Sunday, August 31, 2014

diwrnod mawr wedi gorffen

Cawson ni ddiwrnod braf ddoe. Wedi cinio mewn tŷ bwyta Mecsicanaidd, aethon ni i'r ysgol optometreg i dynnu lluniau. Roedd cysgod perffaith dan goeden fawr o flaen yr adeilad. Fy merch hynaf a drefnodd popeth fel arfer. Yna, aethon ni adref a bwyta'r cacennau penblwydd dw i wedi eu paratoi'r diwrnod cynt. Agorodd y tri eu hanrhegion. Aeth fy mab hynaf a'i gariad yn ôl i Texas neithiwr. Roeddwn i wedi blino'n lân ond yn fodlon.

Saturday, August 30, 2014

diwrnod mawr

Diwrnod mawr i'r teulu ydy hi heddiw, sef diwrnod i ddathlu tri phenblwydd. Daeth fy merch hynaf a'i gŵr o Norman; daeth fy mab hynaf a'i gariad o Texas. Mae'r tŷ yn llawn dop. Roeddwn i wrthi'n paratoi tair cacen neithiwr tra bod fy ail ferch yn rhoi "perm" i'w chwaer hŷn yn y gegin. Mae pawb yn cysgu'n hwyr y bore 'ma ond dylen ni dynnu llun ar gyfer ein llythyr Nadolig cyn mynd i dŷ bwyta. Wedyn byddwn ni'n bwyta'r cacennau, agor yr anrhegion cyn i fy ail ferch fynd i'r gwaith am dri o'r gloch yn y prynhawn! Bydd fy mab hynaf a'i gariad yn mynd yn ôl i Texas heno tra bydd fy merch hynaf a'i gŵr yn aros nes dydd Llun. 

Friday, August 29, 2014

ras gyntaf y tymor

Cynhaliwyd ras cross country gyntaf y tymor (4 cilometr) ar y cae ger yr ysgol ddoe. Rhedodd gannoedd o ddisgyblion o sawl ysgol yn yr ardal yn y prynhawn poeth. Roedd ein tîm ni wedi bod yn ymarfer yn galed drwy'r haf a chafodd ganlyniad hyfryd. Er bod ein hogyn cyntaf wedi dod yn ail, enillon ni ar y cyfan wedi llawer o'n hogiau ni wedi gorffen yn y deg cyntaf. Fe wnaeth fy mab ifancaf yn dda hefyd; torrodd o ei record ei hun. 

Thursday, August 28, 2014

cân grocodeil

Er mai hwiangerdd ydy hi, mae'n ofnadwy o anodd canu. Dw i'n hoffi'r alaw fodd bynnag. Dyma benderfynu ei dysgu'r pennill cyntaf neithiwr. Pan glywais i hi fisoedd yn ôl, doeddwn i ddim yn deall dim ar wahân i "ah les crocrocro les crocodiles," ond dw i'n falch i ddweud fy mod i'n deall mwy bellach a medru canu'n ara bach. Dysga' i nes medru canu'n rhwydd heb weld y geiriau.

Wednesday, August 27, 2014

gŵyl dŵr

Gŵyl hafaidd braf a gafodd ei chynnal yn Tokyo lle mae'r trigolion yn dioddef o dywydd ofnadwy o fwll. Cafodd cludwyr y mikoshi (teml gludadwy) yn cael eu trochi efo dŵr a daflwyd gan y bobl ar hyd y ffyrdd hyd yn oed gan ddiffoddwyr tân. Drueni bod yr ŵyl yn cael ei chynnal bob tair blynedd. Efallai na fyddai dawnswyr Awaodori yn meindio ymuno â nhw ar ôl eu perfformiadau! Diolch i Tokyobling am ei adroddiad.

Tuesday, August 26, 2014

7 mil o 20

Cafodd saith mil clo clap eu torri i ffwrdd oddi ar Bont Accademia yn Fenis ddoe gan weithwyr y ddinas. Mae 13 mil ar ôl. Bydd y staff yn dal i weithio am ddyddiau. Mae pob clo clap yn pwyso tua 100 gram; dydy hi ddim yn anodd dychmygu'r pwys mae'r bont bren druan yn gorfod cario yn ychwanegol ar ben y nifer mawr o dwristiaid sydd yn cerdded arni hi bob dydd. Fel mae'r Commissario Zappalorto yn dweud, dim arwydd cariad ydy clymu clo clap ar bont ond sarhad i'r gymuned.

