Saturday, December 31, 2016

ar ddiwedd y flwyddyn

Digwyddiadau pwysig (personol a chyhoeddus) y flwyddyn hon:

Ionawr - Dechreuodd fy merch ifancaf yn y brifysgol yn nhalaith Missouri.
Chwefror - Ces i anafiad difrifol ar y cefn. 
Mehefin - Cafodd fy ŵyr cyntaf ei eni. 
Awst - Dechreuodd fy merch arall weithio fel tiwtor Saesneg yn Japan.
Tachwedd - Enillodd Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol er gwaethaf pawb a phopeth.

Dw i'n ddiolchgar dros ben i Dduw am ei drugaredd ar America. Edrycha' i ymlaen at y flwyddyn newydd efo llawn obaith.

Friday, December 30, 2016

cam hurt

Wedi methu pob modd i danseilio buddugoliaeth Donald Trump, ar y Rwsiaid mae Obama'n beio am golled yr etholiad yn ddiweddar, a chymerodd gam hurt tuag atyn nhw. Mae o wrthi'n chwalu America ers iddo gychwyn fel yr arlywydd wyth mlynedd yn ôl. Mynegodd pobl America eu barn, a chollodd o. Pe bai o'n gadael yn ddistaw, gallai fo ennill ychydig o barch. Ond dydy o ddim. Cywilydd cenedlaethol ydy o bellach.

Thursday, December 29, 2016

addewid duw

Roedd o'n llechwraidd hyd at yr etholiad diwethaf, ond yn sydyn dangosodd Barak Hussein Obama ei "wir liwiau" gan helpu (neu gynllunio) datganiad y Cenhedloedd Unedig newydd yn erbyn Israel i basio. Doedd neb wedi melltithio Israel a phara'n hir pa mor nerthol oedd o ar y pryd. "Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio." Dydy addewid Duw ddim yn newid. 

Wednesday, December 28, 2016

donut

Y diwrnod olaf yn Norman. Dw i wedi cael gwyliau braf efo'r teulu. Mae'r gwesty'n cynnig brecwast yn rhad ac am ddim. Y bwyd sydd yn fy mhlesio i ydy donut. Prin iawn bydda i'n ei fwyta'n ddiweddar, ond dw i wrth fy modd efo fo'r wythnos hon gan mai Hanukkah ydy hi, ac maen nhw'n bwyta donut yn Israel yn ystod yr ŵyl sydd yn para am wyth noson. Hanukkah Hapus!

Tuesday, December 27, 2016

gwyliau

Dw i ar fy ngwyliau braf yn Norman efo'r teulu ers dydd Sadwrn. Fy merch hynaf sydd yn coginio a dim ond ei helpu dw i'n gwneud. Wnaethon ni ddim byd arbennig ond ymlacio yn ei thŷ a mynd am dro ac yn y blaen. Dw i a'r gŵr yn aros mewn gwesty cyfagos, ac ymuno'r teulu yn ystod y dydd. Braf iawn! Heddiw dan ni'n bwriadu bwyta ramen (nwdls Tseineaidd) mewn siop boblogaidd yn Oklahoma City; yn y prynhawn dan ni'n mynd i Heddlu Norman am daith sydyn a dywysir gan gapten mae fy merch yn nabod yn dda.

Monday, December 26, 2016

seren dafydd

Ces i anrheg Nadolig hyfryd gan fy merch hynaf - crog dlos Seren Dafydd a wnaed o ddarnau rocedi Hamas a ffrwydrwyd yn Israel. Sgrifennais am y dyn sydd yn troi'r pethau erchyll i bethau hardd efo llawn obaith. Mae o'n cyfrannu rhan o'r elw i godi llochesau bom hyd yn oed. Dw i wrth fy modd efo'r anrheg arbennig. 

Sunday, December 25, 2016

nadolig, hanukkah

Diolch i Dduw sydd wedi dod i'r byd i gynnig ei hun fel yr aberth berffaith i gyflawni ei gyfraith er mwyn maddau i bawb fyddai'n credu yn ei enw o, sef Iesu. Hwn ydy Duw a greodd y nefoedd a'r ddaear, a dewis Abraham a'i ddisgynyddion i fod yn ei bobl arbennig ac i fendithio'r byd. Nadolig Llawen a Hanukkah Bendithiol. 

Friday, December 23, 2016

cynllun newydd

Mae'n braf croesawi'r plant sydd yn byw'n bell ar adeg y Nadolig, ond wrth i mi dynnu ymlaen, mae hyn yn mynd yn faich braidd yn drwm. Eleni, fodd bynnag, mae gynnon ni gynllun newydd gwych; dan ni'n ymgasglu yn nhŷ fy merch hynaf yn Norman. (Y hi a gynigodd.) Dim cinio nac ystafelloedd i baratoi; dim ond teithio i'w thŷ. Hwrê! Bydda i a'r gŵr, ein mab hynaf a'i deulu yn aros mewn gwesty cyfagos tra bydd y ddau blentyn iau'n aros efo'u chwaer hŷn. Byddwn ni'n cymryd mantais ar y cynifer o dai bwyta a siopau hyfryd yn Norman.

Wednesday, December 21, 2016

enfys

Roedd America'n prysur chwalu ar ôl yr Arlywydd Reagan, ond rŵan mae ganddon ni obaith, er bod Mrs. Obama ddim yn cytuno. Mae Donald Trump wedi rhoi hwb i ysbryd y bobl a'r economi hyd yn oed cyn iddo gychwyn yn swyddogol. Ymddangosodd enfys hardd yn Las Vegas (lle mae Tŵr Trump) y diwrnod cwynodd Mrs. Obama nad oes ganddi obaith. Mae'n well gen i feddwl mai bendith Duw ar y llywodraeth newydd oedd o.

