ac mae'r teulu a'n ffrind ni'n hapus. Dw i newydd orffen lanhau popeth ac mae gen i amser i ymlacio tra'r plant yn edrych fideo. Mae yna gymaint o fwyd ar ôl. Dan ni'n mynd i fwyta brechdanau twrci a chili twrci yfory. Dw i'n barod am wely.

Thursday, November 27, 2014

bod yn ddiolchgar

Gŵyl Ddiolchgarwch Hapus i bawb. Er gwaethaf pawb a phopeth, mae gen i gymaint i fod yn ddiolchgar amdanyn nhw. Y gobaith yn Iesu Grist sydd yn dod ar ben y rhestr dilynir gan nifer o bethau. Eleni byddwn i eisiau diolch yn benodol i heddlu a milwyr yr Unol Daleithiau America sydd yn gweithio'n galed a ffyddlon i gadw'r gweddill yn ddiogel heb dderbyn digon o ddiolch sydd yn eu haeddu.




y twrci a goginiwyd gan fy mab hynaf. Fe goginiodd dwrci am y tro cyntaf wrth ddilyn rysáit ar y we. Mae'n edrych yn llawer mwy blasus na fy un i!

Wednesday, November 26, 2014

heb drais

Os ydyn nhw eisiau protestio erbyn dim, fe ddylen nhw wneud heb drais. Mae yna gynifer o ffyrdd i fynegi eu barnau yn y wlad yma heb y gweithgareddau erchyll felly.

"Na fydd trais byth yn gwireddu heddwch; na fydd o byth datrys problemau cymdeithasol; fe fydd ond creu rhai newydd a mwy cymhleth," meddai Martin Luther King, Jr.

Tuesday, November 25, 2014

pam?

Os ydyn nhw'n anhapus efo'r dyfarniad, pam dylen nhw ddinistrio adeiladau, gosod tân yn fwriadol ac ysbeilio siopau? Pam?

Monday, November 24, 2014

cerdd ar y wal

Gofynnodd tŷ bwyta sushi yn Norman i fy merch hynaf ysgrifennu ar y wal fewnol rhyw eiriau Japaneg cysylltiedig â bwyd. Wedi gofyn i'w ffrind orau yn Japan am syniad, dyma iddi orffen gwaith hyfryd. Dw i'n llawn edmygedd tuag at ei ffrind sydd yn gyfarwydd â'r gerdd hynafol Tsieineaidd honno gan Li Bai wedi'i gyfieithu yn Japaneg, a hyd yn oed wedi ei haddasi ar gyfer y bwyty hwnnw drwy newid "cig oen a chig eidion" i "bysgod a sushi."

Sunday, November 23, 2014

onsen arall

Darllenais am onsen (hotspring) yn Yamanaka ar bapur newydd Japaneaidd heddiw. Arhosodd Bashô Matsuo, y meistr haiku mwyaf adnabyddus yno ac ysgrifennodd un o'i gampwaith am y dŵr poeth hwnnw. Mae'r lle yn fendigedig a rhoi chwant i mi fynd yno. Mae yna gynifer o onsen hyfryd ar draws Japan a dweud a gwir. Byddwn i eisiau teithio o'r Gogledd i'r De yn ymweld â nhw ryw ddiwrnod.

Saturday, November 22, 2014

siom

Ar ôl y stŵr a achoswyd gan y cynllun i wahardd olwynion plastig troliau yn Fenis, dwedodd Comisiynydd Zappalorto mai ond rhai masnachol roedd o'n sôn amdanyn nhw er ei fod o'n cydnabod bod troliau'r twristiaid yn niweidio palmentydd carreg y ddinas. Drueni bod o'n newid y diwn; roeddwn i'n meddwl bod yn syniad hyfryd ac yn chwilio am droli efo olwynion rwber.

Friday, November 21, 2014

i honduras

Wedi dychwelyd o'r Eidal, mae fy ail ferch wedi bod efo ni am chwe mis yn gweithio fel merch trin gwallt a thiwtor preifat. Rŵan mae hi ar gychwyn cyfnod newydd; mae hi wrthi'n pacio ei chês er mwyn hedfan i Honduras fore fory. Bydd hi'n gwirfoddoli fel athrawes gynorthwyol mewn ysgol gynradd am dri mis. Mae ei ffrind da eisoes yno fel cenhades, a byddan nhw'n rhannu tŷ. Gan ei bod hi eisiau gweithio yn Japan ar ôl dod yn ôl o Honduras, mae'n debyg mai hwn ydy'r tro olaf iddi fyw efo ni cyhyd.

Thursday, November 20, 2014

olwynion rwber

Ym mis Mai nesaf ymlaen, cewch chi'ch ddirwy rhwng €100 a €500 os byddwch chi'n llusgo cesys dillad efo olwynion plasteg yn Fenis. Bydd rhaid i'r cesys eu cyfarparu ag olwynion rwber. Dw i'n cefnogi'r rheoliad newydd hwn; druan o'r trigolion sydd yn dioddef drwy'r dydd a nos, o'r sŵn ofnadwy a achosir gan yr olwynion plasteg ar y palmantydd carreg ym mhob man. Gobeithio y bydd y rheoliad yn helpu lleihau'r "llygredd." Gobeithio y bydd y ddinas yn mynd i'r afael â chynifer o broblemau eraill hefyd.

Y cwestiwn: lle ga' i brynu cês dillad efo olwynion rwber?

Wednesday, November 19, 2014

cais am le

Cyflwynodd fy merch ynghyd â'i ffrind gais am le yn un o'r neuaddau preswyl ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yna bedair mewn ystafell. (Na fydd fy merch a'i ffrind efo'i gilydd.) Myfyrwyr o dramor bydd y rhan fwyaf yn y neuadd ond clywodd fy merch fyddai rhai lleol. Mae hi'n gobeithio y bydd hi'n cael nabod myfyrwyr Cymraeg (y bydd yn preswylio tu allan o'r neuadd Gymraeg.)

Tuesday, November 18, 2014

téléfrancais!

Des ar draws y hen gyfres hon ar You Tube ar gyfer plant i ddysgu Ffrangeg. Mae'n ddigon syml a darparir prif frawddegau wedi'u hysgrifennu. (A dydy hi ddim yn rhy ddiflas.) Mae'n dangos bod yna o leiaf 29 o glipiau. Dw i'n dal i ddefnyddio Coffee Break French ac Accelerated Learning French, ond braf gweld pethau gwahanol o bryd i'w gilydd i amrywio'r drefn. Diolch yn fawr i Deledu Ontario.

