Tuesday, December 27, 2022

her

Penderfynais ymuno â fy merch i baentio lluniau dyfrlliw ddoe. Mae hi'n dysgu ar lein ers misoedd, ac mae hi'n dda iawn erbyn hyn. Roeddwn i'n arfer gwneud hyn amser maith yn ôl, ond tipyn o her oedd y dull hwn. Gobeithio y bydda i'n gwella o dipyn i bell.

(ar y chwith - fy un i)

Monday, December 26, 2022

moddion ceffyl

Wedi dod adref am y tro cyntaf ers tair blynedd, cafodd fy ail ferch ei tharo gan Govid. Roedd hi'n ofnadwy o wael, ond ar ôl cymryd Ifermectin (gelwir yn foddion ceffyl gan rai,) dechreuodd wella'n gyflym. Mae hi'n teimlo'n ddigon gwell bellach i baentio hyd yn oed.

Sunday, December 25, 2022

y newydd da


"Yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i'r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw'r Meseia, yr Arglwydd."

Nadolig Llawen

Saturday, December 24, 2022

bachgen arbennig

Canys bachgen a aned i ni,
mab a roed i ni,
a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn,
Tad bythol, Tywysog heddychlon."
Eseia 9:6

Friday, December 23, 2022

sylwedd y nadolig


Mae brawd y gŵr yn postio ei hoff fideo hwn bob Nadolig. Gwylion ni o yn ei dŷ yn Las Vegas flynyddoedd yn ôl hefyd. Mae Linus yn iawn. Hyn ydy sylwedd y Nadolig wedi'r cwbl.

Thursday, December 22, 2022

cynnes braf

Mae storm aeaf arnon ni, wedi dyddiau o gyfnod cynnes. Daeth y mab ifancaf adref neithiwr yn hytrach na dydd Gwener wrth ei gwmni gau heddiw oherwydd y tywydd garw. Dan ni'n gynnes braf yn y tŷ fodd bynnag, gyda'n stôf llosgi coed ni. Diolch i'r ynni gwyrdd, hollol naturiol, organig ac adnewyddadwy.

Wednesday, December 21, 2022

sefyll yn ddewr

"Er mwyn gwneud America'n wych eto mae'n rhaid i ni ddechrau trwy wneud America'n dduwiol eto."

Cytuno’n llwyr gyda Jackson Lahmeyer. Mae gormod o Gristnogion wedi cyfaddawdu â'r byd.

Tuesday, December 20, 2022

neges y nadolig


Mae'n annhebygol i Iesu gael ei eni ym mis Rhagfyr oherwydd nad ydy'r bugeiliaid yn aros mewn cae gyda'u prudd yn ystod y gaeaf. Beth bynnag y traddodiad, y peth pwysicaf ydy bod yr hollalluog Dduw wedi dod i'r byd yn fabi bach, a chael ei eni mewn stabl hyd yn oed er mwyn achub y byd.
"Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol."

Monday, December 19, 2022

chanukah


Gweddïaf y bydd pobl Israel yn dod i adnabod Goleuni'r Byd wrth iddyn nhw ddathlu Gŵyl y Goleuni.

Chanukah Hapus.


Friday, December 16, 2022

amnewidyn cig


Datblygodd ffermwr gwartheg broses arloesol yn troi planhigion yn gig, yn ôl y Wenynen. Mae'n hollol naturiol, organig ac yn blasu'n wych. Gwrandewch y newyddion! Da iawn eto, y Wenynen!

Wednesday, December 14, 2022

y modd symlaf a rhataf

Dw i a'r gŵr newydd benderfynu ar drefniadau wedi i ni farw. Roedden ni'n bwriadu rhoi'n cyrff ni at drawsblaniad neu ymchwil meddygol o'r blaen. Siaradodd y gŵr â staff cartref angladd heddiw, fodd bynnag, a ffeindio pa mor gymhleth byddai'r gwaith papur i wneud hynny. Mae'n ymddangos bod y modd symlaf a rhataf ydy gadael popeth i gartref angladd. Byddwn ni'n anghofio am ein cynllun gwreiddiol. Bydd y staff yn gofalu am bopeth gan gynnwys y gwaith papur, trin y corff, amlosgiad, mynd â'r llwch at y fynwent filwrol gerllaw. Na fydd rhaid i'r teulu wneud dim byd ond cysylltu â'r staff. Na fyddwn ni eisiau angladd na seremoni atgoffa chwaith. 

Tuesday, December 13, 2022

anrheg bresenoldeb


Mae pawb yn prysur brynu anrhegion yn yr adeg hon. Roeddwn i a'r teulu'n arfer rhoi anrhegion at ein gilydd (sawl yr un) bob Nadolig. Roedd yn braf gweld cyffro'r plant (hyd at eu hoedolaeth) wrth agor yr anrhegion. Penderfynon ni, fodd bynnag, beidio â'i wneud o flynyddoedd yn ôl. Yn lle, dan ni'n mwynhau'r cwmni, a chael pryd o fwyd yn llon. Enwodd fy merch hynaf hyn yn anrheg bresenoldeb. Syniad gwych ydy hi. Does angen treulio amser i feddwl am anrhegion, ond ymlacio wrth ymgasglu.

