Saturday, April 29, 2017

y 100 diwrnod cyntaf

Mae'r Arlywydd Trump yn annerch pobl America'n wythnosol ar y we. Mae ei annerch diweddaraf yn crynhoi beth mae o a'i lywodraeth wedi ei wneud ar gyfer America yn y 100 diwrnod cyntaf - llawer llawer iawn! er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan y rhai sy'n ei gasáu. Gallen nhw fod wedi gwneud llawer mwy pe na bai am yr olaf. Dw i'n diolch i Dduw bob dydd amdano fo.

Friday, April 28, 2017

castell franklin

Mae "castell" y dref newydd gael ei agor fel lle ar gyfer partïon priodas, pen-blwydd, ayyb  wedi 18 mis o adnewyddu helaeth. Castell Franklin ydy'r enw. Cafodd o ei godi yn y 30au, ac mae o un o eiconau'r dref. Roedd o mewn cyflwr truenus yn ddiweddar, fodd bynnag, cyn cael ei brynu gan y perchennog presennol. Roeddwn i'n gobeithio byddai'r dref yn ei brynu a'i droi'n rhyw amgueddfa, ac felly falch iawn gweld bod ganddo fywyd newydd. Cewch chi weld y tu mewn drwy'r fideo yma.

Thursday, April 27, 2017

y ddarlith olaf

Traddododd y gŵr y ddarlith olaf heddiw. Bydd wythnos arall o arholiad, yna, seremoni raddio nos Wener. Bydd o'n anfon doctoriaid optometreg newydd i'r byd am y tro olaf, ac yn ymddeol ddiwedd mis Gorffennaf ar ôl gweithio yn y clinig am ddau fis. Mae o'n gweithio fel athro optometreg yn ffyddlon yn y brifysgol yma ers 21 mlynedd. Cafodd grys gwych yn anrheg gan ei ddosbarth. Mae o'n awyddus i gychwyn cam nesaf; bydd o'n brysur eto, ond yn medru gwneud pethau heb ddyddiau cau.

Tuesday, April 25, 2017

y gêm olaf

Bydd y gêm olaf pêl-droed heno - olaf y tymor ac olaf a fydd fy mab ifancaf yn chwarae ynddi efo tîm yr ysgol. Bydd o'n graddio mewn wythnosau. Mae o'n ymarfer a chwarae'n ffyddlon ac yn galed ers blynyddoedd. Bydd o eisiau chwarae'n hamddenol heb ymuno â chlwb yn y dyfodol. Diwedd cyfnod a dechrau un newydd. Roedd o'n chwarae neithiwr hefyd a daeth adref wedi hanner nos. Roedd rhaid i mi olchi'r iwnifform y bore 'ma ar brys iddi sychu mewn pryd.

Monday, April 24, 2017

yn enw'r bobl

Dw i'n hynod o falch bod Marine Le Pen wedi ennill rownd gyntaf yr etholiad arlywyddol yn Ffrainc ddoe. Mae'r grwpiau efo diddordebau arbennig yn ffyrnig ac yn achosi terfysg ym mhob man. (Mae hyn yn profi pwy sy'n dda a phwy sy'n ddrwg, yn fy nhyb i.) Wir, mae goroesiad Ffrainc fel gweriniaeth yn y fantol. Gobeithiaf y bydd pobl Ffrainc yn ennill y 7 Mai.

Saturday, April 22, 2017

ras 5k

Cynhaliwyd ras 5K a fynychwyd gan fyfyrwyr optometreg y bore 'ma. Wedi colli cefnogaeth noddwr hael flynyddoedd yn ôl, aeth y ras yn llai bob blwyddyn yn anffodus. Diolch i'r cynnig arbennig gan eu hathro, sef fy ngŵr, fodd bynnag, rhedodd rhyw 30 gan gynnwys y gŵr a'n mab ifancaf ni. Cafodd yr holl redwyr ddau bwynt ychwanegol ar y prawf diweddaraf tra oedd y tri a gurodd eu hathro'n ennill tri phwynt! Roedd yn ras bleserus ar fore braf beth bynnag.

