Sunday, May 31, 2009

ffefryn newydd

Mae gen i ffefrynnau ymysg y siaradrwyr Cymraeg. Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dod o'r gogledd wrth reswm. Des i ar draws ffefryn newydd tra oeddwn i'n gwrando ar y Post Cyntaf ddydd Sadwrn. Barry Thomas, dirprwy olygydd Golwg ydy o. Roedd o'n siarad am bynciau amrywiol o Susan Boyle i ffliw moch. Dw i'n gwirioni ar ei acen gref ogleddol! Os oes awydd arnoch chi ei glywed o, bydd o'n cychwyn tua 17.30 o'r dechrau.

Saturday, May 30, 2009

dau o saudi arabia

Yn y brifysgol leol yma mae yna ryw dri cant o fyfyrwyr o wledydd amrywiol y byd. A chaeson ni gyfle i wahodd dau o Saudi Arabia i swper neithiwr. Hend a'i brawd oedden nhw. Hogan siriol a chlên ydy Hend, ac dydy hi ddim yn petruso mynegi ei barn ac mae hi'n awyddus i ddysgu pethau newydd. Mae hi a'i brawd ar gwrs Saesneg ail-iath ar hyn o bryd cyn mynd i brifysgol arall i astudio.  

Dw i ddim yn nabod neb o'r wlad yna ac dôn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Ond mae'n dda gwybod bod pobl ydy pobl er gwaethaf gwahaniaethau ethnig neu grefyddol. 

Roedd Hend wedi rhyfeddu mod i'n dysgu iaith mor brin a gofyn imi ddweud rhywbeth yn Gymraeg. Dwedes i, "Bore da. Dw i'n dysgu Cymraeg ers pum mlynedd." Ceisies i ddysgu brawddeg neu ddwy yn yr Arabeg ond na, roedd yn rhy anodd!. Diddorol clywed mai mama ydy mam ac baba ydy tad. Yn y Japaneg, mama ydy mam hefyd ond nain ydy baba!

Caethon ni i gyd amser gwych. (Roedd y plant yn dangos y moch cwta iddi.) Wna i ddim rhoi llun ohonyn nhw i barchu eu harfer. Ond coeliwch fi. Mae hi'n glws! Ac mae hi wrth ei bodd efo ffilm Pride and Prejudice gan BBC!

Friday, May 29, 2009

hwyl a sbri 2009



Yn ôl yr arfer, aeth fy ngwr â'r plant a dwy ffrind i Afon Ilinois heddiw. Aethon nhw i lawr yr afon mewn rhafft a chanw am ddwy awr. Roedd hi'n braf ac roedd yna ddigon o ddwr yn yr afon ar ôl y cyfnod o law. Doedden nhw ddim eisiau i'r siwrnau orffen fel y ceision nhw rwyfo i fynny'r afon hyd yn oed! 

Tra oedden nhw'n cael hwyl a sbri, roeddwn i'n hollol fodlon aros adref ar fy mhen fy hun a chael amser gwych. Ond dw i wedi blino rwan wedi tacluso'r ty, mynd i siopa a choginio swper arbennig. Do, caethon ni bobl ddieithr heno, nid myfyrwyr o Japan ond dau o Saudi Arabia!

Thursday, May 28, 2009

eco'r wyddfa


Mae gen i gopi o rifyn Mawrth Eco'r Wyddfa yn fy llaw, diolch i Angela o Canada sy'n digwydd dod o Lanberis yn wreiddiol a wnaeth ei yrru fo ata i'n ddiweddar.

Bydda i'n darllen erthyglau papurau bro'r gogledd ar y we'n aml ond dyma'r tro cynta i mi gael fersiwn papur Eco. Dw i wedi bod yn pori drwyddo'n ddiolchgar. Mae popeth yn ddiddorol gan gynnwys yr hysbysebion - "Rhowch gyfle i fusnesau Cymreig lleol ddangos eu gwerth yn hytrach na chwmniau dyfod ac archfarchnadoedd Seisnig!" Sgrifennes i i lawr enwau rhai pobl yn gobeithio y cawn i gyfleoedd i'w cyfarfod cyn hir.