Monday, December 12, 2022

golygfa'r geni

Cafodd fy mab ifancaf ran bugail yn ystod â noson o hwyl yn ei eglwys. Roedd o, ynghyd ag angylion, Mair, Joseff, milwyr Rhufeiniaid a Magi yn perfformio golygfa'r Geni. Aeth rhyw ddwy gant o bobl at yr eglwys, a mwynhau'r olygfa a bwyd da.

Saturday, December 10, 2022

ffatri fach

Mae'r gŵr newydd brynu teclyn rhyfeddol sydd yn ailgylchu bwledi pedair gwaith cyflymach na'r hen un. Lluniodd fwrdd gwaith gan ddefnyddio hen fwrdd bwyta hefyd. Mae ganddo ffatri fach bellach!

Friday, December 9, 2022

teimlo'n hunanymwybodol

Dw i'n mwynhau cracio cnau hicori bob dydd. Mae'r tymor bron â gorffen, ond mae coeden y cymydog yn dal y ffrwyth ar y canghennau ac mae hi'n ei ollwng bob dydd. Dw i'n sicr bod y cymydog yn fy ngweld i o'i ffenestr yn casglu'r cnau ar y stryd o flaen ei dŷ! 

Wednesday, December 7, 2022

beibl awdio


Dw i'n hoffi gwrando ar ddarlleniad y Beibl, ond heb gerddoriaeth yn y cefndir fel arfer. Des i ar draws hwn fodd bynnag, sef fersiwn newydd Brenin Iago, wedi'i ddramateiddio. Ces i fy synnu'n ei ffeindio'n dda iawn. Mae'n syniad gwych i wrando neu ddarllen y Beibl heb boeni am benodau weithiau hefyd. Cewch chi olwg gyffredinol o bob llyfr.

Tuesday, December 6, 2022

a+


Ces i A+, gan fy neintydd y bore 'ma! Pan es i ato fo dair wythnos yn ôl, dwedodd fod yna haint ar y gwm, ac efallai byddai angen triniaeth (boenus!) Dechreuais ar yr unwaith fflosio'r dannedd yn drylwyr teirgwaith bob dydd yn gobeithio byddai'r cyflwr yn gwella. Ar ôl gweld yn fy ngheg yn fanwl heddiw, dwedodd o fy mod i wedi gwneud y gwaith yn ardderchog, a does dim haint bellach! "Mi gei di A+," meddai!

Monday, December 5, 2022

set y geni

Yng nghyffro’r digwyddiad hapus teuluol diweddar, roeddwn i'n anghofio'n llwyr i ddod allan addurn y Nadolig o'r cwpwrdd nes mynd i'r eglwys ddoe. Dyma fo! Fy hoff set y Geni a wnaed gyda llaw gan Judy o Loegr.

Friday, December 2, 2022

cynnes braf

Dan ni newydd ddechrau ddefnyddio'r llosgwr logiau. Hwn ydy'r modd braf i gynhesu'r cyrff yn llwyr, heb sôn am sychu'r dillad, a choginio. Prynodd y gŵr logiau wedi'u torri eleni i osgoi'r llafur trwm ac arbed amser. Dim rhad oedd y pris ond dw i'n sicr byddan nhw'n rhatach na'r trydan a nwy'r gaeaf yma. Mae gynnon ni ddigon i bara nes y gwanwyn hefyd. Dyma'r gŵr wrthi'n gwneud ei hoff weithgaredd gaeafol.

Tuesday, November 29, 2022

math o ailgylchu

Tra fy mod i'n casglu cnau yn y gymdogaeth, dyma'r gŵr yn gwneud peth tebyg. Casglu bwledi gwag wedi cael eu defnyddio ar gae saethu mae o. Yna, bydd o'n eu golchi, eu sychu, a'u llenwi gyda phowdwr gwn. Byddan nhw'n barod i gael eu saethu unwaith eto. Math o ailgylchu ydy hyn. 

Monday, November 28, 2022

meseia


Tra oedd y gŵr oddi cartref, roeddwn i'n gwrando ar awdio amrywiol wrth wneud y gwaith tŷ, ayyb. Un o fy ffefryn oedd Meseia gan Handel. Mae perfformiadau gan nifer o gerddorfeydd enwog ar gael ar y we. Hon ydy'r gorau yn fy nhyb i, sef Côr Coleg y Frenhines yn  Rhydychen. Dw i'n hoff iawn o'r soprano honno sydd yn rowlio ei "r" yn fedrus.

Saturday, November 26, 2022

roedd pawb yn hapus

Wedi teithio am 21 awr, daeth y gŵr a'r mab ifancaf adref yn ddiogel neithiwr. Mae gen i fwy o luniau o'r seremoni briodas bellach. Hyfryd clywed mai achlysur hynod o hapus i bawb oedd. (Roedd y bwyd yn ardderchog hefyd oherwydd mai mewn tŷ bwyta Eidalaidd a gynhaliwyd y seremoni a'r parti.)

Friday, November 25, 2022

ymlacio'n llwyr

Cafodd y gŵr a'n mab ifancaf ni amser anhygoel o dda yn Japan. Ar wahân i fod gyda'r teulu, roedden nhw'n cael mwyhau bwyd a llefydd hardd ac unigryw. Un ohonyn nhw ydy Spadium Japon - adeilad enfawr sydd yn cynnwys nifer o faddonau, gwelyau, clustogau, bwyd blasus, adloniant amrywiol, a llawer mwy. Cewch chi dreulio diwrnod cyfan yno'n ymlacio. 