Monday, August 25, 2014

crysau charlie chen

Mae'r gŵr yn cael hi'n anodd ffeindio crysau sydd yn ei ffitio. Daeth o hyd i deiliwr Tsieineaidd medrus (Charlie Chen) yn Tokyo ryw 20 mlynedd yn ôl ac archebu dwsin o grysau. Roedden nhw'n ei ffitio'n berffaith dda. Archebodd ychwanegol pan aeth i Japan wedyn, i fab y teiliwr sydd cystal â'i dad. Er eu bod nhw'n gwrthsefyll nifer mawr o olchi dros flynyddoedd a chadw siâp yn braf, cyrhaeddodd ddiwedd y bywyd un ar ôl y llall, a dim ond pedwar sydd ar ôl bellach. Mae'n anhygoel bod nhw'n para cyhyd beth bynnag. (Wrth gwrs nad ydw i byth yn taflu hen ddillad yn y bin ond eu defnyddio fel cadach glanhau.) 

Saturday, August 23, 2014

dosbarth ffrangeg

Cafodd fy merch le yn y dosbarth Ffrangeg yn y brifysgol yn sydyn iawn. Doedd hi ddim yn gwybod amdano fo tan yn ddiweddar ac felly roedd o'n llawn yn barod ond fe wnaeth yr athro le iddi. Er Americanwr ydy'r athro, mae o'n rhugl ac yn dysgu'r dosbarth yn Ffrangeg y rhan fwyaf o'r amser. Mae fy merch eisiau ymweld â Ffrainc tra bydd hi yn Abertawe ac felly mae hi wrthi. 

Friday, August 22, 2014

poster newydd


Mae fy merch hynaf yn dal i gyfrannu tuag at Heddlu Norman fel gwirfoddolwr. Creu poster recriwtio oedd un o'i gwaith oedd o. Cafodd hi ei chomisiynu i newid y llun yn ddiweddar oherwydd bod y plismon yng nghanol y poster wedi symud i heddlu arall. Roedd hi wrthi am dipyn ac mae hi newydd orffen. Tynnodd hi lun o blismon arall a'i "ffotosiopodd" o ar y llun. Mae'r llun ar ben tudalen Face Book Heddlu Norman a chael cynifer o adborthion ffafriol.

Thursday, August 21, 2014

jane austen yn eidaleg

Dw i ddim yn gwybod pam. Mae eisiau arna i ddarllen Jane Austen eto. Darllenais bob un o'i nofelau a llawer o lyfrau amdani hi flynyddoedd yn ôl. Ffefryn y teulu ydy hi hefyd ac felly mae ei geiriau ffraeth yn cael eu dyfynnu'n aml wrth i ni siarad efo'n gilydd. Dw i eisiau ei darllen yn Eidaleg y tro 'ma; des o hyd i'r wefan hyfryd, sef Falchder a Rhagfarn yn ddwyieithog; mae'r ddwy fersiwn ochr yn ochr ar yr un tudalen. Hwrê!

Wednesday, August 20, 2014

chwynnu

Mae'n anodd credu pa mor nerthol ydy'r chwyn. Wedi i'r blodau gorffen, rhaid cyfaddef fy mod i'n esgeuluso'r gwely gellysg. Yna mi welais yn sydyn bron fod yna goeden fach yn tyfu yno! Gwisgais mewn gwisg amddiffyn gan unrhyw bryfed sydd yn hedfan neu gropian,  dyma daclo'r chwyn sydd wedi meddiannu'r gwely. Mae o'n edrych yn llawer gwell bellach. Dylwn i weithio'n galetach o hyn ymlaen.

Tuesday, August 19, 2014

gwyliau yn rhufain

Fe wnes i wylio'r ffilm glasurol hon efo'r plant neithiwr. (Fe wyliais i hi wedi'i throsleisio'n Japaneg amser maith yn ôl yn Japan.) Roedd Audrey Hepburn yn hynod o brydferth ac mae'r stori'n ddiddorol wedi'r cwbl; annisgwyl i fy mhlant oedd y diwedd. Roedd fy ail ferch wrth ei bodd yn gweld y lleoedd mae hi wedi ymweld â nhw. Mwynheuon ni'n fawr iawn. 