Monday, November 17, 2014

wy perffaith ar gyfer un person

Weithiau dw i eisiau wy i ginio ond heb ddefnyddio padell. Hwn ydy'r dull gorau; irwch bowlen â diamedr tua 5 modfedd; torrwch wy ynddi; prociwch y melynwy sawl tro; ychwanegwch lymaid o ddŵr; gosodwch ddysgl fach ar ben; coginiwch fewn microdon am funud mwy neu lai; gadewch bopeth am ddau funud; cewch wared ar y dŵr; bwytwch fel mynnwch.

Sunday, November 16, 2014

yr eira cyntaf

Mae'n bwrw eira, am y tro cyntaf yn y gaeaf yma. Dydy'r tymheredd ddim yn ddigon isel fel bydd o'n toddi cyn gynted ag y mae'n cyffwrdd y strydoedd. Mae'r toeau a'r glaswellt yn wynnaidd serch hynny. Mae fy mhlant yn gobeithio am eira trwm iddyn nhw gael aros cartref a chwarae yn yr eira. Dan ni heb gynnau tân yn y llosgwr logiau eto. Efallai dylen ni gychwyn yr wythnos 'ma. Caserol cig eidion a bresych i swper heno.

Saturday, November 15, 2014

mae fenis yn dioddef

Dywedir bydd 27 miliwn o dwristiaid yn ymweld â Fenis cyn diwedd eleni. Mae hyn yn golygu bod 74 mil ohonyn nhw'n mynd yno bob dydd ynglŷn â 35 mil o weithwyr sydd yn cymudo. Rhyw 56 mil ydy'r trigolion o'i gymharu â'r twristiaid. Ar ben hynny, rhagwelir hyd yn oed mwy o dwristiaid i Fenis y flwyddyn nesaf oherwydd EXPO rhyngwladol a gynhelir yn Milano. Mae 70 y cant ohonyn nhw'n aros yn Fenis am ond diwrnod neu lai'n gadael sbwriel heb wario pres. Dylai ond y gweddill dalu trethi twristiaid. Mae'n hen bryd i'r 70 y cant i rannu'r cyfrifoldeb drwy dalu trethi neu beidio mynd. Na all Fenis ymdopi. 


Friday, November 14, 2014

hoff lecyn

Mae'n oer fel dylai ym mis Tachwedd o'r diwedd. Mae'r heulwen yn gynnes braf, fodd bynnag, ac roedd un o'n ffrindiau bach ni'n ymlacio ar dop canllaw'r dec cefn brynhawn ddoe. Am ryw reswm neu'i gilydd, hwn ydy hoff lecyn y gwiwerod o gwmpas ein tŷ ni.

y llun gan fy ail ferch

Thursday, November 13, 2014

ffilm ffrangeg

Des ar draws ffilm Ffrangeg ynglŷn y Chwyldro Ffrengig ar You Tube. Mae hi'n hir iawn efo is-deitlau Saesneg. Roeddwn i'n arfer darllen amdano fo flynyddoedd yn ôl er mod i wedi hen golli ddiddordeb erbyn hyn. Ond, pam lai? Dw i'n dysgu Ffrangeg beth bynnag. A dechreuais ei gwylio ddoe. Mae hi braidd yn ddiddorol. Y peth hyfryd ydy dw i'n medru deall beth maen nhw'n dweud; dim llawer wrth gwrs, a rhaid darllen yr is-deitl cyn gweld rhan. Mae hyn yn codi fy nghalon oherwydd hollol annealladwy i mi oedd Ffrangeg fisoedd yn ôl. 

Wednesday, November 12, 2014

twristiaid o'r Eidal yn tokyo

Mae Marco wrthi'n arwain grŵp o'r Eidal o gwmpas Japan. Yn ddiweddar aeth o â nhw i ardal anhysbys yn Shinjuku, Tokyo lle mae cynifer o fwytai bychan yn llenwi ar hyd y stryd gul. Cafodd yr Eidalwyr eu cyfareddu'n llwyr a thynnu lluniau fel twristiaid Japaneaidd tramor. A dweud y gwir, dw i heb syniad lle mae'r ardal. (Dwedodd Marco fyddai rhaid ymuno â GiappoTour er mwyn cael gwybod.) Byddwn i eisiau ymuno â nhw a mynd i'r holl lefydd hyfryd a chyfrinachol yn Japan!

Tuesday, November 11, 2014

gŵyl gyn-filwyr

Diolch yn fawr i'r holl gyn-filwyr am eu gwasanaeth a'u haberth gwerthfawr. Gobeithio y cân nhw ddiwrnod bendithiol a mwynhau prydiau o fwyd yn rhad ac am ddim (neu am bris gostyngol) yn y tai bwyta sydd eisiau dangos eu parch iddyn nhw. 

Monday, November 10, 2014

cardiau arbennig

Ces i gardiau creadigol gan fy mhlant ar gyfer fy mhenblwydd ddyddiau'n ôl; prynodd fy ail ferch gerdyn Eidaleg yn yr Eidal tra oedd hi yno eleni; casglodd fy mab ifancaf luniau amrywiol oddi ar y we a fy nymuno penblwydd hapus mewn sawl iaith; sgrifennodd fy merch arall neges hir yn Ffrangeg yn gyfan gwbl. (Roeddwn i'n medru ei deall!) Maen nhw i gyd yn annwyl a doniol.

Sunday, November 9, 2014

gorsaf hiraethus

Ces i fy synnu'n gweld post diweddaraf Tokyobling. Mae o'n bob amser postio am lefydd hyfryd yn Japan, ac yn aml iawn am y llefydd nad ydw i erioed wedi ymweld â nhw. Heddiw, fodd bynnag, postiodd am Orsaf Mizonokuchi yn Kawasaki. Roeddwn i'n arfer mynd yno pan oeddwn i'n ifanc oherwydd fy mod i'n byw'n agos. Ces i goffi efo ffrind o fy mebyd yno ddwy flynedd yn ôl. Mae'r orsaf yn fodern ac yn llawer mwy bellach. Does dim byd arbennig amdani hi na'r ardal, ond lle hiraethus i mi ydy o.

Saturday, November 8, 2014

y gyoza gorau?

Yn ôl Marco Togni, y goyza a fwytaodd yn Harajuku ydy'r gorau yn Tokyo. Dim ond 290 yen ($2.5) mae dysgl lawn o gyoza yn costio yn y tŷ bwyta yno. (Fe fwytaodd ddwy ddysgl, un gyoza wedi'i ffrio, y llall wedi'i ferwi.) Rhaid bod y tŷ bwyta'n gwerthu llawer iawn ohonyn nhw er mwyn cadw'r pris mor isel yng nghanol Tokyo. Tybed ydy o'n fwy blasus na rhai yn Utsunomiya? Gyda llaw, mae Marco yn bob amser at y bwrdd mae'n ymddangos!