Tuesday, May 26, 2009

'enchilada' i lysieuwyr


'Enchilada' ydy un o'n hoff brydau o fwyd ni. Bydda i'n defnyddio cig eidion neu gyw iâr fel arfer ond roeddwn i'n ceisio gwneud un heb gig neithiwr wrth feddwl am rai o fy ffrindiau da sy ddim yn bwyta cig. Dyma'r cynhwysion:

tofu
madarch
nionyn
caws Feta a Cheddar
powdr garlleg, tarmeric, pupur, halen
saws 'enchilada'
'tortillas'

Roedd o'n weddol dda ond dw i'n rhyw feddwl fod o angen perlysiau cryfach achos nad oes gan tofu neu'r llysiau flas cryf. Hwyrach y gwna i arbrofi efo garlleg ffres a chaws arall.

Monday, May 25, 2009

lucky



Dyma Lucky. Mae hi'n byw ar draws y stryd. Basai fy merch 15 oed yn gofalu amdani hi weithiau pan fasai'r perchenog i ffwrdd. Cath gyfeillgar ydy hi. Yn aml iawn baswn i'n gweld hi'n eistedd ar waelod y grisiau blaen. Y bore ma roedd hi wrth y drws blaen. Pan agores i fo, wnaeth hi ddod ata i a gadael imi dynnu lluniau ohoni hi hyd yn oed. Dwedes i, "bore da. Sut wyt ti?" ac fy ateb wnaeth hi!

Sunday, May 24, 2009

gweini coffi



Mae Evelyn ar ei gwyliau'n ymweld ei pherthnasau ar draws UDA. Gofynodd hi imi weini yn ei lle am ddau fis. A dyma fi'n gweini coffi, llefrith, sydd oren a bisgedi efo Treda, y ddynes arall yn ystod yr amser coffi rhwng yr ysgol Sul a'r oeddfa. Mae'n hwyl a dweud y gwir gweini a chyfarch y bobl wrth iddyn nhw ddod at fwrdd y gegin.

Saturday, May 23, 2009

i 'out west'




Dw i a'r gwr newydd ddod yn ôl o dyˆ bwyta bach o'r enw Out West Cafe yn y dref i ddathlu'n penblwydd priodas. Ces i gig eidion a llysiau, caeth y gwr gig moch a llysiau. I bwdin, rhannon ni 'apple dumpling.' Roedd popeth yn flasus iawn, yn enwedig y pwdin. Roedd yna afal bach cyfan mewn pastai boeth efo syryp ar ei phen. Dyma'r tro cynta i ni fynd yno wedi clywed canmoliaeth gan ffrind. Roedd o'n well o lawer na'r disgwyl a dweud y gwir. Dw i'n siwr y byddan nhw'n ein gweld ni eto cyn hir.

Fflat Huw Puw yn hwylio
Dafydd Jones yn rhiffio
Huw Puw wrth y llyw 
yn gweiddi Duw a'n helpo


Friday, May 22, 2009

'a graduate' (sut mae dweud hwn yn gymraeg?)


Mae Brian, ffrind da fy mab hyna wedi graddio yn yr ysgol uwchradd heddiw. Roedd yna barti i ddathlu'r achlysur yn ei dyˆ heno, ac es i a'r teulu i gyd i'w longyfarch. Roedd y tyˆ yn dan ei sang. Mae fy nheulu'n dal yno ond es i adref yn gynnar (i sgrifennu fy mlog!)


Wednesday, May 20, 2009

gwyliau'r haf



Mae'r ysgol wedi gorffen. Mae'n anodd credu bod blwyddyn arall wedi drosodd. Roedd yna seremoni wobrio a phicnic wedyn yn ystod y dydd a drama gan blant yr ysgol gyda'r hwyr ddoe. Dw i'n wynebu bron i dri mis o wyliau'r haf o mlaen i rwan.

Sunday, May 17, 2009

cerdded

Roedd hi'n ddiwrnod braf eto. Es i am dro ar ôl swper. Roedd yr awyr yn las a chlir. Doedd yna ddim gwynt am newid. Roedd hi bron yn oeraidd.

Gweles i gath ddu'n eistedd ar y palmant a dechrau siarad Cymraeg ati hi: helo, ti'n iawn? Sut ddiwrnod ges ti? Ond cyn imi gael dweud digon, trodd hi ei chefn ata i a cherdded tuag at y tyˆ agos. A dyma sylweddoli bod rhywun yn sbio arna i drwy ffenestr y tyˆ ..... 

Noswaith braf oedd hi beth bynnag.