(y llun - tynnwyd gan fy mrawd yng-nghyfraith yn Las Vegas)

Tuesday, December 20, 2016

swyddogol

Mae'n swyddogol rŵan. Donald Trump fydd y 45fed Arlywydd America. Enillodd 304 pleidlais o gymharu â'r 169 a enillwyd gan Hillary Clinton. (Mae angen 270 i ennill.) Er lles y wlad, dylai'r Democratiaid atal eu hymdrech i danseilio dilysrwydd yr etholiad, a dechrau gweithio gyda'r arlywydd newydd. 

Monday, December 19, 2016

yn ofer

Ennill a wnaeth Donald Trump. Dydy'r rhyddfrydwyr ddim eisiau cydnabod y ffaith o hyd, a dal i geisio newid y canlyniad yn ofer - crio, terfysg, rhwystro traffig, ail gyfri'r pleidleisiau, beio ar y Rwsiad, a rŵan rhwystro'r electoral college rhag pleidleisio o blaid Mr. Trump drwy fygwth eu bywydau a bywydau eu teuluoedd. Mae'n ofer. Bydd Donald Trump yn Arlywydd America Ionawr 20 ymlaen.

Saturday, December 17, 2016

cerdyn post

Cyrhaeddodd cerdyn post arall a bostiwyd gan fy merch yn yr Eidal bedwar mis yn ôl. Y tro 'ma, sgrifennodd hi UDA ar y cyfeiriad, ac felly does gen i ddim syniad pam gymerodd gymaint o amser. Prynodd hi'r cerdyn yma yn Lucca, ac roedd hi'n sôn am ei phrofiad braf o feicio drwy'r dref ac ar y wal o'i chwmpas. Ces i ginio hyfryd ar y piazza hwnnw.

Friday, December 16, 2016

llysgennad i israel

Roeddwn i'n disgwyl clywed yn eiddgar pwy fyddai'r llysgennad i Israel. Dewisodd Mr. Trump "ffrind ffyddlon Israel," sef David Friedman, Iddew Uniongred a thwrnai o fri; mae o'n cefnogi achosion gwiw yn Israel ers blynyddoedd; gelwir yn fwy pybyr na'r prif weinidog Netanyahu. "Dw i'n bwriadu gweithio'n galed er mwyn cryfhau'r cwlwm cadarn rhwng y ddwy wlad, a hyrwyddo heddwch yn y rhanbarth. Edrychaf ymlaen at wneud hyn oddi ar Lysgenhadaeth America yn Jerwsalem, prif ddinas dragwyddol Israel," meddai.

Thursday, December 15, 2016

nadolig llawen

Mae'n well gan y byd ddweud "Gwyliau Hapus" yn lle "Nadolig Llawen" yn ddiweddar. Mae Sweden yn gwahardd goleuadau Nadolig er mwyn peidio â gwylltio'r Mwslemiaid. Yn America, fodd bynnag, fe gawn ni ddweud "Nadolig Llawen" eto, meddai Mr. Trump. Hwrê!

Wednesday, December 14, 2016

llysgenhadaeth america yn jerwsalem

Mae tîm trosglwyddo Donald Trump wrthi'n chwilio'n barod am safle priodol ar gyfer llysgenhadaeth America yn Jerwsalem. Symud y llysgenhadaeth o Tel Aviv i Jerwsalem oedd un o'r addewidion pwysicaf a wnaed ganddo fo yn ystod yr ymgyrch. Pwysig iawn ydy hyn i'r Cristnogion yn America sydd yn ei gefnogi hefyd. Dw i'n hynod o falch bod Mr. Trump yn bwrw ymlaen efo'i addewid. Disgwylir cwynion ffyrnig o bob man, rhai ymosodol, ond dim ots. Prif ddinas dragwyddol Israel ydy Jerwsalem.

Tuesday, December 13, 2016

ar ei ffordd

"Mae Osnat newydd anfon eich modrwy," meddai Etsy y bore 'ma! Hwrê! Ces i sgwrs neu ddau sydyn (ar y we) efo dynes glên y siop honno yn Israel ar ôl gosod fy archeb. Roedd hi'n hapus clywed fy mod i eisiau gwisgo'r fodrwy fel modrwy briodas. Dw innau'n hapus fy mod i wedi ffeindio ei siop. Edrycha' i ymlaen!

Monday, December 12, 2016

myffin afocado/banana

Bydda i'n bwyta afocado mewn salad neu chili o bryd i'w gilydd, ond roeddwn i eisiau ei ddefnyddio fo fel cynhwysyn ar gyfer myffin. Dyma googlo a ffeindio nifer o ryseitiau (mae gan bobl eraill yr un syniad mae'n amlwg,) a cheisio dyfeisio rysáit sydd yn fy siwtio i. Fe wnes i stwnsio hanner afocado ac un fanana; ychwanegu llefrith, dau wy, siwgr, blawd (ceirch, cyflawn,) powdr pobi, halen, cnau; crasu yn y popty am ryw 20 munud ar 375F/190C gradd. Fedrwn i ddim blasu'r afocado ond y fanana. Flasus iawn a heb fenyn nac olew.

Saturday, December 10, 2016

modrwy

Ces i $90 yn anrheg fy mhenblwydd gan ddau o fy mhlant y mis diwethaf. Anfonais hanner ohono fo i helpu dioddefwyr y tanau gwyllt yn Israel, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w brynu efo'r gweddill o'r pres tan yn ddiweddar. Ces i syniad gwych! Modrwy briodas newydd a wnaed yn Israel yn lle fy un i sydd yn rhy fach i fy mys modrwy bellach. Mae yna nifer o ddewisiadau ar y we, ond dewisais un drwy Etsy. Bydd dynes y siop yn ysgythru "Shema Israel" (Clywch Israel) yn Hebraeg ar y fodrwy. Dw i'n gyffro i gyd!