Friday, November 7, 2014

peth pwysig

Mae dim ond bron dau fis cyn i fy merch fynd i Brifysgol Abertawe. Prynodd hi beth pwysig ar gyfer y misoedd yno, sef siaced law! A dweud y gwir, gan ei ffrind prynodd hi. Mae'r siaced bron newydd yn rhy fach i'w ffrind sydd yn mynd efo hi. Mae fy merch yn bwriadu prynu esgidiau glaw pert ac ymbarél dibynadwy ar ôl iddi fynd. :)

Thursday, November 6, 2014

hen lun

Gofynnodd fy merch hynaf i mi ffeindio hen lun ohoni hi a'i yrru ati er mwyn iddi ei bostio ar Face Book gan mai Diwrnod Postio'ch Hen Luniau ydy hi heddiw. Mae yna filoedd ohonyn nhw ac felly roedd rhaid i mi ddewis un heb feddwl gormod. Mi ddewisais un tymhorol yn ddamwain fodd bynnag. Ar Halloween cyntaf yn America wedi i ni symud o Japan, fe wnaeth ei thad het cowboi o bapur iddi.

Wednesday, November 5, 2014

y canlyniadau

                                          glas: Democratiaid      coch: Gweriniaethwyr

Mae llywodraeth America bresennol wedi bod yn dweud wrth ei phobl beth sydd yn dda iddyn nhw fel rhyw unben tra bod hi'n beio popeth a phawb arall os nad ydy ei pholisïau'n gweithio. Rŵan mae'n rhaid iddi siapio hi a dechrau gweithio'n galed er lles y genedl.

Tuesday, November 4, 2014

onsen!

Mae Marco Togni yn postio am lefydd a bwyd hyfryd Japan bron bob dydd. Tra bod y bwyd yn edrych yn flasus iawn, dydy o ddim yn fy nharo cymaint efo cenfigen nag y post hwn am yr onsen ger Mynydd Fuji aeth o ato efo grŵp o dwristiaid o'r Eidal. Mae hanner dwsin o'r baddonau tu allan a rhai tu mewn yn edrych anhygoel o braf. Mi fyddwn i wrth fy modd yn fy nhrochi yn y dŵr poeth yn yr holl faddonau yno, un ar ôl y llall.


Monday, November 3, 2014

gŵyl gyoza

Cynhaliwyd y 16edd ŵyl gyoza yn Utsunomiya, Japan 1, 2 Tachwedd. Cymerodd 27 siopau ran yn yr ŵyl boblogaidd yn gwerthu tri gyoza am 100 yen (tua £0.6). Daeth 150 mil o bobl er mwyn blasu'r gyoza enwog. Rhaid rhannu'r gyoza efo tri ffrind fel byddan nhw'n medru blasu oddi wrth bob stondin! 

Sunday, November 2, 2014

hwrê i'r dynion tân!

Roedd y dyn ifanc ar fin roi'r fodrwy i'w gariad ar ben Pont Rialto yn Fenis yng nghanol nos. Yna, rywsut nei ei gilydd, fe ollyngodd hi (y fodrwy, dim ei gariad.) Syrthiodd y fodrwy i'r dyfroedd tywyll.... diwedd y stori drist.... na! Daeth dynion tân y ddinas i'w cynorthwyo. Plymiodd un ohonyn nhw i chwilio amdani hi (mewn gwisgo plymio, ffiw!) ac wedi hanner awr fe ddaeth hyd iddi ymysg cymeradwyaeth fawr y dyrfa a oedd yn ymgasglu yno. 

Saturday, November 1, 2014

diwedd yr amser arbed golau dydd

Cafodd y cwsmeriaid groeso anarferol gan staff Smart Style yn y dref ddoe. Roedd gan y staff golur lliwgar creadigol, masg neu het. (Dwedodd fy merch ei bod hi'n cymryd 45 munud i wneud y colur.) Roedd y cwsmeriaid wrth eu boddau. Yfory dan ni'n cael dechrau "amser go iawn" o'r diwedd a chysgu awr yn hwyrach.

Friday, October 31, 2014

y pecyn aelodau

Ymunodd fy mab ifancaf â Chefnogwyr Tîm Pêl-droed Chelsea yn swyddogol eleni. (Ei frawd a dalodd y ffi fel anrheg.) Dechreuodd dderbyn y cylchgrawn misol ond roedd yn hir derbyn y pecyn aelodau addawedig. Yn ddiweddar roedd fy mab yn mynd at y blwch post bob prynhawn i weld ydy'r pecyn wedi cyrraedd. Ddoe, o'r diwedd, daeth y pecyn. Mae o'n cynnwys bag ysgafn, het, clustffonau, DVD a siart i gadw canlyniadau'r gemau - popeth efo logo Chelsea. 

Thursday, October 30, 2014

cawl cennin eidalaidd

Doeddwn i ddim yn gwybod beth mae porri yn golygu cyn i mi weld y fideo. Cennin ydy o yn Eidaleg. Mae fy hoff gogydd, Luca Pappagallo'n dangos i ni sut i wneud cawl cennin yn ei fideo newydd. Mae'n debyg i fy rysáit i. (Bydda i'n ychwanegu bacwn.) Drueni bod fy nghymysgwr trydanol wedi torri. Efallai dylwn i brynu un newydd erbyn Gŵyl Dewi Sant man pellaf.

Wednesday, October 29, 2014

chwarter pwys

Mae dynes Tsieineaidd newydd ddechrau gweithio yn adran deli Walmart. Cawson ni sgwrs sydyn tra oedd hi'n tafellu cig twrci drosta i ddiwrnodau'n ôl. Roedd hi'n glên a chwrtais ond doedd hi ddim yn gyfarwydd â'i gwaith ac felly tafellodd chwarter pwys mwy na gofynnais. Fe allwn i fod wedi gwrthod y cig ychwanegol ond doeddwn i ddim eisiau gwastraff  bwyd. Prynais bopeth er bod hyn yn fwy nag angen. Pan es at y deli ddoe, dyma'r un ddynes yn fy ngweini, ac unwaith eto tafellodd chwarter pwys mwy, a gofyn i mi fyddai'n iawn. Dwedes i fyddai unwaith eto. Y tro nesaf, dw i'n mynd i ofyn am hanner pwys!

Tuesday, October 28, 2014

glaw yn y nos

Mae hi wedi bod yn heulog a phoeth er bod hi'n nesáu at fis Tachwedd. Golchais y mat bath ddoe a'i hongian tu allan. Penderfynais ei adael o dros nos gan nad oedd o'n sych erbyn diwedd y diwrnod. Yna, fe lawiodd yn ystod y nos. (Chlywais mo'r daran.) Cafodd ei ail olchi'n braf a rŵan mae o'n sychu yn yr heulwen unwaith eto.