Saturday, May 16, 2009

o wlad 'only yesterday'


Roedd yna seremoni raddio yn y brifysgol leol heddiw. Daeth rhai rhieni myfyrwyr o Japan i'r achlysur arbennig. Rhieni Namiki oedd ddau ohonyn nhw. Namiki a oedd yn gweithio'n rhan amser yn swyddfa fy ngwr. Maen nhw'n dod o Yamagata lle'r oedd yr anime Only Yesterday wedi'i leoli ynddo. Mae'r bobl yno'n siarad tafodiaith gref. Dw i wedi bod yn edrych ymlaen at gyfarfod y rhieni wedi gweld y ffilm a chael cymaint o fwynhad.

Roedd yn wych gweld Namiki'n hapus o lawer i wneud camp fawr ac roedd ei rhieni'n glên. Ond rhaid imi gyfaddef mod i wedi cael tipyn o siom. Dydy'r bobl wledig ddim yn siarad tafodieithoedd efo'r lleill. Yn ôl eu harfer, roedd rhieni Namiki'n siarad Japaneg safonol efo fi. (Ella roedd gan y tad fyfryn o acen.)

Byddan nhw'n mynd ar daith fer yn UDA cyn mynd yn ôl i Japan. Mae fy ngwr a'n merch 15 oed yn ymweld â nhw yn Yamagata yn yr haf ma.


Friday, May 15, 2009

heulwen!


Glaw glaw a mwy o law... Dw i ddim yn sôn am Gymru ond Oklahoma. Mae hi wedi bod yn lawog a stormus bob dydd yn ddiweddar. Ond heddiw mae hi yn heulog. Dw i yn falch o weld yr heulwen er mod i ddim yn hoffi tywydd poeth fel arfer.



Wednesday, May 13, 2009

dal annwyd

Prin mod i'n dal annwyd ond dw i wedi dal un. Roedd gen i ddolur gwddf ofnadwy ac fedrwn i ddim peidio tisian yn gyson y bore ma. Roeddwn i i helpu'r ysgol ond fedrwn i ddim. 

Mae rhai yn dweud y dylech chi ymprydio os oes gynnoch chi annwyd fel y medrith y corff wella ei hun heb orfod defnyddio ei egni i dreulio bwyd. Ond well i mi fwyta rhywbeth ysgafn ac yfed digon o de gwyrdd a dwr poeth efo mêl a seidr finegr.

Ces i 'foot bath' am hanner awr wrth darllen Rhannu'r Ty. Mae'r nofel mor anodd mod i ddim wedi medru darllen ond ychydig (tra oeddwn i'n synfyfyrio o bryd i'w gilydd.) Dw i'n teimlo'n llawer gwell bellach. Rhaid i mi yfed paned arall rwan.

Sunday, May 10, 2009

baner fach

Bydda i'n meddwl am fy mam a fy mam yng-nghyfraith ar Sul y Mamau a dweud y gwir. Ond wrth gwrs mai fi sy'n fam i fy mhlant hefyd a ches i anrhegion amrywiol gannyn nhw gan gynnwys cardiau ac addurniadau a wnaethon nhw. Hon ydy fy ffefryn (gan yr hogyn fenga.)

O.N. 
Dw i newydd gael cerdyn llun gan yr hogan hyna a'i gwr (a'u ci.) Dyma fo.

Saturday, May 9, 2009

letys



Sut dach chi'n sychu letys wedi'u golchi? Bydda i'n eu sychu nhw efo tywel fel arfer, ond dyma gofio darn o ffilm Americanaidd o amser gynt. Byddai'r gwr yn y ffilm yn rhoi nhw mewn bag llain a'i siglo fo'n gyflym tu allan. (Dyna sut mae peiriant sychu'n gweithio, cofiwch.) Dyma arbrofi ar fy letys ddoe. (Peres i fy merch i fodelu.) Roedd y letys yn sych yn braf tra oeddwn i'n cael cymaint o ymarfer corff ar un pryd!

Friday, May 8, 2009

anrheg o arvo


Daeth fy ngwr ag anrheg o ARVO imi, dim o Florida ond o India. Mae gynno fo ffrind o India sy'n gwneud y gwaith ymchwil yn Bloomington, Indiana. Gwnaethon nhw gyfarfod ei gilydd yn y cynhadledd am y tro cyntaf. Gynno fo ces i'r anrheg hyfryd. Bydd hi'n hwylus yn y gaeaf.

Thursday, May 7, 2009

diwedd y stori

200 x 3 : Dim canlyniad gêm rygbi ydy o ond nifer o fyfyrwyr yn yr ysgol optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae yna 200 o fyfyriwyr ac mae tri sy'n siarad Cymraeg yn eu mysg. Dydy'r un o'r tri wedi dod i'r gynhadledd yn Florida. Dydy'r un o'r athrawon yn siarad Cymraeg.

