Saturday, January 29, 2022

el zarape



Es i a'r gŵr i El Zarape am y tro cyntaf ers misoedd. Syniad call ein bod ni wedi cyrraedd cyn 5 o'r gloch oherwydd bod y lle wedi llenwi yn gyflym. Dwedodd y gweinydd fod y cogydd wedi methu fy archeb, ac wrthi'n coginio o'r newydd. Dim ond pum munud ychwanegol cymerodd. Roedd y cyw iâr gyda llysiau a chaws yn boeth braf. (Fedra i ddim clywed blas eto.)

Friday, January 28, 2022

dawn busnes


Mae brawd fy ngŵr yn byw ger cae golff. Wrth iddo gerdded bob dydd yn y gymdogaeth, mae o wedi casglu nifer mawr o beli golff erbyn hyn. Mae o'n cynnig i'w gwerthu am bris isel rŵan - y fasnach gyfarwydd iddo. Roedd o'n arfer gwneud yr un peth pan oedd yn fyfyriwr ysgol uwchradd, ac ennill cannoedd o ddoleri yn ystod yr haf. Roedd ganddo ddawn busnes hyd yn oed pan oedd yn ifanc!

Wednesday, January 26, 2022

canwr gwych


Des i ar draws (ar y we) ganwr gwych ddoe. Guy Penrod ydy'r enw. Mae o'n canu rhai o fy hoff emynau yn ei lais anhygoel o hyfryd a chryf. Dw i ddim yn hoffi cantorion diweddar sydd gan twang. Dw i newydd ddarganfod iddo ganu i ddathlu urddo'r Arlywydd Trump. Mae ganddo a'i wraig wyth o blant sydd wedi cael eu haddysgu gartref. (Gwybodaeth ragorol i mi!)

Tuesday, January 25, 2022

tŷ bwyta diogel

Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen, ein hoff dŷ bwyta eto neithiwr. Tra oedden ni'n mwynhau bwyd da, daeth sawl heddwas i gael swper. Er eu bod nhw'n eistedd o bell ohonon ni, roeddwn i'n teimlo'n ddiogel ar unwaith. Doeddwn i ddim yn teimlo'n anniogel o gwbl hebddyn nhw wrth gwrs, ond roedd yn braf gwybod na fyddai dynion drwg yn dod i mewn os bydden nhw'n gweld ceir yr Heddlu yn y maes parcio.

Monday, January 24, 2022

gwahaniaeth rhwng

Gorffennodd fy merch hynaf a'i gŵr adnewyddu bron i bopeth tu mewn eu tŷ "newydd." Mae mwy o waith i'w wneud tu allan fodd bynnag. Roedd criw o ddynion yn gweithio'n galed ac anhygoel o gyflym ar y teras a'r dreif yn ddiweddar. Maen nhw'n barod i dywallt concrit, ond fedran nhw ddim bwrw ymlaen nes i'r ddinas roi sêl bendith. Maen nhw'n aros am swyddog i ddod am bythefnos. Does dim cysgod ohono fo eto. O wel.

Saturday, January 22, 2022

te gwyrdd gyda siwgr


Mae Keith yn gweithio droston ni rŵan am y tro cyntaf ers wythnosau. Cludo logiau ar gyfer y llosgwr o'r iard i'r garej ydy'r gwaith heddiw. Cynigais goffi neu de iddo fo drwy'r gŵr. "Te gwyrdd gyda llawer o siwgr," oedd ei ateb. Edrychodd y gŵr a finnau ati'n gilydd heb air. Wrth gwrs, os dyna beth mae o eisiau. "Blasus iawn," meddai wrth yfed y te a hwyliais. Bydd gynnon ni bentwr o logiau yn y garej, diolch i Keith.

Friday, January 21, 2022

yfed dŵr poeth


Dw i wedi dod i werthfawrogi yfed dŵr poeth yn ddiweddar. Dw i'n hoffi coffi a the amrywiol, ond does dim pwynt talu amdanyn nhw oherwydd fy mod i'n dal i fethu clywed blas. A dweud y gwir, mae dŵr poeth yn teimlo'n braf i'r stumog, llawer mwy na dŵr oer, ac mae'n rhad wrth gwrs. 

Wednesday, January 19, 2022

cywir yn y bôn


"Rhybuddiodd y Democratiaid fyddai'r Gweriniaethwyr yn bwriadu dwyn etholiad trwy rwystro ymdrechion y Democratiaid i ddwyn etholiad."

Pennawd y Wenynen unwaith eto! Mae'n ddoniol tu hwnt oherwydd mai hyn ydy beth mae'r Democratiaid yn ei ddweud yn y bôn.

Tuesday, January 18, 2022

colli abishag


Wedi mis o gyfeillgarwch, roedd Reuben, ci fy merch hynaf yn gorfod ffarwelio â ffrind neithiwr. Paisley ydy enw'r ffrind, ci mom gŵr fy merch. Roedd hi'n aros gyda nhw tra oedd ei meistres yn cryfhau yn dilyn llawdriniaeth. Annioddefol oedd ymddygiad Paisley ar y dechrau, ond ar ôl sawl diwrnod, daeth hi a fo'n ffrindiau da; roedd Paisley yn dilyn Reuben ym mhob man yn ei gynhesu gyda'i blew hir hyd yn oed. Mae'n siŵr ei fod o'n hapus gan ei fod o'n oer bob amser wrth iddo heneiddio. Collodd Reuben ei Abishag bellach.