Monday, October 27, 2014

orange julius

Yfais y ddiod enwog hon am y tro cyntaf pan es efo'r gŵr newydd briod i Hawaii i ymweld â'i rieni yn 1982, er nad ydw i'n cofio'r blas bellach. Wrth ddechrau yfed sydd oren dwywaith bob dydd yn ddiweddar, ychwanegais dipyn o lefrith er mwyn lleihau'r asid. Mae'n flasus! Dim yn ewynnog ydy o fel Orange Julius go iawn (does gen i ddim cymysgwr trydanol) ond mae'n ddigon tebyg a blasus fel dw i'n edrych ymlaen at ei yfed bob tro. Wrth chwilio am wybodaeth, ces i wybod mai yn Los Angels cafodd y ddiod ei dyfeisio yn 1926. 

Sunday, October 26, 2014

adlewyrchiadau

BluOscar sydd yn arbenigwr ar luniau adlewyrchiadau ar gamlesi yn Fenis. Mae fel maes penodol yn y byd celf. Gwelais lun tebyg a hynod o ddiddorol gan Yvonne sydd wedi argraffu un o'i lluniau wyneb i waered. Creodd hyn effaith ryfeddol dw i'n gwirioni arni hi. Dyma ddewis llun a dynnais ac arbrofi ei modd. 

Saturday, October 25, 2014

mp3

Llwyddais i droi'r tapiau casét Ffrangeg yn MP3!! Dim efo teclyn arbennig ond efo tâp masgio a Garage Band. Mi wnes i osod ffôn glust Walkman ar feicroffon y cyfrifiadur efo tâp masgio; recordiais y sain drwy Garange Band; gyrrais y ffeil i iTune. Mae ansawdd y sain yn dda'n annisgwyl. Rŵan dw i'n medru gwrando ar y gwersi heb boeni am y tapiau bregus a fy hen Walkman.

Friday, October 24, 2014

fenis yn tsieina

Yn Las Vegas, yn Macao, rŵan yn Tsieina. Adeiladwyd "Fenis" yn Dalian, Tsieina i ddenu twristiaid. Crëwyd hyd yn oed camlas bedwar cilomedr o hyd gydag adeiladau Ewropeaidd, dim Fenesiaidd ar y ddwy ochr. Mae yna gondolau hefyd a rwyfir gan ddynion mewn dillad gondolier traddodiadol. (Maen nhw'n gwisgo hetiau Tsieineaidd!) Rhywsut dydy copiau ddim yn apelio ata i.

Thursday, October 23, 2014

accelerated french

Des i ar draws yr uned gyntaf ar You Tube. Drama ar gyfer dysgwyr y Ffrangeg ydy hon, ac mae'n hynod o ddiddorol a digon hawdd. Y cwrs sydd yn defnyddio'r ddrama'n seiliedig ar ddull roedd yn boblogaidd flynyddoedd yn ôl, sef gwrando ar awdio efo cerddoriaeth. Dw i ddim yn sicr ydy hyn yn effeithiol neu beidio, ond y peth pwysicaf i mi ydy'r ddrama ddiddorol ddealladwy. Gan fod y pris yn eithaf drud (£85 gan gynnwys y tâl post rhyngwladol; dydy MP3 ddim ar gael,) prynais yr un cwrs drwy Amazon am $34 gan gynnwys y tâl post. Newydd sbon ydy hwn ond mae yna anfantais - mae popeth ar dapiau casét a thâp VHS. (Hyn ydy'r rheswm am y fargen.) Dw i'n hynod o falch na thaflais fy Walkman a'r chwaraewr VHS hyd yma! Mae'r tapiau'n gweithio'n berffaith. Rŵan dw i'n cael gwybod beth fydd yn digwydd i Philip West a'i becyn dirgel!

Wednesday, October 22, 2014

ffarwel i crock pot

Wrth olchi pot Crock Pot, fe wnes ei ollwng ar ddamwain a'i dorri. Sioc fawr oedd hyn gan ei fod o'n declyn coginio handi iawn. Roeddwn i'n chwilio ar y we am bot newydd ond heb lwyddiant. Mae'n ymddangos y bydd rhaid prynu set gyfan yn hytrach na phot yn unig. Efallai un diwrnod ond dim rŵan er bod fy ryseitiau'n lleihau. Yn y cyfamser ceisia' i goginio pethau syml a blasus fel beef stroganoff a wnes i neithiwr. 

Tuesday, October 21, 2014

y murlun - 9


Wedi dwy wythnos o waith anhygoel o galed fy merch a'i ffrindiau, dyma fo! Da iawn, yr artistiaid eraill hefyd. Hwrê iddyn nhw i gyd! 

Monday, October 20, 2014

y murlun - 8

Fe orffennodd fy merch y murlun neithiwr. Cafodd hi a'i gŵr eu dychrynu ar un adeg pan ddechreuodd y sgaffaldiau fethu, ond diolch i'r Arglwydd, na syrthion nhw ac roedden nhw'n ddiogel. Fe wnes gamgymeriad; ddydd Iau cynhelir y seremoni. Y deadline oedd nos Sadwrn; mae popeth yn iawn er bod hi un diwrnod yn hwyr.

y llun: mae fy merch yn llofnodi ei henw yn Japaneg ar y murlun.

Sunday, October 19, 2014

y murlun - 7

Methodd y teclyn codi, ac roedd rhaid i fy merch ddefnyddio'r sgaffaldiau sigledig wedi'r cwbl. Methodd hi orffen paentio ddoe; roedd hi a'i gŵr yn gweithio drwy'r nos. Maen nhw'n dal i baentio. Dw i ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i'r seremoni. Gobeithio y ca' i'r holl hanes cyn hir. Mae'r llun yn edrych yn hyfryd beth bynnag.

Saturday, October 18, 2014

y murlun - 6

Diolch i ddau blismon o Norman ac Oklahoma City a gwraig un o'r ddau sydd wedi helpu fy merch (yn eu hamser rhydd wrth gwrs,) roedd hi'n medru paentio mwy ddoe. Gorffennodd hi'r rhan is ond y broblem ydy bod hi'n gorfod rhannu'r teclyn codi efo'r artistiaid eraill er mwyn paentio'r rhannau uwch. (Roedd y sgaffaldiau'n rhy sigledig.) Heno cynhelir y seremoni agoriadol; rhaid gorffen cyn hynny.

Friday, October 17, 2014

graffiti

Maen nhw ym mhob man, sef rhai pobl sydd yn mwynhau difetha gwaith caled y lleill. Jerrod, artist dawnus arall sydd yn creu murlun yn Oklahoma City a gafodd "ymweliad" gan droseddwr graffiti. Gallai hyn yn digwydd i'r murluniau eraill i gyd. Rhaid cosbi'r troseddwyr fel hyn yn llym; dylen nhw gael eu dedfrydu i ddileu graffiti am oes.