Friday, April 21, 2017

anghytuno

Mae Fatah ac Hanas yn cytuno â'i gilydd nad oes gan Israel hawl i fodoli. Dydy'r Un sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd, a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos, sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo ddim yn cytuno: 

"Os cilia'r drefn hon o'm gŵydd, yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron." Jeremeia 31: 35, 36

Thursday, April 20, 2017

sanctaidd wyt ti

Bydda i a fy nheulu yn dy wasanaethu, Arglwydd
gan godi dwylo sanctaidd i dy addoli di;
Na fyddwn ni'n ymgrymu o flaen duwiau'r dynion;
Byddwn ni'n addoli Duw Israel
Sanctaidd wyt ti;
Does neb arall fel ti;
Dewiswch y diwrnod hwn bwy y byddwch yn ei wasanaethu;
Bydda i a fy nheulu yn dy wasanaethu, Arglwydd

- Fy ffefryn arall gan Joshua Aaron

Wednesday, April 19, 2017

gellesg glas

Ar ôl dyddiau o gawodydd Ebrill, ymddangosodd blodau gellesg glas cyntaf. Dw i'n falch iawn eu gweld nhw, wedi gweithio'n galed i gael gwared ar y chwyn anghyfreithlon fis diwethaf. Mae yna gannoedd ar y gwely blodau, dipyn yn ormod siŵr iawn, ond dim ots. Byddan nhw'n fy llawenhau am ddyddiau i ddod.

Tuesday, April 18, 2017

mam

Dw i newydd glywed gan fy merch a ymwelodd â'i nain yn y cartref henoed. Mae fy mam a oedd yn gorfod gorwedd drwy'r amser am wythnosau, yn medru eistedd bellach! Dyma hi'n bwyta ei ginio! Dwedodd fy merch fod yn anhygoel gweld ei nain mor sionc yn ei hysbryd. Bydd hi'n cael ei phen-blwydd yn 95 oed yr wythnos nesaf. Gobeithio y ceith ddiwrnod hapus.

Monday, April 17, 2017

rholio wyau

Mae nifer o blant wrthi'n rholio wyau ac ymuno â gweithgareddau amrywiol ar lawnt Tŷ Gwyn ar hyn o bryd. Mae pob Arlywydd America wedi cynnal y digwyddiad ers 1878. Mae o'n llai eleni na'r blynyddoedd diwethaf oherwydd bod Mrs. Trump eisiau iddo fod ar gyfer y plant a'r teuluoedd yn hytrach na ar gyfer yr enwogion. Mae Sion Spicer, llefarydd Tŷ Gwyn yn darllen llyfrau i'r plant yn lle bod mewn gwisg cwningen eleni!

Sunday, April 16, 2017

bedd gwag

Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daeth y gwragedd at y bedd. Gwelon nhw fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd, ond pan aethon nhw i mewn, na welon nhw gorff yr Arglwydd Iesu. Dyma ddau ddyn yn ymddangos mewn gwisgoedd llachar a dweud, "Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi."

Saturday, April 15, 2017

yr aberth

Dywedodd yr Arglwydd, "cymerwch oen, ei ladd, taenu'r gwaed ar ddau bost a chapan drws. Bydd y gwaed yn arwydd; pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chi, ac ni fydd y pla yn eich difetha."

Mae'r oen wedi ei lladd yn aberth er mwyn ein glanhau rhag pechod.
Mae'r iachawdwriaeth wedi dod i'r byd
Mab Duw. Yeshua yw Ef.

Thursday, April 13, 2017

dylai hyd yn oed gohebydd fod yn gwrtais

"Lle cawsoch chi eich magu?" "Lle mae'ch cwrteisi chi?" Gofynnodd Gweinidog Tramor Rwsia i ohebydd NBC a daflodd gwestiynau ato Ysgrifennydd Gwladol America cyn i bawb gael ei eistedd ar gyfer sesiwn i'r wasg yn Moscow. Cafodd y gohebydd, Andrea Mitchell sydd yn arfer cael ei ffordd yn America, ei cheryddu. Go dda chi, Mr. Lavrov!

Wednesday, April 12, 2017

gwyddau gwyllt 2

Mae blodau derwen yn eu hanterth yn taflu'r paill ym mhob man, ac eto dw i'n dal i fedru cerdded tu allan heb disian. Anhygoel o braf! Roedd llawer o wyddau gwyllt yng nghanol y trac y bore 'ma eto. Ces i gyfle i'w gweld nhw'n gadael y tir am y tro cyntaf. Rhaid iddyn nhw redeg am sawl metr cyn medru hedfan i fyny, yr union fel awyrennau. Mae'n rhyfeddol eu bod nhw'n medru hedfan beth bynnag, ac yntau mor dew.

Tuesday, April 11, 2017

gwyddau gwyllt

Yn ddiweddar dw i'n cerdded ar drac y brifysgol gerllaw ar ôl mynd â fy mab i'r ysgol tua saith. Yn aml iawn mae gwyddau gwyllt yn pori yn y canol. Maen nhw'n prysur fwyta "peth" ar y glaswellt heb falio'r bobl. Beth maen nhw'n ei fwyta? Pryfed? Es i at Mrs. Google heddiw a darganfod mai glaswellt maen nhw'n ei fwyta. Rhaid bod nhw'n gorfod bwyta llawer er mwyn cadw eu ffigur crwn! Y nhw sydd yn baeddu'r trac hefyd!