Thursday, November 24, 2022

diolchgarwch

"Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw."

Wednesday, November 23, 2022

2 - 1


Curodd Samurai Blue yr Almaen! Welais i mo'r gêm gyfan, ond roedd y teulu yn Texas a Tokyo yn gyrru neges yn gyson ata i yn ystod y gêm. Gweld yr uchafbwynt a wnes i fodd bynnag. Roedd y ddwy gôl Japan yn anhygoel!

Tuesday, November 22, 2022

ymweld â fy mam

Ar ôl y seremoni briodas hyfryd, mae'r teulu'n mwynhau eu gwyliau yn Japan. (Mae'r cwpl newydd briod ar eu mis fêl wrth gwrs.) Aethon nhw i ymweld â fy mam yn y cartref henoed yn gyntaf. Dim ond drwy ddrws gwydr yn anffodus oherwydd yr hen gyfyngiadau. O leiaf, roedd fy mam yn cael gweld nhw, a chyfnewid rhyw eiriau.

Monday, November 21, 2022

clipiau fideo'r briodas

Gyrrodd fy merch ryw glipiau fideo'r briodas i mi. Dw i'n hynod o hapus fy mod i'n cael gweld y moment pwysig a gollais - ei hymddangosiad cyntaf gyda'i thad, a thorri'r gacen. Clywais fod pentwr o luniau wedi cael eu tynnu ddiwrnod hwnnw. Edrych ymlaen at eu gweld nhw'n fuan!

Saturday, November 19, 2022

seremoni briodas


Cynhaliwyd seremoni briodas fy merch yn Tokyo ddydd Sadwrn. Roedd problem dechnegol gyda llif byw, a ches i ond cip sydyn arni. Ac eto, roedd yn hyfryd! Atebodd Duw gweddïau nifer o bobl, a thywallt ei fendith ar bawb a phopeth. Dw i'n bwriadu clywed hanes llawn cyn hir.

Friday, November 18, 2022

newyddion drwg i'r gwiwerod yn y gymdogaeth

Wedi darganfod bod hi'n iawn bwyta cnau hickory yn amrwd, dw i'n prysur gasglu mwy a'u cracio nhw bob dydd. Diolch i ddyfeisied hynod o glyfar y gŵr, dw i'n cael eu cracio nhw yn hawdd iawn. Mae'n dal i gymryd llawer o amser i dynnu'r cig oddi wrth y cregyn, ond dw i'n gwrando ar ryw awdio tra fy mod i'n gweithio. Mae'n hwyl dros ben.

Thursday, November 17, 2022

cwpan arall

Mae gen i ddigon o gwpanau coffi, dw i'n gwybod. Ces i bres yn anrheg penblwydd gan un o fy merched, fodd bynnag. Wedi meddwl yn hir, penderfynais brynu un arall. Mae o'n hardd gyda lluw unigryw. Gwnaed gan ddynes o Colorado ydy o. Dw i'n hollol fodlon. Helpais fusnes bach America hefyd!

Wednesday, November 16, 2022

2024



Y newyddion gwleidyddol gorau a glywais yn ddiweddar! Cyhoeddodd y Cyn Arlywydd Trump ei benderfyniad i fod yn ymgeisydd ar gyfer Arlywydd yr Unol Daleithiau. "Am y trydydd tymor" yn ôl y Wenynen! Gwir ydy hi yn y bôn, a dweud y gwir oherwydd bod ei ail fuddugoliaeth wedi cael ei dwyn yn 2020. Dylai fo brwydro yn erbyn gwrthwynebiadau erchyll, nid dim ond gan y Democratiaid ond y Gweriniaethwyr Ffug, y prif gyfryngau, pobl fawr tu mewn/allan, a mwy. Dim ots! Mae ganddo gefnogaeth filiynau o wladgarwyr America!

Tuesday, November 15, 2022

prynu siwtiau

Mae'r gŵr a'n mab ifancaf ni newydd gyrraedd Japan. Aethon nhw i fynychu seremoni briodas un o'n merched a gynhalir y 19eg. Mae manylion i'w gorffen o hyd. Un ohonyn nhw oedd prynu siwtiau i'r tri dyn ifanc gan gynnwys y priodfab ei hun. Llwydodd y ddau - y priodfab a fy mab ifancaf (er fy mod i'n synnu bod gan y siop siwt sydd yn ffitio hogyn mor dal.) Roedd yn anodd ffeindio un i fy mab-yng-nghyfraith oherwydd ei fod o'n gyhyrog iawn. Dwedodd ei wraig ei fod o wedi gwneud gormod o bench press!

Monday, November 14, 2022

y medd


Dw i wedi clywed am y medd o'r blaen. Roeddwn i'n meddwl mai ond diod y canoloesol oedd. Doeddwn i ddim yn gwybod bod ganddo hanes hir iawn. Cael ei eplesu o fêl, mae o'n gwneud lles i chi hefyd. Dyma brynu potel mewn siop leol. Fedra i ddim clywed blas o hyd, ond mae'n ymddangos yn dda. Penderfynais a'r gŵr, sydd ddim yn hoffi diodydd meddwol fel arfer, gael sipian bob dydd.