Friday, December 9, 2016

dewis sydd yn eu gwilltio

Cafodd un o Oklahoma ei ddewis ar gyfer y cabinet newydd, sef  y Twrnai Cyffredinol Scotto Pruitt fel pennaeth Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd. Mae'r dewis yn gwylltio'r rhyddfrydwyr unwaith yn rhagor oherwydd ei farn ar y theori newid hinsawdd, ei gefnogaeth i'r diwydiant glo a mwy. A dweud y gwir, mae pob dewis gan Mr. Trump ynghyd â'i bolisïau i gyd yn gwylltio'r rhyddfrydwyr. Maen nhw, ar y llaw arall, yn llawenhau'r mwyafrif distaw sydd yn niferus iawn. (Gweler y lliw coch ar y map.)

Thursday, December 8, 2016

bendithiaf y rhai sy'n dy fenditio

Mae Mr. Trump yn cefnogi Israel cant y cant, yn annhebyg i'r llywodraeth gyfredol America. Dyma gasgliad o'i farn ynglŷn y pwnc. Mae o fel awyr ffres yn y byd gwleidyddiaeth. Cawn ni berthynas gwirioneddol o gryf efo'r unig wlad ddemocratig yn Nwyrain Canol dan y llywodraeth newydd. Cawn sicrhau bendith Duw ar America drwy fendithio Israel.

Wednesday, December 7, 2016

pearl harbor a gobaith

Mae arna i gywilydd fel un o Japan o lywodraeth Japan yr adeg honno am yr hyn a wnaeth yn erbyn America 75 mlynedd yn ôl. Dw i'n ddiolchgar felly fy mod i'n cael byw yn America efo'r teulu, yn ddiogel a hapus ers dros chwarter canrif. Edrycha' i ymlaen at weld y genedl fawr hon a oedd yn prysur waethygu'n ddiweddar yn cael ei mawredd yn ôl dan yr arweinydd newydd, ac yn fod yn fendith i'r gweddill o'r byd.

Tuesday, December 6, 2016

llythyr nadolig

Mae amser i anfon llythyr Nadolig at y teulu a ffrindiau wedi dod. Y gŵr sydd yn sgrifennu fersiwn Saesneg, a fi sydd yn sgrifennu'n Japaneg. Roedden ni'n arfer argraffu llun mawr ohono ni ar y llythyr, ond wrth i'r plant daenu dros y byd, mae'n anodd cadw'r traddodiad. A dyma'r canlyniad. Bydd rhaid ychwanegu mwy o luniau yn y dyfodol. 

Monday, December 5, 2016

na

Dw i ddim yn gwybod yn ddigon er mwyn mynegi fy marn ynghyn â chanlyniad y refferendwm yn yr Eidal. Un peth dw i'n sicr, fodd bynnag, ydy bod o'n ganlyniad da dros bobl yr Eidal, oherwydd bod Barak Hussein Obama wedi bod yn cefnogi'n daer yr ochr "Ie." Rhaid canmol Mr. Renzi am gadw at ei air ac ymddiswyddo ar unwaith heb ofyn am ailgyfrif.

Saturday, December 3, 2016

galwad ffôn

Dydy beirniadaeth y rhyddfrydwyr ddim yn poeni Donald Trump; mae o'n bwrw ymlaen ar ei egwyddor. Galwodd Prif Weinidog Taiwan Mr. Trump ddoe i'w longyfarch ar ei fuddugoliaeth. Atebodd. A dyma iddo greu hanes - siaradodd Arlywydd America a Phrif Weinidog Taiwan am y tro cyntaf ers 1979 pan drodd America gysylltiad â Taiwan er mwyn plesio Tsieina. Mae Tsieina'n gandryll. Dydy Mr. Trump ddim yn poeni.

Friday, December 2, 2016

brodio

Mae gen i farclod glas tywyll syml. Ces i syniad i frodio arni hi, a dyma brynu edau brodwaith gwyn, a dechrau gweithio. Y canlyniad - Seren Dafydd ynghyd â gair Hebraeg dani hi sydd yn dweud hatikvah - y gobaith.

Thursday, December 1, 2016

dal ati

Dyma'r tri rhifyn diweddarach o Decision gan Gymdeithas Billy Graham. Fel gwelwch chi, maen nhw i gyd am yr etholiad arlywyddol diwethaf. Wrth eu pori nhw, fedra i ddim peidio â chofio pa mor galed roeddwn ni a'r Cristnogion eraill yn America a gwledydd eraill wedi gweddïo dros yr etholiad hwnnw. A dweud y gwir, dw i erioed wedi gweddïo o galon dros etholiad o'r blaen. Drwy drugaredd atebodd Duw ein gweddi a rhoi i ni Donald Trump yn Arlywydd America yn hytrach na Hillary Clinton. Dydy'r frwydr ddim wedi drosodd fodd bynnag fel gwelir y cynnwrf dros America. Dylen ni ddal ati.

Wednesday, November 30, 2016

symud i canada

Addawodd dwsinau o bobl amlwg cyn yr etholiad i adael America os byddai Mr. Trump ennill, a symud i Canada. Roeddwn i'n ceisio ffeindio pwy gadwodd yr addewid ond heb lwyddo. Trueni. Ond pe baen nhw wedi cadw at eu gair, bydden nhw'n ofnadwy o drafferth i bobl Canada wrth gwrs! Gawn ni hwyl braf yn gwylio'r fideo doniol hwn

Tuesday, November 29, 2016

bds

Gwelodd myfyriwr Rydychen sticer BDS ar liniadur Apple, a gadael nodyn sydyn: 

"Efallai fod ti eisiau gwybod bod flash-storage yn y cyfrifiadur hwn wedi cael ei wneud gan Anobit, cwmni technoleg Israel. Os nad wyt ti eisiau'r cyfrifiadur mwyach, gad fo ar y ddesg tu ôl i ti."