Monday, April 10, 2017

gŵyl y pasg

Bydd Gŵyl y Pasg yn cychwyn ar fachlud haul heno a phara am wythnos. Dw i ddim yn cadw'r traddodiadau Iddewig, ond cofiwn beth wnaeth Duw dros ei bobl Israel filoedd o flynyddoedd yn ôl. Yr un Duw sydd yn llywodraethu'r byd o hyd ac am byth.

Saturday, April 8, 2017

ynad llys goruchaf

Cafodd Neil Gorsuch ei gadarnhau fel ynad llys goruchaf, o'r diwedd, wedi gwrthwynebiad chwyrn hanesyddol gan y Democratiaid (ac eithrio Joe Manchin) a rhai Gweriniaethwyr. Dyn sydd yn sefyll yn gadarn ar y Cyfansoddiad, ac sydd gan gymwysterau hollol addas ar gyfer y swydd bwysig hon. Roedd y Democratiaid yn ei gefnogi'n gyfan gwbl nes iddo gael ei enwebu gan yr Arlywydd Trump. Pob bendith i Neil Gorsuch, Arlywydd Trump, y cabinet a'r staff i gyd sydd wrthi'n ddygn ar gyfer pobl America.

Friday, April 7, 2017

llefrith ceirch

Fe wnes i lefrith ceirch am y tro cyntaf. Ces i fy synnu pa mor hawdd ei wneud. Wedi sicrhau bod ganddo ddigon o galsiwm, gwelais sawl fideo (yn Eidaleg a Ffrangeg i ddysgu'r ieithoedd hyn ar yr un pryd) i wybod sut i fynd ati. Mae'n ymddangos bod yna ddau fodd yn y bôn - defnyddio ceirch sych neu un wedi'i goginio. Dewisais y cyntaf oherwydd ei fod o'n symlach, a dyma gael 500 ml o lefrith ceirch ffres! Ychwanegais dipyn o halen a mêl. Efallai nad ydy o mor flasus â llefrith buwch, ond mae o'n ddigon da a heb lactos.

Thursday, April 6, 2017

diwedd y tiwlip

Cafodd yr unig diwlip dewr a oedd yn blodeuo am ddyddiau ei ladd neithiwr. Darganfuwyd y troseddwr drwy'r camera diogelwch - gwiwer ddrwg oedd o! Wedi cael gafael yn y blodyn druan, bwytaodd y wiwer y peth yn y canol. Dewisais beidio â gosod cawell ar y blodyn eleni oherwydd bod o'n lleihau'r harddwch. O leiaf nid fandal creulon ond gwiwer oedd y pechadur, ac roedd y blodyn ar fin gorffen beth bynnag. 

Wednesday, April 5, 2017

bendith duw

Mae fy mam mewn cartref henoed ers dyddiau wrth iddi fethu codi oherwydd problem ar yr asgwrn cefn. Er bod hi'n gorfod gorwedd drwy'r amser, mae hi'n siriol. Mae hi'n medru gweld blodau ceirios oddi wrth y ffenestr hyd yn oed. Diolch i'r staff clên ac ymroddgar, mae hi'n cael gofal da. Ymwelodd un o fy merched â hi ddoe, a thra oedd hi yno, ffoniodd fy merch hynaf hi. Roedd fy mam wrth ei bodd wrth gwrs. (Gweler y llun.)

Tuesday, April 4, 2017

deddf duw / deddf y byd

Deddf Duw dros fewnfudwyr - Ceisiwch heddwch y ddinas byddwch chi'n symud iddi, a gweddïwch drosti ar yr Arglwydd, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chi.

Deddf y byd dros fewnfudwyr - Cymerwch fantais ar lewyrch y ddinas byddwch chi'n symud iddi, a mynnu eich cyfreithiau a diwylliannau arni hi nes i chi ei meddiannu'n llwyr.

Sunday, April 2, 2017

braint/hawl

Rhaid cofio mai braint, nid hawl ydy cael caniatâd i fynd i mewn i wlad arall. Mae gan bob gwlad hawl i benderfynu pwy sydd yn cael dod. Os mae hi'n dweud "na," dyna fo. Y hi sydd gan y gair olaf, ddim chi. Rhaid derbyn yr ateb yn ostyngedig. 

Saturday, April 1, 2017

olew cnau coco

Dw i wrth fy modd efo olew cnau coco. Dw i'n ei fwyta yn lle menyn heb sôn am ei ddefnyddio ar fy nghroen, gwallt, dannedd. Ar gyfer y croen a gwallt, dw i'n ychwanegu diferyn o olew lafant; ar gyfer y dannedd - llwyaid o soda pobi. (poerwch yr olew yn y bin wedi gorffen brwsio dannedd, ddim yn y sinc.) Finegr seidr afal ydy peth arall dw i'n ei ddefnyddio a'i yfed bob dydd.