Saturday, November 12, 2022

swper rhad ac am ddim


Roedd siop leol yn cynnig pryd o fwyd yn rhad ac am ddim i'r holl venetans yn y dref ddoe. A dyma i'r gŵr gymryd mantais ar y cyfle yn ddiolchgar, a chael swper o gyw iâr wedi'r ffrio, tatws stwns, ffa gwyrdd, a bara menyn. 

Friday, November 11, 2022

diwrnod cyn milwyr

Diolch i'r holl gyn milwyr am eich ymroddiad i'n cenedl ni.

Wednesday, November 9, 2022

anrheg penblwydd

Ces i anrheg penblwydd hyfryd; enillodd Kevin Stitt a'r ymgeiswyr yn Oklahoma dw i a'r gŵr wedi eu cefnogi. Roedd gwrthwynebwr Stitt, gyda chefnogaeth nerthol allanol, wrthi'n ymgyrch drwy ei bardduo. Cawson ni ganlyniad gwych, fodd bynnag, diolch i drugaredd yr Arglwydd. Nid felly mewn rhai taleithiau. Dyled fynnu cael cyfri pleidleisiau onest.

Tuesday, November 8, 2022

etholiad


Mae gan bobl America gyfle i fynegi eu barn yn erbyn y llywodraeth gyfredol heddiw. Cawn ni ddisgwyl tonnau enfawr cochion os na fydd twyll yn yr etholiad. Wedi annog ar ffôn bron i 300 o bobl i bleidleisio dros Kevin Stitt, aeth y gŵr i fwrw ei un o. 

Monday, November 7, 2022

kabuki

Aeth fy merch i Kabukiza yn Tokyo i weld sioe arbennig. Y sioe gyntaf gan Ebizo Ichikawa sydd newydd etifeddu enw ei dad yn y teulu, sef Danjuro. Ei fab 9 blwydd oed sydd newydd etifeddu enw arall, sef Shinnosuke, ydy'r prif berfformiwr arall. Cafodd fy merch sedd yn y rhes gyntaf, drwy ffrind! A dyma hi'n treulio rhyw ddwy awr mewn breuddwyd bron. Dwedodd hi ei bod hi'n medru clywed anadl garw Danjuro a gweld ei chwys ar ei dalcen hyd yn oed.

Saturday, November 5, 2022

ffonio 300 o bobl

Wrth i ddiwrnod yr etholiad nesáu, mae'r gŵr wedi ymuno â'r gwirfoddolwyr eraill, ac yn gwneud galwadau ffôn dros Kevin Stitt, Llywodraethwr cyfredol Oklahoma. Mae o i alw 300 o bleidleiswyr Gweriniaethol cofrestredig, a'u hannog nhw i bleidleisio dros Kevin Stitt. Dim tasg bleserus ydy hi wrth gwrs, ond mae o eisiau ymdrechu er lles Oklahoma ac America. Er mawr syndod i drigolion y dref fach yma, daeth y llywodraethwr ei hun i gyfarfod ei gefnogwyr ddoe. A chafodd y gŵr gyfle i siarad â fo.

Friday, November 4, 2022

dinas narita

Mae fy merch hynaf a'i gŵr newydd gyrraedd Japan, a mwynhau Dinas Narita sydd yn agos iawn at y maes awyr. Wedi hedfan yn hir, mae'n syniad gwych yn lle dal y trên neu fws i geisio cyrraedd y cylchfan yn syth. Mae gan y ddinas a'r deml yno gysylltiad agos at deulu Ebizo Ichikawa. Mae fy merch wrth ei bodd yn naturiol. Byddan nhw'n aros yn Japan tan ganol mis Rhagfyr.

Wednesday, November 2, 2022

arweinydd cryf


Hyfryd gwybod bod Benjamin Netanyahu wedi ennill yr etholiad. Efallai bod pobl Israel wedi cael digon, yr union fel pobl America wedi cael digon gyda'r llywodraeth gyfredol. Ar ôl cyfnod Sabothol, rhaid ei fod o'n barod i daclo'r her bellach. Llongyfarchiadau mawr iddo fo!

Monday, October 31, 2022

cnau rhad ac am ddim

Mae coed hickory yn cynhyrchu tunnell o gnau eleni. Casglais lond bag yn y gymdogaeth. Rhostiais i nhw yn y popty ar ôl eu golchi mewn dŵr finegr. Maen nhw'n faethlon ac yn rhad ac am ddim, ond mae'n cymryd cymaint o amser i wahani'r cig o'r cregyn. Dw i'n mynd i adael y gweddill i'r gwiwerod.

Saturday, October 29, 2022

arwydd swyddogol

O'r diwedd, cawson ni arwydd swyddogol Kevin Stitt. Clywais fod ymgyrch ei wrthwynebydd yn cael ei ariannu'n hael gan y bobl fawr tu allan i'r dalaith. Dalen ni ddal ati'n wyliadwrus.

Friday, October 28, 2022

gyda Iesu

Dw i newydd ddod yn ôl o seremoni goffa aelod fy eglwys, eto. Cafodd John, 74 oed drawiad ar y galon, a fu farw yn y fan a'r lle'r wythnos diwethaf. Aeth at yr Arglwydd Iesu ar yr unwaith. Mae'r teulu a'i ffrindiau agos mewn sioc yn naturiol oherwydd ei fod o wedi mynd mor sydyn. Ond eiddigeddus ohono fo ydw i. Byddwn i eisiau ei ddilyn o, os yn bosib.