Monday, August 18, 2014

coginio "gyoza"

Mae'n flasus heb os, ond dw i ddim yn ei goginio'n aml oherwydd ei fod o braidd yn drafferthus paratoi. Ac felly dim ond unwaith neu ddwy'r flwyddyn bydda i'n ei goginio. Penderfynais ei goginio i swper neithiwr fodd bynnag wedi clywed bod fy mab ifancaf wedi dweud wrth y dosbarth mai gyoza ydy ei hoff fwyd pan ofynnwyd gan yr athro. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod o'n ei hoffi cymaint. Cawson ni blatiau o gyoza ac roedd pawb yn hapus.

Sunday, August 17, 2014

darlunio

Gofynnodd y gŵr i mi ddarlunio rhywbeth i'w gylchlythyr optometreg. Llygad oedd o sydd yn dangos cyflwr myopia. Ceisiodd ddefnyddio cyfrifiadur ond methu, ac felly gofynnodd imi ddarlunio efo llaw. Mi wnes i ddefnyddio tun o sydd llysiau a phethau o gwmpas y tŷ. Mae'n edrych braidd yn dda er fy mod i'n dweud fy hun! Ceith y llun ei argraffu yn ei gylchlythyr nesaf dros y cwmni yn Japan.

Saturday, August 16, 2014

cyfyng-gyngor

Mae ci'r cymydog drws nesaf yn neidio i mewn ein hiard ni dros y ffens yn aml. Pan oeddwn i wrth y ffenestr y bore 'ma, fe welais o'n rhedeg yn hapus a neidio ar y dec cefn hyd yn oed a snwffian yma ac acw. Dyna'r lle mae'n moch cwta ni'n aros pan fod y tywydd yn braf. Pan gwynon ni wrth y cymydog o'r blaen, dechreuon nhw gadw'u ci ar y tennyn byr yn eu hiard sydd yn nadu'n druenus drwy'r amser. Yn amlwg ei fod o'n mynd yn rhydd bellach. Dw i mewn cyfyng-gyngor. 

Friday, August 15, 2014

newid

Fe ddaeth y gŵr yn ôl yn ddiogel ddoe wedi treulio rhyw ddeg diwrnod yn helpu ei rieni i symud o Hawaii i Las Vegas. Caeodd o ddrws tŷ'r rhieni am y tro olaf lle roedden nhw'n byw am 44 mlynedd. Efallai na fydd cyfle iddo fynd i Hawaii mwyach. Mae'r rhieni'n cael hi'n anodd byw mewn amgylchoedd hollol wahanol; gobeithio y bydden nhw'n setlo i lawr cyn hir a gobeithio hefyd cawn ni i gyd gyfle i ymgasglu am y tro cyntaf ers chwarter canrif.

Thursday, August 14, 2014

pasta efo brocoli

Luca Pappagallo ydy fy hoff gogydd. Dw i'n hoffi ei fodd cynnil, hyd yn oed swil o siarad wrth iddo ddangos ei ryseitiau. Coginiais ei basta efo brocoli i swper ddoe. Rysáit hynod o hawdd ydy hi (dw i'n licio'r syniad o goginio'r pasta a'r brocoli ar yr un pryd.) Roedd yn flasus iawn hefyd. Doedd pasta orecchiette ddim ar gael, ac felly roedd rhaid defnyddio pasta cragen. Dw i'n siŵr y bydda i'n coginio hwn yn aml o hyn ymlaen.

Wednesday, August 13, 2014

diwrnod cyntaf yr ysgol

Mae'r ysgolion yn dechrau'r tymor newydd heddiw wedi'r gwyliau haf hir. (Wythnos nesa bydd y brifysgol yn cychwyn.) Efo dosbarthiadau, gweithgareddau amrywiol a gwaith rhan amser y tri phlentyn, rhaid trefnu'r cludiant yn ofalus. Mi fyddai'n dda gen i pe bai cludiant cyhoeddus hwylus ar gael yma!