Mae'n hynod o anodd byw yn y byd modern hwnnw os dach chi eisiau boicotio Israel yn llythrennol. Diolch i Hananya am y llun diddorol hwn.

Monday, November 28, 2016

melltith a bendith

Mae'r tanau gwyllt yn Israel dan reolaeth erbyn hyn, diolch i'r dynion tân, milwyr IDF ynghyd â nifer o wledydd a ddanfonodd cymorth. Cafodd fwy nag 30 eu harestio bellach am gynnau tân yn fwriadol! 

Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ebe Arglwydd y Lluoedd. Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw.

Dyma fodd i fendithio dioddefwyr y derfysgaeth yn Israel:
https://donate.unitedwithisrael.org/donate/e5?a=et_1127

Saturday, November 26, 2016

cinio'r ŵyl

Dim ond hanner o fy mhlant a oedd wrth fwrdd cinio gŵyl Ddiolchgarwch eleni; mae fy nwy ferch yn Japan; dathlodd fy mab hynaf yr ŵyl efo teulu ei wraig. Choginiais erioed dwrci mor fach (10 pwys.) Cawson ni ginio braf beth bynnag. Es i am dro'n gynnar eto'r bore 'ma mewn niwl oer wrth weddïo dros ein harlywydd ni newydd a oedd yn gweithio ddydd yr ŵyl hyd yn oed.

Friday, November 25, 2016

tanau gwyllt

Mae Israel ar dân! A chafodd hanner o bron i 20 o achosion yn ddiweddar eu cynnau'n fwriadol; cafodd rhyw ddwsin eu harestio. Mae'r diffoddwyr tân wrthi'n galed ers dyddiau efo cymorth gwledydd eraill - America, yr Aifft, yr Iorddonen, Rwsia, Twrci, Gwlad Groeg, Croatia, Ffrainc. Bendith arnyn nhw, a gobeithio bydd yna fwy i ddod. Mae'n anghredadwy o erchyll bod rhai Arabaidd yn dathlu wrth ddosbarthu negeseuon efo #israelisburning!!!

Thursday, November 24, 2016

gŵyl ddiolchgarwch

Mae yna gynifer o bethau fy mod i'n ddiolchgar amdanyn nhw, yn enwedig eleni - cyfle i fynd am dro bob bore cynnar; genedigaeth fy ŵyr cyntaf; y chwech o blant sydd yn rhodio'n ffyddlon wrth Dduw, Iesu Grist a roddodd ei hun yn aberth berffaith i faddau i'n pechod ni; y gobaith tragwyddol drwy ei addewid o'i ail ddyfodiad; ei drugaredd ar America ar yr 8fed o fis Tachwedd.

Wednesday, November 23, 2016

y llysgennad newydd i gn

Mae Mr. Trump a'i staff wrthi'n trefnu'r llywodraeth newydd. Penodwyd sawl swydd, a dyma hi, llysgennad i Genhedloedd Unedig, sef Nikki Haley. Llywodraethwr South Carolina ydy hi; llywodraethwraig gyntaf yn y dalaith honno ac yn ferch i rieni o India. Mae hi'n cefnogi Israel, o blaid bywyd ac o blaid atgyfnerthu'r gyfraith mewnfudo. Mae hi'n swnio'n berffaith i'r swydd. Gobeithio y bydd hi'n sefyll yn gadarn dros Israel yng Nghenhedloedd Unedig.

Monday, November 21, 2016

adref ers mis mai

Mae fy merch ifancaf adref am y tro cyntaf ers mis Mai. Roedd hi'n astudio a gweithio'n galed yn y brifysgol, ac o'r diwedd mae hi ar wyliau am wythnos. Mae ei brawd wrth ei fodd yn cael ei chwmni. Aethon nhw i gerdded yn y goedwig efo'i gilydd am oriau. Bydda i'n paratoi gyoza i swper heno i'w phlesio hi.

Saturday, November 19, 2016

hananya

Dyn ifanc Iddewig yn Israel sydd yn credu yn Iesu ydy Hananya Naftali. Tra ei fod o'n gweithio fel medic Lluoedd Amddiffyn, mae o'n gwneud fideo er mwyn dangos i'r byd beth sydd yn wir a beth sydd ddim ynglŷn ag Israel. Yn ddiweddar cafodd neges gan Fwslim yn yr Aifft yn ddiolch iddo fo. Roedd yr olaf yn bwriadu mynd i Israel i ladd Iddewon, ond daeth o hyd i'r fideo gan Hananya, a rhoi gorau i'r cynllun. Pob bendith i Hananya.

Friday, November 18, 2016

prif weinidog japan

Mae Mr. Abe, prif weinidog Japan newydd gyfarfod ein harlywydd newydd yn Trump Tower yn Efrog Newydd. Dwedodd Mr. Abe fyddai fo'n disgwyl perthynas cadarn rhwng y ddwy wlad. Mae gan bobl Japan ofn Mr. Trump a dweud y gwir oherwydd bod nhw'n credu cyfryngau Japaneaid yn gyfan gwbl sydd yn atseinio beth bynnag mae prif gyfryngau America'n ei ddweud. Gobeithio gall Mr. Abe argyhoeddi pobl Japan bod Mr. Trump yn ddigon doeth gwybod pwysigrwydd perthynas da rhwng y ddwy wlad.

Thursday, November 17, 2016

arwydd

Yn lle cyntaf, mae'n hollol greulon gorfodi hogan fach dair oed i ddal yr arwydd hwn er mwyn hysbysebu eu barn; mae'r arwydd yn dweud bydd yr hogan eisiau bod yn derfysgwraig yn y dyfodol. Yn ail, does dim angen chwalu'r wal. Dwedodd Mr. Trump fyddai'n codi giât lydan hardd ynghyd â'r wal er mwyn i bobl Mecsico ddod i mewn yng nghyfreithlon. Dylen nhw a phawb sydd eisiau mudo i America ddod i mewn yng nghyfreithlon fel cannoedd o filoedd o bobl eraill wedi gwneud.