Wednesday, October 26, 2022

bygythiad i ddemocratiaeth

Democratiaeth, y Cyfansoddiad ydy rhai o'r 15 bygythiad difrifol fwyaf i ddemocratiaeth -  ofnadwy o ddoniol a brathog, erthygl ardderchog arall gan y Wenynen ydy hon. Rhyfedd bod yna ond ychydig o "hoffi"! 

Tuesday, October 25, 2022

daeth adref

Daeth paentiad fy merch hynaf yn Amgueddfa Morikami adref, wedi'r arddangosfa orffen. Gosododd hi o ar wal ei hystafell wely. Er ei fod o dipyn yn rhy fawr i'r ystafell, mae'n edrych yn hyfryd. Efallai bydd fy merch yn cael breuddwydion braf.

Monday, October 24, 2022

eidalwr yn america


Des i ar draws fideos gan Dr. Iader Fabbri, biolegydd maeth a chynghorydd gwyddonol o'r Eidal. Mae ganddo nifer o fideos diddorol sydd yn cynnwys un am ei siwrnai yn America. Yma, mae o'n sôn am y bwyd a gafodd. Roedd o'n ceisio bwyta'n iach cymaint â phosib hyd yn oed mewn motel. (Ceisiais wneud yr un fath pan oeddwn i'n aros mewn gwesty yn Oklahoma City.) Difyr gweld iddo beidio gwybod beth ydy biscuit & gravy

Friday, October 21, 2022

siwrnai hir

Roedd rhaid i fi a'r gŵr fynd i Oklahoma City, bron i 200 filltir i ffwrdd, er mwyn adnewyddu’n cardiau adnabod y Fyddin. Caewyd y swyddfa agos a oedd yn arfer gofalu amdanon ni, diolch i'r toriadau cyllideb diweddar. Anfonwyd ein harian ni at wlad bell er mwyn amddiffyn ei ffin tra bod ein un ni yn cael ei threisio. Dyna'r rheswm y siwrnai hir beth bynnag. Aeth popeth yn iawn ac eithrio fy nghefn tost. Yr ochr gadarnhaol oedd fy mod i'n cael ymweld â fy merch hynaf a'i gŵr yn eu tŷ newydd yn Oklahoma City am y tro cyntaf. Roeddwn i'n medru helpu ei busnes tatŵ yn ystod y tymor prysur cyn Halloween hefyd.

Tuesday, October 18, 2022

y ddraig goch

Dangosodd y gŵr i mi'r llun hwn wedi cerdded yn y gymdogaeth - y Ddraig Goch! Cnociodd y gŵr ar y drws blaen a siarad â dynes y tŷ hyd yn oed! Roedd ei thaid yn dod o Dde Cymru. Er nad oedd hi erioed wedi bod yn y Wlad, mae hi eisiau ymweld â hi un diwrnod. Syndod mawr! Dw i ddim yn ddigon dewr cnocio ar ei drws fel gwnaeth y gŵr, ond os wela' i hi yn ei iard flaen, gobeithio y cawn ni sgwrs sydyn.

Monday, October 17, 2022

diwedd da


Roedd ein gweinidog ni'n pregethu o Ddatguddiad Ioan, un bennod bob wythnos ers tro. Cyrhaeddodd y 22ain ddoe. Er fy mod i wedi darllen Llyfr y Datguddiad sawl tro, roedd yn wych cofio cynllun terfynol ac addewidion Duw dros y ddynoliaeth a'r byd. Da yw. Tyrd, Arglwydd Iesu!

Saturday, October 15, 2022

katfish kitchen

Gan fod ffreutur y brifysgol ar gau'r wythnos 'ma, es i a'r gŵr i Katfish Kitchen, ein hoff dŷ bwyta yn y dref. Roedd y bwyd yn dda eto. Roeddwn i'n edrych ar fap y byd ar y wal tra bod y gŵr yn talu. Mae gan y cwsmeriaid gyfle i ddangos lle maen nhw'n dod drwy osod pin ar eu gwledydd gwreiddiol; cewch chi'ch synnu'n gweld bod nhw'n dod o bedwar ban byd. Gwelais ychwanegiad newydd - Israel!

Friday, October 14, 2022

cyfrannu at yr ymgyrch

Mae'r etholiad canol tymor America ar y trothwy. Rhaid cael gwared ar y gwleidyddion drwg sydd wedi achosi cymaint o niwed, ac ethol rhai bydd yn brwydro dros y bobl. Ar gyfer Llywodraethwr OKlahoma, mae dau ymgeisydd, sef Kevin Stitt (y llywodraethwr presennol) a Joy Hofmeister. Am ryw reswm neu'i gilydd, mae prinder ar arwyddion Stitt yn y dref. Dyma gyfrannu at yr ymgyrch gyda arwydd gwneud â llaw.

Wednesday, October 12, 2022

fideo rysáit


Diflas ydy'r rhan fwyaf o'r fideo rysáit ar y we. Mae'r bobl yn siarad gormod amdanyn nhw, am eu babis a'u hanifeiliaid anwes, neu dangos sut maen nhw'n torri'r llysiau. Dyma un o fy hoff ddynes sydd yn creu fideo hynod o bleserus a defnyddiol. Dw i'n hoffi ei hacen gyfeillgar (a chryf iawn) o'r De hefyd. Dydy hi ddim yn meindio dangos ei chamgymeriadau a'r llanast chwaith!