Tuesday, August 12, 2014

gŵyl awaodori

Tra bod Tokyobling wrthi'n postio Awaodori (dawnsio gwerin o Tokushima) yn Tokyo, mae Gŵyl Awaodori newydd gychwyn yn Tokushima, lle gwreiddiol y dawnsio bywiog a phoblogaidd. Mae hi'n para am bedwar diwrnod  yn tynnu lluoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae'r dref yn gorlifo efo'r dawnswyr a'r cynulleidfaoedd yn llythrennol yn ystod yr Ŵyl. 

Monday, August 11, 2014

gadael hawaii

Mae rhieni fy ngŵr newydd symud i fyw efo'u mab ifancaf a'i wraig yn Las Vegas. Roedd eu hiechyd yn mynd yn rhy wael iddyn nhw fyw ar ben eu hun bellach. Er bod ni i gyd yn falch bod nhw'n cael gofal braf o hyn ymlaen, dan ni'n gwybod mai moment trist iddyn nhw adael i'w tŷ o 44 mlynedd yn Hawaii. Mi ddoith y gŵr adref yn fuan ar ôl gwneud y gwaith angenrheidiol ar y tŷ.


Sunday, August 10, 2014

marco valdo

Wedi cael fy argymell gan Ida, fy nhiwtor Eidaleg yn Fenis, prynais gopi o Marco Valdo gan Italo Calvino. Dwedodd hi fod bron pob plentyn Eidalaidd yn darllen y nofel hon o leiaf unwaith yn yr ysgol, ac mae yna symbolaeth o dan ddisgrifiadau doniol. Rhyw ugain o straeon byr ynglŷn Marco Valdo, gweithiwr heb sgiliau sydd gan deulu mawr ydy'r nofel. Mae pob stori'n unigryw a welwyd gan safbwynt unigryw Marco Valdo er bod popeth yn digwydd o gwmpas ei fywyd beunyddiol. Ces i fy nghyfareddu ganddyn nhw. Fedra i ddim peidio meddwl amdano fo pryd bynnag gwela' i gacynen neu fadarch ddyddiau hyn.

Saturday, August 9, 2014

gwaeth na fenis

Mae fy ail ferch yn uwchlwytho o ychydig o luniau ar y tro a dynnodd yn Ewrop. Hwn ydy un o'r diweddaraf - pont druan ym Mharis. Mae'r sefyllfa'n waeth na Fenis. Clywais fod rhaid i'r bont honno gael ei hailgodi oherwydd bod hi wedi cael ei difrodi gan ormod o bwysau. Pam na wnaeth y ddinas dorri'r cloeon clap i ffwrdd cyn iddyn nhw achosi'r cymaint o broblem, fel maen nhw'n ei wneud yn Fenis? 

Friday, August 8, 2014

tokyo ym mis awst

Wir i chi. Mae'n ofnadwy o boeth ac yn fwll ym mis Awst yn Tokyo. Nad oedd gen i air-conditioner pan oeddwn i'n byw yno, ac roeddwn i'n dioddef y mis cyfan. Ac felly na fydda i eisiau mynd neu argymell neb i ymweld â Tokyo y mis hwnnw. Mae'n hollol resymol i Patrick (blogiwr arall Eidalaidd) i rybuddio pobl i beidio mynd yno ym mis Awst. Yn ddiweddar, fodd bynnag, dw i ddim yn hollol bendant wedi darllen cynifer o byst am Awaodori gan Tokyobling. A dweud y gwir doeddwn i erioed wedi gweld y dawnsio gwerin bywiog hwnnw. (colled fawr!) Efallai na fyddwn i'n teithio i Japan er mwyn ei weld, ond byddwn i wrth fy modd os bydd cyfle hyd yn oed ym mis Awst.

Thursday, August 7, 2014

melon dŵr a thomatos

"Tyrd i brynu'n melonau dŵr ni," meddai ffrind sydd gan ardd helaeth o bob math o ffrwythau a llysiau. A dyma fynd brynhawn ddoe a phrynais felon dŵr du, enfawr. Mae'r croen yn galetach na'r lleill ac felly roedd yn dipyn o waith i'w dorri o yn y modd newydd a sgrifennais amdano. Roedd o'n flasus iawn beth bynnag. Ces i domatos hefyd yn rhad ac am ddim. 