Saturday, January 15, 2022

llogi cyfartal


"Dan ni'n mynnu llogi cyfartal ym mhob proffesiwn, boed gwaith torri coed, cynnal a chadw llinellau pŵer, neu bysgota marwol môr dwfn," protestiodd dyrfa o ferched, yn ôl y Wenynen.

Fy sylw a bostiais oedd: "Dw i'n hynod o ddiolchgar mai dynion sydd yn gwneud y fath o waith ofnadwy o beryglus a chorfforol. Rhoddais enedigaeth i chwech o fabis. Dyna fo. 😆

Friday, January 14, 2022

dim ond un ffordd

Wedi clywed Iesu'n dweud, "fe wyddoch y ffordd i'r lle'r wyf fi'n mynd," dwedodd Thomas, "Arglwydd, ni wyddom i ble'r wyt yn mynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?” Cwestiwn digon teg yn fy nhyb i. Ateb Iesu oedd, fodd bynnag, "myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi."

Nid peth ydy'r ffordd ond person, sef Iesu Grist. Ac mae yna ond un ffordd, dim byd arall. "Cyfyngedig dros ben," byddwch chi'n ei ddweud efallai. Ond dyna fo. Duw sydd yn dweud.

Wednesday, January 12, 2022

cadw'n gynnes

Mae'n dal yn oer yn y nos, ond bydd hi'n cynhesu yn y prinhawn. Rhaid cadw tân bach yn ystod y dydd, a chyn gynted â'r tymheredd yn gostwng, rhaid ychwanegu logiau at y llosgwr logiau i wneud tân mwy. Diolch i'r drefn hon, dan ni'n cadw'n gynnes braf bob dydd.

Tuesday, January 11, 2022

siwrnai braf

Wedi gwylio'r fideo, daeth eisiau sydyn arna' i weld y lluniau a dynnais yn ystod y siwrnai, a darllen fy mlog a ysgrifennais amdani. Mae'n anodd credu fy mod i wedi gwneud cymaint. Roedd rhyw bethau annifer wrth gwrs, ond dim ond y pethau braf sydd yn aros yn fy ngof bellach. Dw i'n ddiolchgar hefyd mai cyn y cynnwrf rhyngwladol diweddaraf bues yno. 

Monday, January 10, 2022

'nghyfareddu eto

Gwyliais y fideo dogfen am Gromen Brunelleschi unwaith eto, a chael fy nghyfareddu unwaith yn rhagor. Camp anhygoel oedd. Doedd y dechnoleg ddim yn bodoli i greu'r fath beth ar y pryd. Ac eto llwyddo a wnaeth y gof aur heb hyfforddi fel pensaer; mae'r gromen eiconig yn dal i sefyll yn Nhref Firenze ar ôl dros 600 mlynedd. Dw i'n ddiolchgar fy mod i wedi cael cyfle i ddringo i ben y gromen 8 mlynedd yn ôl.

Saturday, January 8, 2022

brecwast lliwgar

Mae'n ymddangos bod y mab ifancaf wedi cyfarwydd â choginio erbyn hyn. Mae o'n hoffi bwyta'n iach a pharatoi pethau da i'r olwg hefyd. Dyma lun o'i frecwast (ffrwythau ar ben yr uwd) a yrrodd ata i'r bore 'ma. Mae'n edrych fel llun mewn cylchgrawn bwyd!

Friday, January 7, 2022

diwedd blwyddyn newydd

Pryd bydd cyfnod blwyddyn newydd yn dod i ben yn Japan? Does dim deddf; mae gan y bobl farnau gwahanol yn ôl y traddodiadau rhanbarthol. Bydd y rhan fwyaf o'r cwmnïau’n dechrau ar y 4edd, ac yr ysgolion ar y 8fed. Gan ddilyn yr olaf, dw i newydd dynnu'r addurn oddi ar y drws blaen.

Wednesday, January 5, 2022

un dydd ar y tro


Roeddwn i'n bob amser meddwl mai cân wreiddiol Trefor Edwards ydy Un Dydd ar y Tro. Ac felly ces i fy synnu'n gwybod bod dau Americanwr a'i chyfansoddodd. Cafodd ei chyfieithu mewn ieithoedd eraill hyd yn oed. Fy hoff arwyddair ydy "un dydd ar y tro." Dw i'n gobeithio y bydda i'n byw'n ffyddlon i'r Arglwydd Iesu un dydd ar y tro nes cyrraedd adref. Fersiwn Trefor Edwards ydy'r gorau yn fy nhyb i, gyda llaw!

Tuesday, January 4, 2022

adnod heddiw

Dyma a ddywed yr Arglwydd:
Myfi a wnaeth y ddaear,
a chreu pobl arni;
fy llaw i a estynnodd y nefoedd,
a threfnu ei holl lu.
Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu,
canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.
- Eseia 45


Monday, January 3, 2022

dail aur

Treuliodd fy nhair merch eu gwyliau yn Kanazawa, dinas hardd yn Japan. Roedd tywydd eithafol ar y pryd, ond cawson nhw amser gwych er gwaethaf popeth. Mae Kanazawa yn enwog am grefft dail aur. Yn ogystal ag addurno, maen nhw'n cael eu cymysgu mewn bwyd hefyd. Dyma enghraifft - hufen iâ gyda dail aur disglair.

Saturday, January 1, 2022

yr unig wirionedd a thangnefedd

“Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi," dyweddodd Iesu.

"Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni," meddai.

Blwyddyn Newydd Dda 2022