Tuesday, October 11, 2022

6 marblis

Ffeindiais fag o farblis yn y cwpwrdd. Dim ond chwech oedd gwastad. Ces i syniad gwych; gallan nhw gynrychioli fy chwech o blant. Gosodais i nhw yn ôl oedran y plant, o'r chwith i'r dde (merch, merch, mab, merch, merch, mab) wrth ffenestr y gegin. Maen nhw'n disgleirio yng ngolau'r haul.

Monday, October 10, 2022

cynhaeaf

Cynaeafodd y cymydog ifanc ei bwmpenni! Roeddwn i'n sylwi bob bore eu bod nhw'n tyfi'n enfawr dan eu dail llydan. Gobeithio y bydd o'n eu bwyta nhw nes ymlaen yn lle eu taflu nhw i ffwrdd. 

Sunday, October 9, 2022

y mae'n gyfyng arnaf

Y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell; ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd. 
Philipiaid 1:23 - 25

Saturday, October 8, 2022

arwydd yr hydref

Dechreuodd dail y coed masarn yn newid lliwiau. Fedra i ddim peidio â chodi rhai ar y ddaear pan es i am y tro'r bore 'ma. Bydda i'n gosod pwys arnyn nhw er mwyn eu cadw (eto!)


Friday, October 7, 2022

bara cymun


Bydd gwasanaeth Cymun ddydd Sul. Cynhalir sawl tro yn ein heglwys ni. Y fi sydd yn paratoi bara a gwin (sudd grawnwin.) Mae wafferi penodol ar gael, ond maen nhw'n ofnadwy o ddrud. Roeddwn i'n arfer prynu bara, torlillas, ayyb, ond dyma ffeindio bag o "gracers wystrysen" yn Walmart yn ddiweddar. (Does dim wystrysen ynddyn nhw.) Maen nhw'n fach a rhad (un ddoler.) Perffaith!

Wednesday, October 5, 2022

adnod

Ceisiwch yr Arglwydd tra gellir ei gael,
galwch arno tra bydd yn agos.
Eseia 55:6

Un diwrnod, bydd yn rhy hwyr.


Tuesday, October 4, 2022

fy mam yn dathlu

Ces i'r llun hwn gan fy mrawd a ymwelodd â'n mam ni Ddiwrnod Parch yr Oedrannus. Trefnodd staff y cartref henoed ddathliad siriol drosti hi. Cafodd hi lythyr ac anrheg gan Lywodraethwr Tokyo. Mae hi'n gwisgo het a fest arbennig ar gyfer 100fed penblwydd.

Saturday, October 1, 2022

llew-forgrug

Mae antlions yn ôl yn fy iard gefn. Creaduriaid rhyfeddol ydyn nhw. Maen nhw'n palu'r pridd a chreu pyllau ffurf côn er mwyn dal morgrug a phryfed bach. Roeddwn i heb eu gweld nhw drwy'r haf, ond mae eu pyllau wrth y wal bellach. Yn anffodus, does dim llawer o forgrug yn ddiweddar am ryw reswm. (Roedd morgrug ym mhob man ychydig amser yn ôl.) Gobeithio y cân nhw ddigon o fwyd.

Wednesday, September 28, 2022

wedi corwynt

Aeth dau gorwynt heibio i Japan yn ddiweddar. Anhygoel o nerthol oedd un o'r ddau wrth iddo achosi ofnadwy o ddifrod. Mae tywydd yn troi'n braf iawn, fodd bynnag, yn dilyn corwynt bob tro. Dyma'r olygfa a oedd yn disgwyl fy merch pan agorodd drws ei fflat i fynd i'r gwaith un bore.

Monday, September 26, 2022

tymor i bob peth

Daeth amser i ddileu'r hen furluniau, a phaentio rhai newydd yn Ardal Plaza, Oklahoma City. Cafodd murlun fy merch hynaf, ynghyd â'r lleill a baentiwyd y llynedd eu dileu heddiw er mwyn artistiaid eraill yn cael cychwyn eu gwaith ar eu pen nhw. Ofnadwy o drist, ond dyna fo. 

"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef."

Saturday, September 24, 2022

galaru

Ergyd erchyll i fy merch hynaf oedd colli ei chi annwyl. Roedd hi'n crio bob amser am ddyddiau. Mae hi'n tynnu drwodd yn araf, diolch i gysur Duw a gweddïau ei chyfeillion. Cafodd o ei amlosgi, a dychwelyd adref yn llwch. Gosododd hi'r wrn ar gongl yr ystafell i'w gadw am sbel cyn ei gladdu.

Friday, September 23, 2022

hollol ddibynadwy

Prynodd y gŵr logiau ar gyfer y llosgwr. Roedd y pris wedi cynyddu’n 50 y cant, diolch i Bidenflation. Gall cynhesu’r tŷ gan y llosgwr fod mor ddrud â'r trydan y gaeaf yma, ond hollol ddibynadwy ydy'r cyntaf o leiaf. Dan ni'n bwriadu ei ddefnyddio i ferwi dŵr ar gyfer golchi eleni.