Wednesday, August 6, 2014

ailddarganfod japan

Wedi dod o hyd i'r blogwyr Eidalaidd (ac un o Sweden) sydd yn caru a nabod Japan llawer mwy na'r Japaneaidd eu hun, dw i'n sylweddoli unwaith eto bod yna gynifer o lefydd bendigedig yno dw i erioed ymweld â nhw. Pan oeddwn i yn Japan yn ddiweddar, roeddwn i'n treulio'r rhan fwyaf o fy amser efo fy mam yn ei fflat, felly nad oedd siawns i mi deithio'n helaeth. Efallai gofynna' i am ddiwrnod neu ddau i ffwrdd i fi fy hun y tro nesaf, a mynd i rai llefydd braf a ddisgrifiwyd yn y blogiau hyn. 

Tuesday, August 5, 2014

cartwnydd o'r almaen

Dw i newydd glywed am Carolin Eckhardt o'r Almaen. Hi ydy'r awdures manga sydd wrthi'n creu cyfres, sef Okusama Guten Tag (Bore da, Madam) yn Japaneg. Hanes Almaenes sydd wedi priodi gŵr Japaneaidd ydy o. Mae'n swnio'n hynod o ddiddorol; dw i'n bwriadu prynu copi pan af i Japan eto. Ces i fy nharo gan ei Japaneg ar You Tube; mae hi'n hollol rugl heb fymryn o acen estron a hithau'n cael ei magu yn yr Almaen.

Monday, August 4, 2014

tri lle hyfryd yn tokyo

Mae Daniela'n dal i sgrifennu pyst diddorol a defnyddiol ynglŷn Japan. Ei phost diweddara oedd tri lle hyfryd i ymweld â nhw'n rhad ac am ddim yn Tokyo, sef Tokyo Metropolitan Government Building Observatories, parciau (Ueno, Yoyogi) a Yebisu GardenPlace. Dim ond y parciau dw i erioed wedi ymweld â nhw amser maith yn ôl. Mae popeth yn swnio mor hyfryd fel cododd chwant arna i fynd yno! Peth diddorol ydy bod yna Eidalwyr sydd yn caru Japan a breuddwydio teithio a hyd yn oed symud i fyw yno tra bod yna Japaneaidd sydd gan yr un chwant am yr Eidal. 

Sunday, August 3, 2014

y modd gorau i dorri melon dŵr

Mi wnaeth weithio! Mi wnes i dorri melon dŵr yn ôl y cyfarwyddiadau neithiwr. Roedd yn hynod o hawdd ei bwyta; cafodd y teulu hwyl fel gwelir yn y llun. Fel arfer mae bwyta melon dŵr yn creu llanast ac felly dw i'n cael gwared ar y croen a thorri'r ffrwyth yn giwbiau i'r teulu. Mae'r modd hwn yn datrys y broblem i gyd.

Saturday, August 2, 2014

y lawnt twt

O'r diwedd mae'r peiriant torri lawnt wedi cael ei drwsio. Wedi'r ddamwain ofnadwy, doeddwn i ddim eisiau gofyn i neb i dorri'n lawnt ni. Mae pawb yn y dref yn cael problemau efo'u peiriannau mae'n ymddangos fel cymerodd gynifer o amser i'r siop i wneud y gwaith. Roedd fy mab ifancaf wrthi'n gweithio yn yr ardd flaen a chefn ddoe ac mae popeth yn edrych yn dwt iawn. (roedd o'n rhedeg wrth wthio'r peiriant i dorri record!) 

Friday, August 1, 2014

trochi mewn ieithoedd

Dw i'n ceisio gwrando ar fy iPod cyn amled a bo modd, hynny ydy, yn Eidaleg ac yn Ffrangeg tra fy mod i'n gwneud gwaith tŷ neu yrru o gwmpas y dref. Fe wnes i newid iaith You Tube a Face Book yn Eidaleg. Pan fydda i'n googlo, bydda i'n ceisio defnyddio Eidaleg oni bai'r pwnc yn rhy gymhleth. Bydda i'n defnyddio ryseitiau Eidaleg hefyd, (ond y broblem ydy bod yna fwy amrywiaeth ohonyn nhw yn Saesneg.) Falch iawn o wybod bod Federica sydd gan flog hyfryd i ddysgu Japaneg i'r Eidalwyr, yn gwneud yr un peth, ond mae hi'n gwneud llawer mwy na fi. Rhaid i fi ddilyn ei hesiampl!