Thursday, October 16, 2014

y murlun - 5

Cafodd fy merch help un diwrnod ac mae hi'n dal i wrthi. Mae'r murlun yn edrych yn dda. Rŵan mae angen paentio'r rhan uwch; cynigodd perchennog y siop y mae fy merch yn creu'r murlun ar ei wal godi sgaffaldiau. Heno bydd ffrind iddi ymysg Heddlu Norman a'i wraig yn dod i'w helpu.

Wednesday, October 15, 2014

deg peth i flasu

Deg peth i flasu in Fenis o leiaf unwaith yn eich bywyd - yn ôl Nuovavenezia. Mi yfais Bellini, Spriz e cappuccino sawl tro, ond dim ar y llefydd penodol yna. Y tro nesaf! Hoffwn i brofi'r risotto hefyd. Gan nad ydw i'n rhy hoff o fwyd brasterog, dylwn i osgoi rhai ohonyn nhw (yn ogystal â'r afu a llygad yr ych) ar y rhestr serch hynny. 

Tuesday, October 14, 2014

anghyfleustra

Gan fy mawd de yn brifo, mae'n anodd gwneud hyd yn oed pethau syml. Dw i newydd ddarganfod fodd bynnag fy mod i'n medru teipio hebddo. Mae'n dda gen i oherwydd fy mod i'n sgrifennu e-byst bob dydd heb sôn am y blog hwn. I swper dw i'n mynd i goginio cawl cyw iâr efo "llysiau wedi'u torri'n barod" fel na fydd rhaid i mi wneud gormod. 

Monday, October 13, 2014

y murlun - 4

Mae hi'n lawog yn ddiweddar. Mae hyn yn golygu nad ydy fy merch yn medru paentio'r murlun. Prynhawn ddoe fodd bynnag, roedd ysbeidiau heulog a llwydodd hi i wneud ychydig mwy efo cymorth ei gŵr. Fe loywodd liw'r wyneb ac ysgafnhau'r aeliau. Ei gŵr a baentiodd y blodau.

Sunday, October 12, 2014

croesawi joy

Daeth un o'n cenhadon ni i'r eglwys i siarad am ei gwaith yn Macao y bore 'ma. Mae Joy wrthi yno dros ugain mlynedd. Mae hi'n ôl am wythnosau i ymweld â'r eglwysi sydd yn ei chefnogi. Roedd pot luck wedi'r gwasanaeth fel arfer i'w chroesawi. Gofynnwyd i fynd â bwyd Asiaidd ymlaen llaw ac roedd yna gynifer o fwydydd sydd yn cyd-fynd efo reis fel disgwyliwyd, ond doedd dim digon o reis yn anffodus. Bwytes fy mwyd hebddo fo. 

y llun: arddangosfa fach a ddaethpwyd gan Joy (Dywedir Coca Cola yn Tseineaidd.)

Saturday, October 11, 2014

stiw gwyddelig

Mi goginiais stiw Gwyddelig mewn Crock Pot i swper neithiwr. Dw i ddim yn sicr ydy o'n Wyddelig go iawn neu beidio, ond roedd yn hynod o flasus, ac anad dim, roedd yn arbennig o hawdd gwneud. Torres y cynhwysion, gosod nhw yn y pot a throi'r pot ymlaen. Wedi wyth awr cawson ni stiw blasus iawn. Fy hoff fodd o goginio!

Friday, October 10, 2014

x factor eidalaidd

Canodd hogyn o Japan gân Eidalaidd yn X Factor Eidalaidd. Cafodd y beirniaid eu synnu'n gwybod nad ydy o'n byw yn yr Eidal ond newydd gyrraedd o Japan er mwyn mynychu'r sioe ac mae o wedi dysgu Eidaleg oherwydd ei ddiddordeb yng nghaneuon Eidalaidd. Canodd yn braf ond roedd braidd yn boenus gweld ei ystumiau nerfus pan oedd o'n siarad efo nhw! Wedi dweud hyn, rhaid canmol ei ddewrder yn wynebu peth anhygoel o heriol. Roedd yn braf gweld pa mor gefnogol a brwdfrydig ydy'r gynulleidfa. Diolch i Alberto am y wybodaeth.

Thursday, October 9, 2014

y murlun - 3

Mae fy merch hynaf wrthi'n creu'r murlun bob dydd. Ddoe roedd hi'n gweithio drwy'r dydd a than yn hwyr. Roedd hi ar ei ben ei hun y rhan fwyaf o'r amser. Mae'n cymryd amser hir oherwydd bydd rhaid mynd i lawr oddi ar yr ysgol yn aml a cherdded i'r ochr arall er mwyn gweld sut mae'r llun. Daeth ffrindiau i'w helpu gyda'r hwyr. (Daethon nhw â pizza hefyd.) Mae hi'n gobeithio cael mwy o help yr wythnos nesaf. Rhaid iddi orffen popeth cyn y 18fed.

Wednesday, October 8, 2014

prynwyd tocyn awyren

Prynodd fy merch docyn awyren i Heathrow ac yn ôl ddoe! Cafodd hi a'i ffrind fantais ar bris arbennig ar gyfer myfyrwyr. Gadawan nhw 14 Ionawr a dôn nhw'n ôl 30 Mehefin. Byddan nhw'n mynd i Abertawe o'r maes awyr ar y bws. Fel arfer dim ond un sydd yn derbyn yr ysgoloriaeth yn y brifysgol yma ond dwy a dderbyniodd y tro hwn. Mae'n braf y byddan nhw'n cael teithio efo'i gilydd. 

Tuesday, October 7, 2014

handyman ifanc

Gan nad ydy Kurt, ein handyman arferol ni, ar gael amser hir, gofynnon ni Brian, ffrind teuluol i weithio yn y tŷ. Y peth cyntaf a wnaeth oedd growtio'r teils. Dyma fo wrthi. Un o feibion ein gweinidog ydy o. Mae o'n byw'n bell ers blynyddoedd ond mae o adref am sbel. Dwedodd fod growtio ydy ei hoff waith ymysg y nifer o bethau mae o'n arbenigo ynddyn nhw. Fo oedd un o'r sêr yn y sioe gerdd boblogaidd yn y dref gyda llaw.

Monday, October 6, 2014

y murlun - 2

Rhaid fy merch fynd i Oklahoma City o Norman er mwyn creu'r murlun a gyda'r hwyr hefyd oherwydd bod rhaid defnyddio peiriant i daflunio'r braslun ar y wal. Mae'n ceisio dod hyd i fodd i baentio'r rhan uwch. Y broblem fawr ydy bod yna ormod o bobl sydd yn dod ati a gofyn cwestiynau tra mae hi wrthi. Fe wnaeth hi baratoi cardiau efo'r wybodaeth gyffredinol heddiw drostyn nhw.