Thursday, September 22, 2022

67 oed

Penblwydd y gŵr yn 67 oed oedd ddoe. Coginiais ei hoff fwyd, sef gyoza, a phastai pwmpen yn lle cacen. Doedd neb arall adref eleni, ac felly helpodd ein ddau ffrind i ddathlu.

Tuesday, September 20, 2022

anrheg anghywir

Roeddwn i'n anghofio nôl y post ddoe. Cyn cychwyn cerdded y bore 'ma, dyma agor y blwch post. Ces i fy synnu'n darganfod pecyn bach gyda stampiau post yn dangos proffil ifanc y diweddar Frenhines. Anrheg annisgwyl! Ces i fy siom, fodd bynnag, ar yr unwaith - i rywun arall oedd, sydd yn byw ar stryd wahanol gyda'r un rhif tŷ. 

Monday, September 19, 2022

anrheg

Ces i anrheg arbennig gan ferch yn ei arddegau yn yr eglwys. (Mae ganddi broblem iechyd meddwl.) Mae hi'n dod â dol gyda hi o enw Max bob wythnos. Ei "babi" ydy o. Ar ôl y gwasanaeth boreol ddoe, daeth ata i gan ddweud, "Fe wnaeth Max hwn drosoch chi," a rhoi i mi'r anrheg dwymgalon hon.

Saturday, September 17, 2022

paentiad newydd

Mae gynnon ni baentiad newydd yn y tŷ, a baentiodd fy merch hynaf er mwyn anrhydeddu Chiune Sugihara, diplomydd Japaneaidd a achubodd filoedd o fywydau Iddewon yn Lithwania yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gofynnwyd i fy merch gan sefydliad brwydro yn erbyn gwrth-semitiaeth flynyddoedd yn ôl yn wreiddiol. Cawson ni fraint i berchen arno fo. 

Friday, September 16, 2022

sanct sanct sanct


Dw i ddim yn hoffi caneuon addoli wedi'u moderneiddio o hen ffefrynnau, ond eithriad ydy hon. Cyfieithwyd y geiriau yn 1903, ac felly mae'r iaith Japaneg yn hen ac anodd weithiau. Yn rhyfeddol, mae'n asio'n wych gyda'r perfformiad gan y bobl ifanc. Un o fy ffefryn ydy hi'n bendant.

Wednesday, September 14, 2022

reuben ( - medi 14, 2022)

Aeth Reuben, ci fy merch hynaf at Iesu'r bore 'ma. Gwaethygodd ei iechyd yn dorcalonnus yn ddiweddar fel roedd rhaid i fy merch a'i gŵr wneud y penderfyniad anodd. Wedi bwyta darn o bitsa yn swyddfa'r milfeddyg, caeodd ei lygaid yn dawel am y tro olaf. Roedd o gyda nhw bron i 14 mlynedd, ac fel eu hunig blentyn. Dydy'r Beibl ddim yn dweud beth fydd yn digwydd i anifeiliaid anwes ar ôl iddyn nhw farw, ond dw i'n credu'n gryf bod gan Dduw trugarog drefniadau tosturiol ar eu cyfer nhw.

Tuesday, September 13, 2022

lleuad wen

Wrth gerdded yn y gymdogaeth y bore 'ma, gwelais Nagorizuki, sef lleuad wen. Dw i bob amser yn teimlo dipyn yn drist yn gweld lleuad wen, wrth feddwl y cyffro a ffwdan mae lleuad lawn yn drwyn yn Japan, yn enwedig dros y lleuad lawn honno - y Lleuad ar y 15fed Noson neu Leuad Gynhaeaf. Mae hi fel hen actores a oedd yn arfer bod yn hardd a phoblogaidd, ond dydy neb yn rhoi sylw iddi bellach.

Monday, September 12, 2022

enfys gyda 7 lliw


Doeddwn i ddim yn gwybod bod gan y Frenhines Elizabeth II ffydd ddiffuant, bersonol yn Iesu Grist. Roedd hi wedi gwasanaethu ei gwlad yn ymroddedig drwy gydol ei hoes, ond dyma'r peth pwysicaf. Aeth y frenhines at Frenin y brenhinoedd, ac mae hi'n ei addoli ynghyd â'r ffyddloniaid di-rif.

Saturday, September 10, 2022

juugoya

Camais allan ar y dec cefn tua phump o'r gloch y bore 'ma, er mwyn gweld Juugoya, sef y Lleuad ar y 15fed Noson. Hardd oedd. Roedd hi'n goleuo'r tywyllwch fel llusern fawr. 

Friday, September 9, 2022

newydd bob bore

Dw i newydd brofi tosturiaethau a ffyddlondeb fy Nuw unwaith yn rhagor.

Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd,
ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb.
Galarnad 3:22, 23

Tuesday, September 6, 2022

pry copyn

Ces i fy synnu'n gweld pry copyn mawr iawn ar ei we, wrth agor y drws blaen y bore 'ma. Fe wnaeth we hynod o hardd. Penderfynais beidio â chael gwared arno fo. Efallai y bydd o'n dal mosgitos. 

Monday, September 5, 2022

mygiau

Daeth y mab ifancaf adref dros y penwythnos hirach. Daeth ag anrheg i fi a'i dad. Prynodd y mygiau hyn mewn garage sale. Anodd credu bod y perchennog eisiau cael gwared arnyn nhw. Dw i a'r gŵr yn fwy na hapus eu cael nhw. 

