Friday, August 27, 2021

pwmpen

Mae yna arddwr arbennig o dalentog yn y gymdogaeth. Mae ei llysiau hi'n tyfu'n fawr a tal. Eleni llwyddodd hi i fagu pwmpen anhygoel o enfawr, ac mae o'n hongian uwchben y ddaear hyd yn oed!

Tuesday, August 24, 2021

fy nhrefn darllen


Mae gen i drefn pan fydda i'n darllen fy hoff wefannau yn y bore. Wrth gychwyn gydag e-bost, bydda i'n gwirio FB fy nheulu; FB Jerwsalem Jane; newyddion NHK (newyddion cyhoeddus Japan); Epoch Times. Wedi cael cip ar y newyddion dibynadwy diweddaraf, bydda i'n gorffen y sesiwn gyda Babylon Bee. Gwrthwenwyn ydy'r Wenynen ar ôl darllen newyddion drwg. Bydd yn gwneud hynod o les i chi chwerthin yn braf bob dydd.

Monday, August 23, 2021

eglwys ar lein

Gan ein bod ni i gyd yn sâl, arhoson ni gartref ac ymuno â'n heglwys ni ar lein. Roedd y tro cyntaf i mi wneud hyn. Gweithiodd bopeth yn dda. Roedd yn braf cael cip ar yr aelodau eraill hefyd.

Saturday, August 21, 2021

is-deitlau


Mae fy nhair merch yn mynychu Eglwys Lifehouse yn Tokyo sydd yn ceisio cyrraedd pobl ifanc yn enwedig, drwy oedfaon a rhaglenni anghonfensiynol. Mae ei phregethau yn ddwyieithog, ac mae yna dîm sydd yn gosod is-deitlau. Un o fy merched yn cymryd rhan, a dyma'r bregeth (hanner cyntaf a wnaeth.) Dwedodd ei bod hi'n medru dysgu Gair Duw yn dda drwy wrando ar yr un bregeth sawl tro a meddwl yn ddwfn.

Wednesday, August 18, 2021

gwenynen neu "ddim yn wenynen"?


Ces i fy nrysu pan es i at wefan Epoch Times y bore 'ma, a gweld y pennawd hwnnw. Roeddwn i'n meddwl mai'r Wenynen a ysgrifennodd. Dydy'r erthygl yma ddim yn llawer gwahanol i hyn wedi'r cwbl!

Tuesday, August 17, 2021

te "corn silk"


Dyma fodd i wneud te corn silk, erthygl newydd gan fy merch. Doeddwn i erioed clywed bod ganddo lawer o fanteision maethol ac iechyd. Dwedodd fy mam iddi arfer gwneud doliau gan ddefnyddio corn silk fel eu gwallt pan oedd hi'n hogan fach.

Monday, August 16, 2021

crynodeb cyfleus y beibl


Ydy'r Beibl yn rhy hir? Fydd yn cymryd gormod o amser i ddarllen o'r dechrau i'r diwedd? Dim problem. Dyma grynodeb cyfleus gan Wenynen fel cewch chi gael yr hanfod mewn pum munud! Fy ffefrynnau crynodeb ydy'r Salmau, Esia, 2 Timotheus.


Saturday, August 14, 2021

cornel glyd

Mae fy merch hynaf a’i gŵr wrthi'n adnewyddu tŷ a brynon nhw yn ddiweddar. Tra eu bod nhw'n aros am beiriant golchi llestri, dyma eu ci ddarganfod lle braf i greu cornel glyd iddo ei hun. Dw i'n gobeithio na cheith ei siom mawr pan fydd y peiriant yn cael ei osod.

Friday, August 13, 2021

tylino eich traed

Dw i newydd weld y peth hwn ar y we. Mae'n hynod o effeithiol ar gyfer tylino eich traed. Gwnewch gwlwm ar ddau ben tywel hir, a chamu arnyn nhw, neu sefyll wrth adael iddyn nhw bwyso gwadn eich traed. maen nhw'n llawer gwell na darn o bren neu blastig oherwydd eu bod nhw'n feddal ac addasadwy.

Wednesday, August 11, 2021

yr un ieithoedd


Des i ar draws ar y we ddynes sydd yn siarad yn union yr un ieithoedd â fi! Mae ei iaith gyntaf ydy Saesneg, fodd bynnag, ond mae hi wedi dysgu Eidaleg a Japaneg; mae hi'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd. Dyma hi.

Tuesday, August 10, 2021

pawb at y peth y bo

Mae fy merch hynaf newydd ddychwelyd adref, wedi treulio wythnos braf o wyliau yn Florida gyda theulu ei gŵr. Tra bod pawb arall yn mynychu Disney World bob dydd, drwy'r dydd, treuliodd hi a'i gŵr yn yr amgueddfa gelf, acwariwm, siop Goodwill ayyb. Pawb at y peth y bo. 

Saturday, August 7, 2021

fy hoff rasys


Er gwaethaf y cyfyngiadau llym yn y Gemau Olympaidd, mae gweld yr athletwyr medrus yn ymdrechu'n galed yn codi eich calonnau. Mwynheais yn enwedig ras 100 medr y dynion a ras gyfnewid 400 metr y dynion. Ces i hwyl clywed y gohebwyr llawn cyffro hefyd. Llongyfarchiadau mawr i'r Eidal!

Friday, August 6, 2021

cariad ddiffuant


Roedd yn wych weld Tamyra Mensah-Stock yn mynegi ei chariad ddiffuant ac angerddol tuag at ei gwlad, wedi ennill y fedal aur yn y categori reslo. Mae'n drist, fodd bynnag, bod yna ddigon o bobl sydd yn dirmygu peth naturiol fel hwn y dyddiau 'ma.

Wednesday, August 4, 2021

perfformwyr y pictogram


O'r diwedd datguddiwyd y dynion a berfformiodd yn fyw'r pictogram anhygoel yn seremoni Olympaidd Tokyo. Perfformwyr pantomeim sydd yn gweithredu drwy'r byd maen nhw. Cawson nhw ond bum munud i berfformio, ond roedden nhw'n benderfynol o gynnwys yr holl 50 sbort, a pherfformio'n fyw. Gwaith campus. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.!

Tuesday, August 3, 2021

mis awst


Dyma erthygl newydd fy merch am fis Awst yn Japan. Dw i'n cofio fy mhlentyndod yn y gwres llethol di-baid (heb gyflyrydd aer); lu o cicada ym mhobman yn canu eu cân yn uchel; somen (nwdls oer) a goginiodd fy mam.

Monday, August 2, 2021

drwy delesgop

Roedd fy nwy ferch yn Tokyo yn benderfynol o gael cip ar gêm Olympaidd fyw. Aethon nhw i Enoshima lle oedd ras hwylio'n cael ei gynnal, a'i weld o, drwy delesgop! Efallai nad oedden nhw'n medru gweld y manylion, ond rhaid eu bod nhw wedi treulio diwrnod braf ar y traeth yn yr haul.