Mae fy ngwr wedi cyfarfod rhai ohonyn nhw o leia. Pwy a wyr? Hwyrach ceith o gyfle i gyd-ymchwilio efo nhw ac ymweld â'r Ysgol rywdro (gobeithio!)

Wednesday, May 6, 2009

teimlo'n braf

Am y tro cynta ers dechreues i "Tai Chi" pedwar mis yn ôl, roeddwn i'n teimlo mor braf ar ôl y dosbarth. Teimladau hollol newydd ydyn nhw. Roeddwn i wedi blino'n braf fel taswn i wedi cerdded am filltiroedd. Hwyrach mai dyna'r hyn Mr. Wu, y tiwtor yn sôn amdano'n aml:

"Peidiwch ddefnyddio'ch nerth. Gadewch eich egni tu mewn lifo drwy'ch cyrff, o'ch traed i'ch dwylo."


Monday, May 4, 2009

cerdded yn y glaw


Wnaeth crys Bluebirds fethu. Wnaeth fy ngwr ddim cyfarfod unrhyw Gymro neu Gymraes Gymraeg heddiw. Wel, mae yna ddeuddydd ar ôl nes iddo gychwyn ar y siwrnau adref.

Dim ots. Mae blodau'r derw wedi syrthio i lawr o'r diwedd. Es i am dro am y tro cynta ers wythnosau boed glaw neu beidio. Mae'n siwr bod yna ddim siawns i unrhyw baill hedfan yn y glaw beth bynnag.

O, roedd popeth mor wyrdd! Ac roedd y pethau cynefin yn y gymdogaeth yn edrych yn newydd. Mae'r ffordd newydd yn bron â chael ei gorffen. Bydd yna ragor o dai yn cael eu codi eto.

Sunday, May 3, 2009

dyma nhw!



Doedd dim rhaid i fy ngwr wisgo crys Bluebirds hyd yn oed. Daeth pump o athrawon Ysgol Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd ato fo! Mae gynno fo ffrind mewn prifysgol yn 'Belfast' ac fo a ddaeth â nhw at fy ngwr.

Yn anffodus, rhai di-Gymraeg o Loegr ydyn nhw i gyd, ond fel mae Jane Austen yn dweud, hwyrach medrai hyn gychywyn rhyw "fortunate alliance."

O.N.
Dw i newydd glywed gan fy ngwr fod o wedi cyfarfod mwy o Brifysgol Caerdydd! A dweud y gwir, mae yna *30* sy'n perthyn iddi hi! Ac mae yna fyfyrwyr hefyd. RHAID bod yna ambell i un neu ddau sy'n medru Cymraeg. Mae o'n mynd i wisgo ei grys Bluebirds yfory. Gobeithio y gwneith o dynnu sylw o'r gweddill o'r criw (yn enwedig y Cymry Cymraeg wrth gwrs!)

Saturday, May 2, 2009

arvo

Mae fy ngwr newydd adael am gynhadledd flynyddol ARVO (Association for Reseach in Vision and Ophthalmology) am wythnos. Yn Florida ceith hi ei chynnal eleni. Bydd yna 12,000 o bobl broffesiynol o ryw 40 o wledydd yn y byd.

Pam mod i'n sgrifennu am y pwnc braidd yn sych hwn? Dim ond un rheswm, hynny ydy mod i'n gobeithio y gwneith o gyfarfod rhai o Adran Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd, yr unig brifysgol yng Ngymru sydd gan adran optometreg. Wrth gwrs mod i ddim yn gwybod bydd yna rai ohoni hi. Ond pwy a wyr?

Er mwyn tynnu sylw ohonyn nhw bydd fy ngwr yn gwisgo crys Bluebirds a brynes iddo yng Nghaerdydd ddwy flynedd yn ôl, rhag ofn, chwarae teg iddo!

Gawn ni weld.

Friday, May 1, 2009

siom arall


Am siom. Roeddwn i'n hanner disgwyl gweld y Ddraig Goch prynhawn ma. Roedd yna seremoni i groesawu Arlywydd newydd y brifysgol leol. Ac roedd 28 baner o'r gwledydd eraill yn y neuadd yn cynrychioli'r myfyrwyr rhyngwladol yma. Dw i wedi clywed si wythnosau yn ôl bod hogia o Gymru wedi'u gweld yn llyfrgell y brifysgol. Myfyrwyr o Gymru! Heb imi wybod! Ond dim ond baner Prydain a weles i yn y neuadd fawr. Am siom.