Saturday, September 3, 2022

cwcer araf


Dw i newydd sylweddoli pa mor gyfleus ydy Crockpot. Ces i un yn anrheg gan y plant flynyddoedd yn ôl, ond torrais o ar ddamwain. Am ryw reswm neu'i gilydd, na phrynais un arall. Gan fod y mab ifancaf yn dod adref heddiw, penderfynais fenthyg un yn gegin yr eglwys. Taflais yr holl gynhwysion yn y pot heb dorri neu ffrio dim byd ymlaen llaw. (Gelwir yn rysáit Dump & Go.) Bydd cyw iâr mewn saws salsa yn barod erbyn i'r mab gyrraedd.

Friday, September 2, 2022

braint

Cawson ni barcio yn y lle penodol ar gyfer cyn milwyr ym maes parcio Walmart ddoe. Roedd car wedi'i barcio yno bob tro erbyn hyn. Roedden ni'n hapus cael defnyddio'r fraint, nes inni sylweddoli mai pell iawn oedd y ddalfa troli siopa agosaf.....

Wednesday, August 31, 2022

llinell wen

Codais fy mhen, wedi cychwyn cerdded yn y bore. Gwelais linell wen hir yn yr awyr las. Awyren a oedd yn tynnu'r llinell lachar ar y cynfas enfawr. Roedd o'n hedfan tuag at y Gorllewin. Anelu at faes awyr Tulsa, mae'n debyg. 

Tuesday, August 30, 2022

wedi'i oresgyn

Plannodd cymydog bwmpenni wythnosau'n ôl. Roedden nhw'n edrych yn ddigon diniwed ar y dechrau, ond cyn hir dw i wedi sylwi bod nhw'n tyfu'n gyflym, bron i hanner droedfedd dros nos. Maen nhw'n gorchuddio’r iard flaen bellach ac yn dal i dyfu. Mae blodau melyn ac ambell ffrwyth bach dan y dail hefyd.

Monday, August 29, 2022

dathlu bywyd


Dw i newydd ddod yn ôl o seremoni goffa ar gyfer Rosie. Mae gan y cwpl bedwar plentyn, 11 ŵyr ac 11 gor-ŵyr. Daethon nhw a'r perthnasau eraill o daleithiau pell i "ddathlu" bywyd Rosie, sydd yn bellach gydag Iesu. Roedd yna lawn o chwerthin yn ogystal â dagrau. Gorchfygodd ein Harglwydd farwolaeth. Yn ei addewidion mae gynnon ni obaith pendant.

Saturday, August 27, 2022

ffodus dros ben

Fu farw Rosie, dynes yn ei 70au yn sydyn. Gwelais i hi yn yr eglwys ddydd Sul diweddaf, a dweud y gwir. Roedd yn cael llawdriniaeth ar ei chalon ddyddiau'n ôl, ac aeth rhywbeth o'i le'n annisgwyl. Fu farw yn y fan a'r lle. Cafodd ei gŵr sioc ofnadwy oherwydd nad oedd neb yn disgwyl cymhlethdodau. Mae o yn hedd Duw bellach drwy Ei drugaredd. Dw i'n teimlo'n ddwfn drosto fo, ond ar yr un pryd, yn eiddigeddus iawn ohoni. Roedd hi dan anesthesia, a phan agorodd ei llygaid, gwelodd hi Iesu o'i blaen hi!

Friday, August 26, 2022

peth annisgwyl

Daeth Marcus, ein dyn-o-bob-tasg newydd i baentio'r dec cefn y bore 'ma. Methodd fwrw ymlaen, fodd bynnag oherwydd defnyddiodd y dyn arall, a olchodd y dec yn ddiweddar, chemeg i ddiogeli'r pren rhag pwdu. Mae hwn yn gwrthyrru paent hefyd. Rhaid cael gwared ar y cemeg; rŵan mae Marcus wrthi'n golchi'r dec gyda pheiriant wedi'i rentu. Wrth gwrs y bydd hyn yn cynyddu’r bil. Bydd rhaid iddo aros nes i'r dec sychu hefyd. Mae pethau annisgwyl yn digwydd yn aml. Rhaid cymryd un peth ar y tro. O leiaf cafodd neb ei ladd.

Wednesday, August 24, 2022

yr un sy'n cau ei geg

Mae pobl yn siarad gormod, heb wrando ar y llall. Yn aml iawn, maen nhw'n meddwl am beth fyddan nhw'n ei ddweud nesa tra bod y llall yn siarad. Mae'r Beibl yn annog i "fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefalu, ac yn araf i ddigio." Bydd yn well siarad llai na mwy yn gyffredinol, a dweud y pethau sydd wir o bwys.

Tuesday, August 23, 2022

breichled rosari

Wrth glywed bod un o'r prif gyfryngau wedi galw rosari'n arwydd eithafwyr treisgar, dyma wneud breichled rosari. (Ailgylchais glawr llyfr nodiadau plastig i greu'r groes.) Dim Pabydd ydw i, ond dw i eisiau dangos cefnogaeth iddyn nhw. Y nhw sydd yn cael eu hymosod yn dreisgar gan grwpiau milain dros eu gweithred o drugaredd ar gyfer mamau a babanod mewn argyfwng.