Wednesday, November 16, 2016

supermoon

Gwelais innau Supermoon ddwy noson yn ôl yma yn Oklahoma. Roedd yn anhygoel o lachar; lliw melynwy oedd hi. Mwyaf llachar ers 1948, medden nhw. Diddorol iawn. Beth ddigwyddodd ym 1948? Enillodd yr Israeliaid y Rhyfel Annibyniaeth, a daethon nhw'n wladwriaeth unwaith eto ar yr un tir ar ôl dwy fil o flynyddoedd. Eleni yn 2016, enillodd pobl America'r Ail Chwyldro America. Pob bendith.
(y llun - tynnwyd gan frawd y gŵr yn Las Vegas)

Tuesday, November 15, 2016

stopiwch y terfysgwyr!

Mae pobl yn dal i brotestio yn erbyn Donald Trump mewn dinasoedd mawr, ac mewn modd ofnadwy o dreisgar. Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu talu i achosi cynnwrf, ac maen nhw'n cael eu cludo mewn bysiau o le i le. Mae rhai ohonyn nhw'n gwisgo hetiau a chrysau Trump er mwyn twyllo'r cyhoedd hyd yn oed. Dylai'r arlywydd Obama fod wedi gweithredu'n gadarn i'w hatal erbyn hyn, ond wnaeth o ddim byd. Rŵan collodd hogan fach bedair oed ei thad oherwydd bod yr ambiwlans a oedd yn ei gludo'n cael ei rwystro gan y terfysgwyr ar y ffordd; cyrhaeddodd yr ambiwlans yr ysbyty'n rhy hwyr. Dylai'r arlywydd Obama eu hatal nhw ar unwaith cyn i'r sefyllfa fynd o ddrwg i waeth.

Monday, November 14, 2016

tonnau o obaith

Mae buddugoliaeth Donald Trump a phobl America wedi anfon tonnau o obaith i bobl (ac ofn i'r lleill) yn Ewrop. Doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn bod yna bleidiau gwleidyddol sydd gan bolisïau tebyg i ni - yn y DU, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Hwngari a Groeg. Mae gan Geert Wilders o'r Iseldiroedd hashtag "makenetherlandgreatagain" hyd yn oed. Dw i'n awyddus i glywed canlyniadau'r etholiadau yn y gwledydd hynny. 

Saturday, November 12, 2016

am y tro cyntaf

Am y tro cyntaf ers cenedlaethau, mae gan America arlywydd sydd ddim yn atebol i grwpiau â buddiant arbennig; dim ond i bobl America mae o'n atebol. Mae ganddo ddawn i ysgogi ac arwain yr eraill. Ar ben hynny mae o'n amgylchu ei hun efo cynghorwyr doeth. Dydy'r frwydr, fodd bynnag ddim wedi drosodd eto. Rhaid pobl America dal yn wyliadwrus, a chefnogi'r arlywydd newydd.

Friday, November 11, 2016

diwrnod veterans

Es i efo'r mab i weld gorymdaith Diwrnod Veterans yng nghanol y dref. Taflon ni ynghyd â nifer o'r trigolion eraill ein diolch at y veterans, yr heddlu, y dynion tân a mwy dan yr haul llachar. Roedd awyrgylch siriol. (Cawn ni bennaeth sydd yn gwerthfawrogi'r milwyr a’r heddlu o'r diwedd.)

Diolch yn fawr i'r veterans. Dan ni'n rhydd oherwydd y dewrion.

Thursday, November 10, 2016

plant wedi'u difetha

Cafodd Donald Trump ei ethol yn Arlywydd America drwy etholiad. Enillodd o er gwaethaf twyll gan y Democratiaid. Ac eto mae cefnogwyr Hillary yn protestio ym mhob man yn ei erbyn mewn modd treisgar. Pe bai Hillary wedi cael ei hethol, fyddai cefnogwyr Donald Trump byth wedi achosi cynnwrf treisgar felly. Mae hyn yn dangos pa fath o'r bobl sydd yn cefnogi Hillary. Maen nhw'n debyg i blant wedi'u difetha. Byddan nhw'n achosi cynnwrf os na chân nhw beth maen nhw eu heisiau.

Wednesday, November 9, 2016

trugaredd

Enillodd pobl America. Yn ei drugaredd rhoddodd Duw'r cyfle olaf i ni er mawr ydy'n pechod ni. Roedd cymaint o bobl yn gweddio drwy'r wlad, a thrwy'r byd yn ymbil arno fo. Efo'r arweinydd sydd ddim yn ofni gwneud y pethau cywir, awn ni ymlaen efo'n gilydd. Bydd hyn yn elwa'r gwledydd eraill yn y byd hefyd (ac eithrio'r rhai sydd yn cefnogi terfysgwyr.)

Monday, November 7, 2016

yr amser

Gwelwch y torfeydd angerddol sydd yn ymgasglu i glywed Donald Trump lle bynnag mae o'n mynd - miloedd, deg mil neu dau tra bod yna cant neu ddau o bobl (gan gynnwys y rhai sydd yn cael eu talu i ddod) yn dod at ralïau Hillary. Deffrodd Donald Trump America. Mae'r bobl wedi sylweddoli bod nhw ar drothwy; rhaid lleisiau eu barn rŵan yn erbyn y Llywodraeth lygredig, neu bydd America'n chwalu. Mae'r lleiafrifoedd ethnig wedi sylweddoli bod y Democratiaid yn eu defnyddio fel pyped i elwa eu hunan. Mae'r "Cristnogion" difater wedi sylweddoli dylen nhw siapio hi a bwrw pleidlais. Mae'r amser wedi dod.

