Saturday, February 27, 2021

penblwydd ben garrison


Penblwydd hapus i Ben Garrison, cartwnydd gwleidyddol sydd wedi bod yn lleisiau ei farn wladgarol heb ofn er gwaethaf ymosodiadau milain cyson gan rai sydd yn ei gasáu. Y fo ydy un o'r ychydig sydd gan synnwyr cyffredin yn y byd gwallgof hwn, yn fy nhyb i. Gobeithio y ceith ddiwrnod pleserus gyda'i deulu a ffrindiau.

Thursday, February 25, 2021

da yw duw

"Weithiau, bydd diben Duw hyd yn oed y tu hwnt i ddymuniadau ei bobl," meddai'r Pastor Paul yn ei bregeth ar lein. Roeddwn i'n gwrando ar hanner cyntaf Llyfr Esther y bore 'ma oherwydd bydd Gŵyl Purim yn dechrau heno. Mae o'n wir; yn aml iawn dan ni'n gofyn i Dduw, "pam? pryd? tan bryd?" Mae o'n gwybod popeth; mae o'n gweld o safbwynt tragwyddoldeb. Da yw Duw.

Wednesday, February 24, 2021

ymroddedig


Yn ystod y tywydd ofnadwy o oer yr wythnos diwethaf, methodd hyd yn oed y dyn post ddod aton ni, er gwaethaf arwyddair Gwasanaeth Post UDA, "naill eira na glaw na gwres na gwae'r nos..." Ar y llaw arall, dyma ddyn dosbarthu UPS ymroddedig mewn tywydd garw. (Postiwyd y fideo'r llynedd.)

Tuesday, February 23, 2021

dadmar

Mae'r eira wedi toddi bellach wrth y tymheredd godi o -11F/-24C at 70F/21C mewn dyddiau. Tywydd Oklahoma ydy hi. Er fy mod i wedi gwerthfawrogi'r eira anhygoel o brydferth, y tŷ a gynheswyd yn braf gan y llosgwr logiau, a'r holl awyrgylch gaeafol, dw i'n ddiolchgar i weld dechrau gwanwyn hefyd. Mae'n amlwg bod yr adar gwyllt yn medru ffeindio digon o fwyd; wnaethon nhw ddim gorffen yr hadau a adawais iddyn nhw.

Monday, February 22, 2021

darllen fy mlog

Rhoddodd gweld cip ar Fenis ar y we eisiau arna' i ddarllen fy mlog a ysgrifennais am y siwrnai wyth mlynedd yn ôl. Er bod rhyw annifyrrwch wrth reswm, roedd yn bythefnos anhygoel a chofiadwy. Roedd y dref fach yn llawn dop gyda thwristiaid llon; yr unig fath o fwgwd a welwyd oedd mygydau Carnivale yn y siopau! Mae'r trigolion wedi cymryd eu dinas yn ôl oddi wrth y twristiaid bellach, y peth roedden nhw wedi dymuno'n daer bob amser, ond nad fedrith Fenis oroesi hebddyn nhw. Gobeithio y bydd twristiaeth newydd yn cychwyn ar ôl i'r helynt byd-eang hwn gael ei datrys.

Saturday, February 20, 2021

moment fenis

Dw i newydd gael coffi a wnes i yn Moka a croissant gyda jam bricyll wrth edrych ar fideo cerddoriaeth sydd yn dangos Fenis. Rhaid ei fod o'n hen oherwydd bod yna nifer o dwristiaid llon heb wisgo mwgwd. Tynnais sgrin lun; dyma fflat Federica ar y dde lle roeddwn i'n aros ynddo am bythefnos tra oeddwn i'n dysgu Eidaleg yn 2013. Roeddwn i'n  sefyll ar y balconi hwnnw'n aml yn gweld y golygfeydd anhygoel a'r dyrfa ddi-ri ar y ffordd islaw.

Friday, February 19, 2021

ffedog goch


Mae'r ffedog a archebais gan gwmni bach yn Efrog Newydd newydd gyrraedd. Gofynnais i Rebecca, y perchennog frodio Mama ar y ffedog goch gydag edau lliw aur. Dw i'n hynod o fodlon â'i gwaith. "Gwnaed yn UDA," medd y label yn falch!

Wednesday, February 17, 2021

mae gannon ni drydan!

Roeddwn i a'r gŵr yn barod am Rolling Blackouts (torri trydan yn fwriadol am gyfnod er mwyn osgoi sefyllfa waethaf) eto'r bore 'ma, ond na ddigwyddodd. Dydy hi ddim mor oer heddiw - dim ond 18F/-8C. Efallai bod y dyddiau oeraf wedi pasio. Rhoddais fwy o hadau i'r adar gwyllt ddoe i'w helpu. Daeth dwsinau ohonyn nhw a bwyta pob tamaid.

Tuesday, February 16, 2021

eira sydyn

Roedd y tywydd yn fwyn braidd y gaeaf hwn, ond yn sydyn cawson ni eira wrth i'r tymheredd ostwng i -11F/-24C. Ar ben hynny (neu o'i herwydd) collon ni drydan y bore 'ma. Roeddwn i a'r gŵr yn aros yn gynnes, fodd bynnag, diolch i'r llosgwr logiau. Mi wnes hwylio te'n berwi dŵr arno fo tra bod y gŵr yn cynhesu ei draed.

Monday, February 15, 2021

diwrnod arlywyddion

Rhown ni barch i'r holl Arlywyddion cyfreithlon America heddiw. 