Sunday, October 5, 2014

y murlun

Ces i sioc gweld Face Book heddiw. Mae fy merch wedi wrthi'n paentio'r murlun yn barod ac roedd hi'n gweithio ynghyd â'i gŵr tan 1 o'r gloch y bore 'ma. Rŵan mae hi eisiau rhywun sydd yn medru siarad efo'r cannoedd o bobl sydd yn dod a gofyn cwestiynau!

Saturday, October 4, 2014

cynfas enfawr


"Tua 30 troedfedd o uchder a chyn hired â Smaug," meddai fy merch hynaf. Ar y wal honno mae hi'n mynd i greu murlun ac mae hi'n dechrau heddiw. Dydy hi ddim yn medru dod hyd i gynorthwyydd hyd yma oherwydd bod yr artistiaid eraill mae hi'n eu nabod wrthi'n gwneud yr un peth. Dim ond ei gŵr sydd yn ei helpu ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd hi'n cael mwy o help nes ymlaen.

Friday, October 3, 2014

wedi meddwl

Roedd fy merch (y drydedd ferch dw i'n sôn amdani rhag ofn nad ydych chi'n gwybod bod gen i bedair merch ynghyd â dau fab) yn hapus iawn derbyn seren aur gan Yvonne dros ei chyflwyniad o Gymru. Mae hyn i gyd yn ddiddorol wedi meddwl; gwraig o Japan yn sgrifennu blog Cymraeg yn Oklahoma a chael gwobr rith gan ddynes o Awstralia sydd yn mynd i Fenis yn aml ac yn sgrifennu am y dref honno dw i wedi dod i wirioni arni hi heb sôn am y ffaith bod fy merch yn mynd i astudio ym Mhrifysgol Abertawe am dymor.

Thursday, October 2, 2014

diwrnod newid gwisgoedd

Diwrnod Newid Gwisgoedd oedd hi ddoe yn Japan. (Diolch i Daniela am fy atgoffa i.) Y cyntaf o fis Mehefin ydy'r diwrnod arall. Ar y ddau ddiwrnod hyn mae pawb i fod i newid ei unffurf gaeafol i hafaidd a vice versa. Does dim rhwymyn cyfreithiol wrth gwrs, ond fel popeth arall yn Japan na feiddiai neb herio'r traddodiad. Wrth gwrs nad ydy'r tywydd yn ufudd i'r calendr, ac felly'r gweithwyr a'r myfyrwyr sydd yn dioddef o wres fel arfer yn ystod y diwrnodau poeth; dw i'n cofio fy nyddiau ysgol amser maith yn ôl; roeddwn i'n arfer dioddef mewn unffurf gaeafol ddiwedd mis Mai tra oedd yr athrawon yn edrych yn braf mewn dillad hafaidd!

Wednesday, October 1, 2014

cyflwyno cymru 2

Dw i ddim yn gwybod ydy enillwyr yr ysgoloriaeth eraill wedi dysgu Cymraeg yn Abertawe ond dw i braidd yn sicr nad oes neb yn ei dysgu cyn iddyn nhw fynd. Mae fy merch eisiau mynd i'r dosbarth Cymraeg cymunedol yn Abertawe oherwydd mai ond dau gwrs mae hi'n cael eu dewis yn y brifysgol. (Dw i'n eithaf balch ohoni hi!) Bydd hi a'i ffrind yn gadael mis Ionawr.

Tuesday, September 30, 2014

cyflwyno cymru

Mae'n ddiwrnod cofiadwy yn y dref dw i'n byw ynddi heddiw - siaradwyd Cymraeg yn gyhoeddus am y tro cyntaf! Cyflwynodd fy merch a'i ffrind Gymru i'r dosbarth ieithoedd lleiafrifol. Dechreuodd fy merch y sesiwn gan ddweud, "bore da. ____ dw i. Dw i'n dysgu Cymraeg. Dw i'n mynd i Gymru flwyddyn nesaf." Ar ei chrys (fy un i) dwedodd, "Cymraeg - o bydded i'r hen iaith barhau ...." Fe wnaeth y merched power point a siaradon nhw am Gymru a'r Gymraeg ac ateb cwestiynau dros awr. Da iawn genod!

(Fedrwn i ddim cysylltu â'r rhyngrwyd drwy'r dydd. Dyna pam mod i'n postio'n hwyr.)

Monday, September 29, 2014

bara brith

Mi wnes i grasu Bara Brith y bore 'ma; dwy dorth i fod yn fanwl, un i'r teulu a'r llall i ddosbarth fy merch yn y brifysgol. Mae hi wrthi'n paratoi efo ei ffrind ar gyfer cyflwyno Cymru i'r dosbarth. Gofynnodd hi i mi grasu Bara Brith iddi gael cynnig y dorth i'r dosbarth fel rhan o'r cyflwyniad. Roeddwn i'n mwydo ffrwythau sych mewn te cryf dros nos a dyma'r ddwy dorth hyfryd. Yfory ydy'r diwrnod mawr ac mae hi eisiau gwisgo'r crys-t gwyrdd a brynais yn Eisteddfod y Bala yn 2009. 

Sunday, September 28, 2014

seren aur

Mi ges i seren aur yn wobr gan Yvonne oherwydd bod fy ateb yn ei phlesio. Daeth hi ar draws gair diddorol, sef footling ac annog ei darllenwyr i'w ddefnyddio. Dyma ei hateb ar unwaith a derbyn seren aur. Hwrê! Dw i erioed wedi clywed y gair hwn ond unwaith; defnyddiwyd gan Sais sydd yn byw yn lleol. Ces i a'r teulu i gyd ein difyrru gan y gair hwnnw ar y pryd. Dw i'n genfigennus bod Yvonne'n cael footle mewn lle mor odidog â Fenis.

ON: Fedrai i ddim cofio'r pwnc ar gyfer y post diwethaf wedi'r cwbl!

Saturday, September 27, 2014

dw i ....

Dechreuais sgrifennu post awr yn ôl gan ddweud, "dw i ....." yna, roedd rhaid i mi fynd i wneud pethau eraill. Wedi gorffen popeth, dyma ailgychwyn y post, ond dw i ddim yn cofio beth roeddwn i'n bwriadu sgrifennu amdano fo! O wel, efallai y bydda i'n ei gofio rywdro, ar ôl hitio "Publish" mae'n debyg. 

Friday, September 26, 2014

bendith

Mae MAC Book wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd ers i mi ei dderbyn yn anrheg Nadolig y llynedd. Cyn hynny, roedd rhaid i mi rannu'r cyfrifiadur mawr efo fy nhri phlentyn. Mae'n hynod o gyfleus fy mod i'n medru mynd ar y rhyngrwyd pryd bynnag mae angen arna i yn lle aros am fy nhro. Ac felly roeddwn i'n siomedig y bore 'ma pan fynnodd MAC Book beidio â chysylltu â'r rhyngrwyd yn rhyfedd; roeddwn i'n ofni byddai rhaid mynd â fo at Apple yn Tulsa. Wedi ychydig o brofi, fodd bynnag, roeddwn i'n llwyddo i oresgyn y broblem!  Diolch i'r Arglwydd!

Thursday, September 25, 2014

pooh yn yr haul

Cafodd fy mhlant wared ar nifer mawr o anifeiliaid meddal erbyn hyn; mae yna rai maen nhw eisiau eu cadw. Winnie the Pooh ydy un ohonyn nhw. Wrth awyru'r gobenyddion ar y diwrnod golchi'r dillad gwely, penderfynais drin Pooh hefyd. Roedd o'n torheulo'n braf drwy'r dydd.

Wednesday, September 24, 2014

fy moron

Yn hytrach na thaflu pennau'r moron a brynais, gosodais i nhw mewn cwpan efo dŵr. Wedi sawl diwrnod gwelais egin gwyrdd bach bach. Dw i wedi bod yn eu dyfrio nhw bob dydd, ac maen nhw'n bedwar modfedd o daldra bellach. Roeddwn i'n rhyw feddwl eu rhoi nhw mewn salad ar y dechrau, ond penderfynais eu cadw nhw fel fy "mhlanhigyn anwes" ar y silff uwchben y sinc.

Tuesday, September 23, 2014

peth bach braf

Roedd rhaid i fy mab fynd i'r ysgol yn gynt y bore 'ma. Gadawon ni'r tŷ am 6:45 mewn hanner tywyllwch. Pan gyrhaeddon ni le agored, dyma ni'n gweld yr olygfa anhygoel o brydferth tuag at y dwyrain - roedd y cymylau'n binc, glas ysgafn a llwyd. Pan des yn ôl i'r un lle wedi gostwng y mab yn yr ysgol, roedd y lliwiau wedi newid yn oren llachar, melyn a glas. Profiad braf cyn i mi ddechrau'r diwrnod.

Monday, September 22, 2014

oriel gelf ddwy filltir

Mae Oklahoma City yn datblygu un o'r ardaloedd busnes ers misoedd. Ynghyd â phalmant, goleuadau newydd a mwy, maen nhw'n bwriadu cael saith murlun ar hyd y stryd a gelwir yn oriel gelf ddwy filltir o hyd. Cafodd saith artist lleol eu dewis ar gyfer y prosiect mawr a bydd artist y murlun mwyaf poblogaidd yn derbyn $3,000 ddiwedd y mis nesaf. Dyma'r aristiaid. Fy merch hynaf ydy un ohonyn nhw gyda llaw! (Julie Robertson)

Sunday, September 21, 2014

alberto in fenis

Mae Alberto (Italianoautomatico) yn Fenis heddiw. Ces i fy synnu'n gweld llun ohono fo ar Bont Scalzi efo Eglwys San Simeone Piccolo yn y cefndir. Doedd fawr o ryfedd gan nad ydy Brescia yn bell o Fenis wedi'r cwbl ond mae'n arbennig o braf fodd bynnag ei weld o'n sefyll lle oeddwn i sawl tro. Mi fyddwn i eisiau mynd i Fenis eto!

Saturday, September 20, 2014

paneli plastig

Llongyfarchiadau mawr arall, i Baris y tro hwn. Gosodwyd dau banel plastig ar Pont des Arts yn y ddinas yn ddiweddar er mwyn ei hamddiffyn hi rhag cloeon clap y twristiaid. Prawf ydyn nhw; os byddan nhw'n llwyddiannus, bydd mwy o bontydd yn cael eu cyfarparu efo'r paneli plastig arbennig sydd yn gwrthsefyll dryllio, llacharedd a hyd yn oed graffiti. Gobeithio y byddan nhw'n ennill y frwydr erbyn y twristiaid difeddwl a'r gwerthwyr cloeon clap sydd yn cymryd mantais arnyn nhw. 

Friday, September 19, 2014

dwedon nhw "na"

Dw i ddim yn gwybod digon o'r sefyllfa, ond roeddwn i'n gobeithio y bydd yr Alban yn annibynnol ers gweld y ffilm, Braveheart sydd yn fy ngadael i mewn môr o ddagrau flynyddoedd yn ôl. O leiaf bod y canlyniad yn agos iawn a phleidleisiodd Glasgow "Ie." 

Thursday, September 18, 2014

popeth yn lan a distaw

Mae hi'n dechrau felly bob bore wedi i'r staff glanhau wneud eu gwaith ffyddlon. Diolch i BluOscar am y llun hyfryd hwn. Erbyn diwedd y diwrnod fodd bynnag, mae popeth yn newid. Mae miloedd o ymwelwyr difeddwl a gwerthwyr anghyfreithlon yn edmygu Parlwr Ewrop neu gymryd mantais arno fo, a'i adael mewn llanast, mewn gwarth, bob dydd. Y bore wedyn, bydd y staff yn cychwyn eu gwaith eto...

Wednesday, September 17, 2014

athro'r flwyddyn oklahoma

Llongyfarchiadau mawr i Coach Proctor am ennill Athro'r Flwyddyn Oklahoma! Cafodd ei ddewis ymysg y 12 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Athro ymroddedig a ffyddlon sydd ym mharch mawr pawb yn yr ysgol ydy o. Mae o'n haeddu pob canmol. Roedd fy mhedwar plentyn yn dysgu mathemateg yn ei ddosbarth a chafodd fy mab hynaf ei hyfforddi yn y clwb cross country ganddo fo; mae fy mab ifancaf wrth ei fodd yn rhedeg efo fo ynghyd â'r tîm bob dydd. Mae yna gyffro mawr yn y dref drosto fo. Hwrê i Coach Proctor!

Tuesday, September 16, 2014

cinio yn cana

Mae fy ail ferch yn dal i bostio fesul dipyn lluniau a dynnodd yn ystod ei siwrnai yn Ewrop fisoedd yn ôl. Ces i fy nharo yn gweld y llun cyntaf ar Facebook y bore 'ma - Cinio yn Cana gan Veronese yn Amgueddfa Louvre. Cafodd y campwaith hwnnw ynghyd â nifer mawr o eitemau celfyddyd ei gipio gan Napoleon oddi wrth Fenis wedi iddo ei choncro hi. Plygodd y Ffrancwyr y paentiad enfawr er mwyn ei gludo i Baris. Copi sydd yn hongian yn yr eglwys lle roedd o'n arfer bod. Rhaid i mi roi clod i Ffrainc, fodd bynnag, am ei adfer a'i gadw mewn cyflwr ardderchog.

Monday, September 15, 2014

dawnsio hula

Wedi darllen erthygl am ddosbarth dawnsio Hula ar gyfer yr henoed yn Japan, mi wnes i wneud ychydig o waith googlo a dysgu dawnsio am hanner awr y bore 'ma. Mae'r symudiad yn araf ond ces i fy synnu'n sylwi pa mor dda ydy'r ddawns 'ma i'r corf. Yn Japaneg ydy'r fideo hwn ond yn hollol ddealladwy heb wybodaeth yr iaith honno. Hoffwn i fynd i ddosbarth pe bai un ar gael yma.

Sunday, September 14, 2014

mae hi'n haeddu mwy

Mae pawb yn ei hedmygu ac eisiau mynd ati hi, ac eto mae gynifer o'r bobl yn ei sarhau hi a'i sathru dan draed. Yn sicr, mae hi'n dibynnu ar bobl am fywoliaeth ond mae hi'n haeddu tipyn mwy o barch. Brenhines y môr oedd hi am ganrifoedd wedi'r cwbl.

Cynhaliwyd protest gan grŵp o drigolion Fenis heddiw - protest erbyn dirywiad difrifol y dref yn ddiweddar a achoswyd gan y twristiaid difeddwl a'r gwerthwyr anghyfreithlon. Eu tref nhw hefyd ydy Fenis wedi'r cwbl.

Saturday, September 13, 2014

ras 5k

Cynhaliwyd yr ail ras cross country yn y dref y bore 'ma. Roedd yn ofnadwy o boeth y tro diwethaf ond wedi'r tymheredd gostwng o 95F(35C) i 45F(7C) yn ddiweddar, roedd yr awyrgylch yn hollol wahanol. Dw i'n siŵr bod yn braf i'r rhedwyr heddiw. Enillon ni'r lle cyntaf fel tîm eto! Llwyddais dynnu llun o'n nwy hogyn gorau ni, sef Zech (34) e Mo (33). 

Friday, September 12, 2014

piano yng ngorsaf fenis

Ac mae o ar gael i bawb sydd gan chwant chwarae piano. Anrheg hyfryd gan Sofia Taliani, United Street Pianos Italia ydy hi. Ymysg y newyddion trist a digalon ynglŷn â Fenis y dyddiau hyn, mae hwn yn codi calon pawb. Mi fyddwn i eisiau gwrando ar gyngherddau byrfyfyr os ca' i gyfle i fynd i Fenis eto. Ac os cawn i ddigon o ddewrder, byddwn i'n chwarae'r unig ddarn dw i'n medru ei chwarae, sef Neko Funjiatta (Gamais ar Gath ar Ddamwain.)

Thursday, September 11, 2014

woodchuck!

Ces i ond gip ar yr anifail hwnnw o bryd i'w gilydd, ar ochr ffyrdd bob tro. O'r diwedd mi wnes i weld o'n glir ddoe. Tra oeddwn i'n gyrru, roeddwn i'n sylweddoli anifail du, llawer mwy na gwiwerod a hollol wahanol i gi neu gath wrth y ffordd (digon agos ei weld a digon peth peidio â'i daro.) Dechreuodd o groesi'r ffordd yn afrosgo. Daeth car o'r ochr arall! Ond gwelodd y gyrrwr yr anifail ac arafu (phiw!) Anifail diddorol ydy o, ac annwyl er dywedir bod nhw'n achosi problemau weithiau drwy dyllu twneli ger tai. 

Wednesday, September 10, 2014

sport druan

Mae rhieni fy ngŵr yn byw efo'u hail fab a'i wraig bellach. Mae yna bedwar ci bach yn y tŷ ac mae un ohonyn nhw, sef Sport wedi syrthio mewn cariad efo'r fam. Mae o bob amser efo hi ac ar ei chlun pryd bynnag mae hi'n eistedd wrth y bwrdd. Cafodd hi lawdriniaeth ar ei hysgwydd yn ddiweddar ac mae hi'n gorfod aros yn yr ysbyty am ddyddiau. Postiodd brawd fy ngŵr lun o Sport yn eistedd ar sedd y fam yn aros amdani hi.

Tuesday, September 9, 2014

dyma hi!

Lleuad arbennig o lachar oedd hi! Doedd angen goleuadau'r strydoedd neithiwr. A dw i'n credu'n siŵr ei bod hi'n fwy nag arfer er bod y gŵr bob tro'n mynnu mai ond rhith optegol ydy hyn! Wedi clywed fy adroddiad, aeth y teulu i gyd allan i'w gweld hi. Daethon nhw adref yn llawn cyffro. Tynnodd fy merch lun hyfryd efo'i chamera newydd. Cewch chi weld yn glir y gwningen wrthi'n gwneud cacen reis!

Monday, September 8, 2014

y 15fed noson

Noson i fwynhau gweld y lleuad ydy hi heno. Mae yna arferiad amrywiol ynglŷn y noson hon yn Japan. Dywedir mai'r lleuad lawn heno ydy'r brafiaf a chliriaf y flwyddyn. (Mae'r dyddiad yn newid bob blwyddyn.) Roeddwn i'n cerdded neithiwr a sylwi bod y lleuad yn edrych yn arbennig o lachar. Doedd ryfedd. Mi fydda i'n siŵr o'i gweld hi eto heno.

Sunday, September 7, 2014

defnydd y camera

Dw i newydd ddarganfod defnydd defnyddiol iawn ein camera gwyliadwriaeth newydd ni, hynny ydy ar wahân i'r defnydd amlwg. Roeddwn i'n bwyta bisgeden arbennig a ges i gan ffrind ac yn meddwl fy mod i wedi gadael darn bach bach ar y plât cyn roeddwn i'n gorfod gwneud pethau eraill. Pan welais y plât wedyn, roedd o'n wag. Roeddwn i'n chwilio am fy narn gwerthfawr ym mhob man ond methais. Awgrymodd y gŵr i mi wylio'r fideo a dynnwyd gan y camera ar gornel yr ystafell er mwyn datrus y dirgelwch - mi welais fy hun ar y sgrin yn bwyta'r darn olaf yn hapus.

Saturday, September 6, 2014

gwers ffrangeg orau - 2

Dyma hi, y wers Ffrangeg orau  - Coffee Break French. Podlediad ydy hwn. Mae fersiwn hirach ar gael i'w phrynu ond mae hwn yn ddigon i mi. Peth anhygoel ydy bod gan Mark (yr athro) bodlediadau Eidaleg a Sbaeneg hefyd, ac roeddwn i'n arfer gwrando ar ei Eidaleg ardderchog. Un o Glasgow ydy o, ac felly mae o'n siarad Saesneg efo acen Alban gref bleserus. Fedra i ddim dioddef rhaglenni eraill tebyg efo athro a dysgwr yn sgwrsio'n swnllyd ond dw i'n hoff iawn o ddull Mark a'i lais. Mae'r ddysgwraig hoffus o Glasgow yn help mawr hefyd. Mae hi'n siarad Gaeleg ac Almaeneg.