Sunday, November 6, 2016

giât

Annwyl Aled Huw, Gohebydd BBC Cymru,

Mae Donald Trump eisiau codi wal ar y ffiniau er mwyn atal terfysgwyr, marchnatwyr cyffuriau a ffeloniaid difrifol eraill ymysg y mewnfudwyr anghyfreithlon. Nid diwedd ei gynllun ydy hyn. Bydd o hefyd yn codi giât lydan hardd mae mewnfudwyr yn cael dod i mewn drwyddi hi. Mae America'n dal i groesawu pobl o bob cwr o'r byd, ond mae yna amod - dylen nhw ddod i mewn yng nghyfreithlon. 

Saturday, November 5, 2016

pob americanwr gwladgarol

Mae'n fel nofel wleidyddol Newt Gingrich. Mae'n hollol anghredadwy'r hyn sydd yn cael eu datgelu bob dydd - nid dim ond troseddau erchyll Hillary Clinton, ond llygredd helaeth Llywodraeth America sydd yn amddiffyn Clinton. Mae'n wallgof bod y bradwr mawr hwnnw'n dal i fynd o gwmpas yn drahaus a cheisio ennill swydd uchaf Unol Daleithiau America. Ac mae yna bobl sydd yn benderfynol i'w chefnogi. Dylai pob Americanwr sydd yn gwerthfawrogi ei wlad wylltio efo dicter gwladgarol, a lleisio ei farn yn yr etholiad.

Friday, November 4, 2016

cyflawni dau beth

Mae fy merch yn Japan yn byw efo cwpl canol oed sydd yn glên iawn wrthi hi. Roeddwn i eisiau anfon anrheg fach i ddiolch iddyn nhw. Dyma archebu pecyn o Lev Haolam. Gobeithio y bydd y cynnyrch hyfryd o Israel yn eu plesio. Gofynnais i fy merch esbonio amcan y cwmni iddyn nhw. Dw i'n cael eu cefnogi a diolch i'r cwpl ar yr un pryd felly.

Wednesday, November 2, 2016

hen wyddoniadur

Mae gen i hen set o wyddoniadur i blant (argraffwyd 1969.) Dw i'n ei ddarllen o bryd i'w gilydd pan nad oes gen i lyfrau da. Fel gallwch chi ddychmygu bod yn ddoniol gweld y dechnoleg "fodern" a phethau felly. Roeddwn i'n darllen am Israel, a dyma ffeindio llinell hynod o ddiddorol - Jerwsalem ydy prif ddinas Israel. Roedd y bobl yn ddoeth yr adeg honno.

Monday, October 31, 2016

draenio'r gors

Yr hyn nad ydy'r prif gyfryngau (cenedlaethol a rhyngwladol) yn ei ohebu ydy pa mor boblogaidd ydy Donald Trump ymysg y bobl gyffredin. Mae o'n teithio o gwmpas America ers misoedd yn siarad dwywaith neu dair bob dydd. Mae dros DEG MIL o bobl yn ymgasglu bob tro i wrando arno fo a'i ganmol yn angerddol lle bynnag mae o'n mynd. Pam? Oherwydd bod ganddo bolisiau anhygoel o wych ar gyfer pobol America. Mae'r Democratiaid, elitaidd y Gweriniaethwyr, y prif gyfryngau, a'u ffrindiau wedi hen fynd dros lestri. Mae'n amser i "ddraenio'r gors" i ennill yn ôl yr America dros y bobl.

Saturday, October 29, 2016

peth anghredadwy

Mae'n hollol anghredadwy bod troseddwr yn cael bod yn ymgeisydd mewn etholiad arlywyddol. Pe bai'r ymgeisydd yn weriniaethwr, ceith hi ei chicio allan o'r ras ar unwaith os oes ond arogl trosedd. Mae rhai pobl yn ffyrnig dros beth ddwedodd Donald Trump 11 mlynedd yn ôl tra bod nhw'n anwybyddu troseddau difrifol a chelwyddau erchyll Hilary Clinton. Mae tystiolaeth ei throseddau yn dal i ddod allan beunyddiol, diolch i Wikileaks. Mae yna Gyfiawnder yn y byd. "Beth bynnag y mae dyn yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi."

Friday, October 28, 2016

cefnogaeth ddoeth

Datganodd Jane o Jerwsalem ei chefnogaeth i Donald Trump. Doedd hi ddim eisiau mynegi ei barn ar y pwnc yn gyhoeddus o'r blaen, ond wedi gweld mai Trump ydy ffrind go iawn i Israel, ac nid y ddynes honno, dwedodd yn glir ar y dudalen Facebook. Da iawn Jane! 

Thursday, October 27, 2016

trodd yn ddaioni

"Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw'r bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw..."

Fe wnaeth penderfyniad UNESCO erchyll amlygu pwy sydd yn ddrwg a phwy sydd yn dda. Cynhaliwyd rali yn Jerwsalem ddoe i ddangos undod yn erbyn y penderfyniad. Ymysg y siaradwyr roedd ddau Americanwr yn rhoi negesau byr ar y sgrin - Donald Trump a Mike Pence. Rhoddon nhw eu holl gefnogaeth i Israel. Roedd Trump yn dda ond gwell byth oedd Pence. Mynegodd yn glir yr hyn sydd yn fy meddyliau.

Wednesday, October 26, 2016

40 y cant

Mae'n anodd credu bod bron i 40% o daleithiau America ddim yn gofyn am unrhyw ffurf adnabod er mwyn pleidleisio. (Gweler y lliw llwyd ar y map.) Mae ganddyn nhw resymau hurt am hynny, ond fel canlyniad mae gymaint o dwyllo mewn etholiadau; datgelodd Wiki Leaks yn ddiweddar dystiolaeth bod y Democratiaid yn twyllo yn yr etholiadau dros 50 mlynedd. Rŵan, fodd bynnag, mae'r bobl yn ymwybodol. 