Roedd yn anhygoel o braf clywed gan yr Arlywydd Trump yn swyddogol am y tro cyntaf ers iddo gael ei gymryd ymaith oddi wrth bobl America; cyhoeddodd y neges galonogol hon wedi iddo gael ei yn ddieuog yn yr ail achos (hurt) uchelgyhuddiad. Pob bendith i'r Arlywydd Trump!

Saturday, February 13, 2021

swper rhad ac am ddim

Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen am swper eto. (Mae'r gŵr yn hoff iawn ohono fo.) Ces i fwyd gwahanol nag arfer y tro 'ma, sef cig eidion wedi'r rostio, gyda thost Texas, cole slaw a ffa brown. Roedd y cig yn dda iawn, fork-tender wir. Roedd catfish gŵr yn flasus ond rhy hallt oedd y ffa gwyrdd. Pan ddywedodd wrth y weinyddes am hyn, cafodd datws stwnsh arall. Roedd hynny'n ddigon, ond canslodd y tŷ bwyta ein bil ni fel ymddiheuriad! 

Friday, February 12, 2021

yn ôl at lyfr genesis


Dw i'n dal i wrando ar bregeth Pastor Paul o Gapel Calfaria bob bore ers cychwyn ddwy flynedd a hanner yn ôl. Dechreaus yn y Tastament Newydd, a ddoe, cyrhaeddais Ddatguddiad Ioan. Dw i wedi dysgu cymaint o bethau, diolch i Pastor Paul a'i ddull trylwyr yn astudio gair Duw. A dyma droi tudalennau'r Beibl yn ôl at Lyfr Genesis y bore 'ma, bydda i'n mynd drwy'r Hen Destament gyda fo. 

Wednesday, February 10, 2021

cynnes braf

Er na chawson ni ddim eira neu storm rew, mae'r ffyrdd wedi'u rhewi. Mae'n beryglus hyd yn oed cerdded arnyn nhw; dw i a'r gŵr yn gorfodi aros cartref drwy'r dydd heddiw. Mae'r tŷ'n gynnes braf, diolch i'r llosgwr logiau, ac mae gen i ddigon i'w wneud.

Tuesday, February 9, 2021

llwy bren

Ces i a'r gŵr becyn gan ein merch ni yn Japan yn annisgwyl. Roedd bwyd sych Japaneaidd ynghyd â llwy bren ynddo. Llwy a wnaed yn Hida Takayama ydy hi. Mae'r dref a dreuliodd eu gwyliau ynddi yn enwog am ei gwaith coed. Prynon nhw un yno drosta i hefyd! Mae hi'n hynod o gain. Dyma fwyta fy uwd gyda hi'r bore 'ma.

Monday, February 8, 2021

dyfyniadau Albert Einstein



Des i ar draws dyfyniadau Albert Einstein dw i heb glywed o'r blaen. Mae'n dangos mai dyn gostyngedig oedd o yn ôl rhai ohonyn nhw:
"Does gen i ddim talent arbennig. Dim ond chwilfrydig angerddol ydw i."
"Creadigrwydd yw deallusrwydd sydd yn cael hwyl."

Roedd ganddo safbwynt hollol wahanol i'r bobl gyffredin wrth gwrs:
"Yng nghanol anhawster mae cyfle."

synnwyr digrifwch hefyd:
"Y gwahaniaeth rhwng athrylith a hurtrwydd yw bod gan athrylith ei derfynau."

Hwn ydy'r dyfyniad roeddwn i'n chwilio amdano fo heddiw cyn gweld y lleill:
"Gwallgofrwydd: gwneud yr un peth drosodd a throsodd a disgwyl canlyniadau gwahanol."

Saturday, February 6, 2021

chilango's

Es i a'r gŵr at Chilango's am swper neithiwr er mwyn (yn rhannol) cefnogi economi'r dref. Mae nifer o dai bwyta Mecsicanaidd yn y dref, ond mae'n well gannon ni Chilango's oherwydd ein bod ni'n nabod y bobl; roedd rhai ohonyn nhw'n arfer chwarae pêl-droed gyda'n meibion ni. Roedd y bwyd yn flasus - fajita gyda chig eidion/cyw iâr/berdys i'r gŵr; Pollo Loco (cyw iâr wallgof!) i mi.

Wednesday, February 3, 2021

caligraffi modern

Dw i'n dal i fwynhau ymarfer caligraffi modern ers cychwyn fisoedd yn ôl. Cewch chi ffeindio amrywiaeth o arddulliau llythrennau ar y we. Dewisais un sydd yn apelio ata i'n fwyaf. Pennau meddal ysgrifennu Crayola ydy fy hoff offeryn. A dyma ymarfer bob dydd. Dw i'n hoffi sgrifennu adnodau'r Beibl a llinellau oddi wrth nofelau.

Tuesday, February 2, 2021

eira'r nos galan

Postiodd rhywun eira mawr y Nos Galan a ddisgynnodd ar Hida Takayama, Japan, pentref enwog am ei awyrgylch traddodiadol. Dyna'r lle treuliodd fy nhair merch eu gwyliau'n ddiweddar. Dwedon nhw fod nhw wedi gweld dyn camera'n ffilmio. Ac felly, yr un eira ydy hwnnw!

Monday, February 1, 2021

cwpan arall

Prynodd gŵr gwpan coffi a wnaed yn America hefyd, ac mae o newydd gyrraedd. Mae ganddo geg fach fel ei fod o'n cadw coffi'n boeth yn hirach. Dw i'n hoffi'r disgrifiad ar y safle:

"Na chynhyrchwyd yn dorfol gan beiriannau mewn gwlad bell, ond â llaw, un ar y tro yn UDA gyda chlai o'r ansawdd uchaf."