Monday, October 24, 2016

e-bost ffug

Ches i erioed fy nhwyllo gan e-byst ffug.... nes heddiw. Dwedodd e-bost gan "iTune" fy mod i wedi lawrlwytho bechingalw am gost o £28; os nad fi a wnaeth, rhaid canslo ar yr unwaith. A dyma glicio'r linc (!!) ond i You Tube a ges i fy nghludo. Pan geisiais i gael gwybodaeth ar y we, ffeindiais sawl person a gafodd yr un profiad yn derbyn yr un neges efo'r un geiriau! Yn ffodus na chafodd fy nghyfrifiadur effaith niweidiol. Rhaid i mi fod yn fwy gofalus o hyn ymlaen.

Saturday, October 22, 2016

peth bach annwyl

Cawson ni ymwelwyr prin yn ein hiard ni ddoe, sef ddau chipmunk. Mae gwiwerod llwyd ym mhob man ond prin iawn gweld chipmunk mae hi. Fel arfer bydd o'n diflannu mewn twll cyn i mi gael ei weld o'n dda. Ddoe fodd bynnag, aeth dau i'n hiard ni ac roedd un o'r ddau'n aros am sbel yn cnoi mesen. Roedd o'n ofnadwy o annwyl! Roedd o heb gynffon, druan ohono fo. Gobeithio y bydd o'n goroesi'r gaeaf hwn.

Friday, October 21, 2016

penblwydd hapus

Penblwydd Bibi ydy hi heddiw. Mae o'n gwneud yn dda iawn; mae'n anodd bod yn brif weinidog Israel. Gobeithio bydd o'n dal yn gadarn er gwaethaf y pwysau anhygoel sydd yn pwyso arno fo bob dydd. Mae gan Israel nifer mawr o ffrindiau dros y byd gan gynnwys yr Hollalluog sydd yn ei charu fel cannwyll ei lygad.

Thursday, October 20, 2016

gŵyl yn japan

Mae fy nwy ferch yn Japan wrth eu bodd yn medru gweld ei gilydd bron pob penwythnos. Roedd Gŵyl Kawagoe'n ddiweddar, a dyma nhw'n mynd at yr orymdaith hynod o boblogaidd. Roedd môr o bobl yno i weld y nifer o mikoshi (temlau cludadwy) ofnadwy o uchel yn pasio un ar ôl y llall. Roedd hyd yn oed dawnswyr yn dawnsio (yn araf) ar ben y mikoshi. Parodd yr orymdaith nes yn hwyr efo llusernau'n goleuni'r holl demlau. 

Wednesday, October 19, 2016

newid yr hanes

Penderfyniad UNESCO -  mae o'n gwadu'r cysylltiadau rhwng yr Iddewon â Bryn y Deml a'r Wal Gorllewinol yn Jerwsalem. Hollol hurt. Yr hyn dw i'n dal ddim yn gwybod ydy beth fydd canlyniad y resolution hwnnw. Na allan nhw byth wahardd yr Iddewon rhag dod at y Wal. Rhag eu cywilydd unwaith eto.

Tuesday, October 18, 2016

lev haolam

Dw i newydd dderbyn pecyn arall gan Lev HaOlam! Agorais fo mewn llawn cyffro i weld beth sydd tu mewn. Scrub wyneb, eli corff, olew pomgranad, matiau diod, bag siopa, bariau hadau sesame a gwin coch. Gwych! Gan fod y rhan fwyaf o'r pethau ar fy nghyfer i wrth reswm, (sori, teulu!) bydda i'n cadw'r gwin nes gwledd yr ŵyl Ddiolchgarwch fel gall pawb ei fwynhau.

Monday, October 17, 2016

reilffordd i'r nefoedd

Mae adran theatr Prifysgol Ozarks yn perfformio drama ddwywaith yr wythnos yn yr hydref. Drama sydd seiliedig ar hanes Roy Hopper, myfyrwr y brifysgol yn ystod yr Ail Ryfel Byd ydy honno. Aeth y gŵr a'r mab ifancaf i'w gweld ddydd Sadwrn oherwydd bod gan fy merch ran fach ynddi hi. Dwedon nhw fod y ddrama'n ardderchog. Bydd yna berfformiad arbennig ar gyfer Newt Gingrich sydd yn cefnogi'r brifysgol.

Saturday, October 15, 2016

eidalwyr yng nghymru

Des i ar draws gyfres o fideos a wnaed gan gwpl o'r Eidal sydd yn byw yn Lloegr. Maen nhw'n postio ar bynciau amrywiol gan gynnwys teithio. Un o'r llefydd aethon nhw oedd yr Eryri! Cerddon nhw i fyny i gopa'r Wyddfa a chael golygfa odidog. Mae'n rhyfedd glywed yr Eidaleg tra fy mod i'n gweld yr ardal gyfarwydd yng Nghymru.

Friday, October 14, 2016

y ras olaf

Rhedodd fy mab ifancaf ei ras cross country olaf. Y ras olaf go iawn oedd hi gan fod y tymor wedi drosodd, ac nad oes ganddo fwriad i ymuno clwb rhedeg yn y brifysgol. Dwedodd fod o wedi cael digon o brofiadau gwych (a chaled) yn rhedeg efo'r tîm. Mae o eisiau rhedeg yn hamddenol o hyn ymlaen. Cafodd ei anafu'n aml yn ei yrfa redeg. Mae'n bryd iddo orffwys ei draed a chymalau truan, nes i'r tymor pêl-droed ddechrau!

Thursday, October 13, 2016

bwrdd arbennig

Prynodd fy merch hynaf fwrdd newydd. Mae o'n hardd ac yn werth miloedd o ddoleri. Ac eto talodd hi ond am gost y pren. Gan garcharorion cafodd ei wneud yn y dosbarth crefft yng ngharchar Lexington sydd ddim yn rhy bell o'i chartref. Cynigir dosbarthiadau i ddysgu amrywiaeth o grefftau i'r carcharorion yno fel byddan nhw'n medru gweithio gyda sgiliau defnyddiol ar ôl iddyn nhw adael y carchar. Clywais eu bod nhw'n awyddus i ddysgu. Cynllun ardderchog sydd yn elwa pawb.

Wednesday, October 12, 2016

mae'r tŷ yn llosgi i lawr

Postiodd fy ngŵr ei farn ar Facebook ynglŷn y sgandal diweddar o gwmpas Trump. Penderfynais ei gyfieithu ar gyfer fy mlog.

"Mae geiriau ffôl Mr. Trump a lefarwyd 11 mlynedd yn ôl yn ddibwys o'i gymharu â'r problemau enfawr mae America'n wynebu: erthyliad, dyled wladol, y Goruchaf Lys, y Cyfansoddiad, troseddau cynyddol, trais, casineb mewn dinasoedd America, terfysgaeth, polisi tramor wan. Mae gan Mr. Trump ddyfalbarhad, dewrder a nerth i wrthwynebu Mrs. Clinton ar y pynciau hyn. Ddylen ni ddim glanhau'n hystafelloedd ni pan fod y tŷ yn llosgi i lawr!"

Cytuno'n llwyr.

Tuesday, October 11, 2016

Monday, October 10, 2016

ŵyr

Daeth fy mab hynaf efo'i wraig a'u babi newydd dros y penwythnos. Roedd dyna'r tro cyntaf i mi weld fy ŵyr cyntaf. Peth bach del ydy o! Ac mae o'n fabi da iawn hefyd. Roedd yn rhyfedd ei ddal o - mae o'n edrych yn debyg i fy mab ond dydy o ddim fy mab. Mwynheais eu hymweliad. Y Nadolig bydd y tro nesaf.

Saturday, October 8, 2016

ymweliad

Cafodd Prifysgol Ozarks ymwelydd arbennig - Ben Carson a anerchodd y myfyrwyr, yr athrawon, y trigolion a oedd yn llenwi'r gampfa ddoe. Roedd fy merch sydd yn mynychu'r brifysgol yn hapus dros ben medru gwrando ar y geiriau doeth gan y dyn doeth. "Dydy'r frwydr ddim yn rhwng y Democratiaid a'r Gweriniaethwyr y dyddiau hyn, ond rhwng y llywodraeth ac ewyllys y bobl. Un o'r pethau mwyaf anfoesol ydy'r polisi sydd yn gorfodi'r bobl i ddibynnu ar y llywodraeth," meddai Carson. Cytuno'n llwyr.

Friday, October 7, 2016

hanes mewn munudau

Mae'r fideo hwn yn dangos hanes Israel mewn modd ofnadwy o ddifyr a chreadigol, ac mewn munudau. Roedd rhaid i mi chwarae ac atal y fideo sawl tro i werthfawrogi'r holl fanylion clyfar. (Roeddwn i'n sylwi bod yr un actorion yn chwarae rhannau gwahanol.) Mae'r swyddog milwrol Seisnig yn arbennig o ddoniol.

Thursday, October 6, 2016

dewis

"Dw i'n caru'r Cyfansoddiad mwy na dw i'n casáu ei ffolineb a'i hunanbwysigrwydd. Bydd gynnon ni gyfle efo Trump, ond na fyddwn ni o gwbl efo Clinton. Dydy peidio â phleidleisio ddim yn ddewis, " medd ffrind oedrannus a oedd un o'r mil Cristion a welodd Trump i ofyn nifer o gwestiynnau yn Efrog Newydd ym mis Mehefin. Wedi'r cwbl arweinydd fyddwn ni'n dewis, nid gweinidog, ac mae yna ond dau ymgeisydd; rhaid dewis un gwell ar gyfer dyfodol America. Mae hi'n annog i'r holl Gristnogion i bleidleisio, a dewis Trump. 

Wednesday, October 5, 2016

eog yn japan

Un o fy merched yn Japan newydd ddechrau blog yn Ffrangeg. Galwodd hithau'n eog oherwydd mai dyna'n enw olaf ni ydy o. Ces i fy nharo unwaith eto gan ei dychymig a defnydd geiriau. Mae'n anhygoel hefyd bod hi'n medru "sgrifennu" Ffrangeg (y medr dw i'n cael hi'n anodd dysgu.) Mae hi'n hynod o brysur ddysgu Saesneg i nifer o bobl bob dydd; gobeithio bydd ganddi amser i bostio'n aml.

Tuesday, October 4, 2016

peli quinoa

Dyma saig newydd sef peli quinoa ar spaghetti. Rysáit Elizabetta ydy hwn. Roedd yn flasus iawn er dylwn i fod wedi defnyddio mwy o saws tomato fel gwnaeth hi. Y tro nesaf. Ddim llysieuwraig ydw i, ond dw i erioed wedi bwyta cig llawer, ac mae gen i lai o chwant cig yn ddiweddar. Dw i'n bwyta mwy o quinoa, ffa, pysgod, tofu ac yn y blaen. Dw i wrth fy modd efo quinoa yn enwedig.

Monday, October 3, 2016

cinio rosh hashanah


Coginiais cinio arbennig i ddathlu Rosh Hashanah ddoe. Wnes i ddim cwrs cyfan ond dewis dau rysáit syml - cyw iâr wedi'i fwydo mewn saws mwstard, yna wedi'i bobi yn y popty; salad cêl efo afal, cnau (roedd angen pomgranad ond doedd dim ar gael); myffins ceirch/afal (ddim rysáit ar gyfer yr ŵyl a dweud y gwir, ond roedden nhw'n dda beth bynnag.) Bydd yr ŵyl yn para nes machlud